CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Hirwean, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych
(HLCA 1049)


Photo not available

Ffermydd ar ymyl y rhostir ac ar dir is mewn tirlun o gaeau petryalog bychain wedi eu gosod allan ar hyd y gyfuchlin.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal ar ochr ogleddol plwyf eglwysig canoloesol Llanbedr Dyffryn Clwyd ac roedd o fewn cwmwd hynafol Dogfeilyn yng nghwmwd Dyffryn Clwyd. Gynt roedd rhan o'r ardal wedi ei gorchuddio gan ardal o goetir neilltuedig canoloesol Hirwin, nas gwyddys ei faint.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Yn gorwedd ar lethrau gorllewinol isaf bryniau Clwyd, yn rhedeg i lawr o ymyl y rhostir, ar uchder o tua 250m uwch lefel y môr i oddeutu 75m, â rhan ddwyreiniol yr ardal yn ffurfio rhan o AHNE Bryniau Clwyd. Mae'r tir yn gogwyddo'n eithaf graddol o'r dwyrain i'r gorllewin, ond mae'n cael ei dorri gan nifer o geunentydd ag ochrau serth coediog y nentydd sy'n rhedeg o fryniau Clwyd.

Nid oes unrhyw arwyddion pendant bod anheddiad cnewyllol wedi bod o gwmpas yr eglwys ganoloesol gynt, Nodweddir yr anheddiad gwledig gan linell o ffermydd bychain agos at ei gilydd, o ddiwedd y canol oesoedd yn ôl pob tebyg, ar hyd y darddlin ar ochr ymyl y rhostir ar ochr ddwyreiniol yr ardal a llai o ffermydd mwy gwasgaredig ar yr iseldir, ynghyd â gwasgariad o dai 20fed canrif ar hyd ochr y ffordd gyhoeddus. Mae'r deunydd adeiladu traddodiadol ar gyfer yr adeiladau 18fed/19eg ganrif yn cynnwys cerrig a briciau, fel a welir ar ffermydd Teiran, Pen-y-waen a Llanbedr. Ymddengys bod pentrefan Hirwaen gyda bythynnod18fed/19eg ganrif, capel o ddiwedd y 19eg ganrif a nifer o dai 20fed ganrif yn anheddiad cnewyllol cymharol ddiweddar.

Caeau petryalog cymharol fychan, yn aml a'i hechelinau hir ar hyd y cyfuchliniau, wedi ei diffinio'n gyffredinol gan wrychoedd aeddfed , aml-rywogaeth a gynhelir yn dda, yn aml ag ychydig o gloddiau, ac eithin yn achos rhai. Mae'r patrwm rheolaidd o ffiniau caeau yn awgrymu nifer o gyn-ffiniau hynafol a gynrychiolir gan ffiniau mwy afreolaidd crwm. Mae celyn yn fwy cyffredin mewn rhai o'r gwrychoedd wrth y lonydd a'r ffyrdd, o ganlyniad i ddewis datblygu coed gwrychoedd efallai. Defnydd bugeiliol yn bennaf a wneir o'r tir bellach, er bod rhai cnydau porthi'n cael eu cynhyrchu. Mae linsiedi amlwg ar ochrau esgynnol y tir llethrog e.e. i fyny'r allt o Ben-y-wern, sy'n awgrymu bod aredig yn fwy cyffredin yn y gorffennol. Mae peth tystiolaeth o gau tir a llechfeddiannu tir comin yr ucheldir yn ddiweddar ger Bron-y felin, ar lethrau isaf Moel y Gaer. Ymddengys bod yr ardal fechan o goetir collddail yn y Chantry yn cynrychioli ardal o goetir lled-naturiol hynafol, a allai fod yn perthyn i goetir neilltuedig canoloesol Hirwin yn yr ardal hon. Mae'r ardal yn eithaf gwahanol i'r ardal cymeriad o gaeau mwy ar iseldir y gorllewin a llain-gaeau'r ardal cymeriad i'r gogledd. Pyst cerrig i rai giatiau ar ochr y ffyrdd.

Tuedda'r llwybrau troed a'r lonydd fferm gadw at batrymau sylfaenol y caeau, yn wahanol i'r ffyrdd cyhoeddus sy'n torri ar eu traws wrth fynd i fyny i Hirwaen. Ar y tir mwyaf llethrog mae'r lonydd fferm yn creu ceuffyrdd dyfnion, gan dorri mewn i'r bryniau rhwng y caeau.

Awgryma enw Bron-y-felin ar Nan-y-ne, sef un o'r nentydd sy'n rhedeg oddi ar ochr orllewinol bryniau Clwyd, bod felin yno gynt.

Gadawyd adfail yr eglwys ganoloesol drws nesaf i Neuadd Llanbedr, a gofnodwyd gyntaf yn 1254, pan adeiladwyd yr eglwys Fictoraidd ym mhentref presennol Llanbedr Dyffryn Clwyd. Codwyd y capel Sion Wesleaidd yn Hirwaen yn 1870.

Roedd parcdir o gwmpas Plas Llanbedr, gyda hen goed deri, wedi ei ddiffinio'n rhannol ar yr ochrau gogleddol a gogledd-orllewin gan nant. Mae rhai o dderi'r parc wedi dioddef o ganlyniad i wynt yn y blynyddoedd diweddar. Ailadeiladwyd y plasty, sydd â giât a phorthordy ar y briffordd i'r gorllewin, ar ddiwedd y 19eg ganrif o friciau melyn..

Ffynonellau

Berry 1994
Hubbard 1986
Silvester 1995
Walker & Richardson 1989

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.