CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Llyn Clywedog
Cymunedau Trefeglwys a Llanidloes Allanol, Powys
(HLCA 1190)


CPAT PHOTO 06-C-243

Argae o goncrid a chronfa ddŵr a adeiladwyd yn ystod y 1960au ym mhen uchaf dyffryn Clywedog â’i ochrau serth, i reoli cyflenwadau dŵr yn nyffryn Hafren.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Esgeiriaeth ym mhlwyf degwm Trefeglwys, Sir Drefaldwyn a threfgorddau maenorol Ystradhynod a Brithdir ym mhlwyf degwm Llanidloes, Sir Drefaldwyn yn y 19eg ganrif.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Cronfa ddŵr fodern, droellog ei ffurf sy’n cwmpasu ardal o tua 240 hectar yw Llyn Clywedog. Mae tua 290 metr uwchben lefel y môr. Cyn y boddi roedd priddoedd mân cleiog a siltiog a oedd yn araf athraidd ac yn ddirlawn yn dymhorol ar lawr y dyffryn. Roedd y rhain yn gorchuddio dyddodion drifft oedd yn tarddu o garreg laid a siâl. Magu da byw a ffermio llaeth ar borfa barhaol oedd yn gweddu orau i’r ardal yn economaidd.

Adeiladwyd yr argae a’r gronfa ddŵr rhwng 1964 a 1967 trwy gronni Afon Clywedog, yn dilyn Deddf Seneddol alluogol. Mae’r argae yn 72 metr o uchder ac yn 230 metr o hyd. Dyma’r argae concrid uchaf yn y Deyrnas Unedig. Adeiladwyd ail argae arglawdd, sy’n llai o lawer, ym Mwlch-y-gle i rwystro gorlifo i mewn i ddyffryn Cerist. Mae’r ffordd o Lanidloes i Fachynlleth (B4518) yn ei groesi. Syr William Halcrow a’i Bartneriaid, peirianwyr sifil, a gynlluniodd y gronfa a’i hargaeau. Reed a Mallick o Gaersallog oedd y prif gontractwyr. Adeiladwyd yr argae ag 11 bwtres annibynnol o goncrid, ac mae’r adrannau rhwng y bwtresi’n wag y tu mewn. Mae’n anarferol gan ei fod yn crymu i lawr yr afon yn hytrach nag i fyny, ond roedd ei gynllun yn deillio o bryderon ynghylch gallu’r creigiau o bopty’r dyffryn i gynnal pwysau. Yn hytrach na thaflu pwysedd holl bwysau’r dŵr ar ochrau’r argae, sef yr hyn a fyddai wedi digwydd pe byddai’r un strwythur wedi'i adeiladu'n crymu i fyny’r afon, mae’r bwtresi wedi’u cynllunio i gyfeirio’r gwthiad ar i lawr, at lawr y dyffryn. Roedd llafurlu o tua 500 o ddynion yn gweithio ar yr adeiladu. Cawsant lety mewn adeiladau dros dro ar lethrau’r bryn uwchben yr argae, ger y llwyfan gwylio presennol.

Golygodd y gronfa ddŵr foddi llawer o’r tir amaethyddol gynt, sef caeau bach afreolaidd a nifer o fythynnod, ffermydd a chyn ffermydd, gan gynnwys y rheiny yn Aber-biga, Gronwen, Eldid, Croes-isaf, Grodir, Coppice-llwyd (Cwm-pwll-llwyd) a Llwybr-y-madyn, Ystrad-hynod, Merllyn a Draws-y-nant. Roedd llawer o’r rhain yn deillio o’r canol oesoedd neu o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, yn ôl pob tebyg. Boddwyd safleoedd archeolegol eraill, megis y twmpath claddu a’r maen hir o’r Oes Efydd yn Ystradhynod, ar lawr y dyffryn islaw Dinas ac yn weddol agos at lannau Afon Clywedog. Cloddiwyd y rhain ym 1965-66, cyn eu boddi. Bu peth gwrthwynebiad lleol, yn debyg i’r hyn a welwyd adeg adeiladu cronfa ddŵr Tryweryn ger y Bala ychydig flynyddoedd ynghynt, ac oherwydd tanio bom ar y safle adeiladu gohiriwyd y gwaith adeiladu am rai misoedd ym 1966. Roedd llawer yn amau mai Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC), sef grŵp gwleidyddol eithafol, oedd yn gyfrifol.

Bydd y gronfa ddŵr fel rheol yn llenwi â dŵr yn ystod misoedd y gaeaf a gall ddal tua 50,000 megalitr o ddŵr pan mae’n llawn. Prif ddiben y gronfa ddŵr yw galluogi tynnu dŵr i’r cyhoedd o Afon Hafren ar ei hyd trwy gydol misoedd sych yr haf a sicrhau bod digon o lif yn yr afon at ddibenion amgylcheddol. Mae hefyd yn chwarae rhan mewn atal llifogydd, yn arbennig yn rhannau uchaf Afon Hafren. Dŵr Hafren Trent Cyf sy’n berchen ar y gronfa ddŵr ar hyn o bryd ac yn ei gweithredu. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoleiddio ac yn goruchwylio. Mae offer gweithredol yr argae yn rhedeg yn hunangynhaliol, wrth ddefnyddio tyrbin trydan dŵr 500kW. Mae Llyn Clywedog bellach yn gyfleuster hamdden poblogaidd ac yn cynnig ystod o weithgareddau hamdden, gan gynnwys cerdded, seiclo, gwylio adar, pysgota, hwylfyrddio a hwylio.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; ApSimon 1973; Hamer 1872; Comisiwn Brenhinol Henebion 1911; Krause 1983; Richards 1969; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.