CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Coed Draw, Aberwheeler, Sir Ddinbych
(HLCA 1055)


812.19

Ffermydd gwasgaredig llai ar ochr y bryniau, caeau bychain i ganolig afreolaidd o ddarnau o goedlannau wedi eu clirio gyda pheth coetir yn parhau.

Cefndir hanesyddol

Rhan o blwyf eglwysig canoloesol Bodfari ac yn dod o fewn rhan uchaf cwmwd Dogfeilyn yng nghwmwd hynafol Dyffryn Clwyd.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Llethrau serth canol Moel y Parc, rhan o fryniau Clwyd, yn edrych dros ddyffryn Aberchwiler, rhwng oddeutu 50-250m uwch lefel y môr. Mae rhan fwyaf o'r ardal yn dod o fewn AHNE Bryniau Clwyd.

Ffermydd bychain, bythynnod a thyddynnod gwasgaredig ar neu ychydig yn is na'r darddlin, ar hyd ffin y rhostir. Adeiladwyd yr adeiladau cynharaf o lech-feini lleol, fel yn achos ffermdai gwyngalchog Moel Parc a Thy-newydd. Mae'n bosib bod ffermdy cerrig 17eg ganrif Ty-draw wedi ei ailosod gan ffermdy 18fed ganrif a thai allan.

Caeau bychain i ganolig, yn afreolaidd eu siâp, o ffiniau porfeydd yr iseldir fyny hyd at ymyl y rhostir, bellach yn dir pori sydd wedi ei wella neu wedi ei wella'n rhannol.Gwasgariad o goed mwy a llecynnau bychain o goed collddail a chonifferaidd ar y llethrau mwyaf gan gynnwys Coed Draw a Coed Ty-canol. Ystyrir Coed Hendre-faenol, sef llain fechan o goetir yn y gogledd-ddwyrain fel coetir hynafol a ailblannwyd (Walker a Richardson 1989). Yn gyffredinol mae gwrychoedd wedi tyfu allan yn ffinio'r caeau, dynodir rhai gan linellau o dderi ac ynn talach, dangosir rhai ffiniau â chloddiau isel ar y tir uchel ac â linsiedi ar y tir ychydig yn is a aradwyd yn y gorffennol. Mae rhai caeau a adawyd, a ddangosir gan hen gloddiau caeau ac wedi eu gorchuddio â rhedyn ac eithin ar yr ymylon uchaf ar ochrau gogledd-orllewinol Moel y Parc. Yn cynrychioli llechfeddiant tameidiog o'r cyn-ardaloedd coediog yn ystod cyfnod diwedd y canol oesoedd ac wedi'r canoloesodd mwy na thebyg. - Thomas Pennant (Pennant 1783, 27) yn cyfeirio at 'the lofty mountain Moel y Parc, skirted with trees, contrasting itself to the softer part of the scenery'. Cofnodwyd boncyffion gwenyn o'r 18fed/19eg-ganrif ar gyfer cadw 12 cwch ger Aberchwiler.

Lonydd troellog yn rhedeg naill ai ar hyd y cyfuchliniau neu i fyny'n serth, ar draws y gyfuchlin, i gyrraedd ffermydd, tyddynnod a bythynnod anghysbell. Yn gyffredinol, lonydd yn rhedeg mewn ceuffyrdd, rhai wedi eu rhagfurio â cherrig.

Ffynonellau

Pennant 1783
Richards 1969
Walker & Linnard 1990
Walker & Richardson 1989

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.