CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Fron-heulog, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1030)


CPAT PHOTO 809.25

Tir comin uchel a gaewyd yn ystod y 19eg ganrif ar lethrau gorllewinol bryniau Clwyd gyda bythynnod ar dir ar ymyl y ffordd a lechfeddiannwyd.

Cefndir Hanesyddol

Ar ymyl dwyreiniol plwyf canoloesol Llanfair Dyffryn Clwyd, yn hen gwmwd Dyffryn Clwyd.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Llechweddau uchaf bryniau Clwyd yn wynebu'r gorllewin, rhwng uchter o tua 250-350m, ac yn rhan o Ardal Prydferthwch Eithriadol Bryniau Clwyd.

Bythynnod cerrig ar ochr y ffordd o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, gyda thoeau llechi - rhai ag adeiladau allanol - ac fel arfer ar y tir comin uwch y ffordd rhwng Rhuthun a Wrecsam. Gwellwyd y rhan fwyaf o'r bythynnod a gwnaed hwy'n fwy yn ystod yr 20fed ganrif.

Ceir system o gaeau hirsgwar cymharol fawr lle mae glaswelltir a wellwyd, lle cliriwyd y rhedyn a'r eithin, ac a ddiffinnir gan wrychoedd y ddraenen wen lle ehangwyd, mae'n debyg, y ffermydd gerllaw a oedd yno eisoes ar y tir is. Hefyd mae rhai o'r bythynnod yn ymyl y ffordd wedi eu cysylltu â pharseli cymharol fychan o dir a gymerwyd o'r comin, ac a ddiffinnir unwaith eto gan wrychoedd draenen wen. Mewn mannau mae'r ddau fath o wrychoedd wedi eu hesgeuluso ac mewn mannau fe'u hatgyweiriwyd neu fe osodwyd ffensiau pyst a gwifren yn eu lle. Dangosir y rhan fwyaf o'r terfynau ar ddyfarniad cau tir 1853.

Chwareli bychain ar ymyl y ffordd, ar gyfer codi tai a waliau mae'n debyg.

Ffynonellau

Richards 1969
Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych, Rhuthun, dyfarniad a chynlluniau cau tir 1853, 1860, QSD/DE/25

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.