CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Glan Clwyd, Aberwheeler a Llandyrnog, Sir Ddinbych
(HLCA 1056)


812.07

Ffermydd gwasgaredig o faint canolig mewn tirwedd o gaeau petryalog a llain-gaeau o faint canolig.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad o fewn plwyfi eglwysig canoloesol Bodfari a Llandyrnog ac yn rhan o gwmwd Dogfeilyn yng nghantref hynafol Dyffryn Clwyd.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Yn codi'n raddol ac yn gymharol gyson o iseldir â draeniad gwael ar lannau afon Clwyd, ar uchder oddeutu 25m uwch lefel y môr i dir â gwell draeniad ar lethrau gorllewinol isaf bryniau Clwyd, ar uchder o oddeutu 110m uwch lefel y môr.

Ffermydd gwasgaredig, canolig eu maint, wedi eu lleoli yn eu caeau eu hunain yw'r prif anheddiad er bod ychydig o anheddu cyfoes ar fin y ffordd ar gilffordd Cil Llwyn. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau fferm yn gymharol ddiweddar, gan gynnwys y ty fferm 18fed ganrif, ar fin y ffordd, sydd wedi ei rendro gyda cherrig nadd a'r tai allan addasedig o friciau (1752 ar un ohonynt) a waliau o gerrig ar ochr y ffordd yn Dhi Coch Ganol (Dre Gôch Ganol), y bythynnod 18fed ganrif yng Nglan Clwyd Isa, y ffermdai 18fed ganrif wedi eu rendro a thai allan 19eg ganrif o friciau yng Nglan Clwyd Ganol a Glan Clwyd Bella, ffermdai a thai allan 19eg ganrif o friciau ym Maes-siêd, Cil Llwyn, a ffermdai dechrau'r 20fed ganrif o friciau yng Nghlwyd Grange gyda thai allan o friciau 19eg ganrif a darnau o gerrig cynharach.

Mae'r ardal yn debyg i ardal cymeriad Llandyrnog i'r de, ond wedi ei gwahanu oddi wrthi gan dirwedd parcdir Plas Ashpool. Caeau petryalog o faint canolig a rhai ardaloedd â llain-gaeau yn rhedeg lan a lawr neu ar hyd y cyfuchliniau mewn perthynas â'r rhwydwaith o ffyrdd a lonydd. Cyfunwyd rhai caeau'n ddiweddar. Plannwyd rhai gwrychoedd newydd. Mwy o ffiniau afreolaidd mewn tir â llai o ddraeniad ar ochr orllewinol yr ardal, yn awgrymu draenio ac amgáu dolydd fesul tipyn ar yr iseldir. Nodir terfynau'r caeau gyda gwrychoedd o ddraenen wen wedi eu torri'n isel, mae rhai ohonynt yn hen a thrwchus ac eraill yn gymharol denau a ffensys pyst a gwifren wedi eu cynnwys ynddynt. Mae rhai o ffiniau'r caeau ar gloddiau isel a rhai ar dir llethrog sy'n gysylltiedig â linsiedi. Chwalwyd rhai o'r ffiniau mewn mannau ond gellir eu hadnabod fel cloddiau isel neu linsiedi. Coed deri ac ynn mawr wedi eu gwasgaru ar hyd ffiniau'r caeau. Meini rhewlifol crwn mawr gwasgaredig, ar ffiniau'r caeau'n gyffredinol, gan gynnwys un 2.5m ar draws yn agos i Dy'r Aer. Llynnoedd gwasgaredig mewn caeau ar dir uchel, eu dyddiad a'u diben yn amhenodol, ond i ddiben amaethyddol mwy na thebyg. Ambell bostyn giât o gerrig i gaeau ar ffyrdd cyhoeddus. Bellach defnyddir y tir ar gyfer ei bori yn bennaf ac i dyfu ychydig o gnwd porthi.

Mae cwrs y ffyrdd cyhoeddus yn gymharol syth mewn ceuffyrdd bychain ar hyd y cyfuchliniau, rhwng y caeau, tra bod llwybrau'r ffermydd yn tueddu i redeg fyny a lawr y cyfuchliniau, rhwng y caeau yn yr un modd. Mae llawer o gelyn yn y gwrychoedd ar ochr rhai o'r cilffyrdd

Awgryma enwau caeau Erw'r Capel a Cae Capel ger Ysgubor-ddegwm leoliad capel nad yw yno bellach, capel canoloesol a adwaenid fel Capel Hwlkyn o bosibl, y cyfeiriwyd ato gan Edward Llwyd. Mae enw Ysgubor-ddegwm ei hun yn awgrymu mai ysgubor ddegwm ym mhlwyf Bodfari ydoedd. Saif yn agos i safle tybiedig capel canoloesol

Ffynonellau

Richards 1969

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.