CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Coedwig Hafren
Cymunedau Trefeglwys a Llanidloes Allanol, Powys
(HLCA 1189)


CPAT PHOTO 06-C-221

Coetir conwydd helaeth a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar lwyfandir ucheldirol ac ar ymylon y bryniau o 1937/38 ymlaen. Roedd yr ardal yn rhan o faenor fynachaidd ganoloesol. Cyn ei choedwigo, roedd yn cynnwys ffermydd ucheldirol gwasgaredig yn dyddio o bosibl o’r cyfnod canoloesol a’r canol oesoedd cynnar, rhai ohonynt efallai yn deillio o aneddiadau tymhorol. Mae ardal ar wahân o olion mwyngloddio metel yn y 18fed a’r 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Roedd y darn gogleddol ar wahân o’r ardal nodwedd, ym Mwlch-y-Garreg Wen, yn rhan o’r tiroedd pori rhwng Afon Clywedog ac Afon Lwyd y rhoddodd Cadwaladr ap Hywel, sef mab arweinydd Arwystli, i Ystrad Marchell tua 1195-96. Roedd rhan o ddarn deheuol yr ardal nodwedd, neu’r cyfan ohono, yn rhan o borfeydd ucheldirol Cwm-buga (Cwmbiga) y rhoddodd Gwenwynwyn, tywysog de Powys i Abaty Sistersaidd Cwm-hir ar ddiwedd y 12fed ganrif. Yn ddiweddarach bu’n destun anghydfod ag Ystrad Marchell yn y 1220au. Mae’n debyg mai’r ddau abaty oedd deiliaid y tiroedd tan eu diddymu yng nghanol yr 16eg ganrif, pan roeddent yn rhan o faenor Talerddig. Roedd y ffin rhwng y daliadau’n dilyn Afon Lwyd. Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Esgeiriaeth ym mhlwyf degwm Trefeglwys, Sir Drefaldwyn y 19eg ganrif a threfgordd faenorol Ystradhynod ym mhlwyf degwm Llanidloes, Sir Drefaldwyn.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Coetir conwydd modern yn dyddio o 1937/38 ymlaen, ar lwyfandir ucheldirol ac ar ymylon y bryniau i’r gorllewin o Gronfa Ddŵr Clywedog sydd yma. Yn gyffredinol, mae tua 300-500 metr uwchben lefel y môr ac mae Afon Clywedog a’i llednentydd, Afon Lwyd, Afon Biga, Nant Felen a Nant Croes yn torri ar draws yr ardal. Ceir priddoedd mân lomog neu siltiog wedi’u draenio’n dda dros graig ar lethrau bryniau yma. Ceir hefyd briddoedd ucheldirol sy’n araf athraidd ond yn rhannol ddirlawn yn dymhorol, â haenlinau mawnog ar yr wyneb ar ddyddodion drifft o garreg llaid a siâl ar y tir isel. Yn hanesyddol, cyn y coedwigo, magu stoc ar rostir a pheth porfa barhaol o werth pori cymedrol oedd yn gwneud orau yma. Enw modern yw Coedwig Hafren, yn deillio o enw’r Afon Hafren. Mae rhan o’r goedwig yn ardal y dirwedd hanesyddol. Dechreuwyd plannu’r goedwig fasnachol, sydd bellach yn cwmpasu ardal o fwy na 40 cilometr sgwâr, ym 1937, gan barhau hyd y 1950au a thu hwnt. Disodlodd hon borfa ucheldirol oedd yn eiddo i nifer o ffermydd ucheldirol. Bellach, mae rhannau o Goedwig Hafren yn fannau poblogaidd i dreulio oriau hamdden, yn enwedig ar gyfer cerdded a seiclo.

Mae nifer o enwau lleoedd sydd wedi’u cofnodi yn ardal y dirwedd hanesyddol yn awgrymu cyswllt hanesyddol â phori ucheldirol a magu da byw. Mae’r enwau lleoedd Cefn Hafodcadwgan a Hafod Cadwgan (mae’r ail ychydig y tu allan i ffin orllewinol yr ardal), yn cynnwys yr elfen ‘hafod’ sy’n awgrymu bod ffermydd ucheldirol tymhorol yn arfer bodoli, efallai yn y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Tybir bod ail elfen yr enw Cwmbiga (‘buga’) yn gysylltiedig â ‘buarth’ a ‘buwch’, gan awgrymu cysylltiad â magu da byw neu ffermio llaeth yn y canol oesoedd, er yr awgrymwyd hefyd bod yr elfen hon yn deillio o enw personol. Mae’r enwau Cwm y Ffridd, Banc y Ffridd, Ffridd Newydd, a Ffridd Fawr oll yn cynnwys yr elfen ‘ffridd’, sy’n awgrymu porfa arw wedi’i chau ar ymylon y mynydd. Cofnodwyd yr elfen gyntaf fel ffreeth Cwm Bigga ym 1540-41. Mae’r enw Fign Aberbiga yn cynnwys yr elfen ‘mign’ sy’n arwydd o dir corsiog.

Mae clwstwr o domenni claddu ucheldirol yn dyddio o’r Oes Efydd, a maen hir posibl sydd wedi cwympo ar Gefn Lwyd a hefyd crug ar lethrau’r bryniau ym Mhengeulan, yn arwyddion o ddefnydd tir ac anheddu cynhanesyddol cynnar. Cafwyd hefyd nifer o hapddarganfyddiadau gan gynnwys dagr o fath Bicer wedi’i wneud o fflint a ddarganfuwyd ger Ysgubor Pen-y-bryn a bwyell garreg gaboledig o Groes Uchaf.

Prynodd y Comisiwn Coedwigaeth tua 12 o ffermydd defaid ucheldirol er mwyn creu Coedwig Hafren. Nifer fechan yn unig o strwythurau sy’n hysbys yn yr ardal nodwedd, yn cynnwys adeiladau yn Ysgubor Pen-y-bryn ac Ysgubor Banc-y-ffridd a nifer o gorlannau defaid. Mae’r ddwy fferm yn gysylltiedig â systemau caeau cynnar a welir ar fapiau’r Arolwg Ordnans yn y 1880au. Mae’n bosibl bod y ddwy’n cynrychioli ffermydd cynharach roedd eu statws wedi gostwng i ysgubor erbyn diwedd y 19eg ganrif. Mae’r ffermdy yng Nghwmbiga sy’n deillio, o bosibl, o’r cyfnod canoloesol hefyd wedi’i gynnwys yn yr ardal. Darn yn unig o ran ddeheuol yr ardal nodwedd oedd wedi’i gau o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif. Roedd peth o ran ogledd orllewin yr ardal yn Fign Aberbiga a Bwlch y Garreg-wen yn rhan o faenor Talerddig, nad oedd wedi’i chynnwys yn y ddeddf seneddol o ran cau tir. Ffurfiodd ardaloedd heb eu cau yma, ac yng ngweddill yr ardal nad oedd yn destun deddf seneddol o ran cau tir, rostir a gaewyd trwy gytundeb preifat. Cafodd hwnnw ei rannu’n gaeau mawr ag ochrau syth adeg y coedwigo.

Cynrychiolir gweithgareddau mwyngloddio metel gan olion mwyngloddiau’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn Nantmelin, tua blaen Nant Felen, islaw Llechwedd y Glyn yn rhan ddeheuol yr ardal. Fe’i gweithiwyd i gael mwyn copr a phlwm. Gellir gweld olion gweithio megis ceuffordd ddofn, lefel uwch, siafft ac olion gwely trac tramffordd a phentyrrau gwastraff. Harneisiwyd pŵer dŵr i yrru offer pwmpio a phrosesu.

Un o’r ychydig adeiladau cynnar sydd wedi goroesi yn yr ardal yw fferm fechan Cwmbiga. Mae’n dyddio’n bennaf o ddiwedd y 18fed ganrif ond mae yno ddarnau o adeilad cynharach. O ran enw, mae cysylltiad rhwng y fferm a’r faenor ucheldirol yn y canol oesoedd, oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir. Mae’n bosibl bod ei tharddiad yn cynrychioli datblygiad fferm ucheldirol barhaol ar safle anheddiad dymhorol gynharach, yn ystod diwedd y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Bick 1990; Burt, Waite a Burnley 1990; Carr 1992; Clough a Cummins 1988; Edlin 1952; Jones 1983; Morgan 2001; Richards 1969; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Thomas 1955-56; Thomas 1997; Thomas 1998; Walters 1994; Williams 1990

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.