CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Pen-yr-allt, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1042)


CPAT PHOTO 809.00A

Tirwedd afreolaidd o ffermydd bychain ar lethrau coediog a dyffrynnoedd, ychydig yn is na'r rhostir, gan cynnwys rhan o gyn barc canoloesol.

Cefndir hanesyddol

Gan mwyaf, mae'r ardal cymeriad yn dod o fewn plwyfi eglwysig hynafol Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanrhudd a Llanfair Dyffryn Clwyd, ac yn rhannol o fewn cymydau Dogfeilyn a Llannerch yng nghantref hynafol Dyffryn Clwyd, a ddaeth yn arglwyddiaeth Rhuthun ar ôl y goncwest Edwardaidd. Mae'n cynnwys rhan uchaf parc hela canoloesol Bathafarn a werthwyd i'r Thelweliaid cyn 1592, er y dywedir, bod yr ardal sy'n gynwysedig yn y rhan wedi cynnwys nifer o ddaliadau, mae rhannau eraill y parc yn cael eu cynnwys yn yr ardaloedd cymeriad i'r de a'r gorllewin. Dywedir bod peth tir âr a dolydd wedi eu cynnwys yn y parc a allai fod yn rhan isaf y parc. Dywedir bod y glwyd ddwyreiniol, un o ddwy yn unig, o fewn yr ardal.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Ardal wledig wedi ei rhannu'n ddarnau afreolaidd o fryniau coediog a dyffrynnoedd llethrog ac ambell fan gwastad, yn amrywio mewn uchder o 150 i 260m ac yn dod o fewn AHNE Bryniau Clwyd.

Ffermydd gwasgaredig, yn agos i ymyl y rhostir tuag at ben uchaf yr ardal yn gyffredinol. Tai 19eg a'r 20fed ganrif yn ymestyn tua'r dwyrain o Lanbedr Dyffryn Clwyd wedi eu gwasgaru ar hyd y briffordd o Ruthun i'r Wyddgrug a'r ffordd fach i ben Moel Fenlli, gan gynnwys y twr maen amlwg, Castell Gyrn, a adeiladwyd yn y 1970 a'r 1980au a Gwesty a Motél y Clwyd Gate, sef safle y cyn doll borth ar ochr ddwyreiniol yr ardal cymeriad. Ffermdai a bythynnod 18fed a 19eg ganrif o gerrig, weithiau wedi eu rendro, â tho llechi gyda thai allan o gerrig a briciau.

Gan amlaf tir pori wedi ei wella neu wedi ei wella'n rhannol ac wedi ei rannu'n gaeau petryalog bychain i ganolig yw'r tir amaeth. Maent wedi eu gosod mewn perthynas â chyfuchliniau a mwy na thebyg yn adlewyrchu, o leiaf yn rhannol, sut yr arferid amgáu tir isaf y bryniau yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Mae hen wrychoedd isel o ddrain yn ffinio'r caeau, maent wedi eu hatgyweirio mewn mannau â physt a gwifren. Ceir ychydig o goed ynn, deri, cyll a bedw arian uchel yn y gwrychoedd hefyd. Mae rhai cloddiau caeau a linsiedi a gwrychoedd wedi tyfu allan ar y tir mwyaf llethr. Cyfunwyd rhai caeau, gan adael olion hen linsiedi. Weithiau, lle mae digon o gerrig i'w cael, ceir waliau cerrig sychion, mewn cyflwr adfeiliedig, o gwmpas y caeau, buarth y ffermydd a'r gerddi. Ceir ambell bostyn giât o garreg Ardaloedd coediog ar hyd dyffrynnoedd llethr afonydd a choedlannau bychain naturiol o dderi ar y llethrau isaf a brigiadau o greigiau a phlanhigfeydd conifferaidd modern o bryd i'w gilydd. Ystyrir Coed Plas-y-nant a Choed Rhiwisg a Choed Ceunant fel naill ai coetir lled-naturiol neu goetir hynafol a ailblannwyd.

Rhennir yr ardal yn ddwy gan ddyffrynnoedd llethrog sy'n cludo'r briffordd rhwng Rhuthun a Wrecsam (A494), cyn ffordd dyrpeg , wedi ei thorri i ochr y bryn a'r ffordd fach o Ruthun i'r Wyddgrug sy'n dilyn gwaelod Moel Fenlli, mewn ceuffordd a ragfuriwyd â cherrig yn rhannol. Ychydig o waliau cerrig siâl sych, o'r 18fed a'r 19eg ganrif mwy na thebyg, yn parhau ar ochr isaf ffordd dyrpeg Rhuthun i Wrecsam, wedi eu hailosod â cherrig diweddar a blociau concrid ar ochr yr allt. Ymhlith y llwybrau troed mae llwybr Clawdd Offa, sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de, ynghyd â nifer o lwybrau troed sy'n mynd o ddwyrain i orllewin bryniau Clwyd.

Mae nifer o chwareli pen-bryn bychain nas gwyddys eu dyddiad yn dod o fewn yr ardal cymeriad.

Ffynonellau

Berry 1994
Hubbard 1986
Richards 1969
Walker & Richardson 1989

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.