ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Clywedog Valley - </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg</A> / <A HREF="1195.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_clyint.htm#1195 Manledd">Tirwedd Hanesyddol <BR>Dyffryn Clywedog</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="1195map.htm">Map o'r ardal cymeriad hon</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_1195ph.htm">Mwy Ffotograffau</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Dyffryn Clywedog: <EM>Manledd </EM><BR>Cymunedau Trefeglwys, Llanidloes a Llanidloes Allanol, Powys <BR>(HLCA 1195) </H2> <HR> <P><IMG SRC="06c145.jpg" HEIGHT="235" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 06-C-145"> <EM> <P> Llawr dyffrynnoedd, godre bryniau ac ymylon serth bryniau o gwmpas rhannau isaf Afon Clywedog a blaen Afon Cerist a u llednentydd; ffermydd gwasgaredig, rhai ohonynt yn tarddu o r canol oesoedd a dechrau r cyfnod ôl-ganoloesol, sy n gysylltiedig â phatrymau caeau afreolaidd; rhwng y rhain, tir comin gynt wedi i gau ar raddfa helaeth yn y 19eg ganrif, a gynrychiolir gan batrymau caeau mwy rheolaidd ac sy n gysylltiedig â llechfeddiannu gynt ac â ffermydd newydd; olion mwyngloddio eang, yn bennaf yn dyddio o r 19eg ganrif hyd ddechrau r 20fed ganrif, ar hyd gwythïen Van, a safleoedd hen felinau gwlân o r 19eg ganrif a dechrau r 20fed ganrif ar hyd glannau Afon Clywedog. </P> </EM> <P> <P> <H3>Cefndir Hanesyddol</H3> Roedd peth o ganol yr ardal yn rhan o diroedd <EM>Deupiu</EM> (sef Penyclun) ynghyd â thir o r enw <EM>Hirard</EM> (sef Hiriaeth). Rhoddwyd rhan ohoni i abaty Sistersaidd Ystrad Marchell ger y Trallwng gan Gwenwynwyn, tywysog de Powys ar ddechrau r 13eg ganrif. Mae n debygol mai r abaty oedd deiliad y tir tan ei ddiddymu tua chanol yr 16eg ganrif, pan roedd yn rhan o faenor Talerddig. Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Brithdir, Manledd, a Glanhafren Iscoed ym mhlwyf degwm Llanidloes, Sir Drefaldwyn y 19eg ganrif a threfgordd faenorol Dolgwden ym mhlwyf degwm Trefeglwys, Sir Drefaldwyn. </P> <H3>Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol</H3> Yma gwelir llawr dyffrynnoedd, godre bryniau ac ymylon serth bryniau rhannau isaf Afon Clywedog a i llednant, Nant Gwestyn sy n draenio i r de-ddwyrain, ac Afon Cerist a i llednant, Nant Gwden, sy n draenio tua r gogledd-ddwyrain, ar uchder cyffredinol o rhwng 150 metr a 300 metr uwchben lefel y môr. Yn bennaf, priddoedd mân lomog neu siltiog wedi u draenio n dda dros graig sy n gorchuddio llethrau r bryniau. Yn hanesyddol, plannu coetir a magu da byw oedd yn gwneud orau yma. Mae priddoedd mân cleiog a siltiog sy n araf athraidd ac yn ddirlawn yn dymhorol ac sy n tarddu o ddyddodion carreg llaid a siâl yn gorchuddio rhannau isaf dyffrynnoedd Afon Clywedog a Nant Gwden, ynghyd â dyffrynnoedd Afon Gwestyn ac Afon Cerist. Yn hanesyddol, bu r tir yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw a ffermio llaeth ar laswelltir parhaol, a thyfu grawn mewn rhai ardaloedd oedd wedi draenio n well. Mae ardaloedd creiriol o brysg a choetir llydan-ddeiliog lled-naturiol yn goroesi ar rai o lethrau mwyaf serth y bryniau ac ochrau dyffrynnoedd Nant Gwden, blaen Afon Cerist, ac yn ffinio â rhan isaf dyffryn Clywedog, ychydig i r gorllewin o Lanidloes ac yn ffinio â dyffryn Hafren i r gogledd o Lanidloes. Mae n ymddangos bod peth o r coetir cymysg a r coetir conwydd ar lethrau serth dyffryn Clywedog i r gorllewin o Lanidloes yn cynrychioli coetir hynafol a ailblannwyd ar ddechrau r 19eg ganrif yn dilyn cau rhannau o r ardal hon o ganlyniad i ddeddf seneddol. <P> Ceir peth tystiolaeth mewn enwau lleoedd o hanes anheddu a defnyddio tir yn yr ardal nodwedd. Mae r enw Cae-garw yn cynnwys yr elfennau  cae a naill ai  carw neu  garw , ac mae enwau eraill yn cynnwys elfennau sy'n ymwneud â magu da byw. Mae Pwll-yr-ebol yn cynnwys yr elfennau  pwll ac  ebol ac mae Bron-y-geifr yn cynnwys yr elfen  geifr . Mae Bidffald (Bitfal gynt) yn deillio o r Saesneg <EM>pinfold</EM>, sef ffald anifeiliaid. Dengys yr elfennau  dol yn Dolgwden (a gofnodwyd yn gyntaf yn y 1570au) a r elfen  gwaun yn Ty n-y-waen dir pori. Mae r fferm Lluest-wen, i r gogledd o r Fan yn cynnwys yr elfen  lluest sy n awgrymu ei bod wedi tarddu o drigfan bach, oedd o bosibl yn un dros dro. Mae enwau lleoedd yn yr ardal sy n cynnwys yr elfen  coed yn niferus, er enghraifft Coed Cefnpennarth, Coed Cwmeryr, Coed y Glyn, Cringoed, a Choed Glangwden. Mae r rhan fwyaf yn cyfeirio at ardaloedd o goetir hynafol oedd yn bodoli neu a ailblannwyd, er y gall eraill, yn ôl pob tebyg, gyfeirio at ardaloedd o goetir hynafol gynt, megis Cefngoleugoed, sydd bellach wedi diflannu. <P> Mae bwyell efydd a ddarganfuwyd yn Hiriaeth yn cynrychioli gweithgaredd yr Oes Efydd. Dengys llociau cloddweithiau amddiffynnol yn Nolgwden a Phen-y-castell ar fryniau isel i r gogledd o r Fan anheddu a defnyddio tir diweddarach yn yr ardal yn y cyfnod cynhanesyddol. Mae r naill yn amgáu ardal o hyd at 0.3 hectar a r llall ardal o 1 hectar. <P> Mae r ardal nodwedd yn cynnwys amrywiaeth o wahanol fathau o dirwedd o ran y caeau, sy n cynrychioli nifer o batrymau pendant defnyddio tir a i gau. Ceir caeau nodweddiadol afreolaidd, yn fawr ac yn fach eu maint, yn enwedig ar y tir is a r llethrau llai serth fel y gwelir yn nyffryn Clywedog a blaen dyffryn Cerist. Yn aml, maent yn clystyru o amgylch ffermydd a allai, o bosibl, fod yn tarddu o r canol oesoedd neu ddechrau r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae n debygol eu bod yn cynrychioli proses raddol o glirio coetir a chau tir sy n dyddio o leiaf o ddechrau r canol oesoedd neu n fuan wedi hynny. Gellir cysylltu trin y tir yn yr ardal yn y Canol Oesoedd â r dystiolaeth dros felin flawd â bwerwyd gan ddur a ddaeth mewn dyfrffos o Afon Cerist, ym Melin-y-wern yn y Fan. Fe i cofnodwyd gyntaf yn y 1290au. Roedd melin flawd yn dal i weithredu yma yn y 1670au. Fe i troswyd yn bandy yn y 1840au ond roedd wedi i chau erbyn y 1880au, oherwydd, mae n debyg, y gwaith prosesu mwynau yn yr un ardal. <P> Goroesodd tua chwarter yr ardal, fodd bynnag, yn borfa tir comin heb ei gau tan y deddfau cau tir ar ddechrau r 19eg ganrif a lyncodd, yn ôl pob tebyg, nifer o lechfeddiannau cynharach. Roedd hyn yn cwmpasu n enwedig y coetir a r tir uchel a r tir mwy serth, gan gynnwys y gefnen yn rhedeg tua r gogledd o Lanidloes i Gellilefrith, Garth Hill tua r de i Gringoed yn nyffryn Clywedog a r llethrau i r gogledd o r Fan ac o gwmpas blaen dyffryn Nant Gwden. Mae r patrymau caeau pendant, rhai ohonynt yn fawr a rhai yn fach ag ochrau syth yn yr ardaloedd lle gwelwyd caeau mwy afreolaidd (yn cynrychioli proses gynharach o gau tir bob yn dipyn) yn adlewyrchu hyn. Caewyd peth tir agored yn rhan orllewinol yr ardal, rhwng Bryntail a Phenyclun, oedd yn rhan o faenor Talerddig, trwy gytundeb preifat gan nad oedd wedi i gynnwys yn y ddeddf seneddol o ran cau tir. Mae n ymddangos bod y patrwm o gaeau ag ochrau syth yn nyffryn Cerist yn cynrychioli proses o ad-drefnu r dirwedd yn dilyn sianelu r afon pan adeiladwyd Rheilffordd y Fan ym 1871. <P> Mae r ardal nodwedd yn cynnwys cyfres bwysig o olion archeolegol sy'n ymwneud ag echdynnu a phrosesu mwynau metel. Mae gwaith pwdlo hynafol, o bosibl yn dyddio o r canol oesoedd, ymysg y dystiolaeth gynharaf. Fe saif ger Nant Gwden, i r de o Fferm Cwmbernant, ac mae n debygol ei fod wedi defnyddio mwyn haearn gwaddodol lleol o gorsydd, sef rhywbeth fyddai n cael ei wneud yn helaeth yn ucheldiroedd Prydain wrth gynhyrchu haearn. Cofnodir bod mwynglawdd haearn ar waith yn y 1290au yng nghwmwd Arwystli Uwchcoed, er nad yw ei leoliad yn hysbys. <P> Roedd mwyngloddio diweddarach am fwynau metel, yn enwedig yn ail hanner y 19eg ganrif, yn cynnwys cynhyrchu plwm yn ogystal â rhywfaint o gopr, sinc a barytes. Sail y diwydiant oedd ecsbloetio gwythïen gyfoethog o fwynau a redai ar draws yr ardal am 6 cilomedr, waeth beth oedd y dopograffeg. Rhedai o fwynglawdd Aberdeunant yn nyffryn Nant Gwestyn yn y de-orllewin, trwy fwynglawdd Bryntail yn nyffryn Clywedog, i fwyngloddiau r Glyn a Phenyclun, mwynglawdd Van yn nyffryn Cerist a mwynglawdd East Van (mwynglawdd Cwmdylluan) yn nyffryn Nant Gwden a i llednentydd yn y gogledd-ddwyrain. Mae olion yr hen ddiwydiant mwyngloddio wedi u gwasgaru n eang dros tua 180 hectar o r hyn sydd bellach yn ei hanfod yn dirwedd amaethyddol. <P> Gweithiwyd mwynglawdd Aberdaunant, oedd yn cynhyrchu mwynau plwm a mwynau copr, o ddiwedd y 18fed ganrif hyd ddiwedd y 1870au. Mae hefyd peth tystiolaeth o rai lefelau cynnar a chloddfeydd arbrofol o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid neu r canol oesoedd. Mae olion gweladwy, sy n dyddio n bennaf o ddiwedd y 19eg ganrif, yn cynnwys nifer o geuffyrdd a siafft i r injan, llithryn mwyn, cafn olwyn, dyfrffos ac olion peiriandy ac adeilad swyddfa r mwynglawdd. Roedd olwyn ddur a dderbyniai ddur a gludwyd mewn dyfrffos yn darparu r puer. Mewn mannau, roedd y ddyfrffos o Nant Gwestyn wedi i thorri trwy graig. Byddai n pweru mathrwyr creigiau, gogrwyr a cherwyni, er ychydig olion o r rhain sydd i w gweld heddiw. <P> Roedd mwynglawdd Bryntail, sy n Henebyn dan Warchodaeth Cadw, ar waith rhwng diwedd y 18fed ganrif hyd ddiwedd y 1860au, gan gynhyrchu mwyn plwm a barytes. Mae r gweithfeydd sydd i w gweld yn dyddio n bennaf o r 19eg ganrif. Maent yn cynnwys 3 phrif siafft a cheudwll dwfn, olion inclein o gloddwaith mewn cyflwr da, gwely traciau tramffordd a dyfrffos oedd ar un adeg yn cludo dur a dynnwyd ymhellach i fyny afon Clywedog. Gwelir olion sylweddol o adeiladau, gan gynnwys strwythurau oedd yn gartref i beiriannau pwmpio a weindio, melin barytes, swyddfa r mwynglawdd, gefail a storfa ac arfdy crwn ar gyfer ffrwydron. Ceir hefyd olion cafnau olwynion ar gyfer peiriannau weindio a mathru, biniau mwynau, ffyrnau chwilboeth a thanciau dyddodi, lleoliadau gogrwyr, ardal o lawr golchi a hel, cerwyni a phydewau llaid. <P> Roedd mwynglawdd y Glyn, rhwng mwyngloddiau Bryntail a Phenyclun yn weithredol rhwng 1870 a r 1930au ac yn cynhyrchu mwyn plwm a barytes a broseswyd yn bennaf ym Mryntail. Mae olion gweladwy n cynnwys dwy siafft, cloddfeydd agored, siafftiau arbrofol, ychydig o olion hen beiriandy a chronfa ddur fechan. <P> Gorwedda mwynglawdd Penyclun mewn tirwedd o iseldir wedi i gau ar lethr sy n wynebu tua r dwyrain, islaw rhagfuriau bryngaer Penyclun. Cynhyrchwyd mwyn plwm yno rhwng y 1860au a r 1930au. Ar un adeg, hwn oedd y mwynglawdd mwyaf cynhyrchiol yn Sir Drefaldwyn. Mae llawer o r hen dirwedd fwyngloddio ym Mhenyclun, yn enwedig yr ardaloedd prosesu mwyn, bellach wedi u cuddio gan gynllun adfer tir ond mae r safle o ddiddordeb arbennig oherwydd bod simnai a pheiriandy bach o fath Cernywaidd prin wedi goroesi. Mae r safle, sy n cynnwys y brif siafft, ceuffordd gysylltiol a strwythurau eraill, gan gynnwys dwy gronfa ddur, yn cwmpasu arwynebedd o tua 1.5 hectar. <P> Mae olion helaeth mwyngloddio yn Van ac fe i gweithiwyd er mwyn cynhyrchu mwynau plwm a sinc rhwng 1850 a 1920. Mae r olion, yn rhai gweladwy ac yn rhai claddedig, yn cynnwys 5 siafft, 3 cheuffordd a lefelau, a rhai cloddfeydd arbrofol cynnar, incleiniau i gludo mwynau i r ardaloedd prosesu a glo i beiriandy; cafn olwyn ddur sydd wedi goroesi a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i bwmpio ac yn ddiweddarach i bweru mathrwr; gweddillion peiriandai a ddefnyddiwyd ar gyfer pwmpio, weindio a phweru peiriannau prosesu gan gynnwys tai mathru, melinau malu, gogrwyr a cherwyni; a melin mwynau amhur a adeiladwyd yn y 1870au i ailbrosesu r tomenni gwastraff, pydewau llaid a chynhyrchwr nwy a godwyd ym 1916. Byddai dur i bweru r peiriannau a phrosesau eraill yn cael ei gludo mewn dyfrffos o Afon Cerist a r llyn naturiol ar waelod y dyffryn yn Llyn y Fan ac o r gronfa ddur a grëwyd tua blaen y dyffryn tua chilomedr i r gorllewin, y tu hwnt i Fanledd-uchaf. Roedd strwythurau eraill yn cynnwys melin lifio, cytiau glo, gweithdy saer, swyddfa r mwynglawdd a chilfannau llwytho neu gynhwysydd ymchwydd i ddal y mwyn oedd yn dod allan o r brif geuffordd ar dram. Ailddefnyddiwyd rhan o r safle yn y 1930au ar gyfer gweithfeydd paent. Cafodd Rheilffordd y Fan, sef cysylltiad rheilffordd lled safonol i Gaersws sydd wedi i datgymalu, ei chreu ym 1871. Cangen o Reilffordd y Cambrian oedd hi, i gludo mwyn wedi i brosesu yn ogystal â theithwyr. Mae cryn dipyn o lwybr y lein hon i w weld o hyd, yn dilyn y ffordd heibio Van Terrace a ger ffiniau r caeau ar hyd Afon Cerist a gafodd ei sianelu a i sythu yn y cyfnod hwn. Roedd yr hen orsafoedd ar y lein yn yr ardal nodwedd, ger Penisafmanledd a Garth ac roedd Gorsaf Van ger y Fan. <P> Gweithiwyd mwynglawdd East Van (Cwmdylluan) am fwyn plwm yn nyffryn Nant Gwden a i llednentydd i r gogledd-ddwyrain o r Fan yn y cyfnod rhwng 1870 a 1882. Mae r olion gweladwy yn cynnwys 3 siafft, ynghyd â cheuffordd hir a 4 lefel. Mae sylfeini peiriandy a boelerdy ynghyd â chwt glo posibl, a adeiladwyd ar ddechrau r 1870au, yno o hyd. Mae yno hefyd simnai o frics i r dwyrain o fferm Pwll-yr-ebol a stablau r mwynglawdd a adeiladwyd o frics a gefail bosibl, sydd bellach yn cael eu defnyddio at ddibenion amaethyddol. Nid oes unrhyw weddillion prosesu wedi goroesi. Mae n debygol mai ym mwynglawdd Van y gwnaed hyn. <P> Roedd y diwydiant gwlân ar waith yn rhannau isaf dyffryn Clywedog, i r gorllewin o Lanidloes ar ddiwedd y 18fed ganrif a r 19eg ganrif, yn manteisio ar buer yr afon. Roedd ffrwd felin oedd yn cychwyn tua hanner cilomedr i fyny r afon yn bwydo hen Ffatri Wlanen Glynne, ger Glynne Cottages. Yn yr un modd, roedd dyfrffos yn bwydo hen Ffatri Wlanen Cribynau, ger Cribynau Mill Cottage. Dangosir cae deintur wedi i derasu ar lethr bryn serth, sy n wynebu tua r de, gerllaw r ffatri ar argraffiad 1af map yr Arolwg Ordnans yn y 1880au. Fe i gwelir hefyd mewn ffotograffau o r cyfnod. Cafodd yr ardal o goetir yn Allt Goch, i r gogledd o Lanidloes, ei datblygu n fan amwynder, sy n eiddo i gyngor y dref. <P> Datblygodd adeiladau a phatrymau anheddu heddiw yn ardal y dirwedd hanesyddol o gyfres gymhleth o ddylanwadau. Yn ôl pob tebyg, mae patrwm gwaelodol o ffermydd a bythynnod gwasgaredig iawn sy n gysylltiedig â chaeau afreolaidd oedd wedi u cau n gynharach, yn deillio o r canol oesoedd a diwedd y cyfnod canoloesol. Roedd o leiaf rhai ohonynt, megis Hiriaeth, yn bodoli erbyn dechrau r 13eg ganrif fan bellaf. Nid oes yr un adeilad o r canol oesoedd neu ddiwedd y cyfnod canoloesol wedi goroesi yn yr ardal nodwedd. Er hynny, mae nifer o hen adeiladau neu rai sydd wedi goroesi o ddiwedd y canol oesoedd a dechrau r cyfnod ôl-ganoloesol yn dynodi traddodiadau ffrâm bren cynharach a welid yn yr ardal yn y canol oesoedd. Mae n cynnwys y rheiny a gofnodwyd yng Nglangwden, Pant-yr-ongle, Cwmeryr-bach a Hiriaeth. Mae Hiriaeth, sy n dyddio o 1722, yn enghraifft gymharol ddiweddar. <P> Mae n ymddangos i garreg ddisodli defnyddio pren yn raddol, yn yr 17eg ganrif a r 18fed ganrif yn ôl pob tebyg. Mae n bosibl y bu cyfnod o newid pan ddefnyddiwyd cyfuniad o r ddau ddeunydd. Mae adeiladau carreg o r cyfnod hwn wedi u hadeiladu o rwbel garw. Weithiau byddai r adeiladau wedi u rendro a/neu eu gwyngalchu, yn enwedig yn achos adeiladau domestig. Mae n ymddangos mai cymharol fach oedd y ffermydd (tai 2-3 uned). Byddent weithiau wedi u cynllunio n un rhes neu n glwstwr syml. Roedd y rhan fwyaf o r lle yn yr adeiladau fferm hwn ar gyfer gwartheg yn bennaf, megis y fferm yng Nghwmdylluan, ychydig i r gogledd-ddwyrain o r Fan. Mae n debygol bod y ffermdy n dyddio o r 17eg ganrif, gydag adeiladau fferm cynnar yn cynnwys ysgubor a beudy. Cyn y 19eg ganrif, roedd y rhan fwyaf o r adeiladau yn yr ardal nodwedd yn bendant yn nhraddodiadau adeiladu brodorol. Mae n bosibl mai r ffermdy yng Nglyn Clywedog oedd yr unig eithriad. Roedd hwn yn adeilad o bwys o gyfnod y Dadeni, a adeiladwyd yn ôl pob tebyg yn borthdy i blasty'r teulu Glynne na chafodd, mae n debyg, mo i adeiladu. <P> Dechreuodd rai llechfeddiannau ymddangos, mae n debyg, ar yr ardaloedd o diroedd comin nad oedd wedi u cau, o leiaf o r 17eg ganrif a r 18fed ganrif ymlaen. Er ei bod bellach yn anodd nodi enghreifftiau penodol o breswylfeydd o r math hwn sydd wedi goroesi, gellir bod bron yn bendant mai dyma darddiad yr hen fwthyn Potatoe Hall ar y bryniau tua r gogledd o Lanidloes, sydd wedi i ddymchwel yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae n bosibl yr adeiladwyd hwn a bythynnod llechfeddiannu eraill o r fath o dywyrch a chlai, fel yr awgrymwyd yn achos hen breswylfa ar ochr y ffordd a elwid Clod Hall ger Bidffald, y soniwyd amdano yn hanes Hamer o Lanidloes. <P> Daeth y cyfle i wella ffermydd oedd yn bodoli gyda chau r tir comin. Crëwyd ffermydd newydd  wedi u gwella gan nifer o r stadau o ganlyniad i r cau. Adeiladwyd y fferm yng Ngellilefrith, a i ffermdy o frics a i threfniant tebyg i gwrt o adeiladau fferm, o r newydd mewn ardal o dir comin nad oedd wedi i gau ar y bryniau i r gogledd o Lanidloes. Gwnaed hyn yn y cyfnod rhwng mabwysiadu r ddeddf cau tir ym 1826 ac arolwg y degwm ym 1846. Mae i ffermdy ac adeiladau fferm Garth, ychydig i r de o r Fan ac yn dyddio o 1870, gymeriad stad amlwg. Unwaith eto, gorweddant ar dir a gafodd ei gau ar ddechrau r 19eg ganrif. Roedd y fferm yn eiddo i Iarll Vane, prydleswr mwyngloddiau plwm Van, ac mae n rhoi darlun diddorol o r berthynas rhwng diwydiant ac amaeth yn yr ardal ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae nifer o ffermydd llai eraill yn ardal y Fan, megis Penisafmanledd sydd eto ar fin y tir comin gynt, yn awgrymu buddsoddi mewn amaethyddiaeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae tai a oedd yn bodoli erbyn y 19eg ganrif sydd â r elfen  newydd yn eu henw, er enghraifft yn New House a Thw Newydd, yn awgrymu aneddiadau newydd eraill ar fin tiroedd comin nad oeddent wedi u cau gynt. <P> Deuai r gweithlu yn ystod cyfnodau cynharach y diwydiant mwyngloddio metel yn yr ardal nodwedd naill ai o r ffermydd a r pentrefi o amgylch neu o Lanidloes, gan deithio bob dydd. Ni ddarparodd y cwmni mwyngloddio dai wedi u hadeiladu at y diben tan gyfnodau diweddaraf y diwydiant, o r 1870au a r 1880au, a hynny ar gyfer cyfran gymharol fechan o weithwyr yn unig. Mae Van Terrace yn enghraifft arwyddocaol o fythynnod mwyngloddwyr sydd wedi goroesi. Mae yno un rhes o tua 18 anheddle deulawr syml, wedi u hadeiladu gerllaw r rheilffordd a r gwaith prosesu. Collwyd peth o ffurfioldeb ac undod y rhes oherwydd y paentio a r rendro amryfath dros adeiladwaith y brics gwreiddiol. Mae adeiladau eraill oedd yn rhan o r anheddiad mwyngloddio gwasgaredig hwn wedi goroesi, gan gynnwys tai a ddarparwyd ar gyfer rheolwr y mwynglawdd a r peirianwyr, a dau gapel anghydffurfwyr. Capeli r Methodistiaid Calfinaidd a r Methodistiaid Wesleaidd oedd y rhain o ran enwad ac roedd llyfrgell yn wreiddiol yng nghapel y Wesleaid. Nid oedd perchnogion y mwynglawdd yn caniatáu agor tafarn yn yr anheddiad. <H3><A HREF="w_clybib.htm">Ffynonellau</A></H3> Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Barton 1997; Bick 1977; Bick 1990; Burt, Waite a Burnley 1990; Carr 1992; Cozens 1953; Cozens, Kidner a Poole 2004; Foster-Smith 1978; Grimes 1951; Hamer 1872; Jenkins 1989; Jones 1922; Jones 1954; Jones a Moreton 1977; Jones, Walters a Frost 2004; Morgan 2001; Thomas 1955-56; Richards 1969; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 1911; Smith 1975; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewett 1991; Spurgeon 1972; Thomas 1997; Walters 1994; Williams 1990; Williams a Bick 1992 <CENTER> <P> I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag <STRONG>Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys</STRONG> yn y <A HREF="../../../../cpat/contact/contact.htm">cyfeiriad</A> hwn neu ewch i wefan <STRONG>Cyngor Cefn Gwlad Cymru</STRONG> yn <STRONG>www.ccw.gov.uk</STRONG>. </CENTER> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>