ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Caersws Basin - </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="1184.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_swsint.htm#1184 Carnedd">Tirwedd Hanesyddol <BR>Basn Caersws</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="1184map.htm">Map o'r ardal cymeriad hon</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_1184ph.htm">Mwy Ffotograffau</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Basn Caersws: <EM>Carnedd </EM><BR>Cymunedau Caersws a Llandinam, Powys <BR>(HLCA 1184) </H2> <HR> <P><IMG SRC="06c085.jpg" HEIGHT="235" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 06-C-85"> <EM> <P> Bryngaer Oes yr Haearn ar gefnen pen bryn. Tirweddau o gaeau afreolaidd a ffermydd gwasgaredig yn tarddu o bosibl o r cyfnod canoloesol ac yn ddiweddarach. Ceir ardaloedd o weddillion coetiroedd llydan-ddeiliog ar y llethrau mwyaf serth a phlanhigfeydd conwydd a rhai porfeydd agored ar dir a gaewyd yn gyntaf ar ddechrau'r 19eg ganrif. Tirlun plasty â gerddi, gyda phorthdy ac adeiladau eraill cysylltiedig, a adeiladwyd ar gyfer David Davies ym Mroneirion. </EM> <H3>Cefndir Hanesyddol</H3> Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Trewythen, Gwernerin, Carnedd a Llandinam ym mhlwyf degwm Llandinam yn Sir Drefaldwyn. <H3>Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol</H3> Ysbardun bryniog rhwng Afon Cerist ac Afon Trannon i r gogledd ac Afon Hafren i r de, gyda llethrau bryniau serth, a chefnen Cefn Carnedd yn ben ar y cwbl, ar uchder rhwng 130 a 270 metr. Priddoedd mân siltiog a lomog wedi u draenio n dda sydd yma gan fwyaf, dros greigwely siâl, gyda rhai brigadau creigiog moel mewn mannau. Yn economaidd, magu da byw oedd yn gwneud orau ar y tir uchel, a choetiroedd collddail a chonwydd a phorfa arw ar y llethrau mwy serth. Caeau afreolaidd mawr a bach sydd i'w gweld yn bennaf yn y dirwedd caeau. Ymddengys eu bod yn cynrychioli proses raddol o glirio a chau tir o gyfnod canoloesol neu gynharach, sy n gysylltiedig â ffermydd gwasgaredig. Mae n debyg bod rhai o'r ffermydd hyn yn dyddio o r cyfnod canoloesol. <P> Roedd cyfran sylweddol o ben bryn Cefn Carnedd, yn ogystal â rhai rhannau dwyreiniol yr ardal yn cynnwys Waun Dingle a r llethrau uwchben Broneirion, yn destun deddf seneddol o ran cau tir ar ddechrau r 19eg ganrif. Elfen neilltuol o r dirwedd yw ardaloedd o goetiroedd llydan-ddeiliog lled-naturiol a hynafol wedi u hailblannu ar y llethrau mwyaf serth heb eu hamaethu a dyffrynnoedd ag ochrau serth y nentydd, yn ogystal â nifer o barseli o goetir conifferaidd yn arbennig ar y llethrau y naill ochr i Gefn Carnedd. Mae n debygol i lawer ohono gael ei blannu n wreiddiol tua chanol y 19eg ganrif mewn ardaloedd o dir comin gynt. <P> Nid oes llawer o arwyddocâd i enwau lleoedd ar wahân i enwau coedwigoedd diweddar sy n ymwneud yn bennaf â phlanhigfeydd o r 19eg ganrif ar Ystad Dinam, er bod yr elfennau enwau lleoedd gwaun yn Waun Dingle, gwern yn Gwern-eirin, meirog yn Coed Meirog a rhedyn yn yr enw Caer rhedyn hefyd yn awgrymu cyfyngiadau hanesyddol ar ddefnydd tir. <P> Mae r fryngaer o Oes yr Haearn ar y gefnen pen bryn yng Nghefn Carnedd yn awgrymu anheddu a defnydd tir cynhanesyddol diweddarach yn yr ardal. <P> Mae bythynnod a ffermydd gwasgaredig yn cynrychioli r anheddu presennol yn yr ardal, ynghyd â Broneirion a i gasgliad o adeiladau cysylltiedig. Mae ffermydd gwasgaredig iawn yn cynrychioli anheddu cynharach o r cyfnod canoloesol a diwedd y cyfnod hwn, megis Middle Gwern-eirin a r bwthyn ffrâm bren cyfagos ar ochr y ffordd yn Little House. Mae hwn yn dyddio o 1692, ac mae n bosibl mai r porthdy ydoedd. Roedd bwthyn ffrâm bren arall gynt yn Lower Gwern-eirin. Mae golwg fferm gynharach i ffermdy Middle Gwern-eirin. Ailadeiladwyd hi mewn arddull Gothig fel fferm stad Stad Dinam ar ddiwedd y 19eg ganrif. Yr anheddiad amlycaf yn yr ardal yw Broneirion, sy n fila yn y dull Eidalaidd (bellach mae n ganolfan gynadledda a hyfforddi breswyl ar gyfer mudiad y Guides). Fe i hadeiladwyd ar safle newydd mewn lleoliad prydferth ar waelod llethrau coediog bryniau serth ar gyfer y diwydiannwr enwog David Davies ym 1864-65. Mae n rhan o gasgliad o adeiladau a u gerddi cysylltiedig, yn cynnwys porthdy Gothig, tai mawr eraill yn Fron Haul a Bryn-Hafren a theras o dai gweithwyr y stad. Ychwanegwyd mwy o dai at y casgliad o adeiladau n ddiweddar. <H3><A HREF="swsbib.htm">Ffynonellau</A></H3> Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Guilbert a Morris 1979; Hogg 1979; Jones 1983; Morgan 2001; Sothern a Drewett 1991; Smith 1975; Smith ac Owen 1955-56; Spurgeon 1972; Thomas 1938 <CENTER> <P> I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag <STRONG>Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys</STRONG> yn y <A HREF="../../../../cpat/contact/contact.htm">cyfeiriad</A> hwn neu ewch i wefan <STRONG>Cyngor Cefn Gwlad Cymru</STRONG> yn <STRONG>www.ccw.gov.uk</STRONG>. </CENTER> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>