CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Rhuthun, Sir Ddinbych
(HLCA 1027)


CPAT PHOTO 809.01a

Tref fodern ehangol gyda thystiolaeth o weithgarwch Brythonig-Rufeinig ac a gychwynnodd fel bwrdeistref gastell ganoloesol, gydag adeiladau o'r canol oesoedd hwyr ac o'r 17eg-19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Cafwyd tystiolaeth o anheddiad Brythonig-Rufeinig a chaer Rufeinig bosibl dan ochr ddwyreiniol y dref fodern. Daeth y safle yn ganolfan weinyddol cantref canoloesol Dyffryn Clwyd ac mae'n bosibl ei fod eisoes yn anheddiad cnewyllol erbyn rhan gynnar y 13eg ganrif. Rhoddwyd y cantref i'r tywysog o Gymro Dafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn, gan Edward I, a ddechreuodd godi castell brenhinol yn y dref ym 1277, yr unig dref yn arglwyddiaeth Dyffryn Clwyd. Yn dilyn rhyfel annibyniaeth y Cymry, ym 1282 cymerwyd y cantref a'i roi i Reginald de Grey, fel arglwyddiaeth newydd Rhuthun ac er bod elfen Gymreig arwyddocaol yn y boblogaeth, fel Dinbych daeth y dref a'r gefnwlad o'i chwmpas yn ffocws i anheddiad Seisnig. Cymerwyd y tir lle lleolid hi o blwyf Llanrhudd.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Mae'n sefyll ar bryn tywodfaen amlwg sy'n ymgodi uwch llawr y dyffryn, rhwng uchter o 60-90m uwch lefel y mr.

Yn wahanol i Ddinbych, ni fu mur amddiffynnol o gerrig o gwmpas y dref ganoloesol erioed, ond mae'n weddol amlwg fod y dref ganoloesol mewn ardal gymharol fach rhwng y castell yn y de, Eglwys St Pedr i'r gogledd, yr afon Clwyd i'r gorllewin a Ffordd Wynnstay i'r dwyrain. Ehangodd y dref y tu hwnt i'r terfynau hyn yn ystod yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif mae wedi ymestyn i'r gefnen isel i'r dwyrain o ganol y dref ac i'r tir isel ar draws yr afon i'r gorllewin, gan feddiannu rhannau o gyn blwyfi eglwysig Llanynys a Llanfwrog.

Sefydlwyd melin ganoloesol ar yr afon Clwyd, ar ochr orllewinol y dref yn ystod y 13eg ganrif hwyr mae'n debyg, a daeth yn ganolfan bwysig o ran cynhyrchu deunydd yn ystod y cyfnod canol, gyda'i hurdd ei hun ar gyfer panwyr a gwehyddion. Arhosodd yn dref gymharol fechan yn ystod y rhan fwyaf o'r canol oesoedd ac roedd cyfran o'r boblogaeth yn amaethu. Yn ystod y cyfnod canoloesol hwyr a dechrau'r cyfnod l-ganoloesol datblygodd y dref yn dref farchnad a chanolfan fasnach o bwys, gan wasanaethu ardal ddeheuol Dyffryn Clwyd.

Parhaodd eglwys St Meugan, Llanrhudd, y plwyf y crewyd y fwrdeisdref ganoloesol ohoni, fel mam eglwys y dref yn ystod y canol oesoedd. Sefydlwyd eglwys newydd S Pedr yn y fwrdeistref i'r trigolion yn yr 1280au, ac fe'i hailgodwyd fel eglwys golegol gan y teulu de Greys ym 1310. Sefydlwyd nifer o gapeli anghydffurfiol yn ysod y 19eg ganrif.

Ffynonellau

Beresford 1988
Hubbard 1986
Jack 1969b
Jones 1992
Jones 1995
Richards 1969
Silvester 1995
Soulsby 1983
Taylor 1963

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.