CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1025)


CPAT PHOTO 810.13a

Ffermydd a neuaddau mawr, gwasgaredig iawn gyda darnau bychain o barcdir o fewn tirwedd lle ceir caeau mawr unionlin ar y cyfan.

Cefndir Hanesyddol

Rhan o hen blwyf eglwysig Llanfair Dyffryn Clwyd ac o fewn cwmwd canoloesol Llannerch, rhan o gantref canoloesol Dyffryn Clwyd, a ddaeth yn arglwyddiaeth Rhuthun ar l y Goncwest Edwardaidd yng Nghymru. Y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch dynol yw dwy fwyell garreg o'r Oes Neolithig hwyr neu'r Oes Efydd gynnar a ddarganfuwyd ger Coed Cochion yn tua'r 1830au. Darganfuwyd bwyell efydd ar dir sy'n perthyn i ystad Llwyn-ynn yn yr 1860au. Ceir ffosydd crynion l-cnydau ger Cefn-coch a Llysfasi lle bu claddfeydd o'r Oes Efydd mae'n debyg ond bellach maent wedi eu gwastatu gan waith aredig. Mae'n bosibl bod gwithgarwch yn ystod y cyfnod Rhufeinig yn cael ei gynrychioli gan loc ffos ddwbl l-cnydau rhwng Llanfair a Phlas-newydd, sydd efallai'n cynrychioli ffermdy Brythonig-Rufeinig neu deml o bosibl.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Tir tonnog ar waelod y dyffryn, sy'n amrywio rhwng 80-120m mewn uchter. Mae'r gefnen isel lle mae Llanfair Dyffryn Clwyd a dyffryn bach nant Dwr Il i'r gorllewin o Graig-fechan ac i'r dwyrain o Lanrudd ill dau yn ffurfio gwahanol is-rannau o'r ardal.

Nodweddir yr anheddu gan ffermydd neu neuaddau gweddol fawr a gwasgaredig, gyda rhyw 700-800m rhyngddynt fel arfer, ac mae nifer ohonynt wedi eu lleoli mewn darnau bychain o barcdir aeddfed, fel yn achos Garthgynan, Plas-newydd a Phentre Celyn, ac mae gan rai ohonynt erddi caeedig, clwydi a phothordai.

Llanfair Dyffryn Clwyd yw ffocws plwyf canoloesol eang, a heddiw mae'n cynnwys eglwys ganoloesol, ysgol ac elusendai o'r 19eg ganrif, tafarn, bythynnod o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, y cyfan bron o galchfaen gyda thoeau llechi, rhai waliau cerrig am y gerddi, a nifer o dai briciau o'r 20fed ganrif, neuadd bentref ac adeiladau eraill a chofeb ryfel. Roedd yr eglwys yn bodoli erbyn canol y 13eg ganrif. Ychydig a wyddys am hanes cynnar yr anheddiad ond fe wyddys nad oedd yn fwy na chlwstwr o ryw chwech o dai yn ymyl yr eglwys erbyn diwedd yr 17eg ganrif. Ceir tri anheddiad cnewyllol bychan arall ar ymylon yr ardal - cnewyllyn gwasgaredig bychan gyda dau gapel o'r 19eg ganrif i'r dwyrain o Lanfair Dyffryn Clwyd, cnewyllyn yn cynnwys nifer o fythynnod o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, tai a fferm fach ym Mhentre-cch, a chnewyllyn bychan rhwng Capel-y-gloch a Chapel-y-fferm yn ymyl Capel yr Iesu, sef 'eglwys swyddfa' a sefydlwyd gyntaf ym 1619. Maer ardal yn cynnwys Coleg Amaeth Llysfasi lle bu ty o'r 17eg ganrif yn perthyn i'r teulu Myddleton ym mhen deheuol Dyffryn Clwyd, a'r Ganolfan Bridio Gwartheg fodern i'r de-ddwyrain o Ruthun. Ychydig o adeiladau o'r canol oesoedd sydd ar l ar wahn i'r eglwys gerrig ganoloesol yn Llanfair Dyffryn Clwyd, y mae'r rhan fwyaf ohoni'n perthyn i'r 15ed- a'r 16eg ganrif. Mae'n debyg mai coed a gwellt a ddefnyddiwyd yn bennaf mewn gwaith adeiladu tan yr 17eg gynnar, a cheir enghreifftiau o adeiladau ffrm focs yng Nghefn-coch, Llysfasi a Phlas Llanrhudd. O'r 17eg ganrif gynnar ymlaen cerrig a llechi a ddefnyddid yn bennaf i adeiladu ffermdai ac adeiladau allanol fel, er enghraifft, ym Mryn Coch, Capel-y-fferm, a chan gynnwys gwaith cerrig a rendrwyd fel yn achos y ty o'r 17eg ganrif ym Mhlas Newydd. Defnyddid mwy ar friciau yn ystod y 18fed ganrif fel yn achos y ffermdy mawr yn Nhy Newydd ac adeiladau allanol Cefn-coch a defnyddid mwy arnynt ar gyfer adeiladau allanol yn ystod y 19eg ganrif.

I bori y defnyddir y tir yn bennaf heddiw. Rhwystrir traeniad naturiol ar beth o'r tir isel a rhaid bod hyn wedi cyfyngu ar y defnydd a wneid ar y tir o dymor i dymor dros rannau helaeth o'r ardal cymeriad, cyn cloddio ffosydd traenio, yn ystod y cyfnod l-ganoloesol o bosibl. Nodweddir yr ardal gan gaeau hirsgwar cymharol fawr lle caewyd tir pori comin ar l y canol oesoedd neu'n ddiweddar, er bod olion tirwedd cefnen a rhych yn y caeau ar ymyl de-orllewinol pentref Llanfair ac yn ardal Coed Cochion a gallai hyn fod yn dystiolaeth o gaeau canoloesol agored. Mae i'r caeau wrychoedd amlrywogaethol aeddfed a chadarn at ei gilydd, fe'u torrwyd yn isel ac mae ynddynt goed aeddfed gwasgaredig. Yma a thraw gwelir olion hen derfynau caeau lle mae rhesi o goed aeddfed yn rhedeg ar draws glaswelltir. Mae coed a phrysgwydd aeddfed yn aml yn dangos lle mae cyrsiau nentydd ac mae clystyrau bychain o goed pn o gwmpas rhai o'r tai. Pyst git sengl neu barau ohonynt a dorrwyd yn fras o flociau calchfaen sy'n nodweddu giatiau ar ymyl y ffyrdd.

Mae'r ffyrdd yn gymharol syth gyda phontydd cerrig traddodiadol ar draws y nentydd.

Bu melin ar nant Dwr Il ym Melin Garthgynan, ac mae'r adeiladau yn dal yno.

Mae'r ardal yn cynnwys eglwys ganoloesol drawiadol St Cynfarch a'r Santes Fair yn Llanfair Dyffryn Clwyd, gyda mynwent unionlin, yn dyddio'n bennaf o'r 15fed ganrif ond gwyddys ei bod yn bodoli erbyn canol y 13eg ganrif. Mae Capel yr Iesu, a godwyd ym 1619 i'r de-ddwyrain o Lanfair, a dau gapel anghydffurfiol i'r dwyrain o Lanfair, Capel Seion, capel cerrig y Bedyddwyr a godwyd ym 1840 a chapel Bethel, capel Wesleaidd o 1845 (sefydlwyd 1802).

Mae'r ardal yn cynnwys dwy ardd a restrir yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi, sef Garthgynan, gardd gaeedig o'r 17eg ganrif gyda pherllan a llynnoedd pysgod, a Phlas-newydd gardd gaeedig o'r 17eg ganrif a dechraur 18fed ganrif a pharc bychan, a darn bychan o barcdir yn Neuadd Pentrecelyn.

Ffynonellau

Cadw/ICOMOS UK 1995
Hubbard 1986
Jones 1981, 172
Richards 1969
Silvester 1995
Smith 1988, 382-3

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.