CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Mynegai Prosiectau

Cwrsws Hindwell


Saif Cwrsws Hindwell ym Masn Walton yn nwyrain Sir Faesyfed, mewn ardal lle ceir llawer iawn o archaeoleg gynhanesyddol. Cafwyd rhagdybiaeth ers canol y 1990au bod cwrsws anarferol o fawr yn bodoli ir gogledd-orllewin o Fferm Hindwell, er mai dim ond yn ddiweddar y mae arwyddocd a graddaur henebyn wedi dod ir amlwg. Tynnwyd ffotograffau ohono gyntaf gan J K S St Joseph ym 1967 pan wnaeth olion cnydau ddatgelu dwy ffos gyfochrog thua 64m rhyngddynt ir de o gylch cerrig y Pedair Garreg, yn estyn am 80m ar y mwyaf. Cofnodwyd yr olion cnydau eto ym 1995, ar gred ar y pryd oedd mai rhan o lifddol oedd y ffosydd o bosibl, er i dystiolaeth olion cnydau mewn arolwg diweddarach yn yr ardal hon arwain at yr awgrym petrus mai rhan o gwrsws oeddynt.

 CPAT 95-17-17

Ar y dde: Y ddwy ffos gyfochrog a ddangoswyd yn yr olion cnydau ir de o gylch cerrig y Pedair Carreg ym 1995. CPAT 95-17-17

Ar l ailarchwilior dystiolaeth olion cnydau a oedd yn bodoli ar gyfer ardal Hindwell yn 2008, nodwyd nifer o ddarnau o ffosydd llinellol ymhellach ir dwyrain a oedd yn dilyn yr un aliniad r ffosydd ger y Pedair Carreg, ac roedd yn ymddangos eu bod yn estyn terfynau hysbys y cwrsws am o leiaf 800m, ac o bosibl am 800m arall ir dwyrain-gogledd-ddwyrain mor bell SO 26546155, y tu hwnt i nant Knobley. Roedd hyn yn awgrymu bod y beddrod crwn yn Hindwell Ash (SO 25706112) yn gorwedd o fewn y cwrsws. Roedd gwaith cloddio ym 1992/3 wedi nodi nifer o nodweddion enigmatig cyn y codwyd y beddrod, yn dyddio o ryw 2200-1985 cal. CC, gyda rhywfaint o dystiolaeth o weithgarwch strwythurol a thystiolaeth a oedd yn gysylltiedig yn fras chrochenwaith diwedd yr oes Neolithig. Fel cyd-ddigwyddiad, daeth ir amlwg hefyd fod arolwg geoffisegol manwl a wnaed ym 1998 i archwilio Clostir Palis Hindwell wedi dynodi olion ysgafn y ffosydd llinellol, er bod yr anomaleddau hyn yn rhy fach i gyfiawnhau sylw ar y pryd.

Mewn ymdrech i nodi estyniad ir gorllewin y tu hwnt i olion cnydau 1995, ymgymerodd CPAT ag arolwg magnetomedr ym mis Medi 2008 ir de-orllewin or Pedair Carreg. Nododd yr arolwg y ffos ogleddol, gan estyn y cwrsws o oddeutu 315m, er nad oedd y ffos ddeheuol yn hawdd iw nodi. Yna gwnaed gwaith cloddio arbrofol ger y Pedair Carreg, gan ddarparu tystiolaeth o ffurf y ddwy ffos, a thystiolaeth iw dyddio: yn ystod y cyfnod cychwynnol yn 2009, archwiliwyd y ffos ddeheuol ac, yn ystod yr ail gyfnod yn 2010, archwiliwyd y ffos ogleddol. Datgelodd y canlyniadau faint trawiadol yr heneb, gyda ffos ddeheuol a oedd yn mesur 3.9m o led ac 1.8m o ddyfnder a ffos ogleddol a oedd yn mesur 3.8m o led ac 1.45m o ddyfnder, y ddwy ag ochrau ar oleddf serth a gwaelod gwastad. Awgrymodd patrwm y siltio yn adrannaur ddwy ffos a gloddiwyd ei bod yn bosibl y bu clawdd cysylltiedig ar y tu mewn.

Gwnaed darganfyddiadau pellach yn 2011, pan roedd y gwanwyn yn hynod sych. Oherwydd yr amodau, gwnaeth Toby Driver o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) ddarganfod terfyniad sgwr wedi'i ddiffinio'n eglur ar ben dwyreiniol y cwrsws (SO 27056183). Or herwydd, daeth y chwiliad yn fwy dwys am y pen gorllewinol a oedd, yn l y gred ar y pryd, y tu hwnt i nant Summergil, yn dilyn nodi'r hyn a oedd, yn l pob golwg, yn adran 100m o hyd or ffos ogleddol yn Crossway (SO 23676016). Cadarnhawyd hyn ym mis Mai y flwyddyn honno, pan nododd gwaith cloddio arbrofol y ddwy ffos mewn cae cyfagos, yn agosach at y nant. Cynhaliwyd arolygon magnetomedr pellach nifer o fisoedd yn ddiweddarach, yn y caeau o amgylch Llys Harpton. Er bod y canlyniadaun siomedig ar y cyfan, maer arolwg wedi nodin betrus terfyniad ar y pen gorllewinol (SO 22875974).

 CPAT Hindwell Cursus

Ar y chwith: Cynllun yn dangos graddau hysbys Cwrsws Hindwell CPAT

Maer dystiolaeth bellach yn awgrymu y gallai hyd cyfan y cwrsws fod yn 4.66km, gan groesi lled llawn Basn Walton o lethrau dwyreiniol y Smatcher ir dwyrain-gogledd-ddwyrain i droed Bryn Einsiob. Ond nid ywr cynllun wedii gwblhau o bell ffordd, gan mai tua 1100m (24%) or ddwy ffos sydd wediu cadarnhau hyd yma. Yn yr un modd henebion cwrsi eraill, maer pellter rhwng y ffosydd yn amrywio rhywfaint, gan fod yna 63m rhyngddynt ger y terfyniad ar y pen dwyreiniol, ac mae yna rhwng 54m a 74m rhyngddynt mewn mannau eraill, gan amgu ardal o ryw 27ha, syn gwneud hwn yr henebyn cynhanesyddol mwyaf ond un yng Nghymru; Clostir Palis Hindwell ywr unig un sy'n fwy. Maer cwrsws wedii alinio ar gyfeiriant o 63 gradd ir dwyrain or gogledd grid, er nad oes unrhyw henebion hysbys, na nodweddion topograffig amlwg a allai fod yn ffocws ar gyfer y naill ben ar llall.

Dim ond un adran lawn sydd wedi'i chloddio ar draws y naill ffos a'r llall, ger y Pedair Carreg, er bod y canlyniadau wedi dangos maint trawiadol yr henebyn. Roedd y ffos ddeheuol yn mesur 3.9m o led ac 1.8m o ddyfnder ac roedd y ffos ogleddol yn mesur 3.8m o led a hyd at 1.45m o ddyfnder. Awgrymodd patrwm y siltio yn y ddwy ffos ei bod yn bosibl y bur clawdd cysylltiedig ar y tu mewn. Maer gwaith cloddio wedi darparu pum dyddiad radiocarbon syn awgrymu yr adeiladwyd y cwrsws yn y cyfnod ar l 3950-3520 cal. CC. Ond maen rhaid trin hyn phwyll; er i ddau or dyddiadau ddod o lenwadau sylfaenol (SUERC-24619 a SUERC-34209) maen rhaid ystyried bod tarddiad y siarcol yn ansicr, sef ffaith y mae dyddiad Mesolithig a gafwyd o lenwad uchaf (SUERC-34213) yn ei hatgyfnerthu.

Er bod yna rywfaint o ansicrwydd ynglyn r dyddiad adeiladu, maer gwaith cloddio diweddaraf wedi helpu i eglurhau ller cwrsws yn nilyniant cyffredinol yr henebion Neolithig yn ardal Walton. Archwiliwyd croestorfan ffos ogleddol y cwrsws Chlostir Palis Hindwell ym mis Medi 2011, a chadarnhawyd bod y ffos wedii mewnlenwin llwyr, boed hynnyn fwriadol neun anfwriadol, erbyn yr amser y codwyd y palis tua 2870?2470 cal. CC, gan ddarparu terminus ante quem ar gyfer y cwrsws. Er nad ywr gronoleg hon yn fanwl gywir, maen gwbl gyson r dystiolaeth syn dyddio henebion cwrsi mewn mannau eraill ym Mhrydain, syn awgrymu i hyn ddechrau yn 39153545 cal. CC a pharhau o bosibl ir trydydd mileniwm CC.

 CPAT 2790-0083

Ar y dde: Yr adran o ffos ddeheuol Cwrsws Hindwell a gloddiwyd CPAT 2790-0083

Mae maint y ffosydd, sef hyd at 3.9m o led a 1.8m o ddyfnder, yn gosod cwrsws Hindwell ymhlith y ffosydd cwrsi mwyaf sydd wedi'u nodi hyd yma. O gymharu, mae gan Gwrsws Rudston A (Swydd Efrog) ffos syn 4m o led ar ei mwyaf, ac mae ffos Cwrsws Cr y Cewri Mwyaf (Wiltshire) yn mesur tua 3.3m wrth 1.5m tuag at y terfyniad gorllewinol, er ei bod yn llai o lawer mewn mannau eraill ar oddeutu 2.5m wrth 0.45m, syn cadarnhaur farn gyffredinol bod ffosydd yn dod yn fwy sylweddol yn agosach at y terfyniadau yn achos patrwm ffosydd cwrsi.

Maen ymddangos bod hyd posibl cwrsws Hindwell yn ei osod ymhlith y cwrsi mwyaf ym Mhrydain, ynghyd safleoedd fel Cwrsws Dorset (cwrsi cysylltiedig Gussage a Pentridge), cwrsws Cr y Cewri mwyaf, yn Wiltshire, cwrsws Stanwell, yn Middlesex, a chwrsi Rudston A a D, yn Nwyrain Swydd Efrog. Yn wir, os yw dynodiad petrus pen de-ddwyreiniol cwrsws Hindwell yn gywir, byddai hyn yn ei wneud o bosibl y cwrsws mwyaf ond un neu ddau ym Mhrydain.