CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Llunio Tirwedd Dyffryn Clywedog


DIWYDIANT

Daeth Llanidloes a’r ardal gyfagos yn ganolfan bwysig i’r diwydiant gwlân a’r diwydiant mwyngloddio metel yng Nghanolbarth Cymru am gyfnod o tua chanrif, rhwng tua 1820 a 1920. Bu effaith y diwydiannau hyn ar y dirwedd yn fyrhoedlog ac yn aneglur ac, oherwydd hyn, mae’r dirwedd hanesyddol wedi cadw ei chymeriad gwledig yn ei hanfod. Mae olion sylweddol y rhain, ynghyd ag olion diwydiannau prosesu a gweithgynhyrchu eraill, yn goroesi hyd heddiw ac fe’i gwelir fel tirnodau amlwg, er bod eraill bellach yn rhan o’r dirwedd amaethyddol unwaith eto.

Melino ŷd

Fel y nodwyd uchod, mae’n debygol mai cydran gymharol fach ond bwysig o economi amaethyddol yr ardal, o’r Canol Oesoedd tan efallai ddegawdau cynnar yr 20fed ganrif, oedd tyfu cnydau grawn. Byddai grawn yn cael ei brosesu ar gyfer bwyd a threuliant lleol ac mae’n debygol y gwnaed hyn yn lleol trwy gydol y cyfnod hwn, gan ddefnyddio pŵer dŵr. Cofnodwyd melinau dŵr canoloesol ar waith gyntaf yn Llanidloes a’r Fan yn y 1290au. Cofnodir melinau eraill, rhai bach yn ôl pob tebyg, yma ac mewn mannau eraill yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, megis Melin-y-wern ar Afon Cerist yn y Fan, Y Felin Fawr ar Nant Melin (llednant Afon Clywedog) a gofnodwyd yn y 1670au, a Felin-newydd ar ran uchaf Afon Clywedog yn y 1790au. Mae’n ymddangos bod rhai melinau, megis Melin Glan Clywedog ar Afon Clywedog, ychydig i’r gorllewin o Lanidloes, a Melin-y-wern wedi’u trosi’n felinau gwlân rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, er nad oedd eraill megis Y Felin Fawr yn cael eu defnyddio erbyn diwedd y 19eg ganrif. Ychydig o olion archeolegol gweledol o felino ŷd cynnar sydd wedi goroesi yn yr ardal, ar wahân i Felin-newydd a adawyd yn segur rywbryd rhwng diwedd y 1880au a dechrau’r 20fed ganrif. Gellir gweld olion dyfrffosydd, pyllau melin a meini melin yno o hyd.

Cloddio am gerrig

Gwelir hen chwareli cerrig bychain yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol a’r cyfnod ôl-ganoloesol wedi’u gwasgaru ledled yr ardal, yn enwedig yng nghyffiniau Llanidloes. Er mai ychydig o’r rhain sydd wedi’u dyddio ag unrhyw sicrwydd, nid oes amheuaeth fod llawer ohonynt yn perthyn i gyfnod penodol a ddilynodd y traddodiadau brodorol lleol o adeiladu â phren rhywle tua chanol yr 17eg ganrif, a defnyddio brics yn helaeth ar ddechrau’r 19eg ganrif. Wedi hynny, defnyddiwyd carreg leol yn helaeth ar gyfer codi adeiladau domestig a thai allan ffermydd. Roedd rhai chwareli’n amlwg ar waith trwy gydol y 19eg ganrif, fodd bynnag, i gael deunyddiau adeiladu ar gyfer adeiladau’r mwyngloddiau a hefyd, mewn rhai ardaloedd, ar gyfer waliau’r caeau.

Y diwydiant gwlân

Daeth Sir Drefaldwyn yn un o’r canolfannau pwysicaf yng Nghymru ar gyfer y diwydiant tecstilau wedi’u gwehyddu, o tua chanol yr 16eg ganrif. Fe arhosodd yn ddiwydiant domestig yn ei hanfod tan fwy neu lai y ddegawd olaf yn y 18fed ganrif. Byddai gwlân defaid yn cael ei gribo, ei nyddu a’i wehyddu'n frethyn, gwlanen yn arbennig, yn efallai y mwyafrif o ffermdai a bythynnod, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Yna, fe’i gwerthwyd mewn marchnadoedd lleol neu i fasnachwyr gwlân.

O ddiwedd y 18fed ganrif, dechreuodd y diwydiant ganolbwyntio ar drefi Sir Drefaldwyn, megis y Trallwng, y Drenewydd a Llanidloes, ar lannau Afon Hafren. Yn raddol, fe’i trawsnewidiwyd o ddiwydiant cartref i ddiwydiant oedd yn fwyfwy diwydiannol, mewn melinau gwlân mawr oedd yn defnyddio pŵer yr afonydd lleol. Cyflogai’r diwydiant ystod eang o weithwyr medrus, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan gynnwys brethynwyr gwlanen, cribwyr gwlân, nyddwyr a phanwyr; tewychu a glanhau’r deunyddiau a wnâi’r panwyr ac, yn lleol, fe wnaed hyn trwy bannu’r brethyn mewn melinau a yrrwyd gan ddŵr.

Yn aml, gwnaed y gwehyddu ar wŷdd llaw yng nghartrefi’r gweithwyr ym mlynyddoedd cynnar y diwydiant. Yn ddiweddarach, fe’i gwnaed fwyfwy mewn gweithdai agored ar loriau uchaf adeiladau oedd yn aml â ffenestri mawr er mwyn gwella goleuo, gyda’r llety ar y lloriau is. Erbyn y 1830au, amcangyfrifwyd bod yna nifer fawr o weithdai gwehyddu yn y dref; roeddent, ynghyd â busnesau perthynol eraill, yn cyflogi mwy na 2,500 o bobl. Sefydlodd Llanidloes ei marchnad wlanen ei hun ym 1838, gan osgoi’r angen i fasnachu ym marchnadoedd gwlanen y Drenewydd a’r Trallwng. Fodd bynnag, arweiniodd amodau gwaith gwael a chyfnodau o ddirwasgiad yn y diwydiant at derfysg y Siartwyr yn Llanidloes ym 1839. Yn sgil hyn, carcharwyd y rheiny a gafwyd yn euog o gorddi’r aflonyddwch a thrawsgludwyd tri ohonynt. Er hynny, parhaodd ffyniant y dref i fynd o nerth i nerth, yn bennaf oherwydd y diwydiant gwlân.

Cyfunodd y melinau diweddarach, oedd yn fwy eu maint ac yn fwy diwydiannol eu naws, yr holl brosesau gweithgynhyrchu dan un to, gan gynhyrchu gwlanen, brethyn caerog a siolau. Roedd Melin Wlanen Stryd y Bont Fer, Melin Wlanen Llanidloes, Melin Glan Clywedog, Melin Phoenix a Melin y Cambrian yn enghreifftiau o’r rhain. Roedd yna 9 ffatri o’r fath erbyn y 1850au, yn cyflogi tua 800 o weithwyr. Roedd y diwydiant yn parhau i ddibynnu i raddau helaeth ar bŵer dŵr, a safai’r rhan fwyaf o’r melinau ar lannau Afon Hafren a rhannau isaf Afon Clywedog i’r gorllewin o Lanidloes. Fodd bynnag, daeth pŵer stêm yn fwy economaidd o ddiwedd y 1850au, wrth i lo ddod ar gael yn haws gyda dyfodiad y rheilffyrdd, ac fe’i cyflwynwyd i nifer o’r melinau lleol, er enghraifft Spring Mill a adeiladwyd yn y 1870au.

Byddai’r wlanen orffenedig yn cael ei thynnu’n dynn i sychu ar fachau deintur ger y melinau. Yn achos Ffatri Glynne i’r gorllewin o Lanidloes, fel a ddangoswyd ar fapiau a ffotograffau o’r cyfnod, byddent yn gwneud hyn trwy osod fframiau pren ar gyfres o chwe thrac cyflin, ystaden o hyd (220 llath) ar lannau gogleddol serth Afon Clywedog.

Roedd y diwydiant gwlân lleol eisoes yn teimlo effeithiau cystadleuaeth trefi melin swydd Efrog a swydd Gaerhirfryn erbyn y 1860au, ac erbyn 1912-13 roedd y diwydiant gwlân yn yr ardal wedi dirwyn i ben o’r diwedd. Troswyd rhai o’r melinau gwlân at ddibenion eraill, er enghraifft Spring Mill a ddaeth yn waith lledr. Er hynny, methwyd â dod o hyd i ddefnyddiau amgen i lawer o’r melinau eraill ac maent bellach wedi’u dymchwel. Pensaernïol yn bennaf yw’r etifeddiaeth sydd wedi goroesi, er mai cymharol brin bellach yw’r arwyddion gweledol o bwysigrwydd Llanidloes yn hanes y diwydiant gwlân yng nghanolbarth Cymru. Cynrychiolir cyfnodau domestig cynharach y diwydiant yn Highgate Terrace ar Ffordd Penygreen, lle mae llofft wehyddu agored wedi goroesi. Un o’r melinau sydd wedi goroesi yw'r hen Bridgend Mill, ger y Bont Fer dros Afon Hafren. Hon oedd yr olaf o felinau Llanidloes i gau.

Mwyngloddio metel

Gwyddys am safle gwaith pwdlo hynafol, o bosibl yn dyddio o’r canol oesoedd ger Nant Gwden, i’r de o Fferm Cwmbernant. Cofnodir bod mwynglawdd haearn ar waith yn y 1290au yng nghwmwd Arwystli Uwchcoed, er na wyddys ei leoliad. Mae’n debygol bod diwydiant ar raddfa fechan wedi’i seilio ar ddyddodion lleol o fwyn haearn gwaddodol o gorsydd; fe’i defnyddiwyd yn helaeth yn ucheldiroedd Prydain i gynhyrchu haearn. Mae’n debygol, yn yr achos hwn, ei fod yn tarddu o ddyddodi mwyn haearn o’r sialau duon Silwraidd lleol sy’n llawn sylffid haearn.

Roedd mwyngloddio i gynhyrchu plwm, yn ogystal â mwynau copr a sinc, yn ddiwydiant o bwys, ac mae tirluniau mwyngloddio creiriol yn nodwedd nodedig yn rhannau o ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol Dylife, Coedwig Hafren, Banc y Groes, a Manledd. Mae’r olion yn dangos dilyniant arwyddocaol mewn technoleg mwyngloddio a phrosesu, o bosibl o gyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol hyd at ddegawdau cynnar yr 20fed ganrif pan ddaeth y diwydiant o’r diwedd i ben. Roedd mwynau eraill a gloddiwyd yn cynnwys barytes, a ddefnyddiwyd yn llenwad anadweithiol a diwenwyn ar gyfer papurau a phaentiau, a chalamin, a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu pres a thrwyth croen.

Er mai bach a gwasgaredig yw’r mwyngloddiau ar y cyfan, fe welir yn yr ardal hon yr un safle mwyngloddio plwm mwyaf yng nghanolbarth Cymru, yn y Fan. Mae dosbarthiad daearyddol olion mwyngloddio yn yr ardal yn cyfateb yn agos i nifer o wythiennau cyfoethog o fwynau. Gwelir felly batrwm llinellol o weithfeydd ar draws y dirwedd gan dalu fawr ddim sylw i’r dopograffeg leol. Rhed un band o weithfeydd o’r fath ar draws y mynydd agored am gilomedr a hanner rhwng Dyfngwm yn nyffryn Clywedog i Ddylife yn nyffryn Twymyn. Mae’r rhesen o weithfeydd sy’n ymestyn dros saith cilomedr o Westyn yn nyffryn Nant Gwestyn i Gwmdylluan yn nyffryn Nant Gwden trwy’r mwyngloddiau ym Mryntail, Penyclun a Van yn enghraifft arall.

Mae yna dystiolaeth ddogfennol o rai gweithfeydd cynharach o tua chanol yr 17eg ganrif pan gyhoeddwyd prydlesau amrywiol, er mae’n debygol bod y diwydiant yn tarddu o gyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol. Fodd bynnag, mewn llawer achos, mae'r hen weithiau wedi’u cuddio gan y rhai a ailweithiwyd yn helaeth ar gyfnodau diweddarach, yn ôl pob tebyg. Nid oes tystiolaeth eglur o weithgareddau mwyngloddio yn y cyfnod cynhanesyddol yn yr ardal, er yr awgryma’r gaer Rufeinig fechan ym Mhenycrocbren ar Ben Dylife fodolaeth gweithfeydd Rhufeinig. Awgrymwyd y gallai’r gaer fod wedi chwarae rhan mewn plismona’r diwydiant mwyngloddio lleol yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Yn yr un modd, ychydig o dystiolaeth bendant sydd o fwyngloddio yn ystod y cyfnod canoloesol. Er hynny, ystyriwyd ei bod yn arwyddocaol bod cadarnhad o’r rhodd o faenor ucheldirol yng Nghwmbiga i’r abaty Sistersaidd yng Nghwmhir ym 1198 yn cynnwys y cymal anarferol sy’n nodi bod y rhodd yn berthnasol i ‘ei holl ddefnyddiau, boed uwchlaw neu islaw’r un tir’ (super eandem terram et subter), yn ogystal â’r hawliau mwy arferol ar goetir, porfa a physgota. Mae hyn yn awgrymu peth gwybodaeth, o leiaf, o’r cyfoeth o fwynau oedd yn bodoli’n lleol.

Ychydig o newid a fu yn nhechnoleg mwyngloddio o gyfnod y Rhufeiniaid hyd tua’r 17eg ganrif. Fe’i nodweddir yn gyffredinol gan fentrau mwyngloddio gweddol fach ond niferus. Yn aml, oherwydd llifogydd a’r pŵer oedd ei angen i dynnu’r mwyn i’r wyneb, byddent yn weithfeydd gweddol fas ac yn dymhorol eu natur. Mae gweithfeydd cynnar posibl wedi’u hawgrymu mewn nifer o ardaloedd, yn enwedig yn Nylife, Pen Dylife, Dyfngwm a Gwestyn, ar sail cerrig morter wedi’u gadael yn Nyfngwm, gweithfeydd brig cul a elwir yn gloddfeydd agored a nodwyd yn Nylife, a gweithfeydd bas siafft a thomen o’r math a welir ym Mhen Dylife ac yng Ngwestyn. Efallai fod y defnydd posibl o’r broses mwyngloddio brig â dŵr ym Mhen Dylife hefyd yn awgrymu gweithfeydd cynnar. Roedd y broses hon yn golygu turio sianeli artiffisial ar lethrau i sianelu dŵr a gasglwyd mewn cronfeydd, er mwyn dod â gwythiennau mwyn yn y creigwely gwaelodol i’r golwg.

Y gwythiennau mwyn ar y wyneb fyddai wedi’u defnyddio’n gyntaf ac, yn ôl pob tebyg, byddent wedi dod i ben yn gynnar. Roedd natur goleddf serth y gwythiennau mwyn yn yr ardal yn gofyn am ddefnyddio technegau mwyngloddio dwfn mwy soffistigedig yn lleol. Byddai hyn yn cynnwys defnyddio trawstoriadau (lefelau o siafft fyddai’n croestorri gwythïen fwynol) a phonciau (siambrau wedi’u turio uwchben neu o dan lefel neu drawstoriad er mwyn ecsbloetio gwythïen). Un o’r ychydig enghreifftiau o arloesi mecanyddol a gyflwynwyd cyn y Chwyldro Diwydiannol oedd defnyddio dyfais droi y byddai ceffyl yn ei thynnu, er mwyn codi bwcedi yn y siafft a’u gollwng i lawr. Gellir eu hadnabod weithiau o ardaloedd crwn gwastad, weithiau gyda chwrbyn ar yr ochr allan. Gwyddys am enghreifftiau da sy’n dyddio o’r cyfnod ôl-ganoloesol ym Mhen Dylife.

Gwnaethpwyd cynnydd pellach sydyn mewn technoleg mwyngloddio yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, sef cyfnod pan fyddai hapfuddsoddwyr unigol a chwmnïau mwyngloddio yn buddsoddi cyfalaf sylweddol. Mwynglawdd Van oedd cynhyrchwr mwyaf y byd o fwyn plwm am gyfnod yn y 1870au, gan gyflogi llawer o gannoedd o weithwyr ar y ddaear ac oddi tani. Roedd harneisio pŵer dŵr ac, yn ddiweddarach, cyflwyno peiriannau stêm yn galluogi cloddio mwyngloddiau dyfnach a dyfnach, gan hwyluso draeniad a chaniatáu i fwyn gael ei godi o dyllau dyfnach o dan y ddaear. Defnyddiwyd ffrwydron fwyfwy o ganol y 18fed ganrif a gwnaed gwelliannau sylweddol hefyd i brosesu’r mwyn gyda chyflwyno mecaneiddio, unwaith eto trwy fanteisio ar bŵer dŵr a stêm. Roedd stêm yn fwy dibynadwy ond yn ddrud i’w osod a’i gynnal gan eu bod mor bell o’r meysydd glo, er iddo ddod yn fwy fforddiadwy gyda dyfodiad y rheilffyrdd. Mewn cyferbyniad, roedd dŵr ar gael yn rhwydd ac roedd yn weddol rhad i’w ddefnyddio, ac er na ellid dibynnu ar y cyflenwad ar adegau o sychder, fe barhaodd yn ffynhonnell bŵer o bwys tan ddirywiad y diwydiant mwyngloddio yn yr ardal.

Mae ystod anferth o fathau o henebion amlwg wedi goroesi yn y maes o’r cyfnod gweithgaredd diwydiannol hwn. Gall mwyngloddiau ymestyn dros sawl hectar a gallant ddarparu cofnod corfforol manwl o’r technegau echdynnu a phrosesu a oedd yn cael eu defnyddio. Byddai ceuffyrdd a siafftiau dwfn yn cael eu turio o dan y ddaear ac yn aml byddai trawstoriadau’n eu cysylltu, er mwyn cludo’r mwyn oddi yno, er mwyn draenio neu er mwyn awyru. Adeiladwyd systemau dyfrffos a chronfeydd dŵr mewn sawl mwynglawdd, gan gynnwys y rheiny yn Nylife, Pen Dylife, Dyfngwm, Glyn, Gwestyn a Van, i gasglu dŵr a’i ddosbarthu er mwyn gyrru olwynion dŵr a ddefnyddid i weindio, pwmpio a phrosesu mwyn neu, mewn rhai achosion, i fwydo peiriannau stêm. Adeiladwyd peiriandai, gyda boelerdai a simneiau ynghlwm, a gellir adnabod olion gweladwy o ryw fath neu’i gilydd o’r rhain ym mwyngloddiau Pen Dylife, Penyclun, Aberdaunant, Glyn, Van, East Van, a Gwestyn. Mae tramffyrdd, argloddiau tramffyrdd, llithrynnau mwyn ac incleiniau i gludo’r mwyn i’r ardaloedd prosesu wedi goroesi yn Nylife, Dyfngwm, Bryntail a Van. Mae cynrychiolaeth dda o wahanol gamau prosesu a chrynhoi mwynau ar nifer o safleoedd, gan gynnwys olion biniau mwynau, tai mathru a’r cafnau olwynion cysylltiedig, llwyfannau ar gyfer gogrwyr, cerwyni, pydewau llaid a thomenni gwastraff mewn gwahanol safleoedd mwyngloddio. Tybir bod yna felinau malu cynnar yn Nylife, lle daethpwyd o hyd i gerrig morter wedi’u cafnu yn Esgairgaled. Buddsoddwyd hefyd mewn codi amryw o adeiladau gan gynnwys swyddfeydd mwyngloddiau, stablau, gefeiliau ac arfdai ar gyfer ffrwydron. Mae tystiolaeth o hyn wedi goroesi mewn nifer o fwyngloddiau, gan gynnwys Gwestyn, Bryntail, Aberdaunant ac East Van.

Cynhaliwyd y mwyndoddi gan amlaf mewn gweithfeydd toddi ymhell oddi yno, yn bennaf oherwydd prinder tanwydd lleol. Awgryma crynoadau o slag a gysylltir â darganfyddiadau Rhufeinig fod mwyndoddi’n mynd rhagddo yng Nghaersws a Threfeglwys. Aethpwyd â mwynau wedi’u prosesu tua’r gorllewin gan amlaf yn ystod y cyfnod o’r 17eg ganrif hyd ganol y 19eg ganrif. Fe’u cludwyd 20 cilomedr neu fwy ar y ffyrdd dros y bryniau ar geffyl a chert, i’w llwytho ar longau yn Nerwenlas ar aber Afon Dyfi. Yna, fe’u cludwyd ar y môr i weithfeydd toddi ym Mryste, Abertawe ac aber Afon Dyfrdwy ac, yn ddiweddarach, i ffwrneisi a sefydlwyd yn ardal Aberystwyth. Sefydlwyd rhai gweithfeydd toddi'n lleol, er enghraifft, ym Mhenyclun yn y 1850au, er nad oes unrhyw sicrwydd ynglŷn â pha mor llwyddiannus oeddynt. O ddiwedd y 1850au, cludwyd mwynau o’r mwyngloddiau yn y dwyrain i ben y rheilffordd yn Llanidloes, ac o ddechrau’r 1870au, fe ddefnyddiwyd rheilffordd y Fan. O 1862, daeth yn fwy economaidd cludo mwynau o fwyngloddiau’r gorllewin yn Nylife a Dyfngwm tua’r gogledd i lawr dyffryn Twymyn i Lanbrynmair. Yno, fe’i rhoddwyd ar wagenni ar reilffordd y Drenewydd – Machynlleth.

Rhwng 1870-78, roedd pob un o’r mwyngloddiau yn ardal Dylife a Van yn cynhyrchu miloedd lawer o dunelli o fwyn plwm wedi’i brosesu bob blwyddyn, ond erbyn diwedd y 1870au, fe ostyngodd cynhyrchiant plwm yn ddramatig, yr un fath ag mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Cystadleuaeth o ardaloedd eraill oedd yn gyfrifol am hyn, a chaewyd llawer o fwyngloddiau. Gostyngodd cynhyrchiant yn yr ardal i gyfran fach iawn o’r hyn a fu, a daeth y diwydiant i ben yn y cyffiniau o’r diwedd yn y 1920au a’r 1930au. Ar adegau, gyda chyflwyno offer prosesu mwy soffistigedig, roedd elw i’w wneud wrth ailweithio tomenni gwastraff cynharach i adennill mwynau metel. Gwnaed hyn, er enghraifft, yn Nylife. Wrth i’r diwydiant paent a’r diwydiant papur ehangu, daeth hefyd yn werth chweil adennill barytes, a gwnaed hyn, er enghraifft, yn y 1930au ym Mryntail ac ym Mhenyclun.

Cafodd symiau sylweddol o waddodion eu cludo i lawr yr afon oherwydd y gweithgareddau mwyngloddio yn ardal dyffryn Clywedog yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Mae astudiaethau o waddodion gorlifdir yn nyffryn Hafren, cyn belled i lawr yr afon â’r Trallwng o leiaf, wedi dangos y gellir defnyddio’r cynnwys metel sy’n ganlyniad i fwyngloddio ymhellach i fyny’r afon i bennu oed dyddodion llifwaddod yn ystod y cyfnod hanesyddol, ac i asesu cyfraddau gwaddodiad ar y gorlifdir.

Ers canol ail hanner yr 20fed ganrif, bu ymwybyddiaeth gynyddol, nid yn unig o arwyddocâd yr olion mwyngloddio metel yn hanes diwydiannol a chymdeithasol canolbarth Cymru, ond hefyd y llygru mae’r tomenni gwastraff a’r sorod mewn rhai ardaloedd wedi’i achosi. Fe gododd hyn lefelau metelau trwm mewn tir amaethyddol ac afonydd cyfagos, yn enwedig Afon Cerist ac Afon Twymyn. Canlyniad hyn yw peth gwrthdaro buddiannau rhwng gofynion cadwraeth archeolegol ar y naill law a rheoli llygru ar y llaw arall. Mae adennill tir diffaith a gwneud olion echdynnu a phrosesu yn ddiogel wedi bod yn ystyriaethau hefyd. Er hynny, bu dirnadaeth mewn rhai achosion, yn enwedig ar y dechrau, fod gweddillion archeolegol o bwys wedi’u dinistrio heb gofnod.

Aneddiadau mwyngloddio’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn Van a Dylifee

Oherwydd natur anrhagweladwy a thymhorol yn aml y mentrau mwyngloddio cynnar ym meysydd mwyn canolbarth Cymru, ystyriwyd bod gwaith tanddaearol, prosesu mwynau a chludo mwynau i weithfeydd toddi pell yn waith i’w gyfuno â gwaith amaethyddol neu waith mewn diwydiannau eraill megis y diwydiant gwlân. Mae’n amlwg o gofnodion cyfrifiad yn y 19eg ganrif ar gyfer yr ardal o amgylch mwynglawdd Van, er enghraifft, bod mwyngloddwyr naill ai’n teithio i’r gwaith bob dydd o Lanidloes neu eu bod yn cael llety mewn ffermydd yn y cyffiniau. O’r herwydd, ychydig o gymhelliad oedd yn y blynyddoedd cynnar i greu aneddiadau mwyngloddio. Yn ystod cyfnodau diweddarach y diwydiant yn unig, yn ystod y 1870au a’r 1880au, y darparwyd rhywfaint o lety i’r mwyngloddwyr. Adeiladwyd Van Terrace, sef un rhes o tua 18 anheddle deulawr syml, yn ystod y cyfnod hwn gerllaw’r rheilffordd a’r gwaith prosesu. Dyma graidd anheddiad bach i’r gweithwyr oedd hefyd yn cynnwys tai ar gyfer rheolwr a pheiriannwr y mwynglawdd, siop, gefail a chapeli’r Methodistiaid Calfinaidd a’r Methodistiaid Wesleaidd. Fodd bynnag, o ffermydd a bythynnod lleol y deuai’r rhan fwyaf o’r gweithlu o hyd, o Gaersws ac arosfannau eraill ar hyd Rheilffordd y Fan, ac o Lanidloes.

Roedd cymuned fwyngloddio wasgaredig debyg yn Nylife a oedd yn cynnwys rhes llai ffurfiol o tua 20 o fythynnod mwyngloddwyr yn Rhanc-y-mynydd. Yn wreiddiol, roedd gan bob un randir bychan ar gyfer tyfu llysiau ar lan ogleddol Afon Twymyn. Ceir hefyd rhes fyrrach o fythynnod ym Mryn-golau a thai a rhesi byrion gwasgaredig eraill a oedd hefyd, yn ôl pob tebyg, yn gysylltiedig â’r diwydiant mwyngloddio. Roedd safle pob un yn ddigysgod ar ymyl y rhostir. Ar un adeg, roedd yr anheddiad hefyd yn cynnwys capeli Annibynwyr, Bedyddwyr a Methodistiaid Calfinaidd, Eglwys Dewi Sant a ficerdy, ac ysgol. Roedd y rhain i gyd yn bodoli erbyn y 1850au. Roedd yna hefyd gefail a sawl tafarn. Yn yr un modd â phreswylwyr y Fan, byddai’r mwyafrif o’r gweithlu’n parhau i deithio i’r mwynglawdd bob dydd o’r ffermydd a’r bythynnod mwy gwasgaredig. Daeth diwedd i'r diwydiant mwyngloddio ac, yn sgil hynny, aeth yr anheddiad ar drai yn raddol. Gwelwyd yr ysgol yn cau ym 1925 ac Eglwys Dewi Sant yn dadfeilio ar ddechrau’r 20fed ganrif. Yn y diwedd, dymchwelwyd yr eglwys ym 1962 ac, yn ddiweddar, troswyd dau o’r capeli yn dai.

Mewn mannau eraill, ceir peth tystiolaeth o batrwm anheddu diwydiannol, gyda thyddyn mwyngloddiwr wedi goroesi ger Bryntail, ac olion bythynnod bychain eraill yn yr ardal.

Anheddiad ar ochr y ffordd ym Mhenffordd-las

Erbyn diwedd yr 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif, fan bellaf, roedd anheddiad gwasgaredig wedi dod i’r amlwg ym Mhenffordd-las oherwydd ei leoliad yr ochr draw i geunant dwfn Afon Clywedog, ar lwybrau hynafol rhyw hanner ffordd rhwng Llanidloes, Machynlleth a Llanbrynmair ac yn agos at y cefndeuddwr rhwng systemau Afon Hafren ac Afon Dyfi. Yn ddiamau, meithriniwyd ei ddatblygiad gan y ffaith ei fod ar ryw fath o dir neb, ar ymyl tir comin heb ei gau, ger y ffin rhwng hen raniad tiriogaethol rhwng Cydewain ac Arwystli a phlwyfi Trefeglwys a Phenegoes. Daeth fferm Esgair-goch yn ganolbwynt pwysig i’r Crynwyr yn Sir Drefaldwyn ar ddechrau’r 18fed ganrif ac roedd yno Dŷ Cwrdd a mynwent gysylltiedig, sef Quakers’ Garden. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, fel y nodir uchod, gorweddai ar y ffordd dyrpeg rhwng Llanidloes a Machynlleth, a wnaeth feithrin sefydlu’r hen efail a’r dafarn ar ochr y ffordd, sef y Stay-a-little. Daeth yn ganolfan wledig o bwys i addoli anghydffurfiol y cymunedau ffermio a mwyngloddio lleol yn ystod y 19eg ganrif. Ailadeiladwyd Capel y Bedyddwyr, a adeiladwyd gyntaf ym 1805, ym 1859. Sefydlwyd y capel Methodistiaid, oedd gynt yn Rock Villa, ym 1806, ac fe’i hailadeiladwyd ym 1875. Adeiladwyd ysgol newydd ac fe’i hagorwyd ym 1874. Gyda diboblogi gwledig o ganlyniad i ddiwedd y diwydiant mwyngloddio a chyfuno ffermydd yn ystod yr 20fed ganrif, gadawyd y ffermydd, y bythynnod a’r capeli, ac mae rhai ohonynt wedi’u hadnewyddu i fod yn ail gartrefi.

(yn ôl i’r brig)