CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Hafan
Glas-hirfryn

Glas-hirfryn: Hanes diweddarach y tŷ




Y tŷ yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif

Fel llawer o dai cynnar tebyg yn y rhanbarth, mae’n debyg bod statws cymdeithasol y tŷ wedi mynd ar drai yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, a phrin yw ei hanes hysbys yn ystod y cyfnod hwn. (‘Yn ol hen draddodiad, bu yn gapel y Pabyddion cyn dechreu y diwygiad Protestanaidd yng Nghymru’). Nid yw hyn yn annhebygol, ond os oes unrhyw sylwedd i’r traddodiad, mae dyddio’r tŷ yn awgrymu ei bod hi’n fwy tebygol y defnyddiwyd ef at y diben hwn ar ôl y Diwygiad yn hytrach na chyn y Diwygiad. Roedd yna gydymdeimlad cryf â’r ffydd Gatholig yn yr ardal hon yn y gororau yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg ond, o ystyried ei bod ar goedd bod y tŷ’n cael ei ddefnyddio fel hyn, mae’n fwy tebygol bod hyn wedi digwydd yn sgil diddymu’r Deddfau Reciwsantiaeth Gatholig ym 1650.

Erbyn ail hanner y ddeunawfed ganrif, os nad yn gynt, roedd Glas-hirfryn wedi dod yn fferm dan denantiaeth. Roedd y rhydd-ddeiliad Richard Edwards yn un o’r bobl brin y gwyddys iddyn nhw fyw yn y tŷ yn ystod y cyfnod hwn; mae ei ewyllys yn dangos ei fod wedi bod yn y ffarm ym 1761. Mae’n ddiddorol mai’r unig eitem y soniwyd yn benodol amdani yn ei ewyllys, a ddilyswyd ym 1764, heblaw am gymynroddion arian parod, oedd cwpwrdd a adawyd i’w ferch Elizabeth. Ar ôl ei farwolaeth ef, daeth ei fab Hugh Edwards Richards, a fu farw ym 1777, yn denant y fferm.



Gyswllt fideo



Clawr Cofiant y Tri Brawd, a gyhoeddwyd ym 1906, ynglŷn â’r tri brawd, Richard, William a John Jones a fagwyd yng Nglas-hirfryn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Tenantiaid newydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Dechreuodd pennod newydd yn hanes y tŷ pan symudodd Richard Jones (1783–1849), Glyndyfrdwy i Las-hirfryn fel ffermwr-denant ym 1827 gyda’i wraig Ann a chwech o blant (daeth eu seithfed plentyn i’r byd pan roedden nhw yng Nglas-hirfryn). Mae rhywfaint o hanes cymdeithasol ac economaidd y tŷ a’r fferm yng Nglas-hirfryn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i’w weld yn y cofiant gan y Parch O. Madoc Roberts, Cofiant y Tri Brawd, a gyhoeddwyd ym 1906 ynglŷn â bywydau tri mab y teulu Jones: Richard (a aned ym 1820), William (a aned ym 1822) a John (a aned ym 1828).

Roedd y teulu’n Fethodistiaid Wesleaidd ffyddlon ac roedd ganddyn nhw gysylltiadau da yn y gymuned Anghydffurfiol. Roedd yr Eglwys Wesleaidd yng Nghwmdu wedi symud o’r naill fferm i’r llall am sawl blwyddyn. Cymerodd Richard ac Ann Jones y cyfrifoldeb am sefydlu tŷ cwrdd yng Nglas-hirfryn ym 1837 pan, yng ngeiriau’r cofiant, daeth yr ‘arch’ i Las-hirfryn.

Roedd Ann yn frwd ei chefnogaeth i’r mudiad (‘Nid yw yn anodd meddwl fod ei wraig hygar wedi bod yn gefnogydd eiddgar i’r symudiad, ac fod rhan lled dda o’r cyfrifoldeb ar ei hysgwyddau hi’). Ac mae’r cofiant yn mynd ymlaen i ddweud, (‘Nid peth bychan ydoedd croesawu achos Ymneillduol i’w dŷ yn yr oes hono, yn enwedig pan gofir fod perchennog y ffarm yn glerigwr). Nid yw’r clerigwr wedi’i enwi yn y llyfr, ond o adnoddau eraill mae’n hysbys mai’r Parch. J. C. Phillips, sef clerigwr Anglicanaidd a oedd yn byw dros y ffin yn Lloegr, oedd eu landlord.



Ffotograff o fferm Glas-hirfryn o’r de, allan o’r llyfr Cofiant y Tri Brawd, a gyhoeddwyd ym 1906. Ceir disgrifiad o osodiad y ffermdy yn llinellau cyntaf y gerdd ‘Teyrnged yr Awen’, isod, gan John Cadvan Davies (Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1923), a gyhoeddwyd yn rhagair y llyfr.

Os na welaist fangre dawel,
Dan gysgodfa’r mynydd mawr,
Gyda balm yn llwytho’r awel,
A gwyrddlesni’n harddu'r llawr;
Ac, fel Eden y dwyreinfyd,
Hedd yn cadw’r porth o hyd;
I’r Glashirfryn dos am enyd —
Gweli’r cyfan yno’n nghyd.

'Magwrfa Wesleaeth'

Yr amgyffrediad ar y pryd oedd bod Glas-hirfryn yn wyn ei fyd (‘felly y gellir dywedyd fod bendith Duw mewn modd neillduol wedi gorphwys ar dylwyth y tŷ hwn’).

Cynhaliwyd gwasanaethau’r Sul yn y gegin, (‘i’r hen gegin fawr ar y Sul’), sef cyn neuadd tŷ’r unfed ganrif ar bymtheg. Dywed y llyfr, (‘oblegid fel welir yn awr ar y “distiau derw” uwchben y gegin, &c., gerfiadau cywrain ac arwyddocäol’), a bod (‘gegin er hynny wedi ei ffurfio yn dair ystafell’). Yn bendant, fe fyddai’r rheiny a fynychodd y gwasanaethau’n sylwi ar yr eironi bod yr hyn a oedd unwaith yn gapel pabyddol bellach yn cael ei ddefnyddio gan y Wesleaid (‘ond yn awr dyma fangre’r Babaeth yn fagwrfa Wesleyaeth’).

Mae cofiant Madoc Roberts yn cyfeirio at nifer o welliannau a wnaed ar draul y tenant, boed y tu mewn neu’r tu allan yng Nglas-hirfryn yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan John Jones: 'dygwyd Glashirfryn i gyflwr rhagorol. Adgyweiriodd y tŷ, a gwnaed amryw welliantau arno i mewn ac allan. Dygwyd yr adeiladau i drefn, codwyd rhai newydd'’.

Draeniwyd y caeau a gwellwyd y gwrychoedd a’r ffensys, gyda’r ffensys eu hunain yn costio 8s y rhwd (chwarter erw).



Mrs Jones a Mr John Jones, Glas-hirfryn.

Landlordiaid a thenantiaid

Symudodd y ddau fab hynaf i ffwrdd o’r fferm, gan adael John, ag yntau yn ei ugeiniau cynnar, i ofalu am y fferm pan fu ei dad farw ym mis Ionawr 1849. Roedd hi’n amser anodd i’r teulu ac roedd y drwgdeimlad yn amlwg pan gafwyd codiad o £22 yn y rhent blynyddol pan fu Richard farw, yn enwedig o ystyried: ‘Nid bachgen iengaf Glashirfryn oedd y cyntaf i dalu i estron am lafur tad; ac nid gweddw Glashirfryn oedd yr olaf i deimlo oddiwrth ormes anghyfiawn rhai o dir-feddiannwyr rheibus Cymru’. Maes o law, penderfynodd y landlord y byddai’n rhoi’r fferm ar werth. Comisiynwyd arolwg o’r fferm, ac er i’r cynigion amdani siomi disgwyliadau, fe achosodd hyn gryn bryder i’r teulu: 'Treuliwyd aml i noswaith ddigon prudd yng nghegin Glashirfryn o dan y simdde fawr. Un ochr i’r tân eisteddai y mab yng nghadair ei dad; tra yr eisteddai ei fam gyferbyn, ar y settle gyda’r ddwy ferch’. Ond ym 1854, ar ôl cryn bwyso a mesur, fe argyhoeddwyd y teulu gan ffrindiau ac aelodau eraill o’r teulu mai da o beth fyddai prynu’r fferm eu hunain.



Addasiadau diweddarach i’r tŷ

Ymhlith y newidiadau a wnaed i’r tŷ yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd ychwanegu estyniadau a adeiladwyd o gerrig ar y pen dwyreiniol. Ar y llawr gwaelod, roedd y rhain yn cynnwys popty a golchdy, mae’n debyg gydag ystafelloedd gwely ychwanegol ar y llawr cyntaf.

Cyflogwyd nifer o weision i weithio ar y fferm ac er bod rhai o’r rhain yn ddigon diog, roedd y mwyafrif ohonyn nhw’n ddiwyd. A’r gred oedd bod y teulu Jones yn gyflogwyr da, yn wahanol i ambell ffermwr arall: ‘Gallai ambell was a morwyn warafun y cysuron a’r ymgeledd roddid yn ewyllysgar i’r meirch a’r cŵn, ond a warafunid iddynt hwy ... ac yn wir ofnaf fod ambell un wedi edrych arno yn fwy o beiriant hyd yn oed nag anifail’.

Mae’r llun uchaf yn dangos yr estyniadau wedi’u hadeiladu o gerrig a ychwanegwyd at ben dwyreiniol y tŷ, fel yr oedden nhw yn y 1950au a’r 60au. Yn y llun isaf ceir grât haearn bwrw ategol yn yr estyniad, fel a gofnodwyd ym mis Medi 2013.



Capel Moriah, Cwmdu, sef capel bach ac anghysbell y Methodistiaid Wesleaidd ychydig i’r de o Las-hirfryn.

Capel Moriah, Cwmdy

Codwyd Capel Moriah, Cwmdu, ym 1851, nid nepell o Las-hirfryn, i’r de. Cyn hyn, roedd y tŷ cwrdd wedi bod ym Merthlwyd (tua 1.2km i’r dwyrain o Las-hirfryn) ym 1831, Pant-y-maen (0.8km i’r gogledd) ym 1833 ac yna yn ‘yr hen felin’ (mae’n debyg mai’r felin sydd bellach yn adfeilion yw hon, 200m i’r gorllewin). Mae plac ar y capel yn nodi: (‘Adeiladwyd 1851, Helaethwyd 1873’).

Yn ôl erthygl yn y cylchgrawn Wesleaidd Yr Eurgrawn Wesleyaidda gyhoeddwyd ym 1852, (‘Bu yn bwnc mawr ar feddwl Mr. Jones, Glashirfryn, am flynyddoedd cyn marw, i gael Capel bychan yn y gymdogaeth; ond er pob ymdrechion yr oeddynt yn methu yn gwbl â chael tir i’w adeiladu. Fe’i planiwyd ef mewn llawer man; ond yr oedd rhwystrau yn codi heb yn waethaf iddynt, ac yn dyrysu eu cynlluniau, hyd onid oeddynt bron wedi myned i feddwl na chaent Gapel byth yno. Modd bynag fe gafwyd “Dyffryn Acor” yn nghymydogaeth y Cymdu, ac ar ol hir ddigalondid agorwyd drws gobaith am Gapel newydd. Fe ddaeth Mr. Thomas Jones, gŵr parchus yn yr ardal, i feddiant o ffarm fechan, yn terfynu ar dir Glashirfryn. Aethom ato i ofyn ei ffafr am le i adeiladu Capel bychan. Cawsom bob caredigrwydd ganddo, ac addewid siriol o’r hyn yr oeddym yn ei geisio; a daeth gyda ni i benu y llecyn, a phenodwyd ar y llanerch brydferthaf yn yr holl ardal’).



Bwndel o bapurau newydd dyddiedig 1907 a oedd wedi’u cuddio y tu ôl i’r wensgot sydd i’w weld yn y llun uwchben.

‘Capsiwl amser’ a guddiwyd gan Mary Ann Jones ym 1907

Pan fu John Jones farw ym 1904, gwnaeth ei fab William a’i ferch Miss Mary Ann Jones barhau â’r traddodiadau teuluol trwy gadw’r drws ar agor i’r achos. Yn ôl y llyfr, (‘a chymer Miss Jones le ei mham ar yr hen aelwyd glyd yn Glashirfryn’).

Daeth dolen gyfareddol â chenhedlaeth olaf y teulu Jones i fyw yng Nglas-hirfryn i’r golwg pan ddymchwelwyd y tŷ yn 2012. Y tu ôl i’r wensgot diweddarach yn wal ddwyreiniol y tŷ oedd bwndel o bapurau newydd wedi’u clymu’n daclus, yn cynnwys yr Oswestry and Border Counties Advertiser dyddiedig 9 Hydref 1907 a chopi o’r Gwyliedydd (papur newydd Cymraeg y Methodistiaid Wesleaidd) dyddiedig 3 Hydref 1907. Roedd Mary Ann Jones ac William Williams, ‘Saer’, a Margaret Jane Williams wedi llofnodi’r bwndel.



Gadael y tŷ yn segur

Dechreuwyd gwerthfawrogi pwysigrwydd pensaernïol y tŷ gyntaf yn y 1950au a dynodwyd ef yn Adeilad Rhestredig Gradd II ym 1966. Oherwydd ei gyflwr dirywiol, adeiladwyd ffermdy newydd yng nghanol y 1950au, yn agosach at y ffordd, tua 150m i’r dwyrain, ond parhawyd i ddefnyddio’r tŷ ar gyfer da byw ac fel storfa. Daeth hwn, a llawer o’r adeiladau fferm cerrig cysylltiedig yn anaddas ar gyfer dulliau ffermio modern, ac o dipyn i beth daeth y cwbl yn segur, gyda chyfadeilau ffrâm ddur a godwyd ymhellach i’r gorllewin yn eu disodli.

(yn ôl i'r brig)


Preifatrwydd a chwcis