ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Caersws Basin - </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="1186.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_swsint.htm#1186 Moel Iart  Bryn Penstrowed">Tirwedd Hanesyddol <BR>Basn Caersws</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="1186map.htm">Map o'r ardal cymeriad hon</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_1186ph.htm">Mwy Ffotograffau</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Basn Caersws: <EM>Moel Iart  Bryn Penstrowed </EM><BR>Cymunedau Llandinam a Mochdre, Powys <BR>(HLCA 1186) </H2> <HR> <P><IMG SRC="06c122.jpg" HEIGHT="235" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 06-C-122"> <EM> <P> Rhostir caeedig ar y bryniau o amgylch ymylon deheuol a dwyreiniol Basn Caersws. Cafodd rhannau sylweddol ohono eu cau o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau'r 19eg ganrif. </EM> <H3>Cefndir Hanesyddol</H3> Roedd yr ardal yn ffurfio rhan o drefgorddau maenorol Maes-mawr a Llandinam ym mhlwyf degwm Llandinam, Sir Drefaldwyn a threfgordd Penstrowed ym mhlwyf degwm Penstrowed. <H3>Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol</H3> Tir tonnog ar gopaon y bryniau yn rhedeg hyd ochr ddeheuol dyffryn Hafren, ar uchder rhwng 190 metr a 430 metr. Ar y cyfan, mae r priddoedd yn fân, yn lomog ac yn siltiog ac yn draenio n dda, yn denau mewn mannau ac yn gorwedd ar ben creigwely siâl. Yn hanesyddol, magu da byw ar borfeydd yr ucheldir oedd yn gwneud orau yma, gyda phorfeydd garw a choetir ar y llethrau mwyaf serth. Mae ardal fechan, weddilliol o Dir Comin cofrestredig wedi goroesi ym mhen deheuol yr ardal, ar ochr ddeheuol Moel Iart. Mae n ymddangos bod rhannau bach o r ardal, yn arbennig ardal o gaeau bychain afreolaidd ger The Forest ac sy n arwain i fyny i Foeliart, wedi u cau erbyn diwedd y 18fed ganrif o bosibl, efallai drwy broses o lechfeddiannu r tir comin gynt. Mae n nodweddiadol mai llociau mawr a bach ag ochrau syth a llociau mawr afreolaidd â ffensys pyst-a-gwifrau sy n cynrychioli gweddill yr ardal. Cafodd y rhain eu cau dan ddeddf seneddol ar ddechrau'r 19eg ganrif. Ceir coetir llydan-ddeiliog lled-naturiol a pheth coetir hynafol a ailblannwyd ar lethrau mwy serth Allt y Gaer i r de a'r dwyrain o Neuadd Bronfelin a The Moat. <P> Ychydig dystiolaeth yn unig mae enwau lleoedd yn ei chynnig o ran awgrymu defnydd tir hanesyddol, er bod yr enw Moeliart, sy n deillio o'r elfennau <EM>moel</EM> a <EM>garth</EM> yn arwyddocaol. Ni cheir esboniad am arwyddocâd yr enw Cefn Lladron, ar ochr ogleddol Bryn Penstrowed tuag at ben gogleddol yr ardal, ond mae n bur debyg ei fod yn cyfeirio at gysylltiad hanesyddol neu draddodiadol lladron â r ardal hon sy n tremio dros y bwlch cul ar hyd dyffryn Hafren. <P> Mae tomenni hel cerrig gwasgaredig yn cynrychioli gwella glaswelltir, ond mae'r dyddiad yn anhysbys. <P> Ychydig o anheddu sydd yn yr ardal heddiw. <H3><A HREF="swsbib.htm">Ffynonellau</A></H3> Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Ellis 1935; Jones 1983; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewett 1991 <CENTER> <P> I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag <STRONG>Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys</STRONG> yn y <A HREF="../../../../cpat/contact/contact.htm">cyfeiriad</A> hwn neu ewch i wefan <STRONG>Cyngor Cefn Gwlad Cymru</STRONG> yn <STRONG>www.ccw.gov.uk</STRONG>. </CENTER> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>