CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd


Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Click for landscape description

Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd


Mae Dyffryn Clwyd yn goruchafu daearyddiaeth gogledd ddwyrain Cymru, a dyma un o'r tirweddau mwyaf sylweddol. Rhed Afon Clwyd ar hyd ei waelod gwastad a llydan am ryw 30km i'r gogledd o dref ganoloesol Rhuthun i ymuno 'r arfordir yn y Rhyl. Mae llawr y dyffryn yn isel, ac ni chyfyd yn unman yn uwch na 40m uwchben SO. I'r dwyrain, mae ymylon Bryniau Clwyd yn ffurfio ffin i'r dyffryn, a chodant yn serth oddeutu 300m uwchben SO, gyda'u copaon yn rhoi golygfeydd ysblennydd o lawr y dyffryn. Cyfyd yr ochr orllewinol fymryn yn llai serth tuag at ucheldir Sir Ddinbych ryw 7km i ffwrdd. Mae rhan fwyaf cyflawn a nodweddiadol hanesyddol y dyffryn a nodir yma, sydd wedi goroesi orau, yn gorwedd yn bennaf i'r de a'r dwyrain o dref ganoloesol Dinbych.

Trigai dynion o gyfnod cynnar ar ddau safle mewn ogafu yng Nghae Gwyn a Ffynnon Beuno, Tremeichion, lle y darganfuwyd esgyrn anifeiliaid ac olion arfau Palaeolithig dynol. Fodd bynnag, cofadeiliau mwyaf trawiadol y tirwedd yw bryngaerau Moel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr Dyffryn Clwyd), Moel Arthur, Penycloddiau a Moel y Gaer (Bodfari) o Oes yr Haearn sy'n rhan o gadwyn o safleoedd amddiffynnol yn coroni copaon Bryniau Clwyd. Hyd yn oed fel safleoedd unigol, y maent yn fawr ac yn sylweddol (mae Penycloddiau yn cwmpasu oddeutu 21ha) ond gyda'i gilydd, maent yn ffurfio grwp unigryw o fryngaerau yng Nghymru, sy'n dangos y berthynas agos o ran tirwedd rhwng ffurfiau naturiol y tir a thiriogaeth ddynol.

Er na fu llawer o gloddio cyfoes ar fawr ddim un o'r safleoedd, y farn gyfoes yw mai canolbwynt tiriogaeth bendant oedd pob bryngaer, a'r diriogaeth honno'n ymestyn ar draws y dyffryn islaw, a thros yr ucheldir i'r dwyrain, er mwyn iddi fod yr un mor rhwydd i bob caer gael mynediad i'r un adnoddau naturiol. Tir pori garw yw ucheldir Bryniau Clwyd, ond mae llawr y dyffryn, ar y llaw arall, yn dir amaethyddol bras, gyda chaeau yn ymestyn at lethrau gorllewinol y bryniau. Nid oes fawr yn hysbys ar hyn o bryd am yr aneddiadau cyffredin a oedd yn gysylltiedig 'r bryngaearau, ond mae'n debyg y byddent wedi bod yn grynodiadau dwys ar hyd llawr ffrwythlon y dyffryn, ond eu bod bellach wedi'u claddu neu eu dileu gan weithgaredd dyn yn yr oesoedd a ddilynodd. Awgrymir hyn gan yr olion cnydau a ddarganfuwyd o'r awyr yn Nhan Dderwen, i'r dwyrain o Ddinbych, lle mae gwaith cloddio diweddar wedi dangos tystiolaeth o weithgaredd yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig, Oes yr Efydd a'r Oesoedd Tywyll.

Trefi canoloesol Dinbych a Rhuthun yw'r prif aneddiadau o fewn y dyffryn. Er hynny, mae cloddio diweddar yn Rhuthun wedi awgrymu tarddiad cynharach, gydag olion o aneddiad Brythonaidd-Rufeinig, ac mae'n bosibl fod caer Rufeinig ar gyrion dwyreiniol y dref. Gellir gweld patrwm strydoedd canoloesol Rhuthun o hyd, ac erys rhannau o'r castell ac amddiffynfeydd y dref yn gyflawn. Mae gan y dref gasgliad gwych o bensaernaeth werinol, sef yr adeiladau trawiadol mewn calchfaen, tywodfaen coch neu arddulliau hanner-coed. Fel Rhuthun, cadwodd Dinbych hefyd lawer o'i chymeriad canoloesol, gan gynnwys amddiffynfeydd y castell a'r dref, ac y mae'n enghraifft dda o dref gaerog o'r cyfnod Edwardaidd. Yng nghanol y dyffryn mae Llanynys, pentrefan bach bellach, ond bu clas yma unwaith (sef uned weinyddol yn seiliedig ar aneddiad fynachaidd ganoloesol) gydag olion o gyfundrefn o gaeau canoloesol. Mae'n nodedig fel safle Llanfor yn y 9fed ganrif, a grybwyllir yn yr englynion Cymraeg cynnar, Canu Llywarch Hen.

Dylanwadwyd llawer ar y tirwedd gan wahanol barciau a stadau canoloesol a diweddarach, megis, er enghraifft, Neuadd Clwyd a Phlas Llanrhaeadr. I'r dwyrain o Ruthun mae Parc Bathafarn, parc canoloesol Arglwyddiaeth Rhuthun. Mae dogfen o 1592 yn disgrifio ffiniau, natur y parc a datblygiad y tirwedd: gellir olrhain y rhain heddiw. Ceir digon o gofnodion am dirwedd llawer plwyf ar lethrau Bryniau Clwyd pan iddynt gael eu hamgu adeg y Deddfau Cau Tir yn y 19edd ganrif. Maent yn ffinio, ac yn gwrthgyferbynnu, thirwedd amaethyddol gynharach llawr y dyffryn gyda'i gloddiau a gwrychoedd.

Themâu Tirwedd Hanesyddol yn Nyffryn Clwyd

Y Dirwedd Naturiol

Y Dirwedd Weinyddol

Tirweddau Aneddiadau

Tirweddau Amaethyddol

Trafnidiaeth a Chysylltiadau

Tirweddau Diwydiannol

Tirweddau a Amddiffynnwyd

Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg

Ardaloedd cymeriad

CPAT PHOTO 810.13A

1025 Llanfair Dyffryn Clwyd. Ffermydd mawr ar wasgar a neuaddau gyda pharcdiroedd bychan o fewn tirwedd o gaeau sydd at ei gilydd yn unionlin a mawr. Golygfa ar draws Dyffryn Clwyd gyda fferm Plas Newydd yn y pellter canol a Moel Llanfair y tu hwnt. Llun: CPAT 810.13A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 810.21A

1026 Bachymbyd. Ffermydd gwasgaredig mewn tirwedd o gaeau afreolaidd, canolig eu maint ar ymyl gorllewinol y dyffryn gyda hen goedwigoedd ar lethrau serthach a dyffrynnoedd ag ochrau serth lle mae nentydd. Golygfa i'r gogledd-orllewin i gyfeiriad Ty-mawr o Fachymbyd-bâch. Llun CPAT 810.21A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 809.01a

1027 Rhuthun. Tref fodern ehangol Rhuthun gyda thystiolaeth o weithgarwch Rhufeinaidd-Prydeinig a gychwynnodd fel bwrdeistref ganoloesol chastell, ac adeiladau o'r canoloesoedd hwyr ac o'r 17eg i'r 19eg ganrif. Golwg o bell ar Ruthun o lechweddau Foel Fenlli, ym mryniau Clwyd. Llun CPAT 8091A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 809.04a

1028 Llanbedr Dyffryn Clwyd. Tirwedd sy'n cynnwys caeau mawr, unionlin yn bennaf ar lawr y dyffryn ac ar hyd nant Dwr Iâl. Golwg o'r caeau hirsgwar nodweddiadol yn yr ardal nodweddion, gan edrych tua'r dwyrain o'r dwyrain o fferm Rhiw-lâs gydag ymylon tref Rhuthun yn y cefndir. Llun CPAT 809.4A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 831.08

1029 Tyddyn Ucha. Tirwedd lle mae ffermydd ucheldirol gwasgaredig a chaeau bychain afreolaidd ar lethrau isaf bryniau Clwyd, a gyrhaeddir ar hyd rhwydwaith o lonydd troellog a cheuffyrdd. Fferm Tyddyn Ucha o'r de gyda bryniau Clwyd yn y pellter. Llun CPAT 831.8 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 809.25

1030 Fron-heulog. Clostir o'r 19eg ganrif yn cynnwys tir comin uchel ar lechweddau gorllewinol bryniau Clwyd gyda bythynnod a godwyd ar ochr y ffordd. Mae'r hyn a welir yma'n enghraifft nodweddiadol o gau tir comin uchel yn y 19eg ganrif - edrychir i'r de, ychydig i'r dwyrain o fferm Bwlch-y-llyn. Llun CPAT 809.25 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 810.08a

1031 Graig-fechan. Coetir collddail ac anheddiad cnewyllol ar ochr y ffordd gyda bythynnod o'r 18fed - 19eg ganrif, capeli a thai o'r 20fed ganrif, o gwmpas bryn calchfaen ynysedig, amlwg. Brigiad calchfaen ynysedig ar ochr dde-ddwyreiniol y dyffryn gyda Moel Famau yn y cefndir. Llun CPAT 810.8A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 810.05a

1032 Eyarth. Ffermydd a neuaddau gwasgaredig ar greigiau calchfaen coediog ar ochr dde-orllewinol y dyffryn gyda chaeau unionlin a grewyd gan glirio graddol ar y coetir naturiol. Yma gwelir Ty-brith gyda chreigiau calchfaen y tu l iddo, ar ben deheuol yr ardal cymeriad. Llun CPAT 810.5A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 809.17

1033 Bryn-isaf. Man lle caewyd tir comin uchel yn y 19eg ganrif ar lethrau gorllewinol bryniau Clwyd gyda bythynnod ar ochr y ffordd. Yma gwelir ffens pyst a ychydig i'r gogledd o fferm y Graig. Llun CPAT 809.17. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 810.20a

1034 Felin-ysguboriau. Ffermydd gwasgaredig mawr a melinau mewn tirwedd lle mae caeau mawr i ganolig eu maint, tir pori isel ond draeniad da rhwng yr Afon Clwyd a nant y Dwr Iâl ar ymylon deheuol Rhuthun. Yma gwelir caeau isel ychydig i'r de o Ruthun. Llun CPAT 810.20A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.12

1035 Moel y Parc. Ucheldir heb ei gau sy'n rhan o fryniau Clwyd at ben gogleddol yr ardal cymeriad. Golwg o'r de, gydag adeiladau fferm adfeiliedig o'r 19eg ganrif (yn ymyl y garafan) ychydig i'r gogledd o'r Aifft. Llun CPAT 812.12 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.12

1036 Moel Llanfair. Rhostir agored at ben deheuol bryniau Clwyd, yn cynnwys rhannau o Foel Gyw, Moel Llanfair, Moel Llech, Moel y Plas, Moel y Gelli, Moel y Waun a Moel yr Accre sy'n ymestyn u tu hwnt i Ddyffryn Clwyd, tir pori a wellwyd ar lethrau llai serth ac a gyrhaeddir ar hyd llwybrau llydan modern y ffermydd. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 809.08

1037 Bathafarn. Tirwedd yn cynnwys caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd cadarn ar lethrau isaf bryniau Clwyd, o ganlyniad i gau parcdir canoloesol yn ystod ail hanner yr 16eg ganrif. Llun CPAT 809.8 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 809.05

1038 Moel Famau. Darn amlwg o weundir agored a dorrir gan fn fylchau, a lle mae bryngaerau pwysig o'r Oes Haearn ac olion Jubliee Tower o oes Victoria, ar gopaon nifer o'r bryniau. Mae'r ardal cymeriad yn cynnwys y bryniau a enwyd canlynol: Moel Arthur, Moel Llys-y-coed, Moel Dywyll, Moel Famau, Moel y Gaer, Foel Fenlli, Moel Eithinen, a'r Gyrn. Syma gwelir gweundir grugog ar lethrau Foel Fenlli, rhagfuriau'r fryngaer o'r Oes Gaearn yn torri'r nenlin. Mae erydiad ymwelwyr yn broblrm gyson yn y fan honar lethrau serth bryniau Clwyd. Llun: CPAT 809.5 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 809.05

1039 Penycloddiau. Darn amlwg o weundir agored, lle mae bryngaer bwysig ar ben y bryn. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 811.19

1040 Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Tirwedd lle mar ffermydd agos i'w gilydd a chaeau bychain ac afreolaidd ar lethrau gorllewinol Dyffryn Clwyd, gyda Phentre Llanrhaeadr yn y pellter canol. Llun CPAT 811.10A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 811.21a

1041 Dinbych. Tref fodern Dinbych, sy'n tyfu, ac a gychwynnodd fel bwrdeistref ganoloesol chastell, ac adeiladau o'r canol oesoedd diweddar a'r 17eg ganrif i'r 19fed ganrif. Yma edrychir tua'r dwyrain i lawr Vale Road, Dinbych, i gyfeiriad Moel y Parc. Mae hon yn un o'r ffyrdd newydd a osodwyd yn ystod y 14eg ganrif wrth i'r dref dyfu y tu hwnt i'w lleoliad anghyfleus ar ben y bryn ymhellach i'r gorllewin. Llun CPAT 811.21A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 809.00a

1042 Pen-yr-allt. Tirwedd yn cynnwys ffermydd bychain ar lethrau coediog a dyffrynnoedd, yn union o dan ymyl y gweundir. Yma edrychir tua'r de i gyfeiriad Bwlch-uchaf, o dan Moel Gyw. Llun CPAT 809.00A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.22

1043 Llandyrnog. Rhan o'r tirwedd sy'n cynnwys ffermydd llai a chaeau hirsgawr canolig eu maint gyda gwrychoedd fel ffiniau, rhai ohonynt weithiau'n dilyn y nentydd naturiol sy'n llifo i'r gorllewin o fryniau Clwyd. Llun CPAT 812.22 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 809.09a

1044 Llanynys. Ffermydd bychain clystyrog ar ddarn diarffordd o dir gwell draeniad yn aber yr afonydd Clywedog a Chlwyd. Llun CPAT 811.9A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.08

1045 Fron-gelyn. Tirwedd lle mae caeau afreolaidd cymharol fychan gyda gwrychoedd fel ffiniau ar lethrau gorllewinol serth bryniau Clwyd. Yma edrychir tua'r dwyrain i gyfeiriadTy Newydd, Aifft. Llun CPAT 812.8 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 813.00

1046 Rhiwbebyll. Tirwedd o gaeau hirsgwar bach neu ganolig eu maint gwrychoedd a ffermydd gwargaredig ar linell y gwanwyn, yn union dan y gweundir, ac a welir yma i gyfeiriad fferm Gales-uchaf. Llun CPAT 813.00 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 811.05a

1047 Rhôs. Tirwedd o gaaeu mawr traeniedig ffosydd traenio a gwrychoedd o'u cwmpas ger yr afon Clwyd, ac a welir yma ychydig i'r dwyrain o Lanynys, yn edrych tua'r de-ddwyrain. Llun CPAT 811.5A. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.23

1048 Fron Yw. Darn mawr o barcdir yn perthyn i Vron Yw, ty mawr a ailadeiladwyd ym 1906 ac a ddefnyddir yn awr fel cartref nyrsio, ac a godwyd lle bu adeilad cynharach o ganol yr 17eg ganrif. Gall parcdir, sy'n un o nodweddion tirwedd hanesyddol arbennig Dyffryn Clwyd, ddiflannu'n gyflym os torrir hen goed ac os na phlannir erail yn eu lle. Llun CPAT 812.23 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

Photo not available

1049 Hirwaen. Ffermydd ar ymyl y gweundir a ffermydd tir isel mewn tirwedd o gaeau hirsgwar bach a osodwyd ar hyd y cyfuchlin. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 813.08

1050 Esgairlygain. Tirwedd trawiadol o leiniau llinol yn rhedeg ar i lawr o'r ffermydd gwasgarog sydd yn union o dan ymyl y gweundir, ac a welir yma yn edrych tua fferm Tyn-y-celyn gyda Thwr y Jiwbil ar Foel Famau ar y gorwel pell. Llun CPAT 813.8 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 813.04

1051 Fron-dyffryn. Tir comin uchel a gaewyd yn y 19eg ganrif gyda chaeau hirsgwar canolig neu fawr yn amgu ucheldir pori bras a phorfeydd a wellwyd, gyda therfynau caeau a ffurfiwyd o wrychoedd draenen wen tenau sydd wedi gordyfu, a gwelir yma a thraw resi o goed a phrysgwydd, y gosodir pyst a ffens weiren yn eu lle. Mae'r terfyn yn y fan hon yn rhedeg tua'r de i gyfeiriad Moel Arthur, ac mae'n dilyn y ffin sirol. Llun CPAT 813.4 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.0

1052 Lleweni. Dolydd isel ac afreolaidd a draeniwyd ac sy'n gorwedd o fewn hen lyn rhewlifo a elwid Llyn Clwyd. Llun CPAT 812.0 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.17

1053 Aberchwiler. Yr hen felin feillion a elwir Melin Candy, at ben uchaf dyffryn Aberchwiler, gyda fferm Ty-draw a Moel y Parc y tu hwnt. Llun CPAT 812.17 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.16

1054 Bodfari. Bryn ynysig a choed dros rannau ohono sy'n codi'n sydyn i fryngaer Oes ur Haearn Moel y Gaer (Bodfari) ar y copa, a chyda ffermydd bychain a phorfeydd bychain ac afreolaidd eu sip a dorrwyd bob yn dipyn o'r coetir. Llun CPAT 812.16 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.19

1055 Coed Draw. Ar lethrau isaf Moel y Parc, gyda chaeau bach neu ganolig o ganlyniad i glirio coetir bob yn dipyn. Yn yr 1780au disgrifiodd Thomas Pennant 'the lofty mountain Moel y parc, skirted with trees'. Llun CPAT 812.19 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.07

1056 Glan Clwyd. Tirwedd o ffermydd gwasgaredig, canolig eu maint mewn tirwedd o leiniau a chaeau hirsgwar canolig eu maint. Edrychir tua'r gorllewin i gyfeiriad Dinbych ychydig i'r gogledd o Dhi Coch Ganol (Dre Gch Ganol);fferm Dhi Coch Ganol. Llun CPAT 812.7 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

Photo not available

1057 Plâs Ashpool >. Parcdir a thir chymeriad parcdir a ffermydd mawr a thai mawr ar wasgar. (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 812.01

1058 Meusydd-brwyn. Tirwedd trawiadol lle mae caeay hirsgwar a lleiniau, ffosydd draenio a phyllau dwr bychain, gyda ffermydd a thyddynnod ar ymylon gogledd-ddwyreiniol Dinbych. Yma edrychir tua'r gogledd-ddwyrain ychydig i'r de o Mytton Park. Llun CPAT 812.1 (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 811.15a

1059 Ystrad. Tiwedd lle mae ffermydd gwasgaredig mawr a phorfeydd hisgwar mawr ar dir llechweddog sy'n edrych dros ymyl gorllewinol y dyffryn, ychydig i'r de o Ddinbych. Yma edrychir arno o'r gorllewin, gyda Fferm Ystrad Farm yn y pellter canol. Llun CPAT 811.15A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 811.22a

1060 Penpalmant. Tirwedd lle mae caeau afreoladd, canolig eu maint gwrychoedd, ac sydd choed derw mawr hwnt ac yma, pyllau dwr a thirwedd cefnen a rhych. Yma, ychydig i'r de o fferm Penpalmant, amlygir y tirwedd cefnen a rhych gan lygaid y dydd sy'n tyfu ar y chefnenau sych. Llun CPAT 811.22A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 811.04a

1061 Gwergwy. Dolydd isel o gwmpas aber yr Afon Clywedog a'r Afon Clwyd, gyda ffosydd draenio, nentydd argloddiedig a chamlesedig, sy'n dangos hanes rheoli dwr yn Nyffryn Clwyd. Llun CPAT 811.4A (Nl i'r map)


Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk

1054 Bodfari 1053 Aberchwiler 1060 Penpalmant 1052 Lleweni 1058 Meusydd-brwyn 1041 Dinbych 1059 Ystrad 1055 Coed Draw 1035 Moel y Parc 1045 Fron-gelyn 1039 Penycloddiau 1051 Fron-dyffryn 1048 Fron Yw 1056 Glan Clwyd 1057 Plas Ashpool 1043 Llandyrnog 1061 Gwergwy 1040 Llanrhaeadr 1046 Rhiwbebyll 1050 Esgairlygain 1044 Llanynys 1047 Rhos 1026 Bachymbyd 1038 Moel Famau 1049 Hirwaen 1028 Llanbedr Dyffryn Clwyd 1027 Rhuthun 1042 Pen-yr-allt 1037 Bathafarn 1034 Felin-ysguboriau 1032 Eyarth 1025 Llanfair Dyffryn Clwyd 1031 Graig-fechan 1029 Tyddyn Ucha 1030 Fron-heulog 1033 Bryn-isaf 1036 Moel Llanfair 1033 Bryn-isaf