CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyedog

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Llunio Tirwedd Dyffryn Clywedog


DEFNYDD TIR AC ANHEDDU GWLEDIG

Defnydd Tir ac Anheddu Cynhanesyddol a Rhufeinig

Er mai cymharol ychydig dystiolaeth uniongyrchol sydd o ddefnydd tir yn ardal y dirwedd hanesyddol cyn y cyfnod canoloesol, dengys tystiolaeth henebion maes a hapddarganfyddiadau bod cymunedau dynol yn weithredol yn yr ardal, yn sicr mewn niferoedd cynyddol, ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig a dechrau’r cyfnod Neolithig, a thrwy gydol yr Oes Efydd, Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid. Mae’n debygol, yn ôl tystiolaeth o fannau eraill yng Nghymru, i ffyrdd o fyw mwy sefydlog ddisodli grwpiau crwydrol cynharach o helwyr-gasglwyr pan gyflwynwyd ffermio o’r cyfnod Neolithig ymlaen. Daethpwyd o hyd i dystiolaeth o weithgaredd Mesolithig, yn dyddio o tua rhwng 4600 CC i 4000 CC, o dan grug yn dyddio o’r Oes Efydd a’r maen hir cysylltiedig yn Ystradhynod yng nghanol dyffryn Clywedog, a gloddiwyd cyn boddi’r dyffryn yn y 1960au. Daeth tystiolaeth bellach o weithgaredd eang yn ystod y cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd yn bennaf o safleoedd ucheldirol. Mae’n debygol mai’r rheswm am hyn yw bod trin y caeau is, mwy gwerthfawr yn ddwys wedi tueddu i guddio tystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardaloedd hyn. Yn ogystal â chrug Ystradhynod, gwyddys am glwstwr sylweddol o 6-7 twmpath claddu ym masn uchaf dyffryn Clywedog, yn ardal Penffordd-las, yn ogystal â chlwstwr o dwmpathau claddu ucheldirol, a maen hir o bosibl, ar Gefn Llwyd, a thwmpathau claddu unigol ar lethrau bryn ym Mhenygeulan ac ar gopa bryn ym Mhen-y-cerrig. Dengys y gwasgariad tenau o hapddarganfyddiadau dystiolaeth bellach o weithgaredd. Mae sgrafell o fflint o Nant-yr-Hafod, tua blaenddyfroedd Afon Clywedog, bwyell gaboledig o Groes Uchaf, dagr o fflint o fath Bicer a ddarganfuwyd ger Ysgubor Pen-y-bryn a bwyell forthwyl o gerrig ger fferm Pen-y-banc, oll ar y bryniau i’r de-orllewin o Afon Clywedog, yn enghreifftiau o hyn, ynghyd â bwyell forthwyl a ddarganfuwyd ger Fairdre Fawr, i’r gogledd-ddwyrain o Afon Clywedog. Mae gwasgariad a natur gyffredinol y safleoedd a’r darganfyddiadau hyn yn awgrymu manteisio ar ystod eang o adnoddau ucheldirol ac iseldirol yn ystod y cyfnod cynhanesyddol cynnar, er na nodwyd tystiolaeth o anheddu parhaol hyd yma yn yr ardal. Mae’n debyg eu bod yn cefnogi economi ffermio cymysg ac yn cynnwys manteisio ar adnoddau coetirol a chlirio ardaloedd o goetir cynhenid i greu tir a fyddai’n addas ar gyfer pori a thyfu cnydau. Mae’n bosibl bod symud tymhorol o aneddiadau parhaol ar waelod y dyffrynnoedd i aneddiadau dros dro yn yr ucheldiroedd yn ystod misoedd yr haf, a hynny o ddyddiad cynnar.

Gwyddys am rwydwaith o lociau o wahanol feintiau, gyda ffosydd a chloddiau amddiffynnol yn dyddio, yn ôl pob tebyg, o ddiwedd yr Oes Efydd ac Oes yr Haearn tuag ochr ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol. Maent ar fryniau amlwg o amgylch ymylon yr ucheldir, ar uchder o rhwng 250 metr a 400 metr uwchben lefel y môr, gyda hyd at 2 cilometr rhyngddynt. Maent yn cynnwys bryngaer fawr Dinas, nad oedd o bosibl wedi’i chwblhau, sydd ar fryn amlwg sy’n ymestyn tua’r de i mewn i ddyffryn Clywedog, lloc amddiffynnol Pen-y-gaer sy’n tremio dros argae Clywedog, lloc Pen-y-clun tua blaen dyffryn Cerist, Pen-y-castell sydd ar ysbardun bryn yn tremio dros y Fan, rhwng dyffrynnoedd Cerist a Nant Gwden, a lloc Dolgwden ar ysbardun ar ochr ogleddol dyffryn Nant Gwden. Mae’n ymddangos yn debygol bod bryngaer Dinas, sy’n cwmpasu ardal sylweddol o tua 14 hectar, yn cynrychioli canolfan lwythol a oedd ar un adeg yn gartref i gymuned sylweddol. Mae’r llociau amddiffynnol llai wedi’u gwasgaru o’i chwmpas ac mae’n bosibl y byddai grwpiau teuluol estynedig yn byw ynddynt. Nid oes sicrwydd ar hyn o bryd, fodd bynnag, p’un a oedd y llociau hyn yn gartrefi parhaol na ph’un a fyddent oll yn cael eu defnyddio ar yr un adeg. Awgryma eu safle, fodd bynnag, ar ymylon yr ucheldiroedd eu bod yn chwarae rhan yn y gwaith o reoli manteisio ar adnoddau ucheldirol ac iseldirol yn ogystal â bod â swyddogaeth amddiffynnol. Mae’n debygol, felly, eu bod yn gysylltiedig â chaeau, ffermydd a dolydd mewn ardaloedd isel cyfagos, ond nid oes gennym dystiolaeth o’r rhain hyd yma.

Mae’n debyg i’r manteisio ar adnoddau ucheldirol ac iseldirol i gefnogi economi ffermio cymysg barhau’n ddi-baid trwy gydol y cyfnod Rhufeinig a’r cyfnod canoloesol cynnar, rhwng diwedd y ganrif 1af AD a thua chanol yr 11eg ganrif AD, ond nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd o’r math o aneddiadau a allai fod wedi bod yno yn ystod y cyfnod hwn. Gorwedda’r gaer Rufeinig fechan ym Mhenycrocbren ar y bryniau ger blaen dyffryn Clywedog, i’r de o Ddylife, hanner ffordd rhwng y caerau Rhufeinig yng Nghaersws yn nyffryn Hafren tua’r dwyrain a Phennal yn nyffryn Dyfi tua’r gorllewin. Mae ffordd Rufeinig yn arwain ati a thybir ei bod yn croesi rhan ogleddol yr ardal o ddyffryn Trannon, trwy Gwartew a Phenffordd-las. Mae’n debygol bod arwyddocâd milwrol i’r gaer fechan a’r ffordd, y mae’n ymddangos eu bod yn cael eu defnyddio ar ddechrau’r 2il ganrif o leiaf, ond mae hefyd yn bosibl eu bod wedi chwarae rhan yng ngweinyddu’r diwydiant mwyngloddio plwm yn ystod y cyfnod Rhufeinig.

Anheddu a defnydd tir yn y canol oesoedd a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol

Mae ardaloedd ucheldirol Arwystli ymysg y rhannau o Gymru sydd â’r lleiaf o dystiolaeth ddogfennol o’r Canol Oesoedd. Mae’n anodd bod yn sicr ynghylch natur defnydd tir neu anheddu yn ardal y dirwedd hanesyddol yn ystod y cyfnod hwn ond daw rhai awgrymiadau o dystiolaeth gwaith maes ac enwau lleoedd, yr ychydig ffynonellau dogfennol a sefydliadau gweinyddol ac arferion hynafol oedd wedi goroesi hyd ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.

Ardal weddol dlawd fu hon erioed o ran amaethyddiaeth. Yn hanesyddol, seiliwyd defnydd tir yn yr ardal ar economi ffermio cymysg, gydag ardaloedd helaeth o ucheldir sydd wedi cynnig ychydig mwy na phorfa arw, llethrau serth ar ymylon yr ucheldir nad oeddent yn addas ar gyfer amaethyddiaeth ond a fu’n bwysig o ran darparu adnoddau coetir, a godre’r llethrau a lloriau’r dyffrynnoedd a ddarparodd ardaloedd addas ar gyfer tyfu cnydau mewn mannau oedd yn draenio’n well a dolydd a chaeau gwair mewn ardaloedd gwlypach.

Mae’n debygol bod y patrymau o drefgorddau maenorol y gwyddys eu bod wedi dod i’r amlwg yn yr ardal erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, gan gynnwys Penegoes Uwchycoed, Glyntrefnant, Esgeiriaeth, Brithdir, Manledd, Dolgwden, Glynhafren Iscoed, Ystradhynod a Chilmachallt, wedi dod i’r fei fel casgliadau gweinyddol o ffermydd a daliadau eraill erbyn dechrau’r Canol Oesoedd. Byddent yn cynnwys tiroedd a oedd naill ai’n ddaliadau rhydd yn unol ag arferiad brodorol, tiroedd oedd yn eiddo uniongyrchol i reolwyr lleol, neu aneddiadau taeog y byddai gwasanaethau a dyletswyddau’n ddyledus gan eu trigolion i’r rheolwyr lleol.

Mae’n ymddangos y cliriwyd ac y caewyd y tiroedd mwy gwerthfawr, sef tir âr, porfa a dôl yn dameidiog trwy gydol y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Gellir gweld hyn yn y patrymau o gaeau afreolaidd, mawr neu fach, yn is na 250 metr ar y cyfan, sy'n nodweddu rhannau o'r tir is tuag ochr de-ddwyrain ardal y dirwedd hanesyddol, yng nghanol dyffryn Clywedog, (cyn ei foddi), rhan isaf dyffryn Clywedog, canol dyffryn Cerist a dyffrynnoedd isaf Nant Gwestyn a Nant Gwden. Gwelir patrymau tebyg hefyd ar y tir ychydig yn uwch ym mlaenddyfroedd Nant Cwmcarreg-ddu, llednant Afon Trannon, ger Fairdre Fawr a Fairdre Fach. Mae’r ddwy fferm hyn mewn poced o bridd cymharol ffrwythlon ar ymyl yr ucheldir. Erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd yr ardal yn rhan o annedd taeog neu faerdref ucheldirol oedd yn gysylltiedig â maenor Talgarth, sef prif ganolfan weinyddol (yn debyg i faenor Lloegr) cwmwd Arwystli Uwchcoed, oedd wedi’i ganoli yn nyffryn Trannon ger Trefeglwys, tua 4 cilometr i’r dwyrain lle gorweddai prif diroedd âr yr arglwydd.

Yn ogystal â’r tir fferm mwy gwerthfawr hwn, roedd tir comin mwy helaeth yn cynnwys tir pori rhostirol helaeth, coetir a rhai dolydd iseldirol y byddai daliadau cyfagos yn ymarfer hawliau arnynt. Arglwydd y faenor oedd yn rheoli’r tiroedd comin erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Byddai’n cymrodeddu ar anghydfodau’n ymwneud â chau tir yn anghyfreithlon, a throseddau eraill yn erbyn hawliau tir comin, trwy bentreflysoedd maenorol.

Rhoddodd arweinwyr de Powys ac arweinwyr Arwystli ardaloedd sylweddol o diroedd pori ucheldirol yn ardal y dirwedd hanesyddol i urdd fynachaidd y Sistersiaid yn y cyfnod rhwng diwedd y 12fed ganrif a chanol y 13eg ganrif. Roedd y rhain yn cynnwys ardal sylweddol tua blaenddyfroedd Clywedog, rhwng Afon Bachog ac Afon Lwyd a roddwyd i Abaty Ystrad Marchell, ardal i’r gorllewin o flaenddyfroedd Clywedog rhwng Afon Lwyd ac Afon Biga a roddwyd i Abaty Cwmhir, ac ardal is, i lawr yr afon, rhwng Bryntail a Hiriaeth, a roddwyd, unwaith eto, i Ystrad Marchell. Mae’n ymddangos bod yr eiddo hyn wedi parhau i weithredu fel maenorau mynachaidd hyd diddymu’r ddau abaty tua chanol yr 16eg ganrif. Ychydig o dystiolaeth sydd ynghylch sut y rheolwyd y maenorau mynachaidd hyn a daliadau seciwlar eraill yn ystod y cyfnod canoloesol, er mae’n debyg y gwnaed hyn yn bennaf trwy aneddiadau ucheldirol dros dro. Yno, byddai’r rhai oedd yn gofalu am fuchesi o wartheg a phreiddiau o ddefaid yn ystod misoedd yr haf yn byw, cyn iddynt ddychwelyd i ffermydd a chanolfannau maenorol ar dir is, unwaith y byddai’r cnydau âr a’r gwair o’r dolydd wedi’u cynaeafu. Soniodd Thomas Pennant am y traddodiad hwn wrth ddisgrifio’r ardal yng nghyffiniau Llanidloes yn ei A Tour in Wales a gyhoeddwyd ym 1793:

‘This is a country of sheepwalks. The flocks, like those of Spain, are driven to them from distant parts to feed on the summer herbage. The farms in the vallies are only appendages, for winter habitation and provisions’.

Er nad oedd Pennant, efallai, yn cydnabod pwysigrwydd economaidd y fferm iseldirol, mae’n ymddangos bod A Tour through North Wales John Evans, a gyhoeddwyd ym 1798, yn ategu hyn. Mae’n cyfeirio at ffermydd a bythynnod yn ardaloedd Llanidloes ‘which were only winter habitations’, ond mae’n bosibl mai benthyciad gan Pennant yw hwn.

Awgryma enwau lleoedd a allai darddu o'r cyfnod canoloesol neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol yn rhai o’r ardaloedd mwyaf pellennig tua blaen dyffryn Clywedog a godre Pumlumon i’r gorllewin o’r afon, dystiolaeth o’r patrwm defnydd tir tymhorol hwn, sef yr elfen hafod. Mae’r rhain yn cynnwys enw’r nant a’r fferm Nant-yr-hafod a’r enwau Cefn Hafodcadwgan a Hafod Cadwgan sydd rhwng 300 metr a 400 metr uwchben lefel y môr, tua’r de-orllewin o Benffordd-las. Erbyn heddiw, Nant-yr-hafod yn unig sydd wedi goroesi yn annedd. Awgryma clwstwr o hen lwyfannau tai ger blaenddyfroedd Afon Clywedog dystiolaeth corfforol o aneddiadau tymhorol ucheldirol cynnar posibl o’r cyfnod canoloesol neu’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Ategir y dystiolaeth gan hen ffermydd bach gwasgaredig neu rai sy’n bodoli heddiw, megis Hirnant, Dolbachog, Dolydd, Llwyn-y-gog, Pant-y-chwarel a Phant-y-rhedyn sydd oll yn gysylltiedig ag ynysoedd bach o gaeau afreolaidd. Maent oll yn edrych fel llechfeddiannau ar wahân ar dir pori ucheldirol nad oedd wedi’i gau’n gynharach, ac mae’n bosibl eu bod wedi tarddu o hafodydd.

Mae’n ymddangos bod cyfres arall o aneddiadau ucheldirol, yn ôl tystiolaeth enwau lleoedd, wedi tarddu o drigfannau bychain neu dros dro yn yr ardal o dir pori ucheldirol i’r de-ddwyrain o Benffordd-las. Parhaodd rhannau ohoni heb eu cau hyd ddechrau'r 19eg ganrif. Mae Lluest-y-fedw, sydd bellach yn anghyfannedd, a Lluest-y-dduallt ill dau yn cynnwys yr elfen lluest. Fe’i dangosir fel ynysoedd bychain o gaeau afreolaidd hyd at 2 i 3 hectar o faint mewn môr o borfa arw ar argraffiadau cynnar yr Arolwg Ordnans.

Gall tystiolaeth enwau lleoedd hefyd ddarparu cliw ynghylch rhai agweddau penodol ar y defnydd a wnaed o’r tir yn y cyfnod cynnar yn yr ardaloedd hyn. Tybir bod ail elfen enw’r fferm Cwmbiga, a gofnodwyd yn gyntaf ar ddechrau'r 13eg ganrif ar flaen Afon Biga, llednant ar ran uchaf Afon Clywedog, yn ymwneud â buarth a buwch, sy’n awgrymu cysylltiad â magu da byw neu ffermio llaeth canoloesol. Mae Ty’n-y-fuches, fferm gynt yn nyffryn Clywedog a Fuches, sy’n berthnasol i’r ardal helaeth o borfa i’r gogledd o ddyffryn Clywedog yn cynnwys yr elfen buches, sy’n awgrymu cysylltiad hanesyddol â phori ucheldirol. Mae’r fferm Gwartew (Gwair-tew gynt), i’r dwyrain o Benffordd-las yn tarddu o’r elfennau gwair a tew. Mae’r enwau Dolbachog, Dolydd Llwydion a Dol-gwyddel-uchaf ger blaenddyfroedd Afon Clywedog yn cynnwys yr elfen dol/dolydd. Mae’r enwau Cwm y Ffridd, Banc y Ffridd, Ffridd Newydd a Ffridd Fawr i’r gorllewin o flaenddyfroedd Afon Clywedog oll yn cynnwys yr elfen ffridd sy’n awgrymu porfa fynydd neu efallai, yn fwy penodol, porfa arw wedi’i chau ar ymylon y mynydd. Cofnodwyd yr enw yn lleol yn yr enw ffreeth Cwm Bigga yn y 1540au.

Erbyn y cyfnod canoloesol diweddarach a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, mae’n ymddangos bod patrwm o ffermydd gweddol fach a gwasgaredig, yn gysylltiedig â phatrymau caeau afreolaidd, wedi ymddangos yn nyffrynnoedd rhannau is Afon Clywedog ac Afon Cerist a’u llednentydd, ac yn ardaloedd mwy ffafriol ardaloedd ymylol yr ucheldir gerllaw. Gellir eu cysylltu â hafodydd gwasgaredig ac mae rhai ohonynt bellach yn gartrefi trwy gydol y flwyddyn, o bosibl yn ffermydd llaeth ucheldirol. Byddai llawer o’r ffermydd hyn wedi bod yn eiddo rhyddfraint, er byddai rhai ohonynt, fel y nodwyd uchod, wedi bod yn rhan o aneddiadau taeog mewn cyfnod cynharach neu mae’n debygol eu bod yn gysylltiedig â maenorau mynachol. Cyfeiriwyd yn benodol at lechfeddiannau ar dir diffaith Arwystli, ucheldir nad oedd wedi’i gau’n gynharach ac, o bosibl, tir comin iseldirol, mewn arolwg o arglwyddiaeth Arwystli a baratowyd ar ran Iarll Caerlŷr ym 1574.

Nid yw’n syndod, oherwydd eu natur, nad oes hafodydd wedi goroesi’n adeiladau sy’n dal i sefyll yn ardal y dirwedd hanesyddol. Nid oes ychwaith unrhyw dai gwledig yn dyddio o’r cyfnod canoloesol neu ddiwedd y cyfnod canoloesol wedi goroesi, er ei bod yn bosibl bod nifer o adeiladau o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol neu ddiweddarach, a chyn-adeiladau’n arwydd o draddodiadau cynharach fframiau pren a fyddai, yn ôl pob tebyg yn nodweddu'r ardal yn ystod y Canol Oesoedd. Mae'r bythynnod a’r tai ffrâm bren yng Nglangwden, Pant yr Ongle a Chwmeryr Bach, sydd oll yn yr ardaloedd is tua’r de-ddwyrain yn enghreifftiau. Dymchwelwyd o leiaf dau hen adeilad ffrâm bren yn Ystrad-hynod a Coppice-llwyd, a oedd a phaneli mewnlenwol plethwaith a dwb pan foddwyd dyffryn Clywedog yn y 1960au. Mae’n ymddangos i garreg ddisodli pren o tua’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, er nad oedd yn anarferol defnyddio cyfuniad o bren a charreg yn ystod y cyfnod o newid hwn. Gwelir enghraifft gymharol hwyr o’r traddodiad adeiladu â phren yn Hiriaeth, eiddo a gofnodwyd yn gyntaf yn y siarter oedd yn rhoi tiroedd i Ystrad Marchell ar ddechrau’r 13eg ganrif, er mai 1722 yw’r dyddiad ar y ffermdy.

Fodd bynnag, carreg yn bennaf yw’r adeiladau gwledig cynharaf sydd wedi goroesi o'r 17eg ganrif a'r 18fed ganrif. Fel rheol, maent wedi’u hadeiladu o rwbel garw ac weithiau, yn enwedig yn achos adeiladau domestig, maent wedi’u rendro ac/neu eu gwyngalchu. Mae’n ymddangos mai cymharol fach oedd y ffermdai. Yn gyffredinol, byddent yn dai 2 neu 3 uned, yn ffurfio rhan o gasgliad o adeiladau fferm a fyddai naill ai wedi’i gynllunio’n un rhes neu’n glwstwr syml. Byddai llawer o’r llety yn achos adeiladau fferm hŷn yn amlwg ar gyfer gwartheg. Ymddengys nad oes cofnod penodol o dai hirion gyda phreswylfa ar un pen a llety ar gyfer y gwartheg ar y pen arall yn ardal y dirwedd hanesyddol. Er hynny, disgrifia llyfr Iorwerth Peate, The Welsh House, a gyhoeddwyd ym 1940, dŷ o’r math hwn, ychydig y tu allan i’r ardal, ym Mryndu, i’r de-ddwyrain o Lanidloes. Yn ôl Peate, roedd gwahaniaeth o ddwy droedfedd rhwng lefel y pen preswylio a’r beudy. Roedd y rhain yn fwy cyffredin o lawer ar un cyfnod mae’n debyg. Mae’r fferm ar dir cymharol isel yng Nghwmdylluan, ychydig i’r gogledd-ddwyrain o’r Fan, yn cynnwys ffermdy sy’n dyddio yn ôl pob tebyg o’r 17eg ganrif, gydag adeiladau fferm cynnar yn cynnwys ysgubor a beudy. Mae’r ffermdy yn achos fferm fechan ar ymyl yr ucheldir yng Nghwmbiga (a fu un tro yn rhan o faenor fynachaidd) yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, gyda darnau o adeiladau cynharach.

Cyn y 19eg ganrif, roedd y rhan fwyaf o’r adeiladau gwledig yn ardal y dirwedd hanesyddol yn bendant yn y traddodiad brodorol. Efallai mai Glyn Clywedog yw’r unig eithriad, sef ffermdy ar lan Afon Clywedog. Roedd hwn yn adeilad o bwys o gyfnod y Dadeni, a adeiladwyd yn borthdy i blasty’r teulu Glynne na chafodd, mae’n debyg, mo’i adeiladu.

Tref Llanidloes yw’r unig anheddiad cnewyllol sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol yn ardal y dirwedd hanesyddol. Saif yn nyffryn Hafren yn ne-ddwyrain eithaf yr ardal. Mae’n ymddangos mai tref newydd a grëwyd gan arglwyddi Powys yn ail hanner y 13eg ganrif oedd y dref yn ei hanfod. Mae’r dystiolaeth ddogfennol gyntaf yn dyddio o 1263. Fe’i crëwyd yn ganolfan weinyddol a masnachol i gwmwd Arwystli Uwchcoed, o bosibl i gydbwyso’r fwrdeistref aflwyddiannus a sefydlwyd 10 cilometr i lawr yr afon yng Nghaersws yn Arwystli Iscoed. Mae ei chynllun strydoedd ar batrwm grid sy’n nodweddiadol iawn o drefi canoloesol planedig. Mae ei phrif ffyrdd yn cyfarfod ar safle croes y farchnad wreiddiol, sef y rheswm dros ei chreu, sydd bellach yn safle Hen Neuadd y Farchnad. Parhaodd y dref i fod yn weddol fach ei maint, er bod ei marchnadoedd a’i ffeiriau a oedd yn gwasanaethu’r ardal wledig gyfagos yn amlwg o beth pwys economaidd. Nid oes sicrwydd ynghylch dyddiad yr anheddiad cynharaf. Cofnodwyd yr eglwys, sydd wedi’i chysegru i Sant Idloes, am y tro cyntaf yng nghanol y 13eg ganrif. Hon yw’r unig eglwys ganoloesol yn ardal y dirwedd hanesyddol ac awgryma ddyddiad canoloesol cynnar i darddiad y dref.

Gwelliannau amaethyddol yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif

Ysgubodd gwelliannau mewn arferion amaethyddol a chludiant ar y ffyrdd y wlad ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Yn eu sgil daeth nifer o newidiadau radical i batrymau anheddu a defnydd tir. Ymhlith y gwelliannau nodedig oedd cyflwyno draenio tir yn yr ardaloedd is oedd yn draenio’n wael, gwella offer amaethyddol a chyflwyno mecaneiddio, a chyflwyno bridiau defaid a gwartheg oedd wedi’u gwella. Mae enghreifftiau eraill o arloesi yn y cyfnod hwn, sef mabwysiadu cylchdroi cnydau newydd i wella ffrwythlondeb pridd, tyfu cnydau gwraidd, megis maip i helpu porthi anifeiliaid dros y gaeaf, a chyflwyno tatws yn rhan o brif fwyd dyn. Roedd o fudd yma, yn yr un modd â mannau eraill, o ran cynnal amaethyddiaeth ymgynhaliol ar raddfa fach mewn ardaloedd mwy ymylol. Darparwyd ysgogiad pellach gan welliannau i ffyrdd a phontydd ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, estyn Camlas Maldwyn i’r Drenewydd erbyn dechrau’r 1820au, ac adeiladu Rheilffordd Llanidloes a’r Drenewydd ym 1859. O ganlyniad i hyn, roedd mewnforio calch a deunyddiau eraill ac allforio cynnyrch amaethyddol yn haws ac yn rhatach o lawer.

Ceir awgrym o gyflwr amaethyddiaeth yn yr ardal yng nghanol y 19eg ganrif ac yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif gan arolygon y degwm a nifer o gyfrolau hanes lleol. Maent yn dangos bod tua 5% o ardal y dirwedd hanesyddol yn goetir a thua 65% yn ddolydd a phorfa. Mae’n syndod gweld bod canran mor uchel, sef bron 30%, yn dir âr, yn tyfu cnydau megis gwenith, haidd, ceirch, rhyg, ffa, pys, bresych, tatws a maip. Peth cyffredin yn y 19eg ganrif oedd i ffermydd ar dir isel yn nyffrynnoedd yr afonydd a ffermydd ucheldirol fod yn trin o leiaf ychydig o gaeau i dyfu cnydau. Erbyn heddiw, cymharol brin yw’r tir âr sydd yn yr ardal, a choetir yw tua 12% o’r tir.

Cafodd cau tir comin a thir diffaith dan ddeddf seneddol hefyd ddylanwad ar y gwelliannau amaethyddol a welwyd yn yr ardal ar ddechrau'r 19eg ganrif. Etifeddodd Syr Watkin Williams Wynn o Wynnstay hawliau maenorol Arwystli. Roedd yn dirfeddiannwr amlwg am wella tir yng ngogledd Cymru ac fe’i elwid yn answyddogol yn ‘Dywysog Cymru’. Aeth ati i hybu cau’r tir comin a’r tir diffaith yn y cantref y dywedwyd eu bod fawr o werth yn eu cyflwr presennol. Byddai cau’r tir yn caniatáu buddsoddi mewn clirio, ffensio a draenio’r tir a fyddai’n gwella cynhyrchiant y tir, yn caniatáu tyfu cnydau porthiant i helpu â phorthi da byw dros y gaeaf, ac yn chwarae rhan bwysig mewn rhaglenni bridio rheoledig. Pasiwyd deddf cau tir Arwystli gan Ddeddf Seneddol ym 1816, a daeth i rym yn llawn yn y 1820au.

Roedd deddf cau tir Arwystli yn effeithio ar ardal o fwy na 18 cilometr sgwâr o ardal y dirwedd hanesyddol, sef ychydig yn llai na 30% o’i harwynebedd gyfan. Porfa arw oedd y rhan fwyaf o’r tir nad oedd wedi’i gau cyn hynny. Yno byddai rhydd-ddeiliaid yn troi eu defaid a’i gwartheg allan i bori. Nid oedd ffiniau’r tir hwn wedi’u diffinio na’u nodi ar fap ond bellach, dan amodau’r ddeddf cau tir, roedd y tir hwn wedi’i rannu ymysg y tirfeddianwyr oedd â hawliau pori ac arglwydd y faenor. Dyma’r ardaloedd a gafodd eu cau: cyfran fawr o’r tir uwch ar Fynydd y Groes a Bryn Mawr i’r de o Afon Clywedog; tir ar y bryniau i’r gogledd o Benffordd-las tua Phant-y-chwarel; yr ardal i’r de o Luest-y-dduallt tua Dinas i’r gogledd o Afon Clywedog; ardal ucheldirol Bryn y Fan; clytiau o’r tir uwch i’r gogledd o’r Fan ac o gwmpas dyffryn Nant Gwden; ardal Garth Hill i’r de tua Chringoed, ar draws rhannau isaf dyffryn Clywedog; y bryniau i’r gogledd o Lanidloes, o Alltgoch i Gellilefrith. Roedd hefyd yn cynnwys tir comin yr iseldir ar lawr y dyffryn i’r gogledd ac i’r de o Lanidloes, a chopa Gorn Hill, i’r dwyrain o Lanidloes.

Cafodd tirweddau caeau nodweddiadol newydd eu creu o ganlyniad i’r cau tir. Yn nodweddiadol, gwelid caeau bach, caeau mawr a chaeau mawr iawn, gydag ochrau syth neu lociau rhostirol, wedi’u diffinio’n aml gan wrychoedd un rhywogaeth ac, yn arbennig, ffensys pyst-a- gwifrau a ddefnyddiwyd fwyfwy o ddegawd gyntaf y 19eg ganrif. Roedd hyn yn caniatáu cau darnau mawr o borfa ucheldirol yn economaidd. Roedd amryw o ardaloedd yn parhau heb eu cau wedi pasio deddf cau tir Arwystli, yn benodol ardal i’r de a’r dwyrain o Benffordd-las, ar y bryniau i’r gogledd o Luest-y-dduallt tuag at Esgair-goch a Gamallt i’r gogledd-ddwyrain o Afon Clywedog. Mae’n ymddangos i’r rhain gael eu cau trwy gytundeb preifat rhwng y 1820au a’r 1880au ac yma hefyd mae llociau mawr a bach gydag ochrau syth yn nodweddiadol. Mae ardal o dir ar lethrau Mynydd Du a Banc y Groes i’r de o Afon Biga ac i’r gorllewin o Afon Clywedog yn parhau i fod yn Dir Comin cofrestredig, ond bellach mae wedi’i rannu’n gaeau mawr ag ochrau syth.

Cafodd swm sylweddol o goetir derw cynhenid ei gwympo yn ardal y dirwedd hanesyddol yn ystod ail hanner y 18fed ganrif. Anogodd hyn nifer o’r tirfeddianwyr mwyaf i fynd ati i blannu’n gynlluniedig yn ystod y 19eg ganrif, er enghraifft ym Merth-lwyd ar Gorn Hill i’r dwyrain o Lanidloes. Mae’n ymddangos i ardaloedd eraill o goetir gael eu plannu neu eu hailblannu yn ystod y 19eg ganrif ar dir a oedd wedi dod ar gael yn ddiweddar oherwydd ei gau, er enghraifft yn Allt Goch a Phen-yr-allt ar ochr orllewinol dyffryn Hafren i’r gogledd o Lanidloes.

Nid oedd ardaloedd o fwy nag 11 cilometr sgwâr yn rhan o’r ddeddf cau tir. Roedd y tiroedd hyn yn rhan o faenor Talerddig a oedd ar un tro yn rhan o ddaliadau Abaty Sistersaidd Ystrad Marchell. Roedd yn cynnwys rhan o’r tir ar fryniau i’r gogledd o Fryntail tua Phenyclun, a rhan sylweddol o fasn uchaf dyffryn Clywedog, rhwng Dolydd, Llwyn-y-gog a Phenffordd-las ac ar y bryniau i’r de a’r gorllewin, gan gynnwys Bwlch y Garreg-Wen i’r de o Afon Clywedog a Fign Aberbiga tua’r de i Afon Biga. Ymddengys fod rhai o’r ardaloedd nad oedd wedi’u cau yn gynharach yn hen faenor Talerddig wedi’u cau dan gytundeb preifat yn ystod y 19eg ganrif.

Gwnaeth deddf cau tir Arwystli ddarpariaeth ar gyfer talu iawndal i lechfeddiannau bythynnod. Daeth yr holl lechfeddiannau a wnaed mwy nag 20 mlynedd ynghynt ac na thalwyd rhent na dirwyon ar eu cyfer, yn eiddo i’r deiliaid, ond nid oedd ganddynt hawl i unrhyw gyfran o dir comin. Yn achos llechfeddiannau a wnaed llai nag 20 mlynedd ynghynt neu y talwyd rhent amdanynt, byddent yn cael eu hystyried yn eiddo i’r sawl a fyddai’n derbyn y rhent. Roedd y llechfeddiannau neu fythynnod anghyfreithlon hyn yn gymwys ar gyfer iawndal, os oedd eu preswylwyr yn dlawd. Mewn rhai achosion, mae’n ymddangos bod llechfeddiannau hŷn i’w gweld fel ynysoedd bychain o dir wedi’i gau yn y tir a ddynodwyd ar gyfer ei gau dan ddeddf cau tir Arwystli. Gwelir enghreifftiau ger ffermydd Bryn Mawr a Gwestyn ar y bryniau i’r de o Afon Clywedog; Gwestyn yn unig sydd yno heddiw. Roedd hen fferm Lluest-y-fedw i’r de o Luest-y-dduallt at y bryniau i’r gogledd o Afon Clywedog yn enghraifft hefyd. Mae’n bosibl bod hen fwthyn ucheldirol Potatoe Hall ar y bryniau i’r gogledd o Lanidloes, wedi’i amgylchynu gan gaeau a oedd yn destun deddf cau tir, yn enghraifft o lechfeddiannu a oedd, dan amodau deddf cau tir Arwystli 1816, yn iau nag 20 oed neu lle roedd y deiliad wedi talu rhent a lle nad oedd ganddo felly unrhyw hawl i gael cyfran o dir. Ychydig o gofnod sydd wedi goroesi o ran ffurf a strwythur bythynnod ucheldirol o’r math hwn. Er hynny, mae cyfeiriad at yr hen dŷ a elwid Clod Hall ar fin y ffordd ger Bidffald, y soniwyd amdano yn hanes Llanidloes Hamer, yn awgrymu’r math o breswylfa a adeiladwyd o dywyrch a mwd ac y cyfeirir ato’n aml mewn rhannau eraill o Gymru yn hanner cyntaf y 19eg ganrif.

Daeth y cyfle i wella ffermydd oedd yn bodoli gyda chau’r tir comin. Crëwyd ffermydd newydd ‘wedi’u gwella’ gan nifer o’r stadau o ganlyniad i’r cau. Adeiladwyd y fferm yng Ngellilefrith, a’i ffermdy o frics a’i threfniant tebyg i gwrt o adeiladau fferm, o’r newydd mewn ardal o dir comin nad oedd wedi’i gau ar y bryniau i’r gogledd o Lanidloes. Gwnaed hyn yn y cyfnod rhwng mabwysiadu’r ddeddf cau tir ym 1826 ac arolwg y degwm ym 1846. Mae i ffermdy ac adeiladau fferm Garth, ychydig i’r de o’r Fan ac yn dyddio o 1870, gymeriad stad amlwg. Unwaith eto, gorweddant ar dir a gafodd ei gau ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Roedd y fferm yn eiddo i Iarll Vane, prydleswr mwyngloddiau plwm Van, ac mae’n rhoi darlun diddorol o’r berthynas rhwng diwydiant ac amaeth yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn. Mae nifer o ffermydd llai eraill yn ardal y Fan, megis Penisafmanledd sydd eto ar fin y tir comin gynt, yn awgrymu buddsoddi mewn amaethyddiaeth ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae tai a oedd yn bodoli erbyn y 19eg ganrif sydd â’r elfen ‘newydd’ yn eu henw, er enghraifft yn New House i’r de o’r Fan a Borfa Newydd, islaw ochrau gorllewinol Bryn y Fan, yn awgrymu aneddiadau newydd eraill ar fin tiroedd comin nad oeddent wedi’u cau gynt.

Bu hefyd peth ad-drefnu’r dirwedd ar raddfa fawr, yn cynnwys creu tirwedd oedd wedi’i rhannu’n fwy trefnus, ynghyd â’r cynlluniau draenio a ddaeth gydag adeiladu Rheilffordd y Fan ym 1871. Menter breifat Iarll Vane oedd hon, pan sianelwyd rhan o Afon Cerist.

Defnydd tir ers y 19eg ganrif

Bu amryw o newidiadau eang i ddefnydd tir yn ardal y dirwedd hanesyddol ers dechrau’r 20fed ganrif. Gwelodd y 1920au a’r 1930au, yn enwedig, ostyngiad amlwg yn elw ffermio a arweiniodd at gyfuno rhai ffermydd a gadael rhai o’r ffermydd a’r bythynnod gwledig mwyaf anghysbell yn segur, er enghraifft Ty’n-y-fuches a Rhol-y-felin yn rhan uchaf dyffryn Clywedog, a Lluest-y-fedw ar y bryniau i’r de o Luest-y-dduallt. Dengys arolygon defnydd tir yn y 1940au mai ymylon y rhostir yn unig, o fewn cyrraedd hawdd i’r ffermydd, oedd yn tueddu i gael eu defnyddio yn y cyfnod hwn. Roedd rhai o’r ardaloedd mwyaf anghysbell a’r llethrau mwy serth a gafodd eu pori ar un adeg bellach yn rhedyn ac eithin unwaith eto gan fod lefelau stocio wedi lleihau ers diwedd y 19eg ganrif. Roedd swm y tir âr wedi lleihau yn sylweddol yn yr ardal hefyd, ac mae wedi parhau i wneud hynny hyd heddiw.

Cynyddodd y dirwasgiad amaethyddol y tir oedd ar gael i goedwigo. Prynodd y Comisiwn Coedwigaeth 12 o ffermydd defaid ucheldirol er mwyn creu Coedwig Hafren. Plannwyd y coed cyntaf yn ystod gaeaf 1937/38, gan gyrraedd uchafbwynt ym 1950. Wedi saib dros dro, ailddechreuodd y plannu yn y 1960au a bellach mae’r goedwig yn cwmpasu ardal o tua 40 cilometr sgwâr. Coed pîn a phyrwydd sydd yno’n bennaf, ac mae rhannau o’r goedwig yn rhan o ardal y dirwedd hanesyddol. Plannu â llaw a wnaed ar y dechrau ond ers y 1940au, bu plannu ar gefnennau âr. Maent wedi bod yn cynaeafu’r genhedlaeth gyntaf a blannwyd ers sawl blwyddyn bellach, ac felly cwympwyd ardaloedd mawr a’u hailblannu.

Yn ôl sylwebydd ar y pryd, roedd Llwyn-y-gog yn enghraifft nodweddiadol o un o ‘bentrefi coedwigol newydd Prydain’. Mae’n ddiddorol o safbwynt hanesyddol fel arbrawf o ran tai gwledig yng nghanolbarth Cymru yn ystod y blynyddoedd yn syth ar ôl y rhyfel. Cyflogai’r Comisiwn Coedwigaeth tua 50 o ddynion i blannu’r goedwig ar y dechrau. Bythynwyr lleol a thimau a gludwyd mewn lori bob dydd o Lanidloes oedd y rhain. Roedd angen llafurlu mwy sefydlog erbyn diwedd y 1940au i gynnal rhaglen deneuo ac felly, yn dilyn ymgynghori â Chyngor Sir Drefaldwyn, rhwng 1949 a 1951, fe ddechreuodd y Comisiwn yr hyn a fwriadwyd i fod y cam cyntaf mewn adeiladu’r pentref coedwigol yn Llwyn-y-gog. Y pensaer amlwg Cymreig, T. Alwyn Lloyd o Gaerdydd a ddyluniodd y cynllun. Yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, bu’n gweithio ar ddyluniadau blaengar ac iwtopaidd ‘gardd-bentref’ y Welsh Land Settlement Association a fwriadwyd ar gyfer glowyr di-waith yn ne Cymru. Dyluniwyd yr anheddiad i gynnwys 80 o dai teras ar gyfer poblogaeth o hyd at 300, siop, ysgol a neuadd bentref. Fel y bu hi, 20 tŷ yn unig ar gyfer cymuned o tua 70 a adeiladwyd, ynghyd â thŷ ar wahân i swyddog coedwigaeth. Roedd yr adeiladau cymunol yn cynnwys, ar y dechrau, neuadd bentref dros dro, siop gyffredinol ac ystod o garejis y gellid eu cloi ar gyfer ceir a beiciau modur. Plannwyd llain gysgodi o goed llydanddail a choed conwydd ar ochr ddeheuol y pentref. Nid yw unrhyw un o’r tai bellach yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r diwydiant coedwigaeth.

Bu ail newid sylweddol o ran defnydd tir a effeithiodd yn sylweddol ar yr ardal. Adeiladu Cronfa Ddŵr Clywedog, sef Llyn Clywedog, rhwng 1964 a 1967 oedd hyn, wrth gwrs. Roedd hyn yn dilyn Deddf Seneddol alluogol. Un brif argae ar draws rhan gul o ddyffryn Clywedog sy’n dal y gronfa ddŵr, sef yr argae concrid uchaf yn y Deyrnas Unedig. Fe’i dyluniwyd gan Sir William Halcrow a’i Bartneriaid, gydag argae atodol ym Mwlch-y-gle. Golygodd y gronfa ddŵr foddi tir amaethyddol gynt yn y dyffryn, ynghyd â cholli tua 9-10 o ffermydd a bythynnod, rhai ohonynt yn segur, a llawer ohonynt yn ôl pob tebyg yn tarddu o’r cyfnod canoloesol neu o ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Prif ddiben y gronfa ddŵr yw galluogi tynnu dŵr i’r cyhoedd o Afon Hafren ar ei hyd trwy gydol misoedd sych yr haf a sicrhau bod digon o lif yn yr afon at ddibenion amgylcheddol. Mae hefyd yn chwarae rhan mewn atal llifogydd, yn arbennig yn rhannau uchaf Afon Hafren.

Ers y 1960au, bu Dŵr Hafren Trent a’r Comisiwn Coedwigaeth, sef yr asiantaethau sy’n gyfrifol am Gronfa Ddŵr Clywedog a Choedwig Hafren, wrthi’n cynyddu eu gwerth cadwraeth a hamdden. Mae’r gronfa ddŵr yn ganolbwynt i ystod o weithgareddau hamdden gan gynnwys cerdded, seiclo, gwylio adar, pysgota, hwylfyrddio a hwylio yn ogystal ag ardaloedd picnic a golygfannau’n tremio dros ochr ddeheuol yr argae a thua’r gogledd, ger Waun y Gadair. Mae plannu o’r newydd yng Nghoedwig Hafren wedi dilyn canllawiau diwygiedig lle mae effaith weledol ar y dirwedd a chreu cynefinoedd mwy amrywiol ar hyd afonydd a nentydd yn chwarae rhan bwysig. Cynyddwyd gwerth y coetir o safbwynt hamdden ymhellach wrth greu ardal bicnic Rhyd-y-Benwch sy’n ganolbwynt rhwydwaith o lwybrau a thraciau yn y goedwig. Bu mentrau hamdden eraill o bwys yn yr ardal, gan gynnwys creu Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr, a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. Mae’n rhedeg trwy’r ardal o ger Dylife, ar draws Pen Dylife i Goedwig Hafren a thu hwnt, trwy Benffordd-las, Llwyn-y-gog a Chwmbiga.

Mae peth tystiolaeth o batrymau cylchol o ran defnydd tir ar ymylon yr ucheldir yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, yn cynnwys trosi porfa arw’n laswelltir wedi’i wella ac yna dychwelyd yn borfa arw. Mae’n ymddangos, er hynny, y cynyddodd y gyfradd trosi yn laswelltir wedi’i wella ers y 1950au. Gwelodd y cyfnod rhwng y 1960au a’r 1990au, yn enwedig, ddwysáu gweithgareddau amaethyddol o’r newydd ledled ardal y dirwedd hanesyddol. Daeth hyn yn sgil amryw o gynlluniau cymhorthdal yn hybu draenio tir, gwella porfa ucheldirol, gwella mynediad cerbydau a rhaglenni aredig ac ailhadu. Cynlluniwyd y rhain oll i wella cynhyrchiant amaethyddol trwy gynnal preiddiau mwy o lawer o ddefaid. Lleihau yn sylweddol iawn wnaeth arwynebedd rhostir a phorfa heb ei gwella yn yr ardal o ganlyniad i hyn a’r trosi i goedwigoedd conwydd. Erbyn hyn, fe’i gwelir yn bennaf mewn pocedi bach arunig ar gopaon rhai bryniau megis y Grug ger blaenddyfroedd Afon Clywedog ac ar rannau o Fryn y Fan a Dinas.

Cyflwynwyd nifer o gynlluniau amaeth-amgylcheddol yn y 1990au, megis Tir Gofal, lle gwelwyd symud cymorthdaliadau oddi wrth gynhyrchu da byw i waith cynnal a chadw ac ystod ehangach o amcanion, gan gynnwys cyfoethogi’r dirwedd amaethyddol, ei bywyd gwyllt, adeiladau a nodweddion diwylliannol a hanesyddol ac annog pobl i ymweld â chefn gwlad. Efallai y gall hyn, ynghyd â’r argyfwng o ran hyfywedd economaidd ffermio mynydd a ffermio ucheldirol a gododd yn y 1990au, arwain unwaith eto yn y pen draw at gilio ymylon y rhostir a mwy o gyfuno ffermydd.

(yn ôl i’r brig)