CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Hafan
Glas-hirfryn

Glas-hirfryn: Gwaith cloddio archaeolegol




Nodau ac amcanion

Ymgymerwyd â gwaith cloddio archaeolegol ym mis Medi 2012, ar ôl symud gweddillion yr adeilad adfeiliedig oddi yno.

Mae gwaith cloddio archaeolegol yn gallu, o bosibl, darparu gwybodaeth werthfawr ynglŷn â thŷ, hyd yn oed pan mae’r cynllun yn weddol hysbys. Er enghraifft, gall gwaith cloddio ddarparu tystiolaeth o weithgarwch cynharach neu ynglŷn â chyd-destun adeiladu’r tŷ. Gall ddarparu tystiolaeth o’r ffordd y paratowyd y safle ac ynglŷn â natur y sylfeini. Efallai y ceir tystiolaeth o addasiadau, ynglŷn â pharwydydd neu ynglŷn â safleoedd aelwydydd a gratiau. Mae’n bosibl bod lloriau cynnar wedi goroesi addasiadau diweddarach. Ac efallai fod yna dystiolaeth wedi goroesi o ddeunyddiau to cynharach lle mae’r rhain wedi dymchwel neu wedi’u hailddefnyddio.

O’r amseroedd cynharaf, mae pobl wedi tueddu i gadw’r lleoedd y maen nhw’n byw ynddyn nhw’n eithaf glân. Mae darganfyddiadau sydd o’r un cyfnod ag roedd adeilad yn cael ei ddefnyddio felly’n aml yn eithaf prin, yn enwedig y rheiny sy’n perthyn i’r cyfnodau cynharaf pan fu pobl yn ei ddefnyddio.



Gyswllt fideo



Lloriau teils a llechi diweddarach ym mhen gorllewinol y tŷ.

Lloriau teils a llechi diweddarach

Unwaith roedd y rwbel diweddarach wedi’i glirio, datgelwyd yr hyn a oedd wedi goroesi o’r lloriau diweddaraf yn y tŷ. Slabiau llechi mawr oedd wedi’u gosod ar y llawr yn y bae mwyaf dwyreiniol, mae’n bosibl wedi dod o chwareli llechi lleol, fel y rheiny yn Llangynog, yn dyddio mae’n debyg o’r ddeunawfed ganrif neu’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Teils du a choch oedd ar y llawr yn y bae canol, yn dyddio mae’n debyg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac a oedd, mae’n bosibl, wedi disodli llawr llechi cynharach. Roedd gan y bae mwyaf gorllewinol lawr o fyrddau pren a oedd eto, mae’n bosibl, wedi disodli llawr llechi cynharach.



Arwyneb y llawr pridd cynnar (graddfa 0.5m).

Lloriau pridd cynnar

Roedd y lloriau cynharaf ym mhob bae wedi’u llunio o bridd sathredig, fel y gwelir yn y llun yma. Roedd y llawr yn eithaf anwastad ac roedd yn gogwyddo’n sylweddol o ben dwyreiniol y tŷ tuag at y gorllewin. Roedd pant amlwg yn y llawr yn cyfateb i leoliad gwreiddiol y drws yn y gornel dde-orllewinol. Efallai y byddech chi’n meddwl ei bod hi’n syndod mai dim ond llawr pridd oedd gan hyd yn oed tŷ eithaf uchel ei statws, ond os cedwir lloriau fel hyn, sydd wedi’u llunio’n syml o glai, cerigos a phridd cywasgedig, yn sych maen nhw’n ymarferol iawn ac nid oes angen rhyw lawer o waith cynnal a chadw arnyn nhw.



Sill wall and sole plates

Darganfuwyd darnau o weddillion y waliau sil cerrig gwreiddiol neu’r godre a fyddai wedi cynnal y ffrâm bren ar bob un o bedair ochr yr adeilad. Gwnaeth amrywiadau yn uchder y wal sil ddangos yn eglur bod y tŷ wedi’i adeiladu ar dir a oedd yn gogwyddo ar i lawr o’r tu ôl i’r tu blaen, yn ogystal ag o’r naill ochr i’r llall. Meini a oedd wedi’u llyfnu a’u hindreulio oedd cyfansoddiad y wal sil a’r sylfeini ar gyfer y simnai i raddau helaeth, wedi’u casglu mae’n debyg trwy clirio caeau, ac roedden nhw wedi’u rhwymo â chlai heb unrhyw awgrym o forter. Fodd bynnag, roedd haenau uwch y simnai o gerrig onglog o chwareli, a oedd wedi’u rhwymo â morter calch.

Roedd wal y llawr gwaelod ym mhen dwyreiniol yr adeilad wedi goroesi, felly roedd y plât gwadn yma mewn cyflwr eithaf da. Doed o hyd i weddillion y plât gwadn ar ochr ddeheuol yr adeilad yn ystod gwaith cloddio, wedi’i gladdu o dan wal gerrig a oedd wedi’i chodi i ddisodli gwaelodion y waliau, hyd at lefel y rheilen ganol.

Mae’r llun uchaf yn dangos y plât gwadn ym mhen dwyreiniol yr adeilad, ar ben y wal sil wreiddiol, gyda’r ffon raddfa’n gorffwys ar yr arwyneb gwreiddiol y tu allan i’r tŷ. Mae’r llun isaf yn dangos y plât gwadn ar ochr ddeheuol yr adeilad (graddfa 0.5m).



Simneiau a gratiau

Roedd y simnai gerrig ar wal gefn y tŷ ar un ochr i’r neuadd wreiddiol â dau fae ar y llawr gwaelod. Roedd ail simnai lai o lawer a grât hefyd wedi’u hychwanegu at fae gorllewinol y tŷ.

Roedd y prif grât wedi’i newid sawl tro ac, mewn cyfnod diweddar, roedd wedi’i ledu rhyw fymryn er mwyn gallu gosod grât haearn bwrw yno, gyda silffoedd llechi o bobtu. Gellir gweld y math grât penodol hwn yng nghatalog 1875 cwmni Coalbrookdale, lle mae wedi’i hysbysebu fel ‘Yorkshire Range no. 9A’ a oedd ar gael mewn gwahanol feintiau a chydag amrywiaeth o nodweddion gwahanol! Mae’n debyg mai Richard Jones a’i wraig Sarah, a oedd yn byw yn y tŷ ar y pryd, wnaeth osod y grât, ar ôl iddyn nhw roi’r gorau i ddefnyddio’r tŷ fel tŷ cwrdd y Methodistiaid (gwelwch yr adran ar 'Hanes diweddarach y tŷ')

Trwy symud y grât haearn bwrw Fictoraidd, roedd hi’n bosibl cadarnhau maint a siâp y simnai o oes Elisabeth, ond nid oedd rhyw lawer o’r aelwyd wreiddiol wedi goroesi.

Mae’r llun uchaf yn dangos y grât haearn bwrw o oes Fictoria, a wnaed yn Ironbridge. Isod, mae amlinellau’r simnai a’r grât gwreiddiol o oes Elisabeth.



Deunyddiau to cynharach

Doed o hyd i deils to cerrig graddedig o chwarel leol (er na chadarnhawyd hyd yma pa un) wedi’u hailddefnyddio mewn rhannau amrywiol o’r adeilad. Yn fwy diweddar, roedd y tŷ wedi cael to llechi, ond mae’n bur debyg bod y teils cerrig hyn yn cynrychioli’r deunydd to gwreiddiol o oes Elisabeth.

Mae’r llun yn dangos rhai o’r teils to cerrig graddedig mwy cyflawn o Las-hirfryn.



Darganfyddiadau

Yn debyg i’r disgwyl, cymharol brin oedd y darganfyddiadau a oedd o’r un oes ag yr oedd rhywun yn byw yn y tŷ, er bod yna ddarnau o wydr a chrochenwaith a oedd wedi torri wedi’u defnyddio yma ac acw i wneud y llawr yn fwy lefel o dan y teils.

Yma gwelir lun o fuwch ar gaead potyn halen a ddaeth i’r golwg yng Nglas-hirfryn, o bosibl yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac a wnaed yn Swydd Stafford.



(yn ôl i'r brig)


Preifatrwydd a chwcis