ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Caersws Basin - </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="1179.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_swsint.htm#1179 Llanwnog">Tirwedd Hanesyddol <br>Basn Caersws</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="1179map.htm">Map o'r ardal cymeriad hon</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_1179ph.htm">Mwy Ffotograffau</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Basn Caersws: <EM>Llanwnog </EM><BR>Cymuned Caersws, Powys <BR>(HLCA 1179) </H2> <HR> <P><IMG SRC="06c043.jpg" WIDTH="300" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 06-C-043"> <EM> <P> Peth tystiolaeth o ddefnyddio tir ac anheddu cynhanesyddol cynnar. Llwybr y ffordd Rufeinig i r gogledd o r gaer Rufeinig yng Nghaersws. Tirwedd o gaeau cymysg yn cynrychioli clirio a chau tir bob yn dipyn, a chau tebygol hen gaeau agored canoloesol, sy n gysylltiedig â r anheddiad cnewylledig sy n tarddu o r cyfnod canoloesol cynnar neu r cyfnod canoloesol yn Llanwnog. Pentrefan diwydiannol yn manteisio ar buer dur ym Mhontdôlgoch, a nodweddion sy n gysylltiedig â datblygu r ffordd dyrpeg a r rhwydweithiau rheilffyrdd yn y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif.</P> </EM> <P> <P> <H3>Cefndir Hanesyddol</H3> Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Escob a Castle, Wig a Surnant ym mhlwyf degwm Llanwnog, Sir Drefaldwyn. Cofnodwyd yr enw Llanwnog gyntaf ar ddiwedd y 12fed ganrif, a i ystyr yw  eglwys Gwynnog . Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwynnog, ac felly hefyd eglwys Aberhafesb gerllaw. Roedd gan esgob Bangor diroedd yn y plwyf ar ddechrau r 14eg ganrif. </P> <H3>Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol</H3> Tirwedd gymysg o gaeau iseldirol ar lawr y dyffryn, a llethrau isaf bryniau rhan isaf dyffryn Afon Carno, ar uchder o rhwng 130 metr a 240 metr, a sawl bryncyn isel yn yr ardal rhwng Llanwnog a Chaersws, sef drymlinau rhewlifol, sydd wedi effeithio ar batrymau draenio lleol. Mae yna beth amrywiaeth o ran mathau o bridd yn yr ardal. Yn hanesyddol, cafodd y rhain effaith ar botensial economaidd. Ar lannau Afon Carno, mae priddoedd llifwaddodol dwfn sy n siltiog, yn athraidd a heb gerrig, yn gweddu i ffermio llaeth a magu da byw ar rawnfwydydd a glaswelltir parhaol a thymor byr. O gwmpas Llanwnog, mae ardal o briddoedd siltiog a lomog mân wedi u draenio n dda, dros ddyddodion ffrwd-rewlifol neu greigwely siâl, yn gweddu i ffermio llaeth a thyfu grawn. Ar hyd rhan isaf Nant Manthrig, rhwng Llanwnog a Chaersws, mae priddoedd mân llifwaddodol, dwfn a heb gerrig, sy n gleiog neu n siltiog y mae dirlawnder yn effeithio arnynt, sy n gweddu orau i ffermio llaeth a magu stoc ar borfa barhaol. Mae tirwedd y caeau n cynnwys yn bennaf caeau afreolaidd mawr a bach sydd, mae n debyg, yn cynrychioli clirio a chau tir bob yn dipyn o gyfnodau canoloesol neu gynharach, er bod yna batrymau neilltuol a chymharol helaeth o gaeau llain i r gorllewin ac i r de o bentref Llanwnog. Ymddengys fod y rhain yn cynrychioli caeau agored canoloesol a oedd, o bosibl, wedi'u cau tua diwedd y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae n amlwg bod peth ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fach wedi digwydd i r de o Bontdôlgoch pan adeiladwyd y rheilffordd o r Drenewydd i Fachynlleth tua diwedd y 1850au. <P> Mae r mwyafrif o r enwau lleoedd yn gysylltiedig ag anheddu, diwydiant a chyfathrebu. Yn eu plith ceir yr elfen <EM>gefail</EM> yn Rhiw-yr-efail, <EM>plas</EM> yn Henblas, pont yn Pontdôlgoch ac <EM>wtra</EM> yn Ty n-yr-wtra er enghraifft. Mae r elfen <EM>dôl</EM> ym Mhontdôlgoch yn awgrymu dolydd, ac mae r elfen <EM>gwig</EM> yn Wig, a gofnodwyd yn gyntaf tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, tuag ochr orllewinol yr ardal, yn awgrymu coetiroedd. Awgrymir daliad tir eglwysig gan yr elfen <EM>esgob</EM> ym Mharc-yr-Esgob ychydig i r gogledd o Lanwnog. Mae n debyg mai Esgob Bangor oedd yn berchen ar y tir hwn. Cofnodwyd hwn am y tro cyntaf tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg, ac roedd yn ffurfio elfen o enw trefgordd Escob a Castle ym mhlwyf Llanwnog. <P> Mae hapddarganfyddiadau gwasgaredig ar hyd Afon Carno yn darparu tystiolaeth arwyddocaol o ddefnyddio tir ac anheddu cynhanesyddol cynnar. Mae hyn yn cynnwys pen brysgyll tyllog a ddarganfuwyd ym Mhontdôlgoch, darn o grochenwaith Neolithig cynnar o gerllaw Blackhall Cottages, ac o bosibl dwy ffos gylch yn cynrychioli henebion claddu yn yr ardal rhwng Blackhall Cottages a Llanwnog. Mae n bosibl bod twmpath llosg sydd wedi i gladdu yn agos i lan afon Carno ychydig i r gorllewin o bont Wig yn dyddio o r Oes Efydd. <P> Tybir bod llwybr y ffordd Rufeinig sy n arwain o borth gogleddol y gaer Rufeinig yn rhedeg ar hyd dyffryn Carno, fwy neu lai ar hyd llinell yr A470. Nid yw n glir hyd yma lle mae n croesi r ardal nodwedd. <P> Daeth yr anheddiad cnewylledig bach yn Llanwnog i fodolaeth yn y cyfnod canoloesol cynnar neu r cyfnod canoloesol. Ynghyd â Llandinam i r de o Afon Hafren, fe ddisodlodd ganolfan weinyddol gynharach y rhanbarth, a oedd yn canolbwyntio ar y gaer Rufeinig yng Nghaersws. Er nad yw ei wreiddiau yn eglur hyd yma, mae n bosibl bod yr awgrym o ffermio tir âr ar gaeau agored yn y gorffennol, yn arbennig i r gorllewin ac i r de o ganol y pentref, a i gysylltiad ag eglwys ganoloesol, yn awgrymu y gallai fod wedi dod i ffurfio canolfan faenorol gynnar. Awgrymir caeau agored gan batrymau cymharol benodol o batrymau caeau hir, hirgul, tebyg i leiniau, ac mae rhai ohonynt yn parhau i gael eu cysylltu ag olion creiriol tirwedd cefnen a rhych llydan. Mae r cofnod dogfennol cyntaf o r eglwys, sydd wedi i chysegru i Sant Gwynnog, yn dyddio o ganol y 13eg ganrif. Saif mewn mynwent gromliniol ac awgryma hyn, ynghyd â r elfen <EM>llan</EM> yn yr enw lle, ei bod wedi i sefydlu rhwng yr 8fed a r 9fed ganrif o bosibl. Mae rhywfaint o r adeiladwaith canoloesol sydd wedi goroesi yn yr eglwys wedi i adeiladu o flociau tywodfaen wedi u sgwario. Tybir bod y rhain wedi u cymryd o amddiffynfeydd y gaer Rufeinig yng Nghaersws. Mae r llofft a r groglen ganoloesol wych a darnau o wydr ffenestr canoloesol, gan cynnwys delwedd o Sant Gwynnog, yn awgrymu rhyw ffurf ar nawddogaeth. <P> Mae n debyg bod y mwyafrif o adeiladau cynnar hyd at ddechrau r cyfnod ôl-ganoloesol wedi u hadeiladu n rhannol o ffrâm bren. Ymhlith yr adeiladau llai sy n dyddio o r 17eg ganrif ac sydd wedi goroesi yn yr ardal, mae r bwthyn ym mhentref Llanwnog, dyddiedig 1664, a bwthyn ym Mhontdôlgoch. Mae r tw pren mwy ei faint ac uwch ei statws ym Mherth-eiryn, ychydig i r de o Bontdôlgoch, yr ychwanegwyd tu blaen brics ato yn y 18fed ganrif, yn un o nifer o dai bonedd arunig yr iseldir yn ardal y dirwedd hanesyddol. Ymddengys fod y rhain yn arwydd o ddatblygu canolfannau stadau yn y cefn gwlad agored yn yr 16eg ganrif a r 17eg ganrif, mewn cysylltiad o bosibl â chau dolydd comin yr iseldir o amgylch Afon Hafren a i phrif lednentydd yn y cyfnod hwn. <P> Parhaodd pentref Llanwnog i ddatblygu bob yn dipyn yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Dylanwadwyd llawer iawn ar ei gymeriad gan bresenoldeb cyfres o ffermydd sy n pwysleisio i wreiddiau amaethyddol. Dylanwadwyd arno hefyd gan ddatblygiad y rhwydwaith ffyrdd tyrpeg tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau r 19eg ganrif, pan adeiladwyd pontydd newydd ar draws Afon Carno yn Wig ac ym Mhontdôlgoch. Ehangodd yr ardal i r gogledd-ddwyrain o r pentref, gyda datblygu tai modern a thai gwledig ar ochr y ffordd yn yr 20fed ganrif. Ehangodd y pentrefan ym Mhontdôlgoch, a allai fod wedi i wreiddio yn y Canol Oesoedd, gyda datblygu puer Afon Carno rhwng yr 17eg ganrif a r 19eg ganrif, pan adeiladwyd melin lifio, melin wd a melin wlân, yn gysylltiedig â dyfrffosydd melin, pyllau melin, tai melin a bythynnod gweithwyr. Roedd gefail, tafarn ar ochr y ffordd a chapel anghydffurfiol wedi u hychwanegu at yr anheddiad erbyn canol y 19eg ganrif. Mae r felin lifio sy n cael ei gyrru â dur yn parhau i weithio. Adeiladwyd melin wlân arall, nad yw wedi goroesi, ymhellach i lawr yr afon ger Bont Wig. Adeiladwyd pontydd rheilffordd dros y ffordd a r afon ym Mhontdôlgoch gyda dyfodiad y rheilffordd ar ddechrau r 1860au. Mae r rheilffordd yn parhau i redeg, ond mae r hen orsaf a hen dw r gorsaf-feistr ym Mhontdôlgoch bellach wedi u trosi n gartrefi. <P> Parhaodd peth datblygu ffermydd gwledig i r 20fed ganrif, dan ddylanwad nifer o r ystadau mawr, mae n debyg. Mae yna hefyd gyfres bwysig o dyddynnod cynnar y cyngor sir yn yr ardal, fel sydd ym Maesteg, Lôn Wig, Caersws. <P> Dywedir bod bomiau wedi u gollwng yn anfwriadol ar ran o bentref Llanwnog, o ganlyniad i weithgarwch y gelyn yn ystod yr ail ryfel byd. </P> <P> <P> <H3><A HREF="swsbib.htm">Ffynonellau</A></H3> Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Anthony 1995; Barker 1997; Barton 1997; Barton 2003; Baughan 1980; Crossley a Ridgway 1947; Davies 1810; Davies 1829; Dempsey 1997; Eisel 1986; Ellis 1838; Gibson 1997; Gibson 1998; Haslam 1979; Howell 1875; Jenkins 1969; Lewis 1833; Lunt 1986; Owen 1957-58; Morgan 2001; Parry 1998; Pennant 1783; Price 1998; Pryce 1886; Putnam 1961-62; CBHC 1911; Silvester 1992; Silvester 2003; Silvester 2004; Silvester a Hankinson 2002; Silvester a Hankinson 2003; Silvester ac Owen 2004; Smith 1975; Stephenson 2005; Walker 1871 <CENTER> <P> I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag <STRONG>Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys</STRONG> yn y <A HREF="../../../../cpat/contact/contact.htm">cyfeiriad</A> hwn neu ewch i wefan <STRONG>Cyngor Cefn Gwlad Cymru</STRONG> yn <STRONG>www.ccw.gov.uk</STRONG>. </CENTER> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>