ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Caersws Basin - </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="1182.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_swsint.htm#1182 Caersws">Tirwedd Hanesyddol <br>Basn Caersws</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="1182map.htm">Map o'r ardal cymeriad hon</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_1182ph.htm">Mwy Ffotograffau</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Basn Caersws: <EM>Caersws </EM><BR>Cymunedau Caersws, Llandinam, Aberhafesb a Mochdre, Powys <BR>(HLCA 1182) </H2> <HR> <P><IMG SRC="06c024.jpg" WIDTH="300" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 06-C-024"> <EM> <P> Pentref modern, sef bwrdeistref ganoloesol yn wreiddiol, ac wedi i adeiladu dros anheddiad sifilaidd Rhufeinig gerllaw caer Rufeinig. Mae safle r pentref ar y rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd o ddiwedd y 18fed ganrif a r 19eg ganrif wedi cyfrannu ar y dechrau at ei ddatblygiad. Yn ddiweddarach, datblygodd yn bentref noswylio ar gyfer y Drenewydd. </EM> <H3>Cefndir Hanesyddol</H3> Roedd yr ardal yn ffurfio rhannau o drefgordd faenorol Caersws ym mhlwyf degwm Llanwnog <H3>Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol</H3> Dyma lawr dyffryn isel a chymharol wastad, ychydig uwchben gorlifdir Afon Hafren gan fwyaf, ar uchder o rhwng 120 a 130 metr. Ymddengys fod amddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd Afon Carno ac Afon Hafren wedi u hadeiladu n rhannol tua diwedd y 19eg ganrif, ar y cyd ag adeiladu r rheilffyrdd, ac yn rhannol yn ystod yr 20fed ganrif. <P> Caewyd nifer o diroedd comin bach iseldirol ym mhentref Caersws ac o i amgylch o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau r 19eg ganrif. <P> Adeiladwyd y gaer Rufeinig yn yr ongl rhwng Afon Hafren ac Afon Carno tua diwedd y ganrif 1af, yn dilyn cyfnod y goncwest. Mae ei hamddiffynfeydd yn goroesi hyd heddiw fel cloddweithiau ychydig i r gogledd o ganol y pentref modern. Roedd y gaer yn cynnwys casgliad o adeiladau pren a charreg, ac roedd waliau cerrig a phorthdyrau n ei hamddiffyn. Safai ger canolbwynt rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig, yn cysylltu â chaer a thref Wroxeter i r dwyrain, â chaer yn ardal y Bala i r gogledd yn ôl pob tebyg, â r gaer fechan ym Mhenycrocbren a r gaer ym Mhennal i r gorllewin mae n debyg, ac â r gaer yng Nghastell Collen ger Llandrindod i r de. Tyfodd anheddiad sifilaidd dros ardal o o leiaf 8 hectar ar ochrau deheuol a dwyreiniol y gaer Rufeinig. Mae llawer ohono bellach o dan y pentref modern. Ffurfiwyd ef o adeiladau pren, wedi u gosod ar grid o strydoedd a lonydd, lle roedd masnachwyr a chrefftwyr oedd yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i r fyddin Rufeinig yn byw. Ymhlith y diwydiannau oedd yn mynd rhagddynt yma roedd odynnau n cynhyrchu teils llawr yn seiliedig ar ddyddodion clai lleol, yn ogystal â gweithfeydd haearn a chastio efydd. Adeiladwyd baddondy ychydig i r de-orllewin o r gaer. Mae n debyg mai dur a gludwyd mewn dyfrffos o Afon Carno oedd yn ei gyflenwi. Mae awgrymiadau bod yna fynwent Rufeinig wedi i sefydlu yn yr ardal hon o bosibl hefyd. Ymddengys fod pobl wedi dechrau gadael y gaer a r anheddiad sifilaidd cysylltiedig yn gyflym yn hanner cyntaf yr 2il ganrif OC, er bod yna arwyddion bod y gaer yng Nghaersws wedi i chynnal fel canolfan weinyddol o bosibl hyd y 3edd ganrif neu r 4edd ganrif o leiaf. <P> Ymddengys fod canolbwynt gweinyddol yr ardal wedi symud i r aneddiadau eglwysig cnewylledig yn Llandinam, i r de o Afon Hafren ac i Lanwnog i r gogledd yn ystod y cyfnod ôl-Rufeinig. Ymddengys fod arglwyddi Arwystli neu Bowys wedi ymdrechu i sefydlu bwrdeistref â marchnad bob wythnos yng Nghaersws, rhwng y marchnadoedd a grëwyd ymhellach i fyny'r afon yn Llanidloes, ac i lawr yr afon yn y Drenewydd. Yn amlwg, methwyd yn hyn o beth, ac erbyn yr 16eg ganrif, nid oedd yn fwy na phentrefan bychan. Ystyrir bod yr enw Caersws, a gofnodwyd am y tro cyntaf yn y 1470au, yn cyfuno caer, sef cyfeiriad at y gaer Rufeinig, ac enw personol, Swys o bosibl. <P> Goroesodd ardaloedd o dir comin yr iseldir ym mhentref Caersws ac o i amgylch, ac yn rhan isaf Nant Manthrig hyd ddechrau r 19eg ganrif. Bryd hynny, roeddent yn destun deddf cau tir Arwystli. <P> Daeth prif gyfnod datblygu Caersws gyda gwelliannau i r ffyrdd tyrpeg tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau r 19eg ganrif, ac o ganlyniad, mae ganddo gymeriad pentref ar ymyl y ffordd a ddatblygodd ar gyffordd a chroesfan bwysig ar draws afon. Er bod yna o leiaf un adeilad cynhenid traddodiadol yn y pentref, mae ei gymeriad yn llawer mwy trefol a diwydiannol na gwledig mewn sawl agwedd (er ar raddfa fach iawn). Mae r datblygiad hwn yn cynnwys cyfres o derasau, un ohonynt yn deras trillawr, yn dyddio yn ôl pob tebyg o ddechrau r 19eg ganrif. Mae n atgof o r rhesi sy n gysylltiedig â r diwydiant gwlân ym Mhenygloddfa, y Drenewydd. Mae llawer o r gweddill yn amlwg yn ddiweddarach na r rheilffordd. <P> Adeiladwyd sawl tafarn i wasanaethu teithwyr oedd yn mynd trwy r pentref, ac mae r pentref hefyd yn cynnwys Dolaethnen, sef tw wyneb carreg o ganol y 19eg ganrif, sy n gysylltiedig â stad Williams Wynn. Adeiladwyd Tloty Caersws ar ochr ddwyreiniol y pentref yn y 1830au, i ddarparu cartref ar gyfer hyd at 350 o dlodion. Adeiladwyd ef yn rhannol o frics o glai lleol a gloddiwyd ac a thaniwyd mewn odynnau i r gogledd-ddwyrain o ganol y pentref. Yn ddiweddarach, daeth yn Ysbyty Llys Maldwyn, ac mae wedi i drosi yn ddiweddar at ddibenion eraill. Ehangodd y pentref ymhellach gyda dyfodiad y rheilffyrdd yn y 1860au a r 1870au. Bryd hynny, darparwyd gorsaf unllawr yng Nghaersws, gyda thw deulawr i r orsaf-feistr, a chaban signalau ar wahân. Roedd Caersws hefyd yn gyffordd y brif lein â Rheilffordd y Fan, sef y llinell fwynau a oedd yn gwasanaethu r mwyngloddiau plwm i r gogledd o Lanidloes. Darparwyd swyddfa a sied injans ar ei chyfer ar ochr orllewinol y pentref. Mae r sied injans sydd wedi i hadeiladu o frics melyn â ffenestri haearn bwrw wedi goroesi, a hefyd adeilad gorsaf bach o frics coch sydd wedi i addasu cryn dipyn, sy n sefyll ar y platfform gwreiddiol. Adeiladwyd tai a siopau i weithwyr yng Nghaersws, yn ogystal ag eglwys a dau gapel anghydffurfiol yn ystod y 19eg ganrif. Ynghyd ag adeiladau eraill, maent yn dangos amrywiaeth arbennig o dda o liwiau a mathau o frics, yn cynnwys brics melyn nodedig. Yn ystod yr 20fed ganrif, adeiladwyd tai mewnlenwi yng nghraidd y pentref, ond y stadau tai a r ysgol i r dwyrain o ganol y pentref, y tu hwnt i Nant Manthrig oedd yr ehangiad mwyaf amlwg. Mae amrywiaeth adeiladu, swyddogaethau adeiladau a deunyddiau adeiladu oll yn gyfraniadau o bwys i gymeriad unigryw craidd pentref Caersws. <H3><A HREF="swsbib.htm">Ffynonellau</A></H3> Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Anthony 1995; Baughan 1980; Bosanquet 1909; Britnell 1989; Burnham 1995; Colt Hoare 1806; Cozens 1953; Cozens et al. 2004; Daniels, Jones a Putnam 1966, 1968, 1970; Davies 1829; Davies 1943-44, 1945-46; Davies 1943-44, 1945-46; Davies 1943-44, 1945-46; Davies a Jones 2006; Hankinson a Jones 2003; Haslam 1979; Howell 1875; Jarrett 1969; Jarrett 1994; Jones 1961; Jones 1983; Jones 1985; Jones 1987; Jones 1993; Lewis 1833; Morgan 2001; Owen 1990; Owen 1993; Pennant 1783; Pritchard 1962; Pryce 1940; Pryce 1931; Putnam 1961-62; Rivet a Smith 1979; Silvester 1992; Soulsby 1983; Stephens 1986; Thomas 1955-56 <CENTER> <P> I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag <STRONG>Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys</STRONG> yn y <A HREF="../../../../cpat/contact/contact.htm">cyfeiriad</A> hwn neu ewch i wefan <STRONG>Cyngor Cefn Gwlad Cymru</STRONG> yn <STRONG>www.ccw.gov.uk</STRONG>. </CENTER> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>