CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Basn Caersws


TIRWEDDAU CYSYLLTIADOL

Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn gysylltiedig â nifer o unigolion a fu’n amlwg ym mywyd diwydiannol a diwylliannol Cymru ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.

Ganed David Davies (1818-90) yn Llandinam, a dechreuodd weithio fel mân labrwr a llifiwr. Dywedir mai ef oedd y miliwnydd o Gymro cyntaf i wneud ei ffortiwn ei hun. O’r elw a wnaed o gontractau cynnar i adeiladu pontydd ffyrdd yn Sir Drefaldwyn, megis y bont haearn bwrw ar draws Afon Hafren yn Llandinam ym 1846, daeth yn gontractwr ar gyfer y rhaglen fawr o adeiladu rheilffyrdd a oedd yn mynd rhagddi yng nghanolbarth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys rheilffordd y Drenewydd a Llanidloes a gwblhawyd ym 1859, y rheilffordd o Groesoswallt i’r Drenewydd a gwblhawyd ym 1861 a’r rheilffordd o’r Drenewydd i Fachynlleth a gwblhawyd ym 1862. Wedi hynny, fe fuddsoddodd yn y glofeydd a oedd yn datblygu’n sydyn ar dir a oedd yn cael ei brydlesu oddi wrth y teulu Crawshay yn y Rhondda. Ffurfiwyd yr Ocean Coal Company o lwyddiannau Glofa Cwmparc yn Nhreorci, a dyna sut y cafodd y llysenw ‘Davies the Ocean’. Sefydlodd Ddociau’r Barri ar gyfer allforio glo, gan gystadlu â theulu pwerus Bute a reolai Dociau Caerdydd.

Parhaodd i fyw yn Llandinam trwy gydol ei fywyd, a pharhaodd i addoli yn y capel Methodistaidd Calfinaidd yno. Comisiynodd y plasty Eidalaidd ym Mroneirion, ar draws yr afon o Landinam, i ddod yn gartref iddo ym 1864-65. Roedd y tiroedd ar gael i’r gymuned leol chwarae gemau yno a chynnal gweithgareddau eraill. Yn ddiweddarach, prynodd Plas Dinam, ychydig i’r gogledd o'r pentref, yn ogystal â’r ystâd a oedd yn gysylltiedig ag ef, i’w fab Edward a’i deulu. Daeth yn gymwynaswr lleol o bwys o ran prosiectau adeiladu, megis yr elusendai yn Llandinam, a chwaraeodd ran fawr hefyd yn sefydlu Coleg y Brifysgol yn Aberystwyth. Roedd yn flaenor y Methodistaidd Calfinaidd, ac yn gefnogwr hael y Symudiad Ymosodol, a oedd yn ymdrechu i ddod â’r efengyl i drefi diwydiannol a chymunedau dyffrynnoedd De Cymru. Saif Cerflun David Davies, sef copi efydd o’r cerflun yn Nociau’r Barri, ger y cynaliadau a adeiladodd ar ochr ddeheuol y bont ffordd ar draws Afon Hafren yn Llandinam.

Gadawodd David Davies ffortiwn sylweddol i’w ddwy wyres, Gwendoline (1882-1951) a Margaret Davies (1884-1963). Er hynny, magwyd y ddwy chwaer mewn traddodiad Anghydffurfiol Cymreig caeth, ac fe wnaethant barhau yn Sabatholwyr ac yn llwyrymwrthodwyr caeth hyd eu marwolaeth. Daethant yn gymwynaswyr o bwys o ran elusennau a sefydliadau diwylliannol yng Nghymru. Dechreusant gasglu gweithiau celfyddyd ym 1906, ac erbyn 1924 roeddent wedi datblygu’r casgliad mwyaf o weithiau Argraffiadwyr a gweithiau Ôl-Argraffiadwyr Ffrainc ym Mhrydain. Gyda’i gilydd, gwnaethant drosglwyddo casgliad oedd yn weledol drawiadol o fwy na 260 o weithiau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, a thrawsnewidiodd hyn gymeriad casgliad celf cenedlaethol Cymru yn llwyr. Daeth y ddwy chwaer i gael eu cysylltu'n agos â'r plasty mawr yng Ngregynog, a brynasant ym 1920, ond roeddent wedi dechrau datblygu eu casgliad o baentiadau pan roeddent yn byw ym Mroneirion, Llandinam, yr oeddent wedi ei etifeddu oddi wrth eu taid. Ymhlith y pethau a brynwyd oedd nifer o ddarluniau trist ond ffasiynol o dlodi gwledig y 19eg ganrif gan Millet, Daumier ac eraill. Dywedwyd bod hyn yn awgrymu dyfnder eu pryder ynglŷn â chymdeithas, a’i fod wedi rhagawgrymu eu penderfyniad, yn ddiweddarach yn eu bywydau, i roi’r gorau i gasglu gweithiau a gwneud gwaith elusennol yn lle.

Cymeriad arall o bwys ym mywyd diwylliannol Cymru sy’n gysylltiedig â’r dirwedd hanesyddol yw John Ceiriog Hughes (1832-87), sef bardd telynegol enwog o Gymro a chasglwr alawon Cymreig. Ymhlith ei weithiau mae ‘Dafydd y Garreg Wen’ a ‘Clychau Aberdyfi’. Gorwedda fedd Hughes, a oedd yn eglwyswr, ym mynwent eglwys Llanwnog. Dychwelodd i Gymru i weithio fel gorsaf-feistr yn Llanidloes ym 1868. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, penodwyd ef yn oruchwyliwr cyntaf Rheilffordd y Fan, a oedd wedi’i hagor yn ddiweddar. Gweithiai o’i swyddfa yng Nghaersws, a bu hyn yn ddechrau cyfnod pwysig a chynhyrchiol o ran ei weithgaredd llenyddol, a oedd yn cynnwys llawer o gerddi Cymraeg poblogaidd a oedd yn aml yn sentimental.

(yn ôl i’r brig)