CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Basn Caersws


TRAFNIDIAETH A CHYSYLLTIADAU

Trwy gydol hanes, mae Basn Caersws, a saif ger cymer Afon Hafren a’i llednentydd, sef Afon Trannon, Afon Cerist ac Afon Carno, wedi bod yn rhan o goridor cysylltiadau o bwys, gan roi mynediad o’r gororau a Chanoldir Lloegr yn y dwyrain i ganol a gorllewin Cymru.

Roedd yr ardal ymhell tu hwnt i’r pwynt ar Afon Hafren yr ystyriwyd ei bod yn bosibl teithio arni yn y 18fed ganrif. Yn ogystal chario cychod ysgafn, mae’n bosibl fod yr afon wedi cael ei defnyddio tan ddechrau’r 19eg ganrif efallai, yn dymhorol o leiaf, i gludo coed a nwyddau eraill i lawr yr afon. Fodd bynnag, ychydig o dystiolaeth sicr sydd o'r gweithgarwch hwn.

Ffyrdd Rhufeinig

Safai’r gaer Rufeinig a’r anheddiad sifil ym mhentref Caersws ar ganolbwynt rhwydwaith strategol o ffyrdd milwrol Rhufeinig a oedd yn cysylltu cheyrydd Rhufeinig mewn mannau eraill.

Roedd un o’r prif ffyrdd yn arwain i gyfeiriad y dwyrain tuag at y gaer yng Nghaer Ffordun ac yna ymlaen i'r amddiffynfa lengol olynol a’r ddinas Rufeinig yn Wroxeter. Mae darnau o’r ffordd Rufeinig sydd mewn cyflwr da wedi goroesi fel gwrthglawdd sy’n dal i sefyll yn ardal y dirwedd hanesyddol mewn caeau i’r de o Afon Hafren, rhwng Neuadd Maes-mawr a Red House. O’r fan honno tua’r dwyrain gorwedda o dan y ffordd bresennol tuag at y Drenewydd yn l pob tebyg. Mae’r ffordd yn amlwg yn croesi Afon Hafren i’r gorllewin o Neuadd Maesmawr, er mwyn mynd trwy borth deheuol y gaer Rufeinig ger yr ysgol gynradd gynt yng Nghaersws. Ond, yn l pob tebyg, mae’r rhan fwyaf o’r darn yma o’r ffordd a’r bont Rufeinig dros yr afon wedi cael eu dinistrio gan symud graddol ystumiau’r afon.

Mae llwybr y ffordd sy’n arwain o borth dwyreiniol y gaer wedi'i holrhain o dystiolaeth olion cnydau a gwrthglawdd sydd wedi goroesi. Mae'n dilyn llwybr sy'n gyfochrog Ln Manthrig, Caersws, yna mae'n gwyro i'r gogledd o Lys Maldwyn ac yn gadael ardal y dirwedd hanesyddol, fwy neu lai ar hyd llinell y ffordd fodern yn Llwyn y Gog Mae’r ffordd wedi’i holrhain yn ysbeidiol tua 10 milltir tuag at Ddolanog yn nyffryn Banw. Nid yw ei nod terfynol wedi’i gadarnhau hyd yma, ond mae’n bosibl iddi barhau dros y Berwyn tua’r ceyrydd Rhufeinig yn Llanfor neu Gaer Gai ger y Bala, yn nyffryn Dyfrdwy.

Tybir bod llwybr y ffordd Rufeinig sy’n arwain o borth gogleddol y gaer Rufeinig wedi’i sefydlu am bellter o tua 100 metr, gan redeg i gyfeiriad Llanwnog. Wedi hynny, ni ellir bod yn sicr ynghylch ei hynt, er y tybir ei bod yn rhedeg ar hyd dyffryn Carno, fwy neu lai ar hyd llinell yr A470, ac ymlaen o bosibl tuag at y gaer Rufeinig ym Mhennal yn nyffryn Dyfi, i’r gorllewin o Fachynlleth.

Gellir olrhain y ffordd sy’n arwain o borth gorllewinol y gaer am tua 1.5 milltir, hyd at y man lle mae’n gadael ardal y dirwedd hanesyddol yn nyffryn Trannon a dyffryn Cerist. Wedi croesi Afon Carno, mae darnau ysbeidiol o gloddweithiau, a weithiau llwybr y ffordd fodern rhwng Tynrhos a Choedyparc, yn cynrychioli ei llwybr. Tybir bod y ffordd yn rhedeg tua’r gorllewin i’r gaer Rufeinig fechan ym Mhenycrogbren, ac yna ymlaen hefyd o bosibl tua’r gaer Rufeinig ym Mhennal.

Mae llwybr y ffordd Rufeinig i’r de o Gaersws tua chaer Rhufeinig Castell Collen ger Llandrindod yn llai sicr, er bod rhan o’r ffordd wedi’i nodi yn y caeau chwarae ychydig i’r de o’r afon yng Nghaersws. Credir ei bod yn rhedeg oddi yno am bellter ar hyd dyffryn Hafren, heibio i Landinam, fwy neu lai ar hyd llinell y ffordd fodern, cyn torri ar draws y bryniau i'r de.

Ni wyddys am ba hyd wnaeth y rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig barhau i gael ei ddefnyddio, ond mae yna dystiolaeth bod y caerau yng Nghaer Ffordun a Chaersws wedi parhau mewn gwasanaeth, i raddau llai o bosibl, hyd y 3edd neu’r 4edd ganrif OC. Felly mae’n ymddangos yn debygol i rai elfennau o’r rhwydwaith lleol hwn barhau i gael eu defnyddio tan y cyfnod hwnnw.

Ffyrdd canoloesol a diweddarach

Ychydig a wyddys am gwrs y ffyrdd canoloesol neu ffyrdd diweddarach yn yr ardal, tan y gwelliannau helaeth a wnaed yn ystod diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Mae mapiau cynnar gan Saxton (1578) a Camden (1637) yn dangos y prif ganolfannau poblogaeth ond, yn gyffredinol, ychydig o fanylion maent yn eu rhoi am y prif lwybrau trwodd yn ystod y cyfnod hwn.

Ffyrdd y porthmyn

Erbyn y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, roedd Basn Caersws wedi dod yn ganolbwynt pwysig ar ffyrdd porthmyn a oedd wedi’u datblygu i yrru gwartheg o ganolbarth a gorllewin Cymru i farchnadoedd mewn trefi ar hyd y gororau a thu hwnt. Ymddengys i ddwy ffordd drwy’r ardal ddod yn bwysig. Roedd un llwybr yn rhedeg o ardal Machynlleth, trwy Benffordd-las a Threfeglwys heibio i ddyffryn Trannon a dyffryn Cerist i Gaersws, yna'n cymryd llwybr iseldirol ar hyd rhan uchaf dyffryn Hafren i’r Drenewydd, y Trallwng ac Amwythig a thu hwnt. Roedd ail lwybr o ardaloedd Cwmystwyth a Rhaeadr Gwy yn arwain i Langurig a Llanidloes, i gyrraedd ardal y dirwedd hanesyddol yn Llandinam. Yna roedd yn cymryd y tir uwch i’r de o ddyffryn Hafren heibio i Little London, gan wahanu i’r dwyrain o Fochdre, naill ai ar hyd llwybr mwy gogleddol ar hyd Ln Las Ceri i Drefesgob neu tua’r de heibio i Bettws y Crwyn i gyfeiriad Llwydlo a thu hwnt. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd nifer o fasnachwyr gwartheg wedi sefydlu yn ardal Caersws i fanteisio ar y fasnach hon.

Ffyrdd tyrpeg a phontydd wedi’u gwella

Cafwyd gwelliannau sylweddol i’r prif rwydwaith o ffyrdd ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn dilyn derbyn Deddf Dyrpeg Sir Drefaldwyn 1769, a gyflawnwyd o’r 1790au ymlaen. Rhoddodd hon bwerau i atgyweirio amryw o ffyrdd penodol a’u lledu ac i godi tollau trwy dollbyrth i dalu am y gwaith hwn a gwaith cynnal a chadw parhaus. Gellir olrhain y gwelliannau hyn ar gyfres newydd o fapiau ffordd a gyhoeddwyd o’r cyfnod hwn ymlaen, yn cynnwys Map of North Wales John Evans (1797), Map of Montgomery G. Coles (1809) a Map of North Wales Philip and Sons (1853).

Gwnaed gwelliannau i’r ffordd o’r Drenewydd i Fachynlleth, a redai i'r gogledd o Afon Hafren heibio i Aberhafesp (B4568) gan groesi ardal y dirwedd hanesyddol, heibio i Fwthyn Llwyn-y-brain, Llanwnog a Phontdolgoch, yn y cyfnod cynnar. Wedi hynny, adeiladwyd y ffordd dyrpeg newydd i’r de o’r afon, a elwid ‘Long Length’ (A489). Roedd yn rhedeg trwy Landinam ac ymlaen i Lanidloes, ac roedd hefyd yn troi i ffwrdd i’r gogledd i Bontdolgoch, heibio i Gaersws. Adeiladwyd ffordd dyrpeg newydd hefyd o’r de o Bontdolgoch tua Threfeglwys, heibio i Wig (ar hyd llinell y B4569). Codwyd cerrig milltir ar hyd nifer o’r ffyrdd hyn o leiaf, ac mae enghreifftiau o sawl un o’r rhain, o ddiwedd y 18fed ganrif mae’n debygol, wedi goroesi, yn cynnwys rhai ger y fynedfa i Dy-mawr, a gyferbyn rhodfa a phorthdy Plas Dinam, ar yr A489, a ger Aelybryn ac i’r gorllewin o Lanwnog ar y B4568.

Daeth tafarndai ar ymyl y ffordd i fodolaeth, a oedd yn gwasanaethu’r nifer gynyddol o deithwyr ffordd ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, yng Nghaersws (Unicorn Inn), Llandinam (Lion Inn) a Llanwnog (Temperance Hotel, bellach wedi’i ailenwi’n Talbot House).

Adeiladwyd neu ailadeiladwyd nifer o bontydd ffyrdd hefyd yn ystod y cyfnod hwn, fel rhan o’r gwelliannau cyffredinol. Ailadeiladwyd pont Caersws, gyda’i thri bwa o gerrig yn fuan wedi 1821, unwaith i’r sir ddod yn gyfrifol amdani. Thomas Penson, sef Syrfwr Sirol Sir Drefaldwyn a’i chynlluniodd, ac roedd yn disodli pont garreg gynharach y dywedwyd bod ganddi ddau fwa, a disgrifiwyd hi fel bod ‘in a very bad state’. Adeiladwyd pont ffordd Wig, gydag un bwa o gerrig ym 1847. Penson oedd wedi cynllunio hon hefyd, ac roedd yn disodli dwy bont lai dros Afon Carno. Mae dwy bont arall gan Penson dros Afon Carno wedi’u haddasu’n sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys y bont garreg gydag un bwa ym Mhontdolgoch, a ailadeiladwyd tua’r 1870au ac y gosodwyd rheiliau metel a choncrid ar ei phen pan ledaenwyd y ffordd yn yr 1980au, ac ail bont ychydig i’r gorllewin o Gaersws, ar yr hen ffordd dyrpeg i Drefeglwys. Cafodd hon ei hailadeiladu ym 1835, gan ddisodli dwy bont gynharach, ond cafod ei hailadeiladu mewn concrid a metel yn dilyn hynny, tua diwedd yr 1980au.

Eto, Penson a gynlluniodd y bont ffordd haearn bwrw gydag un bwa, ar draws afon Hafren yn Llandinam. Cwblhawyd hi ym 1846, a hon oedd pont ffordd haearn gyntaf Sir Drefaldwyn. Roedd yn disodli pont bren gynharach. Castiwyd y cydrannau yn Hawarden Ironworks, ac roedd y math o adeiladwaith a ddefnyddiwyd yn debyg i’r hyn a ddefnyddiai Telford. Contractwr y ffyrdd newydd at y pontydd, a’r wal cynnal ar gyfer y ffordd, oedd y diwydiannwr enwog, David Davies o Landinam; hwn oedd ei gontract cyhoeddus cyntaf.

Dywedir bod y bont droed a elwir Festival Bridge, ar draws afon Hafren ger ffin ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol ger Ty-mawr yn dyddio o Ŵyl Prydain 1951.

Y Rheilffyrdd

Cwblhawyd rheilffordd Llanidloes a’r Drenewydd ym 1859, gorsaf yn ardal y dirwedd hanesyddol yn Llandinam. Roedd y llinell ar wahn i weddill y rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol am sawl blwyddyn, ac adeiladwyd hi gan ddefnyddio llafur a chyfalaf lleol, a bu’n help i lansio gyrfa’r diwydiannwr o Gymro, David Davies o Landinam. Roedd David Davies hefyd yn ymwneud ag adeiladu Rheilffordd Croesoswallt i’r Trallwng ym 1859/1860, a llinell y Trallwng i’r Drenewydd ym 1861. Roedd Rheilffordd y Drenewydd a Llanidloes wedi’i chysylltu hon yn y Drenewydd. Adeiladwyd llinell y Drenewydd a Machynlleth ym 1862, gan fforchio o linell y Drenewydd a Llanidloes yn Moat Lane, i’r de o Gaersws, lle roedd yna arosfan a sied peiriannau. Daeth y linell yn rhan o rwydwaith Rheilffordd y Cambrian ym 1864. Adeiladwyd gorsafoedd ar y linell hon yn yr ardal yng Nghaersws a Phontdolgoch. Agorwyd Rheilffordd Canol Cymru tua’r de o Lanidloes i Raeadr Gwy ac ymlaen i Builth Road a Three Cocks hefyd ym 1864, ac fe unodd Chwmni Rheilffordd y Cambrian yn y 1860au. Ym 1871, adeiladwyd Rheilffordd y Fan, a oedd yn gwasanaethu’r mwynglawdd plwm a barytes yn Van, i’r gogledd o Lanidloes, gan fforchio o linell y Drenewydd i Fachynlleth yng Nghaersws, a rhedeg tua’r gorllewin ar hyd dyffryn nentydd Cerist a Thrannon. Roedd hefyd yn cludo teithwyr o 1873 ymlaen ac, ar l rhai anawsterau, ailagorwyd y llinell i Reilffyrdd y Cambrian gludo nwyddau ym 1896. Adeiladwyd sied peiriannau a swyddfa rheolwr y rheilffordd yng Nghaersws.

Cafodd adeiladu’r rheilffyrdd peth effaith ar batrymau draenio lleol. Addaswyd sianel afon Hafren i lawr yr afon o Landinam yn ystod adeiladu’r rheilffordd i Lanidloes ym 1859, ac ym 1871, trowyd cwrs tua 5 milltir o afon Cerist i sianel ddofn ffug, er mwyn galluogi adeiladu Rheilffordd y Fan.

Yn dilyn y rhyfel byd cyntaf, daeth Rheilffordd y Cambrian yn rhan o Reilffordd y Great Western, a gafodd ei gwladoli fel British Railways ym 1948, a’i diwladoli yn y 1990au. Mae llinell y Drenewydd i Fachynlleth yn parhau i fodoli, ond mae’r llinellau eraill yn yr ardal bellach wedi cau. Caewyd Rheilffordd y Fan ym 1940, 20 mlynedd wedi cau mwynglawdd Van ym 1920. Caewyd llinell y Drenewydd i Lanidloes i deithwyr i’r de o Gyffordd Moat Lane ym 1963, ond bu’n cario rhai nwyddau tan 1967. Cafodd ei chadw ar agor i gludo deunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer adeiladu cronfa ddŵr Clywedog i’r gorllewin o Lanidloes y cwblhawyd ei hadeiladu ym 1966.

Mae Gorsaf Caersws thŷ’r gorsaf feistr a’r caban signalau sydd ynghlwm yn parhau i gael eu defnyddio. Fodd bynnag, mae’r hen orsaf rheilffordd a thŷ’r gorsaf feistr ym Mhontdolgoch bellach wedi’u trawsnewid yn dŷ, a safleoedd yr hen orsaf yn Llanidloes a’r arosfan a’r sied peiriannau ym Moat Lane yn unig sy’n goroesi. Mae sied peiriannau Rheilffordd y Fan yn goroesi ar ymylon gorllewinol pentref Caersws, a chaiff hwn ei ddefnyddio bellach fel storfa mewn iard diwydiannol. Mae cwrs llinell rheilffordd Canolbarth Cymru, sydd wedi’i datgymalu ac sy’n rhedeg ar hyd ochr ddeheuol dyffryn Hafren, i’r de o Moat Lane, a hen linell Rheilffordd y Fan i’r gorllewin o Gaersws, yn parhau i ffurfio nodweddion tirwedd amlwg, gyda thoriadau ac argloddiau yn trawslunio nentydd wedi’i sianelu a ffiniau caeau cynharach.

(yn l i’r brig)