ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Caersws Basin - </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="1185.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_swsint.htm#1185 Rhos Ddiarbed">Tirwedd Hanesyddol <BR>Basn Caersws</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="1185map.htm">Map o'r ardal cymeriad hon</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_1185ph.htm">Mwy Ffotograffau</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Basn Caersws: <EM>Rhos Ddiarbed </EM><BR>Cymunedau Llandinam a Mochdre, Powys <BR>(HLCA 1185) </H2> <HR> <P><IMG SRC="06c106.jpg" HEIGHT="235" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 06-C-106"> <EM> <P> Tirweddau caeau afreolaidd a ffermydd gwasgaredig o darddiad canoloesol neu gynharach o bosibl, ar y tir sy'n codi tua de a dwyrain Basn Caersws. Cestyll mwnt a beili canoloesol sy n gysylltiedig â r goncwest Eingl-Normanaidd. Anheddiad bach eglwysig cnewylledig o darddiad canoloesol cynnar a chanoloesol yn Llandinam. Dylanwadwyd ar ei ddatblygiad gan y gwelliannau i r ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau r 19eg ganrif, a chan ddyfodiad y rheilffyrdd a nawdd y teulu Davies ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau r 20fed ganrif. </EM> <H3>Cefndir Hanesyddol</H3> Roedd yr ardal yn rhan o drefgorddau maenorol Maes-mawr a Llandinam ym mhlwyf degwm Llandinam yn Sir Drefaldwyn, a threfgordd Penstrowed ym mhlwyf degwm Penstrowed. <H3>Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol</H3> Gwaelod llethr sy n codi n raddol yn gyffredinol ar hyd ochr ddeheuol dyffryn Hafren rhwng Penstrowed a Llandinam, ar uchder o rhwng 130 metr a 280 metr. Priddoedd mân lomog sy n ddirlawn yn dymhorol dros ddyddodion drifft rhewlif cleiog sydd yno gan fwyaf. Yn hanesyddol, bu r tir yn gweddu orau yn economaidd i fagu da byw a pheth ffermio llaeth ar laswelltir parhaol a thyfu peth grawn yn y gaeaf. Caeau afreolaidd mawr a bach yw r tirweddau caeau yn bennaf. Mae n debygol eu bod yn cynrychioli clirio a chau tir bob yn dipyn o gyfnodau canoloesol neu gynharach ymlaen. Fodd bynnag, mae yna batrymu caeau mwy rheolaidd yn yr ardaloedd i r de o Gaetwp a chaeau ag iddynt ochrau syth rhwng Fferm Maes-mawr a The Moat. Mae n debygol bod y rhain yn cynrychioli cau tir neu ad-drefnu tirwedd sy n gysylltiedig â daliadau stadau yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Caewyd ardal fach o gomin sy n cwmpasu dyffrynnoedd y nentydd ychydig i r gorllewin o Blas Dinam o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau r 19eg ganrif. Ceir lleiniau troellog o goetir hynafol lled-naturiol ar hyd ochrau serth nifer o ddyffrynnoedd nentydd, ynghyd â nifer o ardaloedd cymharol fach o blanhigfeydd conwydd yn dyddio o r 19eg ganrif a r 20fed ganrif ar rai llethrau mwy serth. Mae newidiadau modern o ran defnydd tir yn cynnwys y maes ymarfer golff a sefydlwyd ger The Moat. <P> Mae mwyafrif yr enwau lleoedd yn yr ardal yn ymwneud â nodweddion anheddu cymharol ddiweddar. Fodd bynnag, mae r elfen coetirol celli yn Gelli-dywyll yn arwydd o lystyfiant a defnydd tir hanesyddol, a r elfen rhos yn Rhos Ddiarbed yn awgrym o borfa arw. <P> Mae olion cnydau o lociau bach ar ffurf petryal â ffosydd o'u hamgylch yn awgrymu anheddu a defnydd tir cynnar o gyfnod y Rhufeiniaid o bosibl. Darganfuwyd y rhain trwy gyfrwng awyrluniau ger Gellidywyll ac ar lethr graddol i r de o Neuadd Llandinam. Ymddengys eu bod yn cynrychioli clwstwr o ffermydd o r fath yn ardal Caersws. Tybir bod llwybr y ffordd Rufeinig tua r de o Gaersws i Gastell Collen yn gorwedd yn rhannol o dan gefnffordd yr A470 bresennol sy n rhedeg trwy r ardal. <P> Mae'n bosibl bod yr eglwys a gysegrwyd i Sant Llonio yn Llandinam yn dyddio o ddechrau r cyfnod canoloesol. Erbyn y cyfnod canoloesol, roedd yn eglwys glas, yn un o r ddwy fam-eglwys yng nghantref Arwystli, ac mae n bosibl ei bod wedi ffurfio canolbwynt anheddiad cnewylledig bach o gyfnod cynnar. Mae r enw Llandinam yn ymddangos gyntaf ar ddechrau r 13eg ganrif, ac mae n cyfuno r elfennau <EM>llan</EM> a <EM>dinam</EM> (caer fach), ond nid oes cysylltiad agos rhwng <EM>dinam</EM> ac unrhyw safle penodol. Ymddengys fod y ddau gastell pridd ym mwnt a beili Bronfelin a Moat Farm ar y tir sy n codi i r de o Afon Hafren yn gysylltiedig â chyfnod y goncwest Eingl-Normanaidd tua diwedd yr 11eg ganrif. Er ei bod yn bosibl mai arwyddocâd milwrol byrhoedlog a gawsant, ymddengys eu bod wedi parhau, efallai fel canolfannau maenorol, hyd ddiwedd y cyfnod canoloesol. <P> Mae ardal nodwedd y dirwedd hanesyddol yn cynnwys nifer o dirweddau anheddu neilltuol a chymharol amrywiol. Mae hyn yn cynnwys yr anheddiad cnewylledig bach yn Llandinam, sy n dyddio o r cyfnod canoloesol neu ddechrau r cyfnod hwnnw, patrwm gwasgaredig o ffermydd yn dyddio o r cyfnod canoloesol a diweddarach, clwstwr o fythynnod llechfeddiannu o ddiwedd y 18fed ganrif a r 19eg ganrif mae n debyg yn Little London, a r plasty a r adeiladau cysylltiedig o r 19eg ganrif ym Mhlas Dinam. <P> Ar wahân i r eglwys ganoloesol, mae r adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi yn Llandinam yn dyddio o r 17eg ganrif, ac yn cynnwys sawl adeilad bach brodorol heb dir, wedi u clystyru mewn patrwm anffurfiol sy n atgofus o sgwatio. Defnyddiwyd fframiau pren yn yr adeiladau cynharaf, ond ymddengys fod hyn wedi parhau ar gyfer y rhai â statws is: mae yna sawl bwthyn, fel ym mhentref Llandinam er enghraifft, ac ar ochr y ffordd i r de o r pentref, sydd â r pren hirfain sy n nodweddiadol o fframio o ddiwedd y 18fed ganrif neu hyd yn oed ddechrau r 19eg ganrif. Mae yna hefyd sawl tw da o gerrig sy n fwy sylweddol yn y pentref, yn dyddio o r 18fed ganrif. Dylanwadwyd ar ddatblygiad diweddarach Llandinam gan y gwelliannau i r ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau r 19eg ganrif, gan ddyfodiad y rheilffordd ar ddiwedd y 19eg ganrif, a chan nawdd y teulu Davies ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau r 20fed ganrif. Mae r Lion Inn, ar ochr y ffordd, yn bodoli o ganlyniad i r gwelliannau i r ffordd dyrpeg. Felly hefyd Pont Llandinam dros Afon Hafren sy n dyddio o 1846 ac a adeiladwyd o haearn bwrw. David Davies, y diwydiannwr enwog o Gymru a oedd yn frodor o Landinam oedd un o r contractwyr ar gyfer y bont. Newidiodd peth o gymeriad canolbwynt diweddarach y pentref gyda r cynlluniau i ledu a sythu r ffordd a gyflawnwyd ar gefnffordd yr A470 heddiw yn ail hanner yr 20fed ganrif. Cwblhawyd rheilffordd Llanidloes i r Drenewydd, a orweddai n agos at yr afon yn Llandinam, ym 1859. Davies oedd y contractwr ar gyfer hwn hefyd. Caewyd y rheilffordd am y tro olaf yn y 1960au, ond mae safle r hen orsaf a'r cilffyrdd i w gweld o hyd yn y dirwedd. Codwyd y cerflun cain efydd o David Davies ar ben dwyreiniol y bont  trwy danysgrifiad cyhoeddus ym 1893, dair blynedd wedi ei farwolaeth. Gwelir ef yn gwisgo dillad bob dydd ac yn archwilio cynllun o Ddociau r Barri. Davies hefyd oedd contractwr a phrif gymwynaswr eglwys amlwg ar ochr y ffordd, Eglwys Bresbyteraidd Cymru (yr enwad a elwid y Methodistiaid Calfinaidd gynt). Adeiladwyd hon mewn arddull Gothig Ffrengig ym 1873, a byddai Davies a i deulu yn addoli yno n rheolaidd. Roedd yna gapel Methodistiaid Wesleaidd yn y pentref hefyd. Mae sawl adeilad diweddarach yr oedd disgynyddion Davies yn gymwynaswyr iddynt yn dylanwadu ar gymeriad y pentref hefyd, yn enwedig Institiwt Llandinam â llyfrgell ac ystafelloedd cyfarfod, a adeiladwyd rhwng 1905 a 1910, a Threlonydd, sef stad fechan o fythynnod a gynlluniwyd o amgylch grîn anffurfiol, a adeiladwyd tua 1918 yn dai i weithwyr stad oedd wedi ymddeol. Mae r bythynnod wedi u hadeiladu mewn arddull Celf a Chrefft plaen, â ffenestri bychain a waliau allanol plastr garw gwyn. <P> Ffermydd gwasgaredig iawn sy n nodweddu tirwedd wledig yr ardal nodwedd. Mae n debygol bod rhai ohonynt wedi tarddu fel ffermydd rhydd-ddaliad yn y cyfnod canoloesol a dechrau r cyfnod ôl-ganoloesol (fel yn achos The Moat a Neuadd Bronfelin, mae n debyg), a rhai o ganlyniad i welliannau gan Stadau Dinam a Neuadd Llandinam yn y 19eg ganrif. Mae Porth-gwibedyn yn enghraifft o draddodiadau adeiladu canoloesol hwyr yn yr ardal, yn tarddu o dw neuadd ffrâm nenfforch. Mae n debygol i r fferm fechan yng Nghaetwp gael ei hadeiladu neu ei hailadeiladu fel rhan o Stad Dinam; adeiladwyd hi mewn arddull Gothig o ddiwedd y 19eg ganrif. <P> Mae n debygol fod y clwstwr o fythynnod a thai bychan ar yr ardal uwchdirol yn Little London i r gogledd-ddwyrain o Landinam, a gofnodwyd yn gyntaf ym 1740 dan ei enw Cymraeg,  Lundain vach , wedi tarddu o lechfeddiannau ar y tiroedd comin heb eu cau a oedd yn fwy helaeth yn yr ardal ar un adeg. Ystyriwyd bod y trac sy n rhedeg ar hyd cyfuchlin y bryn yn y man hwn yn cynrychioli ffordd porthmyn gynharach. <P> Mae r plasty Fictoraidd gwych ym Mhlas Dinam mewn arddull Celf a Chrefft syml. Fe i hadeiladwyd, ynghyd â chyfres o swyddfeydd cysylltiedig i r dwyrain o r tw a r gerddi, ar safle newydd yn y 1870au ar gyfer Capten J. O. Crewe-Read o Neuadd Llandinam. Yn ddiweddarach, prynodd David Davies ef, a bu ei fab yn byw yno. <P> Dengys yr enw lle Waulk Mill ar Nant Ffinnant, ychydig i r gogledd o Landinam, fod puer dur wedi i ddefnyddio yn yr ardal nodwedd yn y gorffennol, ac mae n awgrymu melin wlân gynharach. <H3><A HREF="swsbib.htm">Ffynonellau</A></H3> Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Anon 1886; Cadw 1999; Davies 1977; Evans 2004; Fisher 1917; Garbett-Edwards 1987; Lea 1975; Haslam 1979; Hogg a King 1963; Jones 1869; Jones 1983; Lewis 1833; Cymdeithas Achyddol Sir Drefaldwyn 1997; Morgan 2001; Pryce 2002; CBHC 1911; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewett 1991; Spurgeon 1965-66; Stephenson 2005; Zaluckyj 2006 <CENTER> <P> I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag <STRONG>Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys</STRONG> yn y <A HREF="../../../../cpat/contact/contact.htm">cyfeiriad</A> hwn neu ewch i wefan <STRONG>Cyngor Cefn Gwlad Cymru</STRONG> yn <STRONG>www.ccw.gov.uk</STRONG>. </CENTER> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>