ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Caersws Basin - Natural Landscape </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="swsnat.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="../../../../w_index.htm">Adref Eto</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_swsint.htm#Themes">Tirwedd Hanesyddol <br>Basn Caersws</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <A NAME="TOP"></A> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Llunio Tirwedd Basn Caersws</H2> <HR> <H3>YR AMGYLCHEDD NATURIOL</H3> <A NAME="TOP"></A> <!----text in here---> <H3>Topograffeg</H3> Mae Basn Caersws ar lawr rhan uchaf dyffryn Hafren rhwng y Drenewydd a Llandinam, ac ym mhentref Caersws mae ei ganolbwynt. Yno, ar uchder o rhwng tua 120 metr a 230 metr, mae n ehangu i rhwng 1 cilomedr ac 1.5 cilomedr o led ger cymer Afon Hafren ag Afon Carno, Afon Trannon ac Afon Cerist. Mae dyffryn Afon Carno yn culhau i tua 200 metr o led ger Pontdolgoch tua r gogledd, ac mae dyffryn Hafren yn culhau i tua 300 metr o led ger Llandinam, ac mae n dechrau culhau ychydig mwy tua r Drenewydd i r dwyrain. <P> Mae r bryniau n codi, yn raddol i ddechrau, i r de o r afon hyd uchder o tua 220 metr, ac yna â llethrau mwy serth i fyny at y rhostir sy n codi i tua 430 metr ar ffin de-ddwyrain ardal y dirwedd hanesyddol. I r gorllewin, mae dau ysbardun bryniog ar ymylon y basn, gyda llethrau serth o boptu iddynt. Mae un o r rhain rhwng Afon Hafren ac Afon Cerist, ac yn codi i uchder o tua 270 metr, ac mae r ail rhwng Afon Cerist ac Afon Carno, ac yn codi i uchder o tua 290 metr. Yn gyffredinol, mae r tir yn codi n fwy graddol i r gogledd hyd uchder o tua 250 metr, ond mae n codi n fwy serth yn union i r gogledd o Lanwnog, lle mae r bryniau n cyrraedd uchder o 350 metr. <H3>Daeareg a phriddoedd</H3> Mae r ddaeareg soled sy n sylfaen i r ardal gyfan yn cynnwys llechi a thywodfeini Silwraidd yn rhannau canolog a rhannau de-orllewin yr ardal, gyda sialau a grutiau i r gogledd ar Alltwnnog ac i r de-ddwyrain ar Allt y Gaer a Bryn Penstrowed. <P> Cafnau rhewlifol dwfn yw dyffrynnoedd Afon Hafren, Afon Carno ac Afon Trannon. Ar lawr y prif ddyffrynnoedd, ceir dyddodion trwchus o glai, dan haenau graeanog wedi u dyddodi gan ddur tawdd rhewlifol, hyd at 68 metr o ddyfnder gyda i gilydd. Mae yna waddodion llifwaddodol siltiog drostynt, wedi u dyddodi gan afonydd, gyda pheth cerrig gro, o ganlyniad i ailweithio gro cynharach. Ffurfiwyd drymlinoedd sydd wedi goroesi fel cnyciau isel unigryw o Glai Clogfaen yn nyffryn Cerist, yn nyffryn y nant i r gorllewin o Gefn Carnedd, a rhwng Caersws a Llanwnog, ac i r gogledd-ddwyrain o Gaersws i gyfeiriad Gwynfynydd. <P> Mae r priddoedd mewn rhanbarthau cul ar hyd gorlifdir dyffryn Afon Hafren ac Afon Carno yn perthyn i gyfres Teme yr Arolwg Pridd. Priddoedd dwfn siltiog, athraidd a heb gerrig ydynt, gydag isbriddoedd graeanog mewn mannau. Maent yn gweddu orau i ffermio llaeth a magu da byw ar laswelltir parhaol a glaswelltir dros dro, gyda pheth tyfu cnydau grawn lle nad oes llawer o berygl o lifogydd. Mae dyffryn Cerist a r ardal ar hyd Nant Manthrig i r gogledd o Gaersws tua Llanwnog yn perthyn i gyfres Conway. Priddoedd mân siltiog a chleiog sy n ddwfn a heb gerrig sydd yma, ac sy n cael eu heffeithio gan ddur daear. Maent yn gweddu orau i laswelltir parhaol ar gyfer ffermio llaeth a magu da byw. Mae r priddoedd ar y tir sy n codi islaw r bryniau i r gogledd o Afon Cerist, rhannau o r tir sy n codi o amgylch Cefn Carnedd rhwng Afon Cerist ac Afon Hafren, y tir sy n codi n raddol yn nyffryn Carno i r gorllewin a r gogledd-orllewin o Lanwnog, a llethrau gorllewinol isel bryniau Bryn Penstrowed yn yr ardal rhwng Moat Farm a Neuadd Bronfelin, yn perthyn i gyfres Dinbych 1. Priddoedd mân lomog a siltiog wedi u draenio n dda yw r rhain, dros greigiau. Maent yn gweddu i ffermio llaeth a thyfu cnydau grawn yn yr ardaloedd is, a magu da byw, coetir neu borfa arw ar diroedd uwch mwy serth. Mae r priddoedd ar y tir sy n codi n raddol i r gogledd-ddwyrain o Landinam yn perthyn i gyfres Brickfield 3 ac mae r tir i r gogledd o Gaersws ac i r dwyrain o Lanwnog yn perthyn i r gyfres Cegin. Mae r cyntaf o r rhain yn briddoedd mân cleiog a siltiog sy n ddirlawn yn dymhorol, er mai priddoedd mân lomog wedi u draenio n dda sydd i w cael mewn mannau; maent yn gweddu orau i fagu da byw a pheth ffermio llaeth ar laswelltir parhaol, a pheth tyfu cnydau grawn mewn mannau sychach. Priddoedd tebyg yw cyfres Cegin, sy n gweddu orau i fagu da byw ar laswelltir parhaol, a ffermio llaeth ar dir is. <H3>Afonydd a nentydd</H3> <P> Mae rhannau o loriau dyffrynnoedd y prif afonydd dan ddur am gyfnodau n rheolaidd. Fodd bynnag, mae llifogydd dyffryn Hafren wedi u lleihau ers adeiladu argae Clywedog yn y 1960au, a r gwelliannau i amddiffynfeydd rhag llifogydd ger Caersws, ar y cyd, mae'n debyg, ag adeiladu Rheilffordd y Cambrian ym 1863 a Rheilffordd y Fan ym 1871, ac yn ystod yr 20fed ganrif. <P> Mae ymyl gorlifdir a llawr dyffryn y rhan hon o Afon Hafren yn eithaf diddorol, ac mae n ffurfio rhan o safle Adolygiad Cadwraeth Daearegol (ACD) Hafren Uchaf. Mae hanes manwl o esblygiad llawr y dyffryn a sianel yr afon wedi i ddarganfod o astudiaethau o nodweddion geomorffolegol hynafol a mwy diweddar llawr dyffryn Hafren sydd wedi datblygu mewn ymateb i newidiadau naturiol, megis yr hinsawdd, yn ogystal â gweithgaredd dynol. <P> Dengys llawr y dyffryn gyfres o gerlannau afon, sianeli hynafol a bwâu llifwaddod o r cyfnod Holosen a r cyfnod Pleistosenaidd (cyfnodau hyd at tua 12,000 CC), sy n dangos bod sianelau r afon wedi bod wrthi n mudo ac y bu gwaddodi llifwaddodol dros y 10,000 o flynyddoedd diwethaf. Mae n debygol bod y gerlan gynharaf yn dyddio n ôl i r cyfnod Defensaidd Hwyr (tua 23,000 i 8,000 CC) fel casgliad o ddyddodion allolchi dur tawdd rhewlifol trwchus a graeanog, a gladdwyd gan ddyddodion diweddarach yn ardal y dirwedd hanesyddol. Mae yna awgrymiadau bod Afon Hafren wedi bod â chwrs mwy plethedig, o leiaf yn achlysurol. Mae r rhan fwyaf o r gorlifdir wedi bod yn gymharol sefydlog, a chydag un sianel afon, ers o leiaf 2,000 CC mae n debyg, ac yn bendant ers tua 70 OC pan adeiladwyd y ffordd Rufeinig i r dwyrain o Gaersws ar ei arwyneb, yn agos at sianel yr afon heddiw. Mae gwaddodiad ers hynny wedi arwain at gladdu n rhannol y ffordd Rufeinig i r dwyrain o Gaersws gan sawl centimetr o lifwaddod â graen main. Yn lleol, mae r ffordd Rufeinig wedi cael effaith ar waddodiad yn y dyffryn; mae gan lawr llifwaddodol y dyffryn i r gogledd o r ffordd natur fwy cyfnewidiol o ran topograffeg na r hyn sydd i r de o r ffordd. Mae astudiaethau wedi dangos bod sianel Afon Hafren yn parhau i gael ei hailweithio gan gasgliad o ystumiau sydd wedi bod yn weithredol ers y 3ydd ganrif OC i'r 6ed ganrif OC, ac sy n gweithio'u hunain i lawr yr afon mewn ardal rhwng sawl metr i sawl can metr o led mewn mannau. Mae'r hen ystum afon i r dwyrain o Gaersws yn dangos hyn yn glir. Mae n amlwg ei bod wedi dinistrio rhan o r ffordd Rufeinig i r gogledd o r afon sy n arwain at y gaer Rufeinig. <P> Mae graddiant Afon Hafren yn y darn o i gorlifdir sydd yn ardal y dirwedd hanesyddol yn llai nag ydyw yn yr ardaloedd i fyny ac i lawr yr afon. Bu cyflenwad cynyddol o waddodion yn nyffryn Hafren yn y cyfnodau hanesyddol oherwydd nifer o resymau, yn cynnwys dirywiad yn yr hinsawdd yn gysylltiedig â r Oes Iâ Fach, rhwng tua 1590 a 1850 OC. Cafwyd hefyd ehangu ffermio âr a chau caeau yn helaeth yn y 19eg ganrif, a bu cyfnod dwys o fwyngloddio metel yn nalgylch pen uchaf Afon Hafren ar ddiwedd y 19eg ganrif. Arweiniodd hyn oll at gyfraddau cynyddol o waddodiad yng ngorlifdir yr afon. <P> Gwnaed newidiadau artiffisial i sianel afon Hafren i lawr yr afon o Landinam ym 1859, gydag adeiladu r rheilffordd i Lanidloes. Cafodd sianel yr afon hefyd ei sythu gyda sianel wedi i pheiriannu dros ddarn un cilomedr o hyd o r afon, ger Neuadd Llandinam, yn ôl pob tebyg rhwng 1840 a 1886, er mwyn osgoi'r bygythiad i eiddo mae n debyg. Ers hynny, fodd bynnag, mae r afon wedi dychwelyd i fod â hynt ymdroellog. Cafodd llwybr rhan isaf Afon Cerist / Afon Trannon ei sythu rhwng dechrau r 1830au a diwedd y 1840au, mewn ymgais i leddfu llifogydd mae n debyg. Tua 1871, trowyd tua 5 milltir o Afon Cerist i sianel ddofn ffug, er mwyn galluogi adeiladu Rheilffordd y Fan, i r gorllewin o Gaersws. Cynhaliwyd gwaith peiriannu sylweddol ar afon Trannon tua diwedd y 1970au. <P> Roedd tir mwyaf gwerthfawr y gorlifdir yn cael ei bori hyd at fin yr afon, a hyn gafodd y bai am golli coed ger glannau nentydd, a r niwed a fu o ganlyniad i lannau afonydd yn nyffryn Hafren rhwng y Trallwng ac Amwythig. <H3>Hanes amgylcheddol</H3> Cafwyd peth tystiolaeth o hanes llystyfiant cynnar ar gyfer Basn Caersws wrth ddadansoddi dyddodion mawn ychydig i r gorllewin o Gaersws ar orlifdir Afon Hafren, ger ei chymer ag Afon Cerist ac Afon Trannon. Mae r dyddodion mawn yn cynrychioli cynnydd sydyn mewn ardal lle mae draeniad yn cael ei rwystro ger cymer Afon Hafren ag Afon Carno, yn y cyfnod Neolithig tua 3,500 CC, dros gyfnod o tua 300 mlynedd. Yn dilyn hyn, roedd yna gyfnod o tua 2,000 o flynyddoedd rhwng y mawn uchaf ac adeiladu r ffordd Rufeinig i r gorllewin o Gaersws. Mae'n bosibl bod y ffordd hon wedi gwasanaethu mwyngloddiau plwm yng nghyffiniau r Fan a Dylife, neu ei bod ar y ffordd i r gaer fechan yng Nghae Gaer ger Llangurig. Dengys gweddillion planhigion yn rhan Neolithig y dilyniant drawsnewid o gynefinoedd dirlawn agored i ffen gyda gwern. Mae mawn sy n cronni n cynnwys paill rhanbarthol o goetir derw cymysg, lle mae n ymddangos mai derw, cyll, pisgwydd, pinwydd a pheth gwern oedd yno n bennaf. Parhaodd ardaloedd mawr cymharol gaeedig o brysg a choed yng nghyffiniau r safle. Yn ddiweddarach, sychodd y tir rhywfaint a bu cynnydd mewn cyll a phinwydd a gostyngiad mewn gwern. Fodd bynnag, awgryma ehangu diweddarach mewn gwern bod ffen gwern wedi i greu, a bod coetir derw cymysg wedi parhau, ond nid oes arwydd pendant o ddylanwad dynol cynnar ar yr amgylchedd yn y cyfnod hwn, hyd yma. <p> (<A HREF = "#TOP">back to top</A>) <!---text ends here---> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>