ÿþ<HTML> <HEAD> <TITLE> Clwyd-Powys Archaeological Trust - Projects - Historic Landscapes - Clywedog Valley - </TITLE> </HEAD> <BODY BACKGROUND="../../../../white.gif" LINK="3956BB" VLINK="gray" ALINK="F79431"> <TABLE WIDTH="100%"> <TR> <TD BACKGROUND="../../../../green.gif" WIDTH="175" VALIGN="top"> <CENTER> <IMG SRC="../../../../logo.gif" WIDTH="130" HEIGHT="159" ALT="CPAT logo" VSPACE="10"> <HR WIDTH="80%"> <STRONG> Cymraeg / <A HREF="1197.htm">English</A> </STRONG> <HR WIDTH="80%"> <TABLE> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../leftart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_clyint.htm#1197 Gorn Hill">Tirwedd Hanesyddol <BR>Dyffryn Clywedog</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="1197map.htm">Map o'r ardal cymeriad hon</A></STRONG> </TD> </TR> <TR> <TD> <IMG SRC="../../../../rightart.gif" ALIGN="left"> </TD> <TD> <STRONG><A HREF="w_1197ph.htm">Mwy Ffotograffau</A></STRONG> </TD> </TR> </TABLE> </CENTER> </TD> <TD> <IMG SRC="../../../../giftrans.gif" WIDTH="5"> </TD> <TD> <H1>Nodweddu r Dirwedd Hanesyddol</H1> <H2>Dyffryn Clywedog: <EM>Gorn Hill </EM><BR>Cymunedau Llanidloes a Llanidloes Allanol, Powys <BR>(HLCA 1197) </H2> <HR> <P><IMG SRC="2273-003.jpg" HEIGHT="235" ALIGN="right" HSPACE="10" VSPACE="5" ALT="CPAT PHOTO 2273-03"> <EM> <P> Ymylon serth bryn i r de o ddyffryn Hafren, gyda ffermydd gwasgaredig iawn, planhigfeydd coetiroedd yn tarddu o r 19eg ganrif a thirwedd caeau, rheolaidd yn bennaf sydd, yn ôl pob tebyg, yn cynrychioli cau hen dir pori ucheldirol a thir comin gynt yn y 18fed ganrif a r 19eg ganrif. </P> </EM> <H3>Cefndir Hanesyddol</H3> Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Cilmachallt ym mhlwyf degwm Llanidloes, Sir Drefaldwyn yn y 19eg ganrif. <H3>Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol</H3> Ymylon serth bryn i r de a r dwyrain o ddyffryn Hafren, rhwng 170 metr a 320 metr uwchben lefel y môr, sy n tremio dros Llanidloes. Gwelir dyffrynnoedd ag ochrau serth nentydd yn torri ar ei draws, yn cynnwys nant Lletty Cochnant. Mae priddoedd mân cleiog a siltiog sy n araf athraidd ac yn ddirlawn yn dymhorol, ac sy n tarddu o ddyddodion drifft o garreg llaid a siâl, yn gorchuddio rhannau isaf yr ardal. Yn hanesyddol, roedd y tir yno yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw a ffermio llaeth ar laswelltir parhaol, a thyfu grawn mewn rhai ardaloedd oedd yn draenio n well. Mae rhannau uchaf yr ardal wedi u gorchuddio â phriddoedd mân lomog neu siltiog, wedi u draenio n dda dros graig. Yn hanesyddol, magu da byw oedd yn gwneud orau yma, gyda choetir ar y llethrau mwy serth. Roedd rhannau sylweddol o r tir uwch, gan gynnwys Berth-lwyd Coppice, eisoes wedi u gorchuddio â phlanhigfeydd coetiroedd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ers hynny, cwympwyd rhannau ohonynt ac mae r tir unwaith eto n borfa arw. Mae ardaloedd troellog o brysg a choetir llydan-ddeiliog lled-naturiol yn goroesi ar hyd rhai dyffrynnoedd serth nentydd ac ar lethrau serth eraill yn yr ardal. <P> Nifer fechan yn unig o enwau lleoedd sydd wedi u cofnodi yn yr ardal hon, ond mae n debyg bod arwyddocâd i r ffaith bod nant Lletty Cochnant, llednant Afon Hafren yn Llanidloes, yn cynnwys yr elfen  llety , sy n arwydd o anheddau bychain a oedd, mae n bosibl, yn breswylfeydd tymhorol gynt. Ychydig o safleoedd archaeolegol a gofnodwyd yn yr ardal nodwedd; gwelir yn bennaf hen chwareli carreg bychain, gwasgaredig. Mae'n debygol eu bod wedi cyflenwi deunyddiau adeiladu ar gyfer Llanidloes a r cyffiniau. <P> Nodweddir tirwedd y caeau gan gaeau mawr a bach ag ochrau syth ar y tir uwch. Mae n debygol eu bod yn cynrychioli cau tir pori oedd gynt yn agored, o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen. Ar y llethrau is, gwelir caeau bach afreolaidd sy n cynrychioli,yn ôl pob tebyg, proses fwy graddol o glirio a chau ers o leiaf y cyfnod canoloesol. Caewyd rhannau o r ardal o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau r 19eg ganrif. <H3><A HREF="w_clybib.htm">Ffynonellau</A></H3> Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Anthony 1995; Barton 1997; Beresford 1988; Carr 1992; Carter 1965; Davies 1861; Davies 1973; Davies 1985; Davies 2005; Evans 1812; Hamer 1872-76; Haslam 1979; Horsfall-Turner 1908; Howell 1875-83; Jenkins 1969; Jervoise 1936; Jones 1954; Jones 1984; Jones 1985; Lewis 1833; Miles a Suggett 2003; Morgan 1983; Morgan et al. 1991; Morris 1967-68; Morris 1993; O Neil 1934; Owen 2003; Parliamentary Gazetteer 1843; Pennant 1783; Rees et al. 2007; Richards 1969; Robinson 2006; Silvester 1992; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Soulsby 1983; Smith 1975; Spurgeon 1966; Thomas 1955-56; Vaughan Owen 1969-70 <CENTER> <P> I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag <STRONG>Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys</STRONG> yn y <A HREF="../../../../cpat/contact/contact.htm">cyfeiriad</A> hwn neu ewch i wefan <STRONG>Cyngor Cefn Gwlad Cymru</STRONG> yn <STRONG>www.ccw.gov.uk</STRONG>. </CENTER> </TD> </TR> </TABLE> </BODY> </HTML>