Cymraeg / English
|
|
Archaeoleg yn y Fforest
Mae'r fforestydd yng Nghymru sy'n perthyn i ac a reolir gan Menter Coedwigaeth (Cymru) yn cynnwys mwy na 7000 o safleoedd archaeolegol. Maent wedi eu mapio a'u cofnodi, ac ymwelwyd â hwy fel rhan o Brosiect Asedion Treftadaeth Cymru. Cyfrannodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys at sefydlu'r prosiect ac i wneud peth o'r gwaith arolygu. Mae data archaeolegol y prosiect bellach yn rhan o'r Cofnod o Safleoedd a Henebion yn ogystal â chael ei ddefnyddio gan Menter Coedwigaeth i wella rheoli a chyflwyno'r tirwedd hanesyddol. Mae mynediad i ddetholiad o'r safleoedd a gadwyd orau yn cael ei wella a bydd paneli dehongli a llwybrau cerdded yn gwella mwynhad y cyhoedd o archaeoleg y fforestydd. Mae gan lawer o'r coedwigoedd lwybrau cerdded a llwybrau beicio sydd wedi ennill eu lle. Mae canolfannau ymwelwyr l'w cael ledled Cymru, gan gynnwys Coed-y-Brenin a Garwnant. Mae taflenni ar y coedwigoedd ar gael o ganolfannau ymwelwyr a swyddfeydd yr Ardal Goedwig. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Trefor Owen yn trefor.owen@forestry.gov.uk neu'r swyddfa ranbarthol yn Aberystwyth. I gael cyfeiriad y swyddfa ranbarthol a'r pum swyddfa dosbarth a farciwyd ar y map (de) gweler manylion cysylltu. I gael gwybod mwy am yr archaeoleg a gafwyd yn fforestydd Cymru, edrychwch ar y tudalennau canlynol. Maent yn cynnwys gwybodaeth am safleoedd y gall pawb ymweld â hwy a'u mwynhau. |