CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Plas Ashpool, Llandyrnog, Sir Ddinbych
(HLCA 1057)


Photo not available

Parcdir a thir ‚ nodweddion parcdir a ffermydd mawr gwasgaredig a thai mawr

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad oddeutu cornel gogledd-orllewinol plwyf eglwysig hynafol Llandyrnog ac yn rhan o gwmwd Dogfeilyn o fewn cantref hynafol Dyffryn Clwyd. Yn ystod y cyfnod canoloesol ymddengys bod rhan ogleddol yr ardal ger Cae'r Fedwen (Birch Field) yn ardal o goetir neilltuedig a elwid yn Coruedwen.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Tir yn codi'n raddol rhwng oddeutu 30-110m uwch lefel y mŰr sy'n cychwyn yn agos i lannau dwyreiniol afon Clwyd hyd at droed llethrau gorllewinol bryniau Clwyd

Mwy na thebyg mai'r adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi o fewn yr ardal cymeriad yw'r ysgubor nenffyrch 16eg ganrif ym Mhlas Ashpool, wedi ei gorchuddio ‚ briciau yn ystod diwedd y 17eg a dechrau'r 18fed ganrif. Adeiladwyd y ty a'r adeiladau eraill sydd ar Űl o friciau 18fed ganrif ar seiliau cerrig, gyda pheth cerrig nadd, mae'rty yn rhan o'r fferm. Mae'r ty mawr yng Nglan-y-wern a Phentre Mawr yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif. Ty cerrig nadd yw Glan y wern ac mae Pentre Mawr wedi ei rendro ‚ cherrig addurniadol. Lleolir Pentre Mawr yn gyfagos i amrediad gwych o dai allan o friciau 19eg ganrif ond lleolir y fferm yng Nglan-y-wern oddeutu 300m i'r de o'r fferm ei hun. Mae gan Cae'r Fedwen hefyd amrediad gwych o dai allan 18fed a 19eg ganrif o friciau. Gwyddys bod boncyffion gwenyn i gadw cychod gwenyn ym Mhlas Ashpool.

Ffurfir yr ardal cymeriad gan gyfuniad llac o barcdir, tir ‚ nodweddion parcdir, coetir a gerddi sy'n gysylltiedig ‚ phedwar eiddo Plas Ashpool, Pentre-mawr, Plas Glan-y-wern, a Phlas Ffordd-ddwr, gan ffurfio band sydd tua 3km o hyd a hyd at 1km o led ar draws ochr ddwyreiniol y dyffryn. Nodweddir y tirwedd gan ardaloedd eang caeŽdig o dir pori gyda hen goed deri gwasgaredig gyda rhai mannau bychain o goetir collddail, ‚ llynnoedd mawrion addurniadol ar dir Glan-y-wern. Nodweddir y ffiniau ar ochr y ffordd gan hen wrychoedd drain gyda ffensys pyst a gwifren yn ffurfio is-rannau o fewn y lle caeŽdig mwyaf

Ffynonellau

Berry 1994
Hubbard 1986
Richards 1969

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch ‚ gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.