CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Penpalmant, Dinbych a Threfnant, Sir Ddinbych
(HLCA 1060)


CPAT PHOTO 811.22A

Ffermydd gwasgaredig ar ochr ffordd dyrpeg mewn tirwedd o gaeau o faint canolig â gwrychoedd iddynt gyda choed deri mawr hwnt ac yma, llynnoedd a pheth grwn a rhych, rheilffordd nas defnyddir bellach wedi ei harosod

Cefndir Hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad yn rhan o blwyf eglwysig canoloesol Henllan, i'r gogledd o dref Dinbych. Mae ar ymyl ddwyreiniol cwmwd canoloesol Is Aled yng nghantref hynafol Rhufoniog..

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Tir cymharol wastad â draeniad da uwchben llawr y dyffryn, rhwng 25-55m uwch lefel y môr, yn rhedeg lawr i lannau Afon Clwyd i'r dwyrain o Fferm Pontruffydd.

Ffermydd gwasgaredig ôl-ganoloesol gydag oddeutu 800m rhyngddynt wedi eu lleoli'n nodweddiadol gydag ochr y ffordd dyrpeg rhwng Dinbych a Bodfari, gydag amrediad da o dai allan 18fed ganrif o friciau ar Fferm Pontruffydd a Thy Mawr.

Tirwedd o gaeau afreolaidd, canolig eu maint, at ddefnydd pori yn bennaf, gyda chloddiau caeau isel a gwrychoedd o ddraenen wen, wedi eu torri'n isel yn gyffredinol, rhai wedi eu plygu yn y gorffennol. Nifer helaeth o hen goed deri gwasgaredig, dengys llinell y coed mewn rhai caeau ffiniau'r caeau gynt. Rhai mannau grwn a rhych nas gwyddys eu dyddiad, fel yn achos nifer o gaeau cyfagos o gwmpas fferm Penpalmant. Llynnoedd bychain gwasgaredig, nas gwyddys eu tarddiad na'u dyddiad, mewn caeau neu ar hyd ffiniau caeau, rhai ohonynt wedi eu llenwi'n ddiweddar

Lleolir nifer o ffermydd, fel Penpalmant, ger y ffordd dyrpeg rhwng Dinbych a Bodfari - credir bod Fferm Penpalmant wedi ei henwi ar ôl y ffordd ag wyneb iddi i'r gogledd o Ddinbych. Yn yr un modd, enwyd Fferm Pontruffydd, i'r gogledd-ddwyrain, ar ôl y bont bwysig sy'n croesi Afon Clwyd i'r gogledd o Leweni. Mae pont ffordd garreg arall ym Mhont Ffriddmor, ar draws Nant Lleweni rhwng Penpalmant a Phontruffydd. Nodir ochrau gogleddol a gorllewinol yr ardal cymeriad gan arglawdd a hafnau ar gyfer Rheilffordd Cyffordd Wyddgrug a Dinbych, a oedd ar agor rhwng 1869-1968 (Baughan 1991, 76-9), gydag ategion cerrig i bont yn parhau i'r de o fferm Ty-mawr a phontydd cerrig gwych ar draws Afon Clwyd i'r dwyrain o Fferm Pontruffydd.Bellach mae'r arglawdd rheilffordd uchel i'r gogledd o fferm Pontruffydd yn goedlan gollddail

Ffynhonnell

Baughan 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.