CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Felin-ysguboriau, Ruthin and Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1034)


CPAT PHOTO 810.20A

Ffermydd a melinau gwasgarog mawr mewn tirwedd o gaeau mawr i ganolig ar dir pori isel ond sydd wedi ei draenio'n dda rhwng yr Afon Clwyd a nant Dwr Il ar ymylon deheuol Rhuthun.

Cefndir Hanesyddol

Mae'n gorwedd i raddau helaeth ym mhlwyf eglwysig canoloesol Llanynys, o fewn cantref Dyffryn Clwyd. Cynrychiolir anhediad cynnar neu gladdiad posibl yn dyddio o'r Oes Haearn cyn-Rufeinig gan br o lwyau efydd a ddarganfuwyd wrth adeiladu'r hen reilffordd i'r de o Ffynnogion. Cynrychiolir tystiolaeth o anheddiad amaethyddol Rhufeinig a'r defnydd o dir gan dystiolaeth yn ardal Parc Brynhyfryd ar ochr ddwyreiniol Rhuthun a bu darganfyddiadau Rhufeinig achlysurol mewn mannau eraill yn yr ardal gan gynnwys nifer o ddarganfyddiadau o ddarnau arian aur ac arian yn ymyl Llanrhudd. Mae eglwys St Meugan yn Llanrhudd yn sefyll ar ddibyn yn edrych dros nant Dwr Il ac yn l y traddodiad fe sefydlwyd hi yn ystod y 6ed ganrif. Roedd yn bodoli'n bendant erbyn y 13eg ganrif, a daeth yn fam eglwys i Ruthun pan ddechreuwyd codi'r castell a'r dref. Mae'r safle mwnt ychydig i'r gogledd o Ffynnogion yn tystio i'r ffaith fod i'r anheddiad statws uchel yn ystod y canol oesoedd.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Llawr y dyffryn tonnog sydd wedi ei draenio'n gymharol dda, rhwng tua 70-90m uwch lefel y mr, rhwng yr Afon Clwyd yn y gorllewin a nant Dwr Il yn y dwyrain. Fe'i dominyddir gan y tir uwch dan Ruthun i'r gogledd a chan y tir uwch ar ochr orllewinol y dyffryn i'r gorllewin.

Cyfyngir anheddiad i nifer gymharol fechan o ffermydd gwasgaredig sydd wedi eu hen sefydlu fel Ffynnogion, ty hanner pren mwy nag un llawr o'r canol oesoedd hwyr, a rendrwyd ar y tu allan, gydag adeiladau allanol o friciau o'r 18fed/19eg ganrif a buarth wal gerrig, a Merllyn gyda ffermdy gadawedig gyda llawr isaf o gerrig a lloriau uchaf o friciau a gydag adeiladau allanol o friciau unwaith eto, ac adeiladau allanol o friciau ym Melin-ysguboriau/Fferm Castle Park.

Caeau canolig neu fawr a ddefnyddir fel tir pori'n bennaf, gyda rhai cnydau ar gyfer porthiant, gyda gwrychoedd y ddraenen wen a dorrwyd yn isel, terfynau nifer o gaeau mwy a chynharach wedi eu torri gan y ffordd dyrpeg a'r ffyrdd eraill a wellwyd sy'n arwain i Ruthuno'r de a'r de-ddwyrain, ac mae hynt ffyrdd blaenorol i'w gweld mewn ceuffyrdd gadawedig. Mae'n ymddangos mai'r tir ychydig uwch yng nghyffiniau Llanrhudd yn ardal ffermydd Maes-y-llan a Thy'n-y-caeau oedd lleoliad y caeau r a gysylltid thref ganoloesol Rhuthun, a dyna efallai yw'r patrymau o gaeau consentrig ar ochrau dwyreiniol a de-ddwyreiniol tref Rhuthun. Ceir coed derw, ynn a chelyn mawr ar gyd y dyfrffosydd. Ceir gwelyau helyg i'r de o Felin-ysguboriau.

Mae'r hen reilffordd, a adawyd bellach, yn elfen bwysig yn nhreflun dwyrain Rhuthun a gellir ei holrhain o hyd i'r de o'r dref, ac mae hen adeiladau'r orsaf yn dal yn bodoli yn Hen Orsaf Eyarth, i'r gogledd-orllewin o Lanfair Dyffryn Clwyd.

Cynrychiolir diwydiant gan hen felin Llanrhudd yn ymyl Dwr Il, a chan Felin-ysguboriau a'r ddyfrffos gysylltiedig sy'n arwain o'r Afon Clwyd. Arferid bwydo hen felin dref Rhuthun gan ail ddyfrffos yn arwain o'r Afon Clwyd ychydig i'r gogledd o Felin-ysguboriau.

Mae Castle Park, ardal o barcdir pwysig a thir nodweddion parcdir i'r de o Ruthun, ac a restrir yng Nghofrestr Tirweddau, Parciau a Gerddi, wedi ei ffensio ar hyd y ffordd gyhoeddus gan reiliau haearn. Mae llwybr y ffordd o Gorwen i Ruthun, a fodolai cyn 1859, a phont y ffordd ag un-bwa, i'w gweld yn y parcdir. Mae hefyd rywfaint o dir chymeriad parcdir i'r de o fferm Merllyn.

Ffynonellau

Cadw/ICOMOS UK 1995
Hubbard 1986

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.