ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Caersws Basin - </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="1180.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_swsint.htm#1180 Glasgoed">Tirwedd Hanesyddol <br>Basn Caersws</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="1180map.htm">Map o'r ardal cymeriad hon</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_1180ph.htm">Mwy Ffotograffau</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Basn Caersws: <EM>Glasgoed </EM><BR>Cymuned Caersws, Powys <BR>(HLCA 1180) </H2> <HR> <P><IMG SRC="06c065.jpg" WIDTH="300" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 06-C-065"> <EM> <P> Tirwedd o gaeau afreolaidd sydd i w gweld gan fwyaf, sy n cynrychioli clirio a chau coetiroedd bob yn dipyn, o r cyfnod canoloesol cynnar ymlaen o leiaf.</P> </EM> <P> <P> <H3>Cefndir Hanesyddol</H3> Roedd yr ardal yn rhan o drefgorddau maenorol Surnant a Wig ym mhlwyf degwm Llanwnog, Sir Drefaldwyn.</P> <H3>Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol</H3> Ysbardun bryniog gydag ochrau n disgyn yn serth rhwng dyffryn Afon Carno tua r dwyrain a dyffrynnoedd Afon Trannon ac Afon Cerist i r de, ar uchder o rhwng 150metr a 290 metr. Mae r priddoedd ar y tir uchaf yn draenio n dda ac yn briddoedd mân lomog a siltiog dros graig, sy'n fas mewn mannau, ac maent yn gweddu orau yn economaidd i blannu coetir a magu da byw. Mae r priddoedd ar y tir llethrog i r dwyrain ac i r de o r ardal yn fân, yn lomog ac yn siltiog dros ddyddodion drifft rhewlifol, gyda rhwystrau i r draeniad mewn mannau, ac maent yn gweddu orau i fagu da byw ar laswelltir parhaol. Caeau afreolaidd bychain gyda rhai caeau afreolaidd mwy yw r dirwedd o gaeau yn bennaf. Mae hyn, mwy na thebyg, yn cynrychioli proses o glirio a chau tir bob yn dipyn ers y cyfnod canoloesol a chynharach yn ôl pob tebyg. Yng nghornel ogledd-ddwyreiniol yr ardal, mae nifer o gaeau ag iddynt ochrau syth, i r gogledd o Ben-y-coed, sy'n cynrychioli cau ardal yr hen borfa gomin agored ar ddechrau r 19eg ganrif. Ceir lleiniau bychain gweddilliol o goetir hynafol lled-naturiol ar hyd rhai o ddyffrynnoedd y nentydd. <P> O ystyried natur fryniog yr ardal mae'n ddealladwy bod enwau sy'n cynnwys yr elfen coed i w gweld yn aml, er enghraifft Pen-y-coed, Coed-orddle a Glasgoed. <P> Mae bwyell wedi i gwneud o garreg a ddarganfuwyd ger Perth-eiryn yn awgrymu defnydd tir ac anheddu cynhanesyddol. <P> Ffermydd gwasgaredig iawn, o bosibl yn dyddio o'r cyfnod canoloesol neu ddiwedd y cyfnod hwnnw, sy n cynrychioli r patrwm anheddu cyfoes, er enghraifft Pen-y-coed a Glasgoed. Ehangwyd Glasgoed yn ystod yr 20fed ganrif pan godwyd adeiladau â fframiau dur, ynghyd â nifer o fythynnod gwasgaredig. Mae n debyg fod y tw ar ochr y ffordd yn Gate yn dyddio o ddechrau r 19eg ganrif. Cafodd ei enwi ar ôl y dollborth ar y ffordd i Drefeglwys, a oedd gynt wedi'i lleoli tua 400 metr i'r dwyrain. </P> <H3><A HREF="swsbib.htm">Ffynonellau</A></H3> Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol, mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Jones 1983; Lea 1975; Morgan 2001; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewett 1991 <CENTER> <P> I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag <STRONG>Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys</STRONG> yn y <A HREF="../../../../cpat/contact/contact.htm">cyfeiriad</A> hwn neu ewch i wefan <STRONG>Cyngor Cefn Gwlad Cymru</STRONG> yn <STRONG>www.ccw.gov.uk</STRONG>. </CENTER> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>