CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Esgairlygain, Llangynhafal, Sir Ddinbych
(HLCA 1050)


813.08

Tirwedd neilltuol o lain-gaeau hirfain yn rhedeg ar i lawr o'r ffermydd gwasgaredig sydd ychydig is nag ymyl y rhostir.

Cefndir hanesyddol

Ardal ar hyd ymyl ddeheuol plwyf eglwysig hynafol Llangynhafal yn bennaf. Cynrychiolir y dystiolaeth gynharaf o weithgaredd yn yr ardal gan ôl cnwd o grug crwn o'r Oes Efydd, yn ôl pob tebyg, ger fferm Tyn-y-coed.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Goledda'r tir o ymyl y rhostir yn y dwyrain, ar uchder o tua 215m uwch lefel y môr, lawr i oddeutu 65m uwch lefel y môr, ychydig uwch na llawr y dyffryn yn y gorllewin, gydag ochr ddwyreiniol yr ardal yn ffurfio rhan o AHNE Bryniau Clwyd.

Yr adeilad cynharaf sydd wedi goroesi yw ty Esgairlygain, sef ty ffrâm bren, ynghanol caeau, o ddiwedd y 16eg/dechrau'r 17eg ganrif. Fel arall, nodweddir yr anheddiad gan ffermdai bychain o gerrig a briciau wedi eu rendro o ddechrau'r 19eg ganrif ar ochr y ffordd gyhoeddus rhwng Llangynhafal i Hirwaun a ffermdai 18fed a 19eg ganrif neu'n gynharach ychydig yn is nag ymyl y rhostir â lonydd hir yn mynd atynt, megis Tyn-y-celyn a Bryn Tirion. Ffermdy mawr wedi ei rendro a thai allan o gerrig â tho llechi yw Wern-fawr. Mae Bryn-bedw wedi ei rendro yn yr un modd ac mae iddo dai allan o friciau a cherrig. Ceir ysgubor o'r 17eg ganrif efallai ac iddi ffrâm bren wedi ei mewnlenwi â briciau a phileri o friciau, ynghyd ag ysgubor o gerrig, plasty o ddechrau i ganol y 18fed ganrif yw'r ty ei hun gyda styco o ddechrau'r ?19eg ganrif. Mae cyn-standiau caniau llaeth wrth fynedfa rhai o'r ffermydd.

Mae i'r caeau batrwm pendant o leiniau, tonnog , cyfochrog, tua 25-150m o led yn gyffredinol, wedi eu gosod ar ongl sgwâr gyda chyfuchliniau'r bryn, yn enwedig ar y tir isaf, bellach mae rhai o'r rhain wedi eu cyfuno'n gaeau mwy. Ffinir y caeau â hen wrychoedd o ynn, deri, celyn a draenen wen gyda choed gwasgaredig a rhai waliau cerrig sychion ger mynedfeydd y ffermydd a wal gerrig sychion yn dangos maint y rhostir uwchben rhai o'r ffermydd, megis yn Tyddyn Norbury. Mae wal cerrig sychion gyffelyb tu ôl i Fryn-bedw ac mae ffiniau o gerrig sychion ym mhen uchaf rhai o'r llain-gaeau tu ôl i Star Farm. Mae peth amrywiaeth ym mhatrwm caeau'r ffermydd yng nghyffiniau'r rhostir ar ochr ddwyreiniol yr ardal cymeriad lle ceir nifer o gaeau llai o gwmpas y ffermdai neu mae rhai eraill ar hyd y cyfuchliniau. Ffurfiwyd linsiedi weithiau ar rai o'r llethrau. Hyd yn hyn, ni phenderfynwyd ar ddyddiad y llain-gaeau: gwyddys am batrymau caeau canoloesol tebyg yn ardal East Anglia, mae'r cysylltiad yma gyda'r ty hanner coediog yn Esgairlygain yn awgrymu ei fod yn dyddio o ddiwedd yr 16eg/dechrau'r 17eg ganrif o leiaf, a naill ai'n cynrychioli ffurf benodol o gae agored caeëdig neu dir comin caeëdig. Gellir gweld ardal lai o lain-gaeau tebyg i'r dwyrain o Ffordd-las yn ardal cymeriad Llandyrnog i'r gogledd.

Mae ffyrdd a lonydd fferm, a ffurfiodd geuffyrdd nodweddiadol, yn tueddu i redeg yn gyfochrog â neu ar ongl sgwâr gyda phatrwm y cae.

Ardal fach o hen barcdir o gwmpas Plas Draw.

Ffynonellau

Hubbard 1986

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.