CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Lleweni, Denbigh, Sir Ddinbych
(HLCA 1052)


812.0

Iseldir o gaeau gwastad, mawr afreolaidd, plastai mawr a ffermydd stadau gwasgaredig, ardaloedd o barcdir, pontydd cerrig ar y prif fannau croesi, gyda thystiolaeth o weithgaredd cynhanesyddol a dechrau'r canol oesoedd.

Cefndir hanesyddol

Daw ar gyrion ddwyreiniol plwyfi eglwysig canoloesol Henllan a Llanfarchell a rhan o begwn gogleddol plwyf Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch. Yn weinyddol roedd yr ardal yn dod o fewn cymydau Is Aled a Cheinmeirch, rhan o gantref hynafol Rhufoniog. Yn ystod y cyfnod rhewlifol diweddar gorchuddiwyd yr ardal gyda gweddillion llyn rhewlifol, sef 'Llyn Clwyd' a ffurfiwyd wrth gronni dwr tu l i farianau ar draws y dyffryn. Dangosodd tyllau turio bod hyd at 10m o lifwaddodion siltiog, graean mn a dyddodion organig yn rhan ganol y dyffryn yn y fan hon ac awgryma hyn bod hanes diweddarach y llyn yn cael ei nodweddu gan gyflwr corsiog a fflachlifo. Ni wyddys i sicrwydd pa bryd y sychodd y llyn, ond mae'n bosibl bod y dystiolaeth o weithgaredd Mesolithig a ddarganfuwyd yn ystod cloddio yn Nhandderwen, ychydig i'r dwyrain o Fferm Kilford, yn cynrychioli gweithgaredd tymhorol ar ymylon cors yn ystod cyfnod diweddar mewnlenwi'r llyn oddeutu'r 5ed milflwydd CC. Dynodir gweithgaredd cyfnodau cynhanesyddol hwyr a hanesyddol cynnar gan fynwentydd o ddechrau'r Oes Efydd gynnar a dechrau'r oesoedd canol yn Nhandderwen. Nodwyd y safleoedd hyn am y tro cyntaf gan awyrluniau, a hyd yma ni chafwyd unrhyw dystiolaeth uniongyrchol o anheddiad nac o ddefnydd y tir yn ystod y cyfnodau hyn yn yr ardal. Dangosodd y gwaith cloddio bod y safleoedd hyn yn agored iawn i erydiad trwy aredig dwfn a thorri cletiroedd (Brasil et al.1991)

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Dolydd gwastad, isel, dan ddwr ac wedi gorlifo'n dymhorol ar orlifdir gorllewinol Afon Clwyd ac ar gymerau Afon Clwyd ac Afon Ystrad, i'r gorllewin o Ddinbych, rhwng oddeutu 25-40m uwch lefel y mr. Dyfrgyrsiau cloddiog i rwystro gorlifiant.

Mae'r anheddiad wedi ei gyfyngu i Leweni Hall a Fferm Kilford a'u hystadau cysylltiedig yn gyfan gwbl bron. Roedd Lleweni Hall, sedd teulu Salusbury unwaith, yn blasty canoloesol diweddar pwysig gyda tho trawst gordd, a ehangwyd yn ystod y 17eg a'r 18fed ganrif, ond bu bron iddo gael ei ddymchwel yn 1816-18, er bod rhannau o'r plas o friciau o ddiwedd y 18fed ganrif wedi goroesi. Mae tai allan adfeiliedig pwysig o friciau yn Fferm Lleweni, gan gynnwys ysgubor wair 18fed ganrif a stablau a chwrt cerbyd mawr a gwych. Rhydd sarnau wedi eu hymylu gwrychoedd aml-rywogaeth fynediad i'r fferm a'r neuadd o Kilford yn y de a sarnau a phont gerrig fechan ar draws Afon Clwyd o'r dwyrain. Ffermdy 19fed ganrif o friciau a thai allan o gerrig a briciau ar Fferm Kilford. Mae tri o drawstiau gordd sydd wedi eu hailddefnyddio yn un o'r ysguboriau.

Yn ei ddisgrifiad o Leweni, tua diwedd y 18fed ganrif, a oedd yr adeg honno yn eiddo i sefydlwr y gwaith cannu cywrain (gweler Aberchwiler) Syr Thomas Fitzmaurice, dywedodd Thomas Pennant:

Lleweni, notwithstanding it lies on a flat, has most pleasing views of the mountains on each side of the vale: the town and castle of Denbigh form most capital objects, as a distance of two miles: and the nearer environs of the place animate the country by the commercial spirit of their active master (Pennant 1793).

Dolydd mawrion afreolaidd a rhai cnydau porthi gyda gwrychoedd aeddfed, aml-rywogaeth, trwchus yn gyffredinol, yn cynnwys y ddraenen wen, ynn, gwern, masarn a chyll gyda gwern, a phoplys talach gwasgaredig gyda pheth plygu gwrychoedd traddodiadol a rhai o'r caeau mwyaf wedi eu hisrannu gan byst a gwifren. Rhai caeau wedi'u ffinio gan ffosydd a deiciau draenio. Nifer o rwydweithiau draeniau agored yn croesi'r caeau isaf sydd heb ddraeniad da. Coed bedw, helyg a phoplys tal wedi eu gwasgaru ar hyd y dyfrgwrs.

Wal friciau adfeiliedig 18fed ganrif? ar hyd y ffordd dyrpeg ar hyd ffin ogleddol yr ardal cymeriad. Coedlannau conifferaidd a chollddail bychain gwasgaredig gydag ardaloedd mwy o goed collddail a adweinir fel Coed Mawr i'r gorllewin o Neuadd Lleweni Hall, ystyrir yn rhannol fel coedlan lled-naturiol hynafol a choedlan hynafol ailblanedig. Ardal nodweddion parcdir o gwmpas Lleweni Hall ac i'r gogledd o Fferm Kilford gyda rhai hen goed deri a ffawydd gwasgaredig, gyda wal ar ran ohoni. Llain lanio awyrennau ddiweddar ar draws ochr ogleddol yr ardal.

Mae nifer o lwybrau pwysig yn croesi'r ardal. Rhed y ffordd rhwng Dinbych a Bodfari ar hyd ochr ogleddol yr ardal, gyda phontydd dros afonydd Clwyd a Nant Lleweni ym Mhontruffydd a Phont Ffriddmor. Mae ffordd Dinbych i Landyrnog yn croesi'r rhan ddeheuol gyda phontydd diwedd y 19eg ac 20fed ganrif ar draws Afon Ystrad ac Afon Clwyd ym Mhont Parc-canol a Phont Glan-y-wern.

Ffynonellau

Brassil et al. 1991
Hubbard 1986
Richards 1969

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.