CPAT logo
Cymraeg / English
Adref
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd


TIRWEDDAU AMAETHYDDOL

Un o brif nodweddion Dyffryn Clwyd yw ansawdd ei ffermdir ac, oherwydd y nodwedd honno, maer tir wedii ffermio ers yr 16eg ganrif o leiaf. Mae tirweddau amaethyddol presennol y dyffryn yn ganlyniad i weithgaredd dynol parhaus ers y cyfnod cynharaf - torri coetir brodorol, amaethu a chlirio cerrig, draenior tir mwyaf gwlyb ac amgur tir gyda chloddiau, gwrychoedd a waliau - gweithgaredd a wnaed gydar bwriad o fanteisio ar yr amrywiaeth eang o adnoddau syn ymestyn o gopar bryn at lawr y dyffryn - y dolydd ar yr iseldir mwyaf gwlyb, y borfa ar tir r ar y tir uchel ychydig yn nes at lawr y dyffryn, ar rhostir ar gopur bryniau a borir yn yr haf.

Heb os nac oni bai roedd cymeriad hanfodol y dirwedd fodern wedi ei ffurfio erbyn diwedd y 18fed ganrif, os nad cyn hynny, a gellir ei adnabod yn glir yn nisgrifiad Syr Richard Colt Hoare ar ddechraur 19eg ganrif.

Credir mai hwn ywr dyffryn gwychaf yn y dywysogaeth; drwy wychder golygir cyfoeth y pridd ai ffrwythlondebYn gyffredinol maer tir yn cael ei amaethu mor uchel ag y mae ochraur mynyddoedd yn caniatu; maer wlad yn llawn cartrefi bonheddig, pentrefi ac ati ac maer cyfan yn goediog iawn.

Colt Hoare, 6 Mehefin 1801

Gellir gwerthfawrogir prosesau cyffredinol a ffurfiodd y dirwedd hon, hyd yn oed os oes angen gwaith pellach er mwyn darparu hanes manwl tirwedd y dyffryn ac er mwyn olrhain gwreiddiau ffermydd unigol neu systemau caeau arbennig. Mae natur cynnyrch amaethyddol wedi newid yn sylweddol dros amser, a byddai hynny ei hun wedi effeithio ar ymddangosiad cefn gwlad. Daeth cynhyrchu gwln yn bwysig yn ystod y cyfnod canoloesol, a datblygodd Rhuthun yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu brethyn gydai hurddau ei hun o banwyr a gwehyddion. Yn y 18fed ganrif daeth y dyffryn yn adnabyddus am gynhyrchu grawn a gludwyd i ranbarthau eraill. Daeth cig eidion a chynnyrch llaeth yn bwysig yn ystod y 19eg ganrif, ac ar hyn o bryd y defnydd amlycaf a wneir or tir yw ar gyfer porfa a chnydau porthi, a pheth ŷd.

Maen amlwg fod ardaloedd sylweddol o goetir yn dal i fodoli yn y dyffryn yn ystod y cyfnod canoloesol, ac mae cofnod o goedwigoedd a choetir a neilltuwyd ym mherchenogaeth arglwyddiaeth Rhuthun yn ardal Caer Fedwen, ir gogledd o Landdyrnog, ger Hirwaun, Coed Marchan ir de o Ruthun, ac Eyarth yn nhrefgordd Llysfasi. Cofnodwyd celli yng Ngellifor a rhwng Rhydonnen a Llanychan, ir dwyrain o Lanynys. Byddai ardaloedd eraill o goetir comin hefyd ar gael a byddai'r coetir yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell deunyddiau adeiladu a thanwydd yn ogystal ag at amrywiaeth eang o ddibenion eraill. Yn raddol byddai ardaloedd o goetir cynhenid wedi dirywio yn unol r galw cynyddol am bren a ffermdir ychwanegol, ac maen debyg fod y stribedi nodedig o goetir a ffermdir yn rhan ddeheuol Eyarth yn arwydd or broses asartio.

Dim ond cyfran fach or coetir hynafol yn y dyffryn sydd wedi goroesi hyd heddiw, er bod sawl ardal hynafol neu gymharol naturiol o goetir yn dal i oroesi ar y tir mwyaf serth, yn arbennig ar ochrau bryniau deheuol a gorllewinol y dyffryn, ir de o Ruthun, yn nyffrynnoedd Chwiler a Chlywedog. Yn ddi‑os mae gweddillion llai eraill o goetir hynafol wedi goroesi fel llinellau o goed ar hyd nifer o ddyffrynnoedd afonydd ac mewn nifer o berthi mwy hynafol yn y dyffryn. Cymharol brin ywr coetir modern a blannwyd yn y dyffryn, ac fei cyfyngwyd yn bennaf i sawl ardal fach o gonifferau ar ochr ddwyreiniol bryniau Clwyd, ir de o Lanbedr ac yn y dyffryn ir dwyrain o Langwyfan, gyda nifer o blanhigion collddail bach ar dir mwy gwlyb ir dwyrain o Lanrhaeadr ac ir de o Leweni.

Prin ywr hyn syn hysbys hyd yma ynghylch y dulliau o ffermio yn y dyffryn yn ystod y cyfnodau cynhanesyddol diweddar ar cyfnod Rhufeinig, er ei fod yn amlwg ir systemau canoloesol cynnar o ddefnyddio tir ddatblygu yn unol r system Gymreig o dirddaliadaeth, ller oedd nifer o gartrefi rhydd neu glwm, o bosibl gydau gerddi neu badogau eu hun, a gasglwyd yn grŵp o amgylch un ardal fach neu fwy o gaeau r agored, wedi'u rhannu'n stribedi amaethu ym meddiant perchenogion gwahanol. Byddair grwpiau llwythol hyn, wediu hamgylchynu gan ardaloedd o ddolydd comin, yn sylfaen i'r trefgorddau canoloesol y rhannwyd yr unedau gweinyddol iddynt, ac yn y pendraw cysylltid eglwys wrthynt a byddent yn datblygun ganolbwynt plwyf eglwysig.

Maer patrymau anheddiad ar defnydd tir canoloesol cynnar hyn bellach yn anodd iw hadnabod ar y dirwedd oherwydd y newidiadau diweddarach, er y gellir adnabod ardaloedd o gaeau r agored yn achlysurol o batrymau caeau nodedig neu dystiolaeth enwau lleoedd. Enghraifft amlwg o hyn oedd y ddau gae r mawr, a adwaenir fel Maes isaf a Maes uchaf, a rannwyd yn stribedi pherchenogion gwahanol neu leiniau a oroesodd ym mhentref Llanynys tan ddechraur 1970au - gydar enwau caeau yn dynodi caeau agored isaf ac uchaf. Byddair ffermdir yn llawer mwy agored, er y byddai ffensys terfyn neu wrychoedd wediu codi o amgylch y caeau r agored a dolydd comin a phorfa er mwyn rheolir anifeiliaid ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn. Wrth chwilio am dystiolaeth debyg o diroedd a gafodd eu haredig yn y canoloesoedd mewn mannau eraill yn Nyffryn Clwyd maen arwyddocaol nad oes unrhyw olion or lleiniau hyn yn ardal tirwedd hanesyddol Llanynys ar wahn ir ffiniau caeau o amgylch y ddau gae r mawr.

Yn ddi-os byddai amhariadau i'r patrwm hwn mewn ardaloedd penodol o ganlyniad i gyrch gan deyrnas Seisnig Mersia or 7fed ganrif OC ar goresgyniadau Eingl-Normanaidd ar ddiwedd yr 11eg ganrif ar 12fed ganrif. Maen siwr y byddair amhariadau mwyaf wedi digwydd o ganlyniad i greadigaeth arglwyddiaethau Dinbych a Rhuthun ar ddiwedd y 13eg ganrif, i greur plasau newydd yn Ninbych a Kilford, ac anheddiad mewnfudwyr Seisnig o fewn y cestyll-fwrdeistrefi newydd ac yng nghefn gwlad ou hamgylch. Rhoddwyd blociau cyfun o dir a atafaelwyd oddi wrth grwpiau o deuluoedd brodorol, a ail-leolwyd mewn mannau eraill, i deuluoedd Seisnig, gan sicrhau felly bod canolbwynt pob arglwyddiaeth yn cynnwys teuluoedd a oedd yn cyd-fynd r drefn newydd. Yn sicr byddai tir r o amgylch pob bwrdeistref yn cael ei drin gan bobl ag eiddo o fewn y dref, gyda lleoliad caeau trefi fwy na thebyg yn cael eu cynrychioli ar y patrwm caeau cosentrig yn ardal gymeriad Felin-ysguboriau ar ochr de-ddwyreiniol Rhuthun ac yn y patrwm caeau rheiddiol yn ardal gymeriad Meusydd-brwyn ir gogledd-ddwyrain o Ddinbych.

Erbyn dechraur 14eg ganrif roedd hyn wedi arwain at at greu nifer o ystadau mawr yn y Saesonaethau ar y tir mwy ffrwythlon yn y dyffryn ac oi amgylch gyda ffurfiau brodorol o dirddaliadaeth a defnydd tir yn gyffredinol yn cael eu cyfyngu i ardaloedd y Cymry o amgylch. Felly roedd ystadau mawr yng nghyffiniau Dinbych ym mherchenogaeth teuluoedd megis y Duckworths, y Salusburys, y Pigots ar Pontefracts, ac roedd y rheini o amgylch Rhuthun ym mherchenogaeth y Thelwalls, y Goodmans ar Alsbels, gydag enwr olaf yn cael ei gadw yn yr enw Plas Ashpool, ir gogledd o Landyrnog. Parhaodd nifer or teuluoedd hyn, megis y Salusburys o Leweni a Bachymbyd a Thelwalls o Blas-y-ward yn flaenllaw yn ystod cyfnod helaeth or 16eg ganrif ar 17eg ganrif.

Fel y nodir uchod, roedd y system lwythol Gymreig yn prysur ddiflannu yn ystod diwedd y 14eg ganrif, a rhwng yr 15fed-17eg ganrif bu cynnydd yn yr arfer o uno a chyfuno deiliadaethau tir a chreu ffermydd mewn perchenogaeth unigol neu ffermydd thenantiaid o fewn eu ffensys terfyn eu hunain, ynghyd chlwstwr o ddaliadau a thyddynnod, gan arwain at ddiflaniad graddol yr hen gaeau agored ac amgu gwair comin yn breifat er mwyn creu caeau mawr delfrydol i ddefaid bori ynddynt, ac i gynnal y diwydiant gwln lleol. Gwnaed gwelliannau tir sylweddol yn ystod ail hanner y 16eg ganrif, fel yn achos yr hen barc hela canoloesol blaenorol ym Mathafarn, a ddisgrifiwyd yn flaenorol wedi tyfun wyllt gyda choed a drain ac roedd ambell ddarn ohono yn gorstir fel na allai unrhyw wartheg bori arno dros y gaeaf heb fod mewn perygl o foddi. Yma, rhwng y 1550au ar 1590au y cofnodwyd bod y Thelwalls wedi

nid yn unig godi adeiladau au gwella ar y parc y sonnir amdanoond iddynt hefyd wneud newidiadau mawr i ffosydd a chwterir corstir hwn ac felly addasur coetir amhroffidiol a oedd gynt yn ddiffrwyth yn dir r a dolydd, ai rhannun barseli amrywiol drwy osod ffosydd a phlanhigion byw yn y parseli hynny.

Felly ymddengys fod tirwedd fodern hynod ardal gymeriad Bathafarn, yn cynnwys caeau hirsgwar cymharol fawr gyda gwrychoedd draenen wen a ffosydd draenio wediu gosod mewn patrwm cymharol reolaidd, yn dyddio o tua chanol yr 16eg ganrif. Mae patrwm tebyg hefyd yn amlwg yn ardal gymeriad Llanbedr Dyffryn Clwyd yn union ir gogledd. Hyd yma nid yw dyddiadau nifer o batrymau hynod caeau cynnar syn amlwg yn Nyffryn Clwyd wediu pennun derfynol ond ymddengys eu bod yn dyddio o bosibl o'r cyfnod rhwng yr 16eg ganrif a chanol y 18fed ganrif.

Ymddengys fod y grid nodweddiadol o gaeau bach a chanolig eu maint, ffyrdd, llwybrau troed a thrywyddau yn ardal gymeriad Llandyrnog wedii sefydlu ers cryn amser cyn y 18fed ganrif gan ei bod yn debyg ir patrwm caeau sylfaenol gael ei dorri ar letraws gan nifer o ffyrdd sy'n cysylltu aneddiadau diweddarach megis Hendrerwydd a Gellifor. Felly, maen debygol fod y patrwm caeau yn yr ardal hon yn cynrychioli cyfuniad or amgu darniog caeau agored canoloesol yn gysylltiedig nifer o ganolfannau canoloesol hŷn megis Llandyrnog, Llangwyfan, Llanychan a Llangynhafal, ynghyd ag amgu ardaloedd o borfa comin yn perthyn ir trefgorddau yn y plwyfi hyn a hynny mewn cyfnod cynnar.

Maen debyg fod patrymau nodweddiadol o gaeau stribed yn ardal gymeriad Llandyrnog ger Ffordd-las ac yn ardal gymeriad Esgairlygain yn cynrychioli amgu preifat cynnar, o bosibl yn y cyfnod rhwng dechraur 17eg ganrif a dechraur 18fed ganrif. Gwelwyd yn y 18fed ganrif yn arbennig gynnydd yn y gyfradd amgu ac mewn rhai enghreifftiau golygodd hynny isrannu caeau a oedd yn bodoli eisoes. Yn achlysurol roedd gwelliannau mewn dulliau ffermio megis datblygiad mewn bridio anifeiliaid dethol a chyflwyno hadaradrau a chwynnu mecanyddol yn cynyddu manteision caeau llai o faint. Weithiau roedd caeau mawr a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer pori defaid yn cael eu hisrannu'n gaeau r bach, ar l cyflwyno gwau cotwm yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Defnyddiwyd tir ychwanegol iw amaethu oherwydd y cynnydd ym mhrisiau gwenith ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Ymddengys fod patrymau nodweddiadol o gaeau bach afreolaidd o ran eu sip ar y llethrau ar dyffrynnoedd ar ochr orllewinol bryniau Clwyd, er enghraifft yn ardaloedd cymeriad Tyddyn Uchaf, Fron-gelyn, Rhiwbebyll a Choed Draw, yn cynrychioli clirio coetir darniog ac amgu porfa a wellwyd rhwng diwedd y cyfnod canoloesol diweddar ac l-ganoloesol cynnar, gydar amgu hwnnwn aml yn ymestyn at ffin benodol o amgylch ymyl rhostir cyfoes a hefyd yn aml yn ymestyn ar hyd y gyfuchlin 250m, ac yn cynrychiolir ehangu oddi wrth y canolfannau poblogaeth canoloesol, ac yn achlysurol yn cynnwys gorgyffyrddiadau i ymestyn i'r tiroedd comin uchel. Gellir adnabod y patrymau caeau o ganlyniad i hynny oddi wrth yr amgaeadau Seneddol yn gynnar yn y 19eg ganrif, a nodweddwyd gan y caeau hirsgwar mawr yn ardaloedd cymeriad Fron-heulog, Bryn-isaf, a Fron-dyffryn. Sefydlwyd yr holl batrymau caeau presennol yn yr ardaloedd cymeriad yn llawn erbyn canol y 19eg ganrif ac maent wedi parhaun gymharol sefydlog ers hynny, ar wahn i golli rhannau o ffiniau caeau.

Ffurfir y rhan fwyaf o ffiniau caeau yn Nyffryn Clwyd gan wrychoedd. Mae astudiaethau cychwynnol yn awgrymu bod ffurf a chynnwys rhywogaethol y gwrychoedd hyn fwy na thebyg yn cyfrannun sylweddol at hanes tirwedd y dyffryn, gan fod gwahaniaethau clir rhwng y gwrychoedd hŷn ac aeddfed sy'n cynnwys hyd at chwech neu saith rhywogaeth wahanol a gwrychoedd o un rhywogaeth syn perthyn i amgaeadau Seneddol dechraur 19eg ganrif, er enghraifft, ac sydd fel arfer yn un rhywogaeth, sef y ddraenen wen. Maer defnydd o blanhigion byw ar gyfer creu ffiniau newydd ym Mathafarn, fel y nodwyd uchod, rhwng tua 1550-90, yn dangos y gallai perthi o hyd at 400 mlwydd oed gynnwys un rhywogaeth. Gallair gwrychoedd rhywogaethau cymysg naill ai gynrychioli coetir creiriol, yn amgylchynu ardaloedd sydd bellach wediu clirio, ond gallent hefyd fod yn ganlyniad plannu bwriadol gwrychoedd rhywogaethau cymysg.

Maer cyfosod gwrychoedd cymysg a gwyrchoedd un rhywogaeth mewn rhai ardaloedd yn awgrymu bod angen ymchwilio ymhellach iddynt. Mae gwrychoedd celyn ar ochr y ffordd yn nodweddiadol o nifer o ardaloedd yn Nyffryn Clwyd, er enghraifft yn ardaloedd cymeriad Bachymbyd, Tyddyn Uchaf, Llanrhaeadr, Hirwaun ac Ystrad. Gallai hynny fod yn ganlyniad ecsbloetio detholedig gwahanol rhywogaethau o goed a phrysgwydd, ond gallai hefyd gynrychioli plannu bwriadol. Er enghraifft mae General view of the agriculture of the county of Shropshire gan Plymley yn 1803 yn awgrymu bod celyn yn ogystal r ddraenen wen ar ddraenen ddu yn blanhigion gwrychoedd addas.

Mae ffurf y gwrychoedd hefyd yn debygol o fod yn arwyddocaol. Mewn rhai mannau maer gwrychoedd yn afreolaidd a chrwydrol o ran eu sip. Gallai hyn, er enghraifft, gynrychioli tyfiant prysgwydd ar hyd ffiniau nad oeddent yn wrychoedd yn wreiddiol ond a lwyddodd yn ddiweddarach i ffurfio gwrychoedd. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd maer perthi naill ain ymddangos ar eu pennau eu hunain neu maent yn gysylltiedig llethrau caeau cymharol ddi-nod. Yr eithriadau i hyn ywr nifer o wrychoedd mewn ardaloedd mwy serth ac ymylol, megis Bachymbyd, Fron-dyffryn a Fron-gelyn, lle y ceir nifer o lethrau mwy, sydd weithiaun cynnwys clogfeini, a ymddengys fel pe baent wediu codi yn ystod y gwaith gwreiddiol o glirio a gwellar tir. Yn yr ardaloedd hyn ac mewn nifer o ardaloedd eraill gyda thir syn gogwyddon serth, yn arbennig ar ochraur dyffryn, mae gwrychoedd yn gorgyffwrdd balciau a grwyd o ganlyniad i erydiad pridd, gan ddangos fod maint y tir r eisioes yn sylweddol fwy nag ydyw heddiw.

Maer mwyafrif or gwrychoedd bellach wediu torrin isel gan beiriant, gan gynnwys cyfran syn dangos tystiolaeth iddynt gael eu gosod yn draddodiadol yn y gorffennol, ac maer gyfran o wrychoedd a osodwyd bellach yn fach iawn. Nid yw cyfran arwyddocaol o wrychoedd mewn rhai ardaloedd bellach yn cael eu tocion llawn, ac maent naill ai tyfun wyllt neu bellach yn cael eu cynrychioli gan linell ysbeidiol o goed neu brysgwydd. Pan yw hynny wedi digwydd ceir tuedd ir gwrychoedd ddiflannun gyfangwbl wrth i goed hŷn farw a phan nad oes coed newydd yn cael eu rhoi yn eu lle. Plannwyd nifer o wrychoedd newydd mewn rhai ardaloedd, yn gyffredinol fel rhan o gynlluniau cefn gwlad sydd wedi derbyn grant. Mewn rhai ardaloedd mae yn y gwrychoedd gyfran cymharol uchel o goed tal, aeddfed, sy'n rhoi naws parcdir ir dirwedd.

Yn anfynych iawn defnyddir waliau carreg sych ar gyfer ffiniau caeau yn Nyffryn Clwyd, wediu cyfyngun bennaf er enghraifft i ffiniau plwyfi echelinol ar hyd bryniau Clwyd, neu ar gyfer waliau iardiau fferm ac ar hyd mynedfeydd ar ochr ffyrdd at ffermydd ac mewn ambell fynedfa i gae, lle bo angen bariau cryf i rwystro anifeiliaid rhag crwydro.

Mae pyst gatiau, syn ymddangos naill ar ar wahn neu mewn parau, yn nodweddiadol o fynedfeydd i gaeau a ffermydd mewn nifer o ardaloedd cymeriad. Maent wediu gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau ac mewn steiliau gwahanol, ac maent yn dyddio or 18fed ganrif hyd at ddiwedd y 19eg ganrif fwy na thebyg. Mae eu ffurfiaun cynnwys pileri calchfaen, hirsgwar cymharol denau, slabiau gwastad o lechen gyda thopiau sgwr neu grwn, blociau hirsgwar enfawr, a phileri a siapiwyd yn ofalus gyda thopiau wediu naddu ac ochrau gerwin. Dim ond pyst gatiaur caeau ar hyd ffyrdd cyhoeddus y mae fel arfer iw gweld ond gellir eu gweld oddi ar ochraur ffyrdd mewn rhai ardaloedd o gyn barcdir neu mewn ardaloedd yn agos at gyn chwareli. Nodwedd fwy diweddar ir dirwedd amaethyddol yw stondinau llaeth modern nas defnyddir bellach ger nifer o fynedfeydd at ffermydd, a adeiladwyd o friciau, concrid, blociau concrid neu o bren.

Mae ffensys o byst a gwifrau syn cadw anifeiliaid yn ddiogel yn prysur ddatblygun fath ar ffin a ddefnyddir amlaf aml yn Nyffryn Clwyd, ac feu defnyddir naill ai ar eu pennau eu hunain neu yn ychwanegol at wrychoedd a waliau cerrig sych neu yn eu lle. Mewn rhai ardaloedd defnyddir ffensys o byst a gwifrau er mwyn isrannu caeau pori mawr yn nifer o badogau llai o faint.