ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Caersws Basin - Administrative Landscape </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="swsadm.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../../../../w_index.htm">Adref Eto</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_swsint.htm#Themes">Tirwedd Hanesyddol <br>Basn Caersws</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <A NAME="TOP"></A> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Llunio Tirwedd Basn Caersws</H2> <HR> <p><H3>Y DIRWEDD WEINYDDOL</H3> <!----text in here---> Y grup gwleidyddol cynharaf y gwyddys amdano yn yr ardal yw r llwyth brodorol o r enw yr Ordofigiaid a oedd yn byw yng nghanol Cymru ar adeg y goncwest Rufeinig yn y ganrif 1af OC. <P> Nid oes unrhyw dystiolaeth o sefydlu gweinyddiaeth sifil yn ystod cyfnod rheolaeth y Rhufeiniaid rhwng canol i ddiwedd y ganrif 1af OC a dechrau r 5ed ganrif, ac mae n bosibl mai byddin y Rhufeiniaid oedd yn gweinyddu r ardal gydol y cyfnod hwn. <P> Ymddengys ei bod yn bosibl bod yr ardal yn rhan o deyrnas fechan neu gantref Arwystli erbyn dechrau r cyfnod canoloesol. Fe i cofnodwyd gyntaf yn Llyfr Domesday 1086 (fel  cantref Arvester ) ac mae ei enw n awgrymu ei fod yn deillio o enw personol. <P> Yn ystod y cyfnod canoloesol cynharach, gorweddai teyrnas fechan Arwystli rhwng dwy deyrnas fwy pwerus, sef Gwynedd i r gorllewin a Phowys i r dwyrain. Bu n destun anghydfodau treisgar rhwng y ddwy deyrnas. Digon aneglur yw ei hanes cynnar ond erbyn diwedd yr 11eg ganrif, Roger de Montgomery, sef iarll Normanaidd oedd y deiliad. Roedd wedi cyfeddiannu r diriogaeth o i ganolfan grym ymhellach i r dwyrain ond fe i dychwelwyd i ddwylo teyrnlin frodorol yn ystod hanner cyntaf y 12fed ganrif. Bu brenhinoedd Gwynedd a Phowys yn ymladd yn ffyrnig dros Arwystli am gyfnod o tua chanrif a hanner, a chofnodwyd llawer o ladd a dinistrio adeiladau yn y cyfnod hwn. Er mai rhostir yn unig oedd llawer o r cantref, roedd yn cynnwys peth tir ffrwythlon prin mewn dyffrynnoedd, yn enwedig yn nyffryn Hafren a i llednentydd. Roedd iddo hefyd rywfaint o arwyddocâd strategol o ran darparu coridor cysylltiadau rhwng canol Cymru a r Gororau. Roedd llanw a thrai o ran teyrngarwch yn y cyfnod hwn rhwng y deyrnlin leol a brenhinlin Gwynedd, rhwng y deyrnlin leol a brenhinlin Powys, rhwng brenhinlin Powys a Choron Lloegr, a hyd yn oed rhwng teyrnasoedd cystadleuol Gwynedd a Phowys. Parhaodd hyn tan gyfnod o sefydlogrwydd cymharol yn dilyn concwest Edward I o Gymru yn y 1280au, pan ddychwelwyd yr ardal i Gruffudd ap Gwenwynwyn a oedd yn rheoli Powys ar y pryd. <P> Roedd ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan o Arwystli Iscoed, sef cwmwd mwyaf dwyreiniol neu israniad weinyddol y cantref. Stiwardiaid oedd yn ei weinyddu o ddechrau r 13eg ganrif yn ôl pob tebyg. Daeth Pen-prys, ym mhlwyf Llanwnog, sydd bellach yn fferm o r enw Park tua 2 gilomedr i r gorllewin o Gaersws, yn ganolfan faenorol Arwystli Iscoed erbyn diwedd y 1290au. Mae r ddau safle â ffos yn ardal y dirwedd hanesyddol, sef The Moat a Rhos Ddiarbed, wedi u lleoli ar y tir sy n codi i r de o r dyffryn. Maent yn bell o r canolfannau poblogaeth cynnar, ac mae n debygol eu bod yn cynrychioli canolfannau gweinyddol cymharol fyrhoedlog a oedd yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd Roger de Montgomery ar ddiwedd y 12fed ganrif. <P> Ym mlynyddoedd diweddarach y canol oesoedd cynhaliwyd y llysoedd cwmwd, sef y pentreflysoedd ar gyfer Arwystli Iscoed, yn Llandinam a Chaersws bob yn ail, sef y ddwy brif ganolfan boblogaeth yn yr ardal. Roedd llawer o diroedd yn Llanwnog ym meddiant esgob Bangor ar ddechrau r 14eg ganrif, ac roedd ei denantiaid yn dod dan awdurdodaeth y llys esgobol yn ôl pob tebyg. <P> Yn ystod gwrthryfel Glyndur, cafodd Arwystli ei ailfeddiannu gan y teulu Cherlton, arglwyddi Powys, ym 1401, ynghyd ag arglwyddiaeth Cyfeiliog ac arglwyddiaeth Caereinion, oddi wrth Syr Edmund Mortimer a oedd yn arglwydd amlwg y Mers, ac a oedd wedi u meddiannu cyn hynny. Yn ddiweddarach, daeth yr arglwyddiaeth i ddwylo r teulu Dudley, trwy r teulu Tiptoft, ac fe werthwyd yr arglwyddiaethau i r Goron yn ystod teyrnasiad Harri r VIII. <P> Gyda Deddf Uno 1536, rhannwyd arglwyddiaeth Arwystli yn drefgorddau maenorol a oedd yn tarddu, yn ôl pob tebyg, o ddechrau r cyfnod canoloesol a r cyfnod canoloesol ac a fu n arwyddocaol tan ganol y 19eg ganrif. O fewn ardal y dirwedd hanesyddol cafwyd trefgorddau Escob a Castle, Wig, Caersws a Surnant ym mhlwyf Llanwnog, Trewythen, Carnedd, Gwernerin, Maes-mawr a Llandinam ym mhlwyf Llandinam, Bodaioch ym mhlwyf Trefeglwys, a Phenstrowed ym mhlwyf Penstrowed. <P> Yn dilyn y Ddeddf Uno, gweinyddwyd yr ardal fel rhan o Gantref Arwystli, a ailenwyd yn ddiweddarach yn Gantref Llanidloes yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Fe i rhannwyd yn ddwy ranbarth, sef uchaf ac isaf, a oedd yn cyfateb yn fras i gymydau canoloesol Arwystli Uwchcoed ac Arwystli Iscoed. Roedd Basn Caersws yn y rhanbarth isaf, a oedd yn cynnwys plwyfi Llandinam, Llanwnog a Phenstrowed a rhan o blwyf Carno. <P> Mae ardal y diwedd hanesyddol heddiw yn bennaf yng nghymunedau Caersws a Llandinam, ond mae n cynnwys rhannau bychain o gymunedau Mochdre ac Aberhafesb. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, mae r cymunedau hyn yn rhan o sir newydd Powys, a ddaeth yn awdurdod unedol ym 1996. <H3>Ffiniau eglwysig</H3> Mae r plwyfi eglwysig yn y rhan fwyaf o r ardal yn rhan o ddeoniaeth Arwystli yn esgobaeth Bangor, heblaw am ardal fechan o blwyf Aberhafesb sydd yn rhan o esgobaeth Llanelwy. <P> Gwyddys am ddwy eglwys sy n dyddio o r cyfnod canoloesol, yn Llandinam a Llanwnog. Llandinam yw r unig un o r ddwy a restrir fel eglwys (<EM>ecclesia</EM>) yn nhrethiad y Pab Nicholas tua 1291 OC. Roedd hefyd yn eglwys gyd-gyfranedig, ac roedd sawl gweinidog yn rhannu ei bywoliaeth. Awgryma hyn mai clas o r cyfnod canoloesol cynnar ydoedd yn wreiddiol yn ôl pob tebyg, a i bod yn ganolfan eglwysig o bwys yn y rhanbarth. Ynghyd ag eglwys Llangurig, roedd yn un o r ddwy fam-eglwys yn Arwystli, gydag eglwys yn y naill gwmwd a r llall. <P> Amlygir statws eglwys Llandinam ar ddiwedd y 13eg ganrif gan y cymeriad Cynyr ap Cadwgan, abad y clas yn Llandinam. Roedd yn awdurdod ar gasglu testunau cyfreithiol Cymraeg ac fe sefydlodd linach o wwr dysgedig yn y gyfraith. <P> (<A HREF = "#TOP">yn ôl i r brig</A>) <!---text ends here---> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>