CPAT logo
Cymraeg / English
Adref
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd


TIRWEDDAU ADDURNIADOL A PHICTIWRÉSG

Mae parcdir yn elfen weledol a ffisegol yn nhirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd. Ceir ardaloedd bach a chanolig eu maint o barcdir, ardaloedd a fu gynt yn barcdir neu ardaloedd â nodweddion parcdir wedi’u gwasgaru’n gymharol eang drwy’r dyffryn, gyda bylchau o rhwng 1-3km rhyngddynt. Mae yna un neu fwy o ardaloedd o barcdir yn y rhan fwyaf o ardaloedd cymeriad ac eithrio’r tiroedd mwy gwlyb ar hyd glannau’r prif afonydd a’r nentydd a’r ucheldir bryniog ar hyd Bryniau Clwyd a thuag at y copâu. Mae’r rhan fwyaf o’r parcdir o gymeriad cymharol syml. Mae fel arfer ar ffurf porfeydd gwastad sy’n goleddfu’n raddol, ac sydd wedi’u rhannu’n achlysurol yn nifer fach o gaeau mawr gyda ffensys o byst a gwifrau. Gwelir olion y gwaith tirlunio yn y coed collddail, mawr, gwasgaredig - yn gyffredinol coed derw, ffawydd, castanwydd neu leim gydag ambell blanhigfa ar gyfer sgrinio neu gysgodi.

Gellir canfod cyfanswm o dros 25 o dirweddau parcdir yn Nyffryn Clwyd, sy’n gysylltiedig yn bennaf â’r neuaddau a’r ffermydd mwyaf, y mae rhai ohonynt wedi’u haddasu’n ysgolion neu’n gartrefi gofal neu wedi eu rhannu’n fflatiau. Mae’r ardaloedd parcdir yn amrywio’n fawr o ran maint, o rhwng tua 4-5 hectar yng Ngarthgynan a Kilford, a rhwng 12-20 hectar yn achos Plas-newydd, Tŷ Eyarth, Plas Gwyn a Neuadd Lleweni, i rhwng tua 20-40 hectar yn Neuadd Pontruffudd, Neuadd Llanrhaeadr, Plas Ashpool a Glan-y-wern. Y mwyaf yw Parc y Castell ychydig i’r de o Ruthun, sydd dros 50 hectar o faint.

Tarddiad nifer o’r parciau, gan gynnwys Bathafarn a Pharc y Castell, yw’r parciau ceirw a grëwyd ar ôl sefydlu arglwyddiaethau Dinbych a Dyffryn Clwyd yn y 13eg ganrif a’r 14eg ganrif. Crëwyd eraill fel ychwanegiad at yr ystadau preifat a ffurfiwyd gan nifer o berchenogion tir mawr yn ystod y 14eg ganrif a’r 16eg ganrif, fel yn achos Lleweni. Mae’r rhan fwyaf o nodweddion mwy gweledol y parcdir yn y dyffryn yn perthyn i’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, pan blannwyd coed mewn parciau megis Plas- newydd, Neuadd Llanrhaeadr a Phlas Ashpool. Crëwyd parciau a gerddi coediog eraill yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, cyfnod pan ychwanegwyd porthordai a gatiau mynediad i nifer o barciau oedd yn bodoli eisoes.

Ceir nifer o ardaloedd parcdir yn agos at ei gilydd, ac oherwydd bod nifer o ardaloedd parcdir gwahanol yn gorwedd ochr yn ochr y caiff dwy o’r ardaloedd cymeriad eu hadnabod felly - sef ardal gymeriad y Fron Yw ar sail y parcdir sy’n gysylltiedig â Neuadd Fron Yw a thiroedd yr hen sanatoriwm Edwardaidd yn Llangwyfan, ac ardal gymeriad Plas Ashpool ar sail y cyfuniad o diroedd Plas Ffordd-ddŵr, Glan-y-wern, Pentre Mawr a Phlas Ashpool ei hun. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, i’r gogledd a’r dwyrain o Landyrnog y mae’r ddwy ardal gymeriad hyn.

Mae nifer o’r ardaloedd parcdir yn gysylltiedig ag ardaloedd coetir neu’n manteisio arnynt, fel yn achos Tŷ Eyarth, i’r gorllewin o Lanfair Dyffryn Clwyd, neu’r coetir rhannol addurniadol o amgylch Tŷ Warren yn nyffryn Aberchwiler. Yn achlysurol mae coed unigol yn bwysig, fel yn achos grŵp o gastanwydd ym Machymbyd, a blannwyd ar ddiwedd y 17eg ganrif gan dair merch Syr William Salsbury, ac a ddynodwyd yn amlwg fel y Tair Chwaer ar y mwyafrif o rifynnau modern o’r Arolwg Ordnans.

Mae rhannau ategol o dirwedd barcdir yn cynnwys waliau cerrig neu friciau a rheiliau ar ochr y ffordd, fel ym Mhlas y Dyffryn (sef y Claremont ac Ysgol Neuadd Clwyd gynt) ac Ysgol Brondyffryn; mynedfeydd, porthordai a thramwyfeydd, fel yng Nglan-y-wern, Neuadd Llwyn-ynn, Neuadd Eyarth; a nodweddion cywreiniach eraill fel y ffos glawdd ym Mhlas-newydd, y rhodfa, rheiliau haearn, ffosydd â waliau cynhaliol o gerrig a chamfa garreg yn Llanrhaeadr, a’r porth bwaog gothig ym Mhontruffydd, neu’r hen ffordd a phont ffordd ar draws y Clywedog a ymgorfforwyd ym Mharc y Castell, Rhuthun. Yn achlysurol addaswyd ffiniau caeau er mwyn gwella’r dirwedd, fel yn achos y ffiniau crymion i’r de o Neuadd Bathafarn.

Mae nifer o’r gerddi mwy ffurfiol yn elfennau tirwedd hanesyddol bach ond pwysig o fewn y dyffryn. Mae’r rhain yn cynnwys yn arbennig yr ardd deras, ffynnon a phwll addurniadol yn dyddio o ddiwedd y 16eg ganrif i ddechrau’r 17eg ganrif yn Neuadd Eyarth, y gerddi â waliau o’u cwmpas sy’n dyddio o rhwng diwedd y 16eg ganrif a’r 18fed ganrif ym Machymbyd a Garthgynan, sy’n gysylltiedig yn y ddau le â thyllau gwenyn, y gerddi ym Mhlas-newydd a Neuadd Llanrhaeadr, a’r gerddi sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif yng Nghastell Rhuthun, a’r gerddi cerrig o’r 1930au yn Nhŷ Eyarth.

Gellir canfod mathau eraill o dirwedd addurniadol yn y dyffryn. Er enghraifft roedd Tramwyfa’r Arglwyddes Bagot, sef tramwyfa gerbydau bictiwrésg Edwardaidd, yn rhan o ystad yr Arglwydd Bagot, ond mae hi bellach yn llwybr troed, sy’n rhedeg gyda cheunant coediog Afon Clywedog tua’r dwyrain o Ryd-y-cilgwyn, ger Rhewl. Mae Ffynnon Dyfnog, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, yn greadigaeth bictiwrésg gyffelyb, yn dyddio, mwy na thebyg, o’r ddeunawfed ganrif. Cyflenwir y ffynnon gysegredig, a’i thanc wedi’i leinio â charreg a oedd gynt wedi’i haddurno â ffigyrau cerfiedig, gan raeadr, a gellir cyrraedd ati ar hyd llwybr yn y coetir, gan ddechrau yn y fynwent, a chroesi sawl pont garreg addurniadol.

Mae’r rhan fwyaf o’r ardaloedd o barcdir yn y dyffryn mewn perygl o ddiflannu, gan fod eu heffaith bron yn gwbl ddibynnol ar fod coed ynysig sydd eisoes yn aeddfed ac ehangdiroedd mawr o borfa wastad ddi-dor yn goroesi. Prin yw’r dystiolaeth o blannu coed newydd, ac mae rhai ardaloedd o barcdir a ddangosir ar rifynnau cynharach o fapiau Arolwg Ordnans naill ai wedi diflannu neu mae eu heffaith wedi’i leihau yn y blynyddoedd diweddar dim ond yn sgîl colli cyfran o goed y parcdir. Mae nifer o elfennau pwysig eraill y tirweddau parcdir yn y dyffryn hefyd mewn perygl, megis y waliau terfyn, porthordai, gatiau a rheiliau.

Mae i werthfawrogiad esthetig o dirwedd Dyffryn Clwyd draddodiad hir yn ymestyn yn ôl at ddiwedd yr 16eg ganrif o leiaf, ac mae’r disgrifiadau cynharaf, fel y pennill canlynol gan Michael Drayton, yn cyferbynnu ireidd-dra a ffrwythlondeb y dyffryn, ei ddolydd a’i gaeau ŷd gyda’r ‘hills whose hoarie heads seeme in the clouds to dwell’.

The North-wind (calme become) forgets his Ire to wreake,

And the delicious Vale thus mildly doth bespeake;

Deere Cluyd, th’aboundant sweets, that from thy bosome flowe,

When with my active wings into the ayre I throwe,

Those Hills whose hoarie heads seeme in the clouds to dwell,

Of aged become young, enamor’d with the smell

Of th’odiferous flowers in thy most precious lap:

Within whose velvit leaves, when I my self enwrap,

Thy suffocate with sents; that (from my native kind)

I seeme some slowe perfume, and not the swifest wind.

With joy, my Dyffren Cluyd, I see the bravely spred,

Survaying every part, from foote up to thy head;

Thy full and youthfull breasts, which in their meadowy pride,

Are brancht with rivery veines, Meander-like that glide.

I further note in thee, more excellent than these

(Were there a thing that more the amorous eye might please)

Thy plumpe and swelling wombe, whose mellowy gleabe doth beare

The yellow ripened sheafe, that bendeth with the eare.

Michael Drayton, The Poly-Olbion, 1598-1622

Roedd y gyfran o dir comin nad oedd wedi ei amgáu ac o goetir hefyd, mwy na thebyg, yn llawer mwy nag a geir heddiw, ond mae’n debygol fod tipyn sylweddol o waith amgáu, gwella a draenio tir wedi’i wneud, fel sy’n amlwg yn y cyfrifon, a nodir uchod, o waith gwella a wnaed yn yr hen barc canoloesol ym Mathafarn rhwng yr 1550au a 1590au. Mae agweddau tebyg ar y dirwedd hefyd yn amlwg yn Britannia Camden gan Edward Lhuyd, a gyhoeddwyd ym 1722.

Rydym bellach yn cyrraedd at galon y Sir, lle y mae natur, ar ôl cael gwared ar yr holl Fynyddoedd o boptu (i ddangos i ni beth allai wneud mewn Gwlad arw) wedi taenu dyffryn hyfryd iawn; sy’n ymestyn am ddwy filltir ar bymtheg o’r de i’r gogledd ac sydd tua phum milltir o led. Saif ar agor i’r Môr yn unig, ac i’r gwynt Gogleddol ysgubol; ac a amddiffynnir mewn mannau eraill gan fynyddoedd uchel, sydd (yn arbennig tua’r dwyrain) yn debyg i furfylchau neu dyredau; am fod copâu’r mynyddoedd hyn yn debyg i dyredau ar furiau, diolch i ddyfeisgarwch clodwiw natur. Yr uchaf yn eu plith yw Moel Enlhi [Foel Fenlli]; ac ar ben hwn gwelais ffens neu esgynfa, a Ffynnon glir iawn. Mae’r Dyffryn hwn yn hynod iachus, ffrwythlon, a dymunol; mae’r Trigolion o ran pryd a gwedd yn bobl siriol a sionc; maent yn gall a synhwyrol; maent yn edrych yn bobl fywiog iawn, a hyd yn oed yn eu henaint maent yn weithgar a hirhoedlog. Mae’r Dolydd gwyrdd, y Caeau ŷd, a’r Pentrefi a’r Eglwysi niferus yn y Dyffryn hwn, yn un o’r golygfeydd mwyaf dymunol y gellir eu dychmygu. Mae afon Clwyd, o’i tharddiad, yn llifo drwy ei ganol ac hel ati nifer o nentydd o boptu. A dyma’r rheswm pam y rhoddwyd gynt yr enw Ystrad Klwyd, h.y. Dyffryn Cluid iddo.’

Edward Lhuyd, Camden’s Britannia, 1722

Y 18fed a’r 19eg ganrif oedd oes aur yr awduron topograffig. Unwaith eto, pwysleisiodd Tour Daniel Defoe a gyhoeddwyd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach y cyferbyniad rhwng y ffermdir âr a ffrwythlon yn y dyffryn a’r bryniau garw ac anghroesawgar sy’n ei amgáu.

Prin yw’r pethau hynod ar y ffordd o Gonwy i Dreffynnon, ar wahân i glogwyni a chreigiau ar hyd [y traeth gogleddol], tan i ni gyrraedd tref Dinbych. Dyma’r dref sirol, mae’n lle poblog, y mae iddo rai nodweddion sy’n dangos pa mor agos yw at Loegr, ond yr hyn a oedd yn peri’r syndod mwyaf, ar ôl taith mor flinderus a lluddedig dros fynyddoedd anghroesawgar Meirionnydd a Sir Gaernarfon, oedd dod i lawr o’r mynyddoedd a chyrraedd dyffryn mor ddymunol, ffrwythlon, poblog a braf, yn llawn pentrefi a threfi, a’r caeau yn gyforiog o ŷd, yn barod ar gyfer y cynaeafwyr, a’r dolydd yn wyrdd a blodeuog, ac afon wych, ac ynddi lif graddol a chynnil; ac nid ysbaid bach hamddenol yw hyn ychwaith, gan fod gennym olygfa o’r wlad yn ymledu o’n blaenau, am fwy na 20 milltir o hyd a rhwng 5 a 7 milltir o led, a’r cyfan yr un mor siriol yr olwg, gan wneud i ni feddwl yn sydyn ein bod yn Lloegr unwaith eto.

Daniel Defoe, A Tour through the whole Island of Great Britain, 1725

Tua diwedd y 18fed ganrif mae Thomas Pennant yn rhoi disgrifiad tebyg o’r dyffryn o’i weld o’r gogledd-orllewin o Lanrhaeadr.

Ar fryncyn i’r gogledd-orllewin o’r eglwys, a elwir yn Gader Gwladus…ceir golygfa hardd iawn o’r dyffryn rhwng Dinbych a Rhuthun, yn frith o goed, dolydd a chaeau ŷd; a rhes gyfan bron o fryniau ar y ffin ddwyreiniol yn codi ymhell uwch ei ben.

Pennant, A Tour in Wales, 1793

Cafodd cyhoeddi nifer o weithiau megis Essays on the Picturesque ym 1792 effaith sylweddol ar werth esthetig y dirwedd bryd hynny. Bu Wordsworth yn aros gyda ffrindiau yn Llangynhafal ar sawl achlysur yn yr 1790au, a disgrifiodd ei leoliad fel un o’r ‘dyffrynnoedd hyfrytaf oll, sef Dyffryn Clwyd’. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, sylwodd Syr Richard Colt Hoare, hynafiaethydd, hefyd ar y cyferbyniad rhwng cyfoeth y dyffryn a chefn gwlad o’i amgylch: ‘ar ôl mynd heibio i gomin diflas arall mae Dyffryn hyfryd Clwyd yn ymddangos yn sydyn’. Ei brif ddiddordeb yn llythrennol oedd yr olygfa bictiwrésg a’r potensial i’w darlunio. Felly, gellid ystyried Dinbych yn ‘olygfa gyfoethog bictiwrésg sy’n deilwng [o] bensil Poussin’, ond profodd Dyffryn Clwyd ei hun yn llai boddhaol ar y wedd hon.

O safbwynt ei harddwch pictiwrésg roeddwn yn eithaf siomedig. Mae ffiniau’r mynyddoedd i’r dwyrain wedi’u ffurfio’n dda ac wedi’u gwasgaru’n effeithiol, ond yn gyffredinol mae’r Dyffryn yn rhy eang i ddarparu gwrthrychau da ar gyfer y pensil. Fodd bynnag, mae’r golygfeydd unigol yn rhai boddhaol iawn ac mae’r golygfeydd o’i uchelfannau’n rhai crand iawn.

Colt Hoare, 6 Mehefin 1801

Mae i werthfawrogiad presennol o werth tirwedd Dyffryn Clwyd draddodiad hir, ac un o’i nodweddion hanfodol o hyd yw’r tirweddau naturiol a’r tirweddau gwneud ochr yn ochr â’i gilydd, y cyferbyniad rhwng ‘gwyrddni a blodau’r dolydd’ yn y dyffryn a ‘chlogwyni a chreigiau’ y bryniau oddi amgylch.