ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Caersws Basin - Industry </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="swsind.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../../../../w_index.htm">Adref Eto</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_swsint.htm#Themes">Tirwedd Hanesyddol <br>Basn Caersws</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <A NAME="TOP"></A> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Llunio Tirwedd Basn Caersws</H2> <HR> <H3>DIWYDIANT</H3> <!----text in here---> <P> Cynrychiolir y diwydiannau echdynnu gan chwareli bychain ar gyfer cerrig adeiladu yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn ôl pob tebyg. Fe i cofnodwyd yn rhannau mwy bryniog ardal y dirwedd hanesyddol, i r de, i r gogledd-orllewin ac i'r gogledd-ddwyrain. Roedd y chwarel fwyaf, sef chwarel gerrig fasnachol ym Mhenstrowed ychydig y tu allan i ffin de-ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol, ar waith erbyn dechrau'r 19eg ganrif o leiaf. <P> Mae'n hysbys bod dyddodion rhewlifol o glai yn ardal Caersws wedi'u cloddio ar gyfer cyflenwi odynau a oedd yn cynhyrchu teils yn y cyfnod Rhufeinig ac ar gyfer cynhyrchu brics i adeiladu'r wyrcws yng Nghaersws yn y 1830au. <P> Ceir cofnodion o siafftiau neu lefelau mwynglawdd arbrofol ger Little London (ar y bryniau i r gogledd-ddwyrain o Landinam), yng Nghoedwig Mwynglawdd Carnedd (i r gogledd-orllewin o Landinam), ac ym Mwthyn Llwyn-y-brain (i r gogledd-ddwyrain o Gaersws). Ychydig o hanes y mentrau hyn sydd wedi'i olrhain, er ei bod yn ymddangos yn debygol eu bod wedi u cloddio ar ddiwedd y 19eg ganrif mewn ymgais i olrhain estyniad i gyfeiriad y dwyrain o r wythïen llawn plwm a oedd yn cael ei hecsploetio ar y pryd yn y Fan, i'r gogledd o Lanidloes. <P> Roedd puer dur yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o leoliadau yn y dirwedd hanesyddol, o leiaf ers y cyfnod canoloesol i'r cyfnod modern yn ôl pob tebyg, ac roedd yn cefnogi nifer o ddiwydiannau prosesu. Ceir tystiolaeth ddogfennol o bandy a melin wd ym mhentrefan Pontdolgoch i r gogledd o Gaersws erbyn y 1670au, ond erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd yno hefyd felin lifio, a phob un yn manteisio ar afon Carno a oedd yn llifo'n gyflym. Mae melin wd Pontdolgoch, neu Melin Pont y Ddol Goch gynt, bellach yn segur, ond mae adeilad melin o garreg â thri llawr gydag odyn sychu a thw melin cyfagos a adeiladwyd o frics yn dystiolaeth ohoni. Cafodd y felin ei hailwampio yn y 1880au ac, ar un adeg, roedd ganddi ddwy olwyn dros y rhod. Adeilad ffrâm bren oedd y pandy gynt , ac mae bellach wedi i drosi n dw. Walk Mill yw r enw arno nawr (enw Saesneg ar bandy), ond Pandy y Ddol Goch oedd yr enw arno ar un adeg. Sefydlwyd melin lifio Pontdolgoch, a bwerwyd gan ddur ac sy n dal ar agor, ym 1913 gan ddisodli melin ddur gynharach. Mae pwll llifio yn Fferm Henblas, i'r dwyrain o Bontdolgoch, yn cynrychioli gwaith prosesu coed cynharach, a gofnodwyd yn y 1880au. Ymhlith y nodweddion eraill sy n dal i fodoli ac sy n gysylltiedig â defnyddio puer dur mae ffrwd felin a oedd yn mynd â dur o Afon Carno, ymhellach i fyny'r afon o Bontdolgoch, a llyn melin sydd rhwng yr afon a r ffordd ym Mhontdolgoch. <P> Ychydig ymhellach i lawr yr afon roedd Afon Carno hefyd yn cael ei harneisio i weithredu melin wlân ym Maesteg ger Pont Wig. Gelwid y felin gynt yn Gwig Manufactory a Weeg Woollen Factory, ac mae hi bellach wedi'i dymchwel er bod olion y ffrwd felin i'w gweld. Mae enwau lleoedd yn awgrymu bod nifer o bandai eraill wedi bod yn ardal y dirwedd hanesyddol gynt, enwau sy n cynnwys Pandy Rhos a Pandy Bach yng nghymuned Llanwnog, a Waulk Mill ar nant Ffinnant, ychydig i r gogledd o Landinam (mae 'waulk yn ffurf arall ar y gair Saesneg  walk ). Ar ddechrau r 19eg ganrif,  Upper Mill oedd yr enw arni. <P> Roedd ardal Llandinam yn weithredol o ran cynhyrchu golosg ar ddiwedd yr 17eg a dechrau r 18fed ganrif. Dywedid ei bod wedi cyflenwi gefeiliau gwaith dur y teulu Lloyd o Ddolobran, ger Meifod yn nyffryn Efyrnwy tua 20 milltir i r gogledd, ond hyd yn hyn nid oes cofnod o unrhyw dystiolaeth o r diwydiant hwn wedi goroesi. <P> Mae n hysbys bod dwy hen efail gof o'r 19eg ganrif, a chynharach o bosibl, ym Mhontdolgoch: dangosir un ohonynt ar fapiau r Arolwg Ordnans o'r 1880au ac mae'r llall yn cael ei nodi yn enw'r tw Efail Troed-y-rhiw. Yn yr un modd, cofnodir gefeiliau eraill yng Nghaersws a Llandinam. <P> (<A HREF = "#TOP">yn ôl i r brig</A>) <!---text ends here---> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>