CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyedog

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Llunio Tirwedd Dyffryn Clywedog


TARDDIAD A THWF LLANIDLOES

Er bod cymeriad Llanidloes yn wahanol i gymeriad yr ardal gyfagos, mae ei tharddiad a’i datblygiad yn adlewyrchu llawer o’r them穹 sydd wedi’u trafod eisoes.

Nid oes sicrwydd o ddyddiad yr anheddiad cynharaf, er ei bod yn bosibl iddo darddu o eglwys ac anheddiad cysylltiedig ar ddechrau’r cyfnod canoloesol. Ceir y cofnod dogfennol cyntaf o’r fwrdeistref, a grëwyd gan arglwyddi Powys yn ail hanner y 13eg ganrif, ym 1263. Fel y nodwyd eisoes, mae ei chynllun strydoedd ar batrwm grid yn nodweddiadol o drefi canoloesol planedig. Mae yno bedair prif ffordd sy’n dod at ei gilydd ar safle croes y farchnad wreiddiol, sydd bellach yn safle Hen Neuadd y Farchnad. Cafodd y dref yr hawl i gynnal marchnad wythnosol a ffair ddwywaith y flwyddyn ym 1280. Roedd melin ŷd ar waith erbyn y 1290au. Fe dyfodd y dref yn gyflym yn ystod degawdau olaf y 13eg ganrif a diwedd degawd gyntaf y 14eg ganrif. Er hynny, roedd yn parhau i fod yn gymharol fach ac o bwys yn lleol yn unig. Tybir bod y dref wedi cael amddiffynfeydd yn ystod y Canol Oesoedd, gyda nifer o byrth yn ôl pob tebyg.

Mae’n bosibl mai Eglwys Sant Idloes yw'r unig adeilad canoloesol sydd wedi goroesi yn y dref, gyda pheth o’i hadeiladwaith wedi goroesi o’r 14eg ganrif a’r 15fed ganrif. Bu cryn ailadeiladu yng nghanol yr 16eg ganrif pan adeiladwyd y to trawstiau gordd a phan ymgorfforwyd rhannau sylweddol o hen adeiladwaith abaty Sistersaidd Cwmhir gynt yn yr eglwys.

Mae peth tystiolaeth wedi goroesi o draddodiad ôl-ganoloesol o adeiladu â fframiau pren yn y dref, ond roedd yn fwy amlwg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Ceir tystiolaeth o hyn yn y disgrifiad canlynol o Beauties of England and Wales, Evans a gyhoeddwyd ym 1812, sydd hefyd yn darparu argraff graffig o amodau cyffredinol glanweithdra yn y dref yn y cyfnod hwnnw:

‘yet having very few good houses, and, the greater number being built of timber frames, and the intermediate spaces formed with what is technically denominated, wattle and dab, that is, laths, or sticks, intertwined, and the insterstices filled up with mud: add, together with the irregularity of their position, to give an awkwardness to its appearance, not very inviting to the passing visitant. The width of the streets, which in most places is deemed a great advantage, here becomes an abominable nuisance, from the custom the inhabitants have of accumulating their ashes, &c. in large heaps before their respective doors; the exhalations from which in hot weather must be very offensive to persons’

Gwelir tystiolaeth o olygfeydd tebyg hefyd ym mhaentiad The Llanidloes Pig Fair Hugh Hughes, sydd wedi’i osod yn Stryd y Dderwen Fawr ac sy’n dangos effaith barhaus y farchnad ar y dref tua’r dyddiad hwn. Sefydlwyd bwrdd iechyd lleol i geisio gwella’r amodau afiach ar ddechrau’r 19eg ganrif, fel yn achos trefi eraill yng Nghymru.

Cofnodwyd defnyddio estyll pren yn yr ardal leol yn y disgrifiad canlynol yn A Tour in Wales, Thomas Pennant a gyhoeddwyd ym 1793:

‘A coarse slate is found in the neighbouring hills; but there still remains, in many parts, the ancient covering of the country, shingles, heart of oak split and cut into form of slates’

Fe dyfodd y dref yn gyflym am gyfnod ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, yn benodol oherwydd y diwydiant gwlân lleol. Fe ddatblygodd yn raddol ar ddechrau’r 19eg ganrif o ddiwydiant a oedd yn ei hanfod yn ddomestig i ddiwydiant a oedd wedi’i seilio ar felinau mawr diwydiannol. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd fe ddaeth y dref yn ganolfan bwysig o ran masnach a chysylltiadau. Roedd datblygiad y diwydiant mwyngloddio yn ei chefnwlad agos wedi dylanwadu’n gryf arni. Erbyn y 18fed ganrif, os nad ynghynt, roedd adeiladu gweddol ddwys ar y ddwy brif stryd a oedd yn cyfarfod ger neuadd y farchnad. Fe welodd y 19eg ganrif ddatblygu’r tir agored y tu ôl i ffryntiadau’r strydoedd canoloesol, yn ogystal â swm sylweddol o ailadeiladu a rhoi ffasâd o frics newydd ar ffryntiadau adeiladau cynharach. Daeth naws fwy bonheddig i’r dref yn gyflym yn ystod ychydig ddegawdau cyntaf y 19eg ganrif. Mae hyn yn eglur o’r disgrifiad canlynol yn Topographical Dictionary of Wales Samuel Lewis a gyhoeddwyd ym 1833, sy’n amlwg yn mynd yn ôl at ddisgrifiad Evans o’r dref ugain mlynedd yn gynharach:

‘[the town] has of late years been greatly improved by the erection of several more respectable buildings on the site of more ancient houses of timber frame-work and plaster, which formerly prevailed throughout the place, and by the removal of the numerous heaps of cinders which had previously been suffered to accumulate in front of the houses’

Daeth amrywiadau sylweddol o ran maint tai i’r amlwg yn ystod y 19eg ganrif. Yn nodweddiadol, gwelwyd tai trillawr â sylwedd a thafarnau a siopau a adeiladwyd at y diben yn agos at ganol y dref, a therasau deulawr llai a oedd yn dai gweithwyr diwydiannol, yn enwedig yn y strydoedd cefn.

Ehangodd ardal breswyl a masnachol y dref yn raddol y tu hwnt i’w therfynau canoloesol gwreiddiol, gyda therasau yn ymestyn ar hyd y ffyrdd a arweiniai i’r dref a datblygu mewn maestrefi tua’r de a’r dwyrain ac ar draws yr afon tua’r gogledd o Afon Hafren. Mae’r maestrefi ar ymylon y dref, yn enwedig y rheiny sydd mewn lleoliad mwy prydferth tua’r gogledd a’r gorllewin, yn cynnwys nifer arwyddocaol o dai â sylwedd neu ‘filâu’ gwledig. Roedd y rhain yn eiddo i’r tirfeddianwyr a’r diwydianwyr mwy cyfoethog, a nodwyd yn gymeradwyol yn Topographical Dictionary Lewis:

‘On the south-eastern side is a very handsome large house, now in progress of erection, which, when completed and the grounds laid out, will form an ornamental feature in the scenery of the place. A little nearer the town a beautiful house has been lately built, having handsome grounds disposed with great taste, and planted with trees, flowering shrubs, and annuals. Dôl Llys, in this parish, commands a delightful view of the Vale of Severn, with the windings of the river and the rich and finely varied scenery on its banks, terminated by the high mountains in the distance’

O ganlyniad, mae dilyniant arbennig o dda o bensaernïaeth domestig a masnachol y 19eg ganrif yn y dref, ynghyd â rhai adeiladau a sefydliadau cyhoeddus o bwys, gan gynnwys y Carchar, Gorsaf yr Heddlu, a’r Ystafelloedd Cyhoeddus a adeiladwyd i gynnwys marchnad wlanen yn ogystal â llys ac ystafell gyngerdd. Daeth y dref hefyd yn ganolfan ranbarthol anghydffurfiaeth o bwys, gyda chapeli o amryw o wahanol enwadau.

Roedd safleoedd melinau gwlân diwydiannol diwedd y 19eg ganrif yn ardal y dirwedd hanesyddol i’r gorllewin ac i’r gogledd-orllewin o’r dref yn gyffredinol, yn enwedig ar draws y Bont Hir a’r Bont Fer, ger glannau Afon Hafren ac Afon Clywedog, er mwyn manteisio ar ddefnyddio pŵer dŵr. Roeddent yn cynnwys Melin Cribynau a Melin Glynne, hyd at 2 cilometr neu fwy ymhellach i fyny Afon Clywedog. Rhoddodd dyfodiad y rheilffordd ar ddiwedd y 1850au hwb pellach i ddatblygiad diwydiannol Llanidloes. Roedd diwydiannau diweddarach a ddatblygodd o’r cyfnod hwn ymlaen yn cynnwys yr hen waith nwy, yr hen waith rheilffordd a’r hen ffowndri haearn. Roeddent oll yn dibynnu ar fod o fewn cyrraedd i'r rheilffordd ac felly wedi’u lleoli ar ochr ogleddol ac ochr ddwyreiniol y dref, ger yr orsaf reilffordd fawreddog a strwythurau ac adeiladau eraill y rheilffordd, gan gynnwys sied nwyddau, sied injans a throfwrdd. Roedd angen mwy o dai ar gyfer y gweithwyr; mae Foundry Terrace, a adeiladwyd tua 1860, ychydig lathenni o’r gwaith rheilffordd, yn enghraifft arwyddocaol. Yn ystod yr 20fed ganrif ehangodd stadau tai, yn enwedig tua’r de a’r de-ddwyrain o graidd gwreiddiol y dref. Daeth y dref yn bwysicach fel canolfan addysg, a gwelwyd campws ysgol gynradd a champws ysgol uwchradd yn datblygu i’r de o’r dref yn ystod y 1950au a’r 1960au ar dir a fu unwaith yn rhan o gomin Lower Green.

Roedd y diwydiant gwlân dan bwysau cynyddol oherwydd ei fod yn cystadlu â melinau yng ngogledd Lloegr o’r 1860au ymlaen. Cyfunodd rhai melinau, troswyd eraill at ddibenion eraill, er enghraifft tanerdy a gwaith lledr Spring Mills ar safle hen felin wlân ym 1908. Yn yr un modd, troswyd Melin y Cambrian yn waith lledr yn y 1930au. Caewyd mwyafrif y melinau a’r ffatrïoedd gwlân bychain, y gwaith rheilffordd a’r ffowndri haearn ac yna fe wnaethant ddiflannu, a chaewyd y rheilffordd yn yr 20fed ganrif. O ganlyniad, collodd Llanidloes lawer o hen dirnodau ei hanes diwydiannol a’i hanes trafnidiaeth. Er hynny, erys olion sylweddol, yn cynnwys hen Felin Wlân Bridgend a droswyd yn llety domestig yn ddiweddar, ambell lofft wehyddu agored sydd wedi goroesi, megis yr un yn Highgate Terrace ar Ffordd Penygreen yn cynrychioli cyfnod ‘domestig’ cynharach y diwydiant gwlân yn y dref, tai gweithwyr diwydiannol megis Foundry Terrace, yr Orsaf Reilffordd a’r Ystafelloedd Cyhoeddus o 1838, a adeiladwyd i gynnwys marchnad wlanen yn ogystal â llys ac ystafell gyngerdd. Mae adeiladau cyhoeddus eraill, megis Gorsaf yr Heddlu, a thafarnau, siopau a adeiladwyd at y diben a chapeli anghydffurfiol yn darparu pethau gweledol sylweddol i’n hatgoffa o bwysigrwydd Llanidloes fel canolfan weinyddol a masnachol.

(yn ôl i’r brig)