CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Basn Caersws: Penbedw
Cymuned Caersws, Powys
(HLCA 1178)


CPAT PHOTO 06-C-014

Tirwedd o gaeau a ffermydd gwasgaredig ar dir llethrog a bryniau isel yn ffurfio ymyl gogledd-ddwyreiniol Basn Caersws. Mae’n rhannol gynrychioli cau tir bob yn dipyn, o’r cyfnod canoloesol ymlaen yn ôl pob tebyg, ac yn rhannol gynrychioli cau tir comin gynt ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ceir tystiolaeth o aneddiadau amddiffynedig cynhanesyddol diweddarach tebygol. Llwybr y ffordd Rufeinig i’r gogledd-ddwyrain o’r gaer Rufeinig yng Nghaersws.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Escob a Castle ym mhlwyf degwm Llanwnog, Sir Drefaldwyn.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Ceir tirwedd o gaeau cymysg ar y tir sy’n codi’n raddol yn gyffredinol i’r gogledd o Gaersws ac i’r dwyrain o Lanwnog, ond â llethrau mwy serth ar ymylon Alltwnnog i’r gogledd o Lanwnog, ar uchder o rhwng 130metr a 350 metr. Mae yma esgeiriau hirgul isel yn cynrychioli drymlinau rhewlifol, sydd wedi effeithio ar batrymau draenio lleol. Mae’r priddoedd gan fwyaf yn briddoedd mân cleiog a siltiog, sy’n ddirlawn yn dymhorol, er bod priddoedd mân lomog wedi’u draenio’n dda mewn mannau. Yn economaidd, magu da byw ar laswelltir parhaol a ffermio llaeth ar dir isel sy’n gwneud orau yma. Caeau afreolaidd mawr a bach a welir yn bennaf, yn cynrychioli clirio a chau tir bob yn dipyn yn ôl pob tebyg, yn ystod y cyfnod canoloesol a diwedd y cyfnod canoloesol. Er hynny, ceir patrwm amlwg o gaeau mawr a bach ag iddynt ochrau syth yn rhan ganol yr ardal, rhwng Gwynfynydd a Phenbedw, yn cynrychioli cau porfa gomin gynt ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ardaloedd gweddilliol o goetiroedd hynafol a ailblannwyd a choetiroedd lled-naturiol hynafol sydd yng Nghoed Tregastell, Coed Penbedw, Coed Llwyn-gwyn a phob ochr i lethrau isaf Alltwnnog. Mae yna goetir conwydd diweddar ar Alltwnnog a blannwyd yn y 1950au.

Mae tystiolaeth enwau lleoedd yn arwydd o ddefnydd tir hanesyddol, o bosibl yn awgrymu clirio coedwigoedd a chau tir yn gymharol ddiweddar i anifeiliaid bori. Yn ogystal ag enwau coedwigoedd sy'n bodoli, megis Coed Llwyn-gwyn a Choed Tregastell, mae’r elfen coed hefyd yn ymddangos yn Goleugoed, Gwastadcoed, Gwastadgoed-uchaf, yr elfen llwyn yn ymddangos yn Llwyn-y-gog, a bedw yn ymddangos yng Nghoed Pen-bedw. Mae’r elfen rhos yn yr enw Rhos-goch yn awgrymu porfa arw. Awgrymir corlannu da byw gan ffurf luosog buarth yn yr enw Buarthau.

Mae lloc Wyle Cop sy’n gorwedd ar lan nant i’r gogledd o Lanwnog a lloc Gwynfynydd sy’n gorwedd ar dir llethrog i’r gogledd o Gaersws yn awgrymu defnydd tir ac anheddu Oes yr Haearn cyn-Rufeinig tebygol. Mae’r ddau yn amgáu ardaloedd o tua 0.3 hectar. Mae llwybr y ffordd Rufeinig i’r gogledd o’r gaer Rufeinig yng Nghaersws yn dilyn llinell y ffordd fodern yn Llwyn y Gog yn fras, gan redeg i gyfeiriad Dolanog yn nyffryn Banw.

Mae nifer o ffermydd gwasgaredig iawn sydd wedi’u lleoli oddi ar y brif ffordd, megis Gwastadcoed, Gwastadgoed-uchaf a’r fferm a fu gynt yng Ngwynfynydd, yn cynrychioli’r elfen gynharaf sydd wedi goroesi yn y patrwm anheddu modern ac, o bosibl, mae’n tarddu o’r cyfnod canoloesol neu’r cyfnod canoloesol diweddar. Mae mapiau cynnar yn awgrymu bod y rhain wedi bod ar ffurf un rhes o adeiladau mewn llinell yn y gorffennol. Nid yw rhai ffermydd yn bodoli bellach yn dilyn cyfuno daliadau ffermydd, tra bod eraill, megis Gwastadcoed, wedi tyfu’n sylweddol yn ystod yr ugeinfed ganrif, gyda chodi adeiladau â ffrâm ddur. Crëwyd rhai ffermydd diweddarach, megis Llwyn-y-gog, tua diwedd y 19eg ganrif, yn dilyn cau tir comin gynt. Mae yna rai bythynnod llai, a ddechreuodd fel llechfeddiannau ar ochr y ffordd o bosibl, ac mae’r ardal hefyd yn cynnwys nifer sylweddol o dai bychain newydd ar wahân ar ochr y ffordd.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Collens 1988; Lea 1975; Spurgeon 1972; Fisher 1917; Silvester 2004; Silvester ac Owen 2003; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewitt 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.