CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Y Berwyn


CPAT PHOTO 86-C-50

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Lleolir y tirwedd mynyddig anghysbell hwn ar lethrau gorllewinol Mynyddoedd y Berwyn syn rhannu Gogledd Cymru oddi wrth y Canolbarth yn ffisegol ac yn weledol. Maer ardal yn cynnwys lleiniau o diroedd pori rhostir tonnog ir de ddwyrain o ddyffryn Dyfrdwy, syn edrych dros Landrillo a massif Eryri draw yn y gorllewin.Ar ochr ddwyreiniol yr ardal,mae esgair ganol Mynyddoedd y Berwyn yn cyrraedd 827m o uchder uwchben SO yng nghopaon Cader Berwyn a Moel Sych,ond tuar gorllewin maer tir yn graddol ddisgyn mewn cyfres o esgeiriau i tua 350450m uwchben SO, cyn disgyn yn serth i Gwm Pennant syn ffinio r ardal ir gorllewin.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf,mae cyfuniad o ffotograffau or awyr a gwaith maes archaeolegol wedi datguddio olion tirwedd amaethyddol hanesyddol mewn cyflwr da,syn cynnwys ardaloedd eang o gyfundrefnau caeau syn ymestyn am fwy na 3km uwchben Cwm Pennant.Credir bod cloddiau, ffosydd,amgaeadau ac aneddiadau y cyfundrefnau caeau hyn yn tarddu or cyfnod cynhanesyddol ar Canol Oesoedd.Yn raddol, mae gwaith maes yn datguddio patrwm cymhleth o aneddiad a ffermio a gellir gweld nifer o derasau llwyfan,syn aml yn digwydd mewn parau ac sydd gweddillion sylfeini cerrig, syn cynrychiolir ty ar beudy fwy na thebyg,ar derfynau caeau a marchgaeau cysylltiedig.Efallai bod pob cymhlethfa yn cynrychioli fferm fach deuluol or oesoedd canol.Gosodwyd y patrwm hwn dros olion cyfnod cynharach o ddefnydd tir, a gynrychiolwyd gan garneddau carreg a sylfeini cytiau cerrig crwn,sydd yn perthyn i Oes yr Efydd fwy na thebyg.Er y credir bod y patrwm yma eto yn cynrychioli ffermydd bach teuluol,gwahenir y ddau gyfnod gan o leiaf 2000 o flynyddoedd o hanes.Maer tir pori wedii wella yn yr ardal hon yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf gan guddio rhai or nodweddion,ond mae sawl ffin gyfoes yn dilyn llinellau eu rhagflaenwyr. Maer amrywiaeth eang o waith cloddiog a strwythurau cerrig a oroeswyd yn gwneud y tirwedd hwn yn ffynhonnell archaeolegol bwysig ar gyfer astudiaeth bellach.

Yng nghanol yr ardal,yn esgair Cefn Penagored syn ymestyn ir dwyrain rhwng Nant Cwm Tywyll a Nant Esgeiriau,ceir olion cyn-gyfundrefnau caeau cynhanesyddol, syn cynnwys cloddiau cerrig isel ynghyd sawl cylch cwt.

Maer ardal hon yn cynnwys tirwedd o gaeau,cytiau a aneddiadau eraill o Oes yr Efydd syn hynod o gyflawn.Maer ardal hefyd yn cynnwys elfennau o dirwedd cynhanesyddol ysbrydol gan ei fod yn cynnwys cylch bychan o gerrig a nifer o garneddau claddu a meini hirion.Ceir grw p llai,ond sydd yr un mor bwysig, o garneddau claddu ar ymylon gogleddol yr ardal ym Moel Ty Uchaf,tra ceir grwpiau eraill mewn safleoedd amlwg ar gopaon lleol ac ar hyd brig yr esgair ganol ir dwyrain. Mae un ardal fechan rhwng dwy nant,Nant Cwm Tywyll a Chlochant wedi llwyddo i osgoi gwelliannau diweddar. Mae Ffridd Camen yn ardal yn y tirwedd o lethrau graddol syn cynnwys tystiolaeth wedii gadwn dda o amaethu canoloesol yr ardal.Mae olion clawdd sylweddol,sydd wyneb carreg mewn mannau,yn rhannur tir caregog ir dwyrain ar tir amaeth ir gorllewin a gliriwyd o gerrig ac a rannwyd yn stribedi. Y tu l ir clawdd ceir olion dau dy hir a ffald gerrig. Ymddengys felly bod Ffridd Camen wedi cynnal fferm hunangynhwysol yn ystod y Canol Oesoedd:ceid caeau a gliriwyd o gerrig ar y llethrau is ac yn l pob tebyg adeiladwyd y clawdd mawr i gadw stoc rhag crwydro ir ardal a amaethwyd, gydar ffermdy yn edrych dros y cyfan.Maen debygol bod yr enghraifft hon yn cynrychiolir patrwm cyffredinol or defnydd o dir ar lethrau gorllewinol Mynyddoedd y Berwyn yn ystod y Canol Oesoedd.Gellir gweld olion hen stribedi a amaethwyd,syn gorgyffwrdd r rhostir mynyddig,o fewn yr ardal gyffredinol o hyd.Amlinellir y rhain gan gloddiau isel o bridd a cherrig a cheir nifer o garneddau clirio arnynt.

Er bod y gwelliannau modern wedi lleihaur nifer o elfennau hanesddyddol sydd wedi goroesi ar dirwedd Mynyddoedd y Berwyn yn sylweddol,maer ardal hon yn dal i gynrychioli un or tirweddau cadwedig gorau oi fath yng Nghanolbarth Cymru.Maer nifer hynod uchel o nodweddion cynhanesyddol syn deillio o weithgareddau ffermio a defodol,ynghyd goroesiad tystiolaeth o ffermio ac aneddiad diweddarach, sydd yr un mor drawiadol,yn yr ardal gymharol fechan hon yn ei gwneud yn enghraifft brin a phwysig o dirwedd hanesyddol Cymru.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.