CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun, a Llangynhafal, Sir Ddinbych
(HLCA 1028)


CPAT PHOTO 809.04a

Tirwedd yn cynnwys caeau mawr hirsgwar yn ymyl llawr y dyffryn ac ar hyd nant Dwr Iâl.

Cefndir Hanesyddol

Y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch dynol yw'r pen brysgyll tyllog o'r Oes Efydd a ddarganfuwyd mewn cae rhwng fferm y Wern ac Afon Iâl. Yr eglwys ganoloesol i'r gogledd-ddwyrain o'r anheddiad presennol oedd ffocws plwyf canoloesol Llanbedr yng nghwmwd Dogfeilyn ar ymyl dwyreiniol hen gantref Dyffryn Clwyd.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Mae'r ardal yn gorwedd ar dir gweddol lethrog ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, rhwng tua 50-150m uwch lefel y môr. Mae rhan dwyreiniol yr ardal yn rhan o Ardal Prydferthwch Eithriadol Bryniau Clwyd.

Mae pentref Llanbedr Dyffryn Clwyd yn anheddiad cnewyllol cymharol fodern gyda thai briciau a cherrig o'r 18fed ganrif i'r 20fed ganrif gyda thoeau llechi, a thafarn gerrig o'r 18fed ganrif a tholldy ar yr hen dollffordd rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug, eglwys o ddiwedd y 19eg ganrif ac ystad o dai cyngor o'r 20fed ganrif. Mae'r eglwys ganoloesol gynharach yn gorwedd mewn parcdir tua 2 kilometr i'r gogledd-ddwyrain o'r eglwys bresennol ac fe'i cynhwysir yn ardal cymeriad Hirwaen. Yn gyffredinol mae'r ffermydd yn eithaf mawr a gwasgaredig, 500m neu fwy rhyngddynt. Fel arfer maent wedi eu gosod o fewn eu caeau eu hunain gan osgoi'r stribed tenau o dir gwlyb ar lannau nant Dwr Iâl stream. O blith y rhain, mae Caerfallen yn ffermdy ffrâm goed o'r 16eg ganrif hwyr / dechrau'r 17eg ganrif gyda thalcen cerrig, simneiau briciau ac adeiladau allanol cerrig, ac mae'r Wern yn ffermdy calchfaen o'r 18eg ganrif hwyr / dechrau'r 19eg ganrif gyda tho teils ac adeiladau allanol cerrig. Gwyddys fod Plas-yn- rhal yn bodoli erbyn 1592. Mae'r hen reithordy o'r ?18fed ganrif ar y ffordd i'r gogledd o Lanbedr wedi ei wneud o friciau gyda tho llechi. Nodweddir aneddiadau diweddarach gan grwpiau bychan o dai a bythynnod briciau a cherrig o'r 18fed- a'r 19eg ganrif a godwyd fel arfer ar gyffyrdd, fel yn achos Ty'n-y-groesffordd a'r Groes Ucha ac yn Llanbedr ei hun, ac mewn mannau eraill ceir tai gwasgaredig eraill o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif ar ymyl y ffordd.

Yn gyffredinol, ceir caeau hirsgwar mawr a osodwyd allan ar hyd neu i fyny ac i lawr y llethr, gyda therfynau afreolaidd ar hyd cyrsiau nentydd ac ambell derfyn afreolaidd lle bu caeadleoedd cynharach o bosibl. Mae'r rhan fwyaf o'r terfynau'n cynnwys gwrychoedd isel ac aeddfed - draenen wen, celynen ac onnen - ac weithiau ceir ponciau isel iawn yn eu hymyl. Ceir coed derw ac ynn mawr gwasgaredig a choed talach a phrysgwydd, gan gynnwys gwern ar hyd y nentydd. O farnu oddi wrth nifer o'r ffermdai mawr yn y tirwedd hwn, fel Caerfallen a Phlas-yn-rhal, mae'n debygol bod fframwaith sylfaenol y tirwedd yn cynrychioli gwella a chau'r tir pori isel yn hwyr yn yr 16eg ganrif a dechrau'r 17eg ganrif, gan ymgorffori o bosibl ddarnau bychain o dir aredig canoloesol blaenorol nas caewyd. Tynnwyd ambell wrych ac fe'u gwelir ar ffurf rhesi o goed mawr neu fonion coed mewn rhai achosion. Ceir ambell bostyn giât garreg sengl neu ddwbl o'r ?19eg-ganrif ar ffyrdd cyhoeddus. Mae'r tir isel yn tueddu i fod yn wlyb a chodwyd argloddiau yn ymyl nifer o'r nentydd sy'n llifo trwy'r caeau er mwyn rhwystro gorlifo.

Mae'r prif ffyrdd yn rhedeg mewn ceuffyrdd bas. Mae pont gerrig â bwa crwn unigol o'r ?18fed ganrif hwyr gyda cherrig copa ar y parapet dros nant Dwr Iâl.

Mae darn bach o barcdir o amgylch y ty mawr o'r 18fed ganrif hwyr / 19eg ganrif gynnar yn y Berth.

Ffynonellau

Berry 1994
Hubbard 1986
Richards 1969
Silvester 1995

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.