CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Hafan
Glas-hirfryn

Glas-hirfryn: Pwy a adeiladodd y tŷ?




Darganfod pwy a adeiladodd y tŷ

‘Morus ap Dafydd o Las-hirfryn’ yw perchennog cynharaf hysbys Glas-hirfryn ac mae ei enw i’w weld mewn achau fel gŵr Magred, merch Lewys Wynn ap Morus Wynn, Moeliwrch, Llansilin, sydd ychydig dros 4 cilometr i’r dwyrain.

Y gred yw i Lewys Wynn gael ei eni o gwmpas 1530, a fyddai’n golygu i Magred a Morus ap Dafydd gael eu geni o gwmpas 1560. Mae’r dyddiad dendrocronolegol o ryw 1559 ar gyfer adeiladu’r tŷ aml-loriog yng Nglas-hirfryn yn awgrymu mai tad Morus, Dafydd, sef bonheddwr yn oes Elisabeth nad oes unrhyw beth, mae’n debyg, yn hysbys amdano, oedd yn gyfrifol am ei adeiladu.



Video link



Castell Sycharth, Llansilin, sydd â chysylltiadau ag Owain Glyndŵr

Cefndir hanesyddol yr ardal

Saif Moeliwrch, fel Glas-hirfryn, yng Nghynllaith, sef ardal a oedd â chysylltiadau cryf ag Owain Glyndŵr ryw ganrif a hanner cyn adeiladu Glas-hirfryn. Yn sgil gwrthryfel Glyndŵr, daeth disgynyddion Ieuan Gethin ym Moeliwrch ac mewn tai eraill gerllaw yn dirfeddianwyr mwyaf grymus yr ardal.

Mae priodas Magred a Morus ap Dafydd yn golygu i Las-hirfryn gael ei alinio’n gadarn â blaenwyr cymdeithasol a diwylliannol yr ardal. Plasty oedd Moeliwrch, a byddai wedi croesawu beirdd a cherddorion am sawl cenhedlaeth, o ganol y bymthegfed ganrif i ganol yr ail ganrif ar bymtheg.



Traddodiadau diwylliannol lleol

Canwyd moliant gorhendaid Magred, sef Ieuan, gan Hywel Cilan (yn ei flodau rhwng 1435 a 1470). Efallai yn anad dim, roedd ei gor-orhendaid, Hywel ab Ieuan Fychan, yn un o brif noddwyr Guto’r Glyn ym Mhowys. Mae un o’i gerddi (‘Ar achlysur ailadeiladu tŷ Hywel ab Ieuan Fychan ym Moeliwrch’)), mae’n debyg o gwmpas y cyfnod 1435–50, yn bendithio’r tŷ ac mae iddi gyfoeth o arlliwiau cymdeithasol, diwylliannol, pensaernïol a gwleidyddol.

Byddai cerddi fel y rhain wedi’u hadrodd yn yr ardal am genedlaethau ac mae’n siŵr eu bod nhw wedi bod ar feddwl pobl pan adeiladwyd tai fel Glas-hirfryn ganrif a mwy yn ddiweddarach, er gwaethaf datblygiadau pensaernïol cyflym a gafwyd yn ystod y cyfnod hwn pan welwyd newid o fframiau nenfforch i fframiau bocs. Mae cerdd Guto’r Glyn am Foeliwrch yn pwysleisio’r defnydd o goed derw (‘derwgoed’‘ngwar rhiw’), yn nodi bod y tŷ i’w weld o bell (‘Ond are fryn, rhoi lyn lu’), bod gan y waliau batrwm du a gwyn (‘Gwal fraith’), a bod trawstiau wedi’u gosod ar silffoedd cerrig (‘Gorau coed ar gerrig gwaith’), ac mae dyluniad ac adeiladwaith Glas-hirfryn yn adlewyrchu pob un o’r rhain.

Mae enwau’r telynorion a’r chwaraewyr crwth a berfformiodd ym Moeliwrch tua 1562, dan arweiniad y prifardd a’r prif gerddor Wiliam Penllyn (yn ei flodau rhwng 1550 a 1570), wedi’u cofnodi yn llyfr cartref Morus Wynn (taid Magred).

Traddodiadau pensaernïol rhanbarthol

O ystyried y saernïaeth gywrain yng Nglas-hirfryn, mae’n bosibl y cyfansoddwyd cerddi hefyd am y tŷ hwn pan adeiladwyd ef yn yr unfed ganrif ar bymtheg, er nad oes unrhyw rai wedi dod i’r fei hyd yma.

Y cnap derw wedi’i gerfio’n gywrain a fyddai ar un adeg wedi’i osod yng nghanol nenfwd y neuadd ar y llawr gwaelod



(yn ôl i'r brig)


Preifatrwydd a chwcis