CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyedog

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Llunio Tirwedd Dyffryn Clywedog


TRAFNIDIAETH A CHYSYLLTIADAU

Roedd dyffrynnoedd Afon Hafren a’i llednentydd Afon Clywedog ac Afon Trannon yn goridorau cysylltiadau o bwys trwy gydol hanes. Roeddent yn arwain o’r gororau a Chanolbarth Lloegr yn y dwyrain i ganol a gorllewin Cymru.

Ffyrdd Rhufeinig

Gorwedda’r gaer Rufeinig fechan ym Mhenycrocbren ar y bryniau ger blaen dyffryn Clywedog, i’r de o Ddylife, hanner ffordd rhwng y caerau Rhufeinig yng Nghaersws yn nyffryn Hafren tua’r dwyrain a Phennal yn nyffryn Dyfi tua’r gorllewin. Mae ffordd Rufeinig yn arwain ati a thybir ei bod yn croesi rhan ogleddol yr ardal o ddyffryn Trannon, trwy Gwartew, Penffordd-las a Phen Dylife. Mae’n debygol bod arwyddocâd milwrol i’r gaer fechan a’r ffordd, y mae’n ymddangos eu bod yn cael eu defnyddio ar ddechrau’r 2il ganrif o leiaf ond, fel y nodwyd uchod, mae hefyd yn bosibl eu bod wedi chwarae rhan yng ngweinyddu’r diwydiant mwyngloddio plwm yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Ni nodwyd unrhyw olion pendant o’r ffordd hon yn ardal y dirwedd hanesyddol, fodd bynnag. O’r herwydd, damcaniaethol yw ei hynt i raddau helaeth iawn, ond mae’n debygol ei bod wedi’i gorchuddio gan ffyrdd a thraciau diweddarach.

Ffyrdd, ffyrdd y porthmyn a thraciau mwyngloddwyr canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol

Tybir bod llawer o rwydwaith heddiw y llwybrau troed, y lonydd a’r ffyrdd, yn rhai lleol ac yn rhai pellter hir, eisoes yn bodoli erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Fodd bynnag, ni fyddai’r rhan fwyaf o’r rhain ag unrhyw wyneb arnynt ac roeddent yn enwog am fod mewn cyflwr gwael cyn y gwelliannau a gyflwynwyd o ail hanner y 18fed ganrif ymlaen. Erbyn y Canol Oesoedd, gorweddai Llanidloes ar ganolbwynt llwybrau pellter hir ar hyd dyffryn Hafren rhwng aneddiadau â gwreiddiau canoloesol yn Llandinam tua’r gogledd-ddwyrain a Llangurig a Rhaeadr Gwy tua’r de-orllewin, ac ar draws y bryniau i’r gogledd o ddyffryn Clywedog i dref ganoloesol Machynlleth. Byddai traciau llai yn cysylltu ffermydd anghysbell â phorfeydd ucheldirol ac aneddiadau tymhorol yn y bryniau.

Gorweddai Llanidloes hefyd lle roedd dau lwybr pwysig y porthmyn yn cyfarfod. Defnyddid y rhain rhwng diwedd y cyfnod canoloesol a dyfodiad y rheilffyrdd ar ddiwedd y 19eg ganrif i fynd â gwartheg o orllewin Cymru i’r trefi marchnad ar hyd y gororau. Roedd llwybrau’r rhain eto’n rhedeg i lawr dyffryn Hafren o Langurig ac ar draws y bryniau o Fachynlleth.

Roedd y mwyngloddiau metel niferus yn yr ardal, a agorwyd yn bennaf yn ystod y cyfnod rhwng diwedd yr 17eg ganrif a chanol y 19eg ganrif, yn dibynnu bron yn ddieithriad ar geffylau pwn a thrafnidiaeth a dynnwyd gan geffylau i gludo dynion ac offer i’r mwyngloddiau ac i gertio mwynau wedi’u prosesu i’r gweithfeydd toddi, bron hyd ddiwedd y 19eg ganrif. O ganlyniad, mae ‘llwybrau’r mwynwyr’, fel y’u gelwir, yn nodwedd neilltuol yn llawer o’r tirweddau mwyngloddio yng nghanolbarth Cymru ac yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Maent yn aml mewn mannau anghysbell ac yn cysylltu gwahanol elfennau’r gweithfeydd mwyngloddio, llety’r mwyngloddwyr a’r llwybrau a ddefnyddid i gludo mwynau wedi’u prosesu i weithfeydd toddi pell. Canlyniad cludo tunelli lawer o fwynau ar ffyrdd heb wyneb oedd y traciau plethedig sy’n nodweddiadol o rai safleoedd mwyngloddio yn ardal y dirwedd hanesyddol, yn benodol Pen Dylife a Gwestyn.

Ffyrdd tyrpeg a phontydd wedi’u gwella

Cafwyd gwelliannau mawr i’r rhwydwaith priffyrdd ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn dilyn derbyn Deddf Dyrpeg Sir Drefaldwyn 1769, a gyflawnwyd o’r 1790au ymlaen. Rhoddodd hon bwerau i atgyweirio ffyrdd penodol amrywiol a’u lledu ac i godi tollau trwy dollbyrth i dalu am y gwaith hwn a gwaith cynnal a chadw parhaus.

Roedd y ffyrdd tyrpeg a gafodd eu gwella yn ardal y dirwedd hanesyddol ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif yn cynnwys y ffordd o’r Drenewydd i Aberystwyth trwy ganol Llanidloes a’r ffyrdd tyrpeg sy’n rhedeg tua’r gogledd i Drefeglwys a thua’r gorllewin i Fachynlleth. Yn wreiddiol, rhoddwyd tollbyrth i bob un ohonynt ar ymylon Llanidloes. Safai’r tollty, sydd bellach wedi’i ddymchwel, ar ochr ogleddol y dref, y tu hwnt i’r Bont Hir yn fforch y ffyrdd sy’n arwain i Drefeglwys ac i Fachynlleth. O ganlyniad, gelwid y strydoedd hyn yn Westgate Street ac Eastgate Street. Mae’r hen dollty ar y ffordd i’r Drenewydd, a ddechreuodd fel bwthyn â ffrâm bren, wedi goroesi ar Rodfa Fictoria (Stryd Hafren gynt), er nad yw’n amlwg mai dyna ydoedd. Roedd ffordd Trefeglwys yn dilyn llinell y ffordd fach fodern (B4569), i Neuadd Dol-llys, Gellilefrith a Phont Cerist, sef darn helaeth o ffin ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol. Roedd y ffordd dyrpeg i Fachynlleth yn dilyn llwybr eithaf gwahanol a oedd yn llai uniongyrchol na’r briffordd fodern. Dilynai’r hyn sydd bellach yn ffordd annosbarthedig o Bant-yr-ongle, ychydig i’r gorllewin o Lanidloes, i’r Fan a Borfa-newydd gan ailymuno â’r briffordd fodern eto ychydig i’r dwyrain o Ddinas. Ymhellach i’r gorllewin, roedd yn dilyn y ffordd annosbarthedig tua’r gogledd heibio i Gwartew i Benffordd-las ac ymhellach i’r gorllewin o’r pentref, gan ddilyn llwybr anial tebygol y ffordd Rufeinig ar draws Pen Dylife, heibio i gaer Rufeinig fechan Penycrocbren yn hytrach na llwybr y ffordd fodern i Ddylife yn nyffryn Twymyn.

Cofnodir cerrig milltir ar bob un o'r ffyrdd hyn ar argraffiadau cynnar mapiau'r Arolwg Ordnans, er mae’n bosibl mai un yn unig ohonynt sydd wedi goroesi yn ardal y dirwedd hanesyddol, ger Borfa-newydd. Maent yn nodweddiadol o’r gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Mae chwareli bychain ar ochr y ffordd, yn rheolaidd bob hyn a hyn, hefyd yn nodweddiadol o’r cyfnod hwn o wella ffyrdd, yn enwedig yn rhai o’r ardaloedd mwy anghysbell, er enghraifft, i’r gogledd o Ddinas. Gwelliant mawr arall a wnaed i’r rhwydwaith ffyrdd ar ddechrau’r 19eg ganrif oedd atgyweirio pontydd, neu godi rai newydd. Mae’r ddwy bont sy'n croesi Afon Hafren yn Llanidloes yn enghreifftiau nodedig. Thomas Penson, sef syrfëwr Sir Drefaldwyn a gynlluniodd y ddwy bont a elwir y Bont Hir a’r Bont Fer. Fe adeiladwyd y gyntaf yn wreiddiol ym 1826 yn lle pont bren gynharach, a’r ail ym 1850 yn lle pont gynharach o gerrig. Ceir amcan o effaith y gwelliannau hyn o’r sylw canlynol a ddaw o The Beauties of England and Wales, Evans a gyhoeddwyd ym 1812:

‘The entrance to the town over a long wooden bridge, erected in 1741, that crosses the Severn, is by no means calculated, to prepossess the traveller in favour of the place’.

Roedd Llanidloes yn fan aros o bwys ar y ffyrdd tyrpeg a byddai gwahanol dafarnau’n darparu lluniaeth a llety ar gyfer teithwyr. Roedd tafarn wledig arall gynt ar fin y ffordd, rhwng 7 ac 8 milltir i’r gorllewin o Lanidloes yn y New Inn ger Gwartew, sydd wedi’i henwi ar fapiau’r Arolwg Ordnans yn y 1880au. Cofnodwyd y Stay-a-little Inn ar ddechrau’r 19eg ganrif ond roedd wedi diflannu erbyn diwedd y ganrif honno er iddi roi ei henw i Staylittle, sef Penffordd-las.

Ymysg strwythurau ac adeiladau eraill sy’n gysylltiedig â’r ffyrdd tyrpeg, naill ai’n uniongyrchol neu’n ddamweiniol, mae gefeiliau gynt a gofnodwyd ym Mhenffordd-las a’r Fan ac, yn fwy difrifol, safle hen grocbren ger ochr y ffordd a mwy neu lai ar gopa Pen Dylife, tua 100 metr i'r gorllewin o’r gaer Rufeinig fechan ym Mhenycrocbren. Darganfu gwaith cloddio yma ym 1938 dwll postyn canol crocbren, yn ogystal â haearnau crogi a phenglog, y tybir eu bod yn dyddio o tua 1700. Maent bellach yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Y crocbren yw tarddiad enw’r gaer Rufeinig fechan, sef Penycrocbren. Cawn hanes gof lleol (Siôn y Gof) a’r crocbren mewn llên gwerin. Dywedir ei fod wedi llofruddio’i deulu a thaflu eu cyrff i lawr siafft cloddfa. Yn ddiweddarach, fe’i gorfodwyd i ofannu ei haearnau crogi ei hun, sydd bellach yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Ymddengys mai ychydig sydd wedi’i ysgrifennu ynghylch safleoedd cynnar y gosb eithaf yng Nghymru wledig, er y gwelir tueddiad yma, fel yng ngweddill Prydain, i leoli crocbren ar gopa bryn, yn agos at ffordd ac yn agos at ffin awdurdodaeth gyfreithiol benodol. Yn yr achos hwn, mae’r safle ar y ffin rhwng llysoedd cantref Machynlleth a Llanidloes, a oedd yn dilyn hen raniadau tiriogaethol canoloesol Cyfeiliog ac Arwystli.

Mynediad at rwydweithiau’r gamlas a’r rheilffordd

Fel y nodwyd uchod, roedd camlas Maldwyn wedi’i hymestyn i’r Drenewydd erbyn dechrau’r 1820au. Daeth cyswllt y ffordd o Lanidloes i ben y gamlas yn y Drenewydd yn fodd pwysig o gludo nwyddau i ardal y dirwedd hanesyddol ac ohoni am bron iawn y 30 mlynedd nesaf.

Byddai dyfodiad y rheilffyrdd ar ddiwedd y 1850au yn gyfrifol am effeithio’n sylweddol ar ddatblygiad cymdeithasol a diwydiannol Llanidloes a’i chefnwlad. Dechreuwyd adeiladu’r rheilffordd o Lanidloes i’r Drenewydd ym 1855. Fe’i cwblhawyd o’r diwedd ym 1859, wedi toriad ym 1857 oherwydd prinder arian. Roedd gorsaf reilffordd fawr a thrawiadol yn ardal y dirwedd hanesyddol ar ochr ddwyreiniol Llanidloes. Bu’r rheilffordd yn rhedeg yn annibynnol ar weddill y rhwydwaith cenedlaethol am nifer o flynyddoedd, gan gludo teithwyr a nwyddau i’w trosglwyddo i’r gamlas neu ohoni tan i reilffordd Croesoswallt i’r Trallwng gael ei chwblhau ym 1859/1860 a rheilffordd y Trallwng i’r Drenewydd ym 1861. Defnyddiwyd cyfalaf a llafur lleol i adeiladu’r rheilffordd a David Davies o Landinam oedd y prif gontractwr, mewn partneriaeth â Thomas Savin, y peiriannydd rheilffordd o Lwyn-y-maen ger Croesoswallt. Roedd yn rhaid defnyddio’r ffordd i gludo’r locomotifau, y cerbydau a’r wagenni cyntaf i redeg ar y lein i ben y rheilffordd yn y Drenewydd, a hynny ar wagenni a wnaed yn arbennig. Daethpwyd â deunyddiau eraill ar y gamlas. Hefyd, agorwyd llinell Rheilffordd Canol Cymru a redai ar ochr ddwyreiniol Llanidloes i Raeadr Gwy ac ymlaen i Builth Road a Three Cocks ym 1864. Yn ddiweddarach, unodd â Chwmni Rheilffordd y Cambrian.

Roedd Gwaith Rheilffordd Llanidloes ar ochr gogledd-ddwyrain y dref ymysg y diwydiannau peirianyddol a ddatblygodd yn y dref ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif yn rhinwedd y rheilffordd. Roedd y gwaith yn arbenigo mewn cynhyrchu cledrau a darnau bwrw trymion eraill.

Roedd mwynglawdd Van, ger Llanidloes yn unigryw yng nghanolbarth Cymru oherwydd darparwyd rheilffordd ei hunan ar ei gyfer. Erbyn y 1870au, roedd yn un o’r mwyngloddiau plwm mwyaf cynhyrchiol a phroffidiol yng ngorllewin Ewrop. Adeiladwyd Rheilffordd y Fan ym 1871 ar led safonol. Roedd yn fforchio o reilffordd y Drenewydd i Fachynlleth yng Nghaersws ac yn rhedeg tua’r gorllewin ar hyd dyffryn Cerist a dyffryn Trannon. Roedd arosfeydd gynt yn yr ardal nodwedd ger Penisafmanledd ac ychydig i’r dwyrain o’r Fan. Roedd gan y rheilffordd borth rheilffordd tanddaearol trawiadol a oedd yn unigryw ymysg mwyngloddiau plwm y Deyrnas Unedig. Mae wedi’i adnewyddu ar safle’r mwynglawdd, gyda giatiau. Roedd y rheilffordd yn cludo teithwyr hefyd o 1873 ac wedi rhai anawsterau, fe’i hailagorwyd ym 1896 gan gwmni Rheilffordd y Cambrian ar gyfer cludo nwyddau. Menter breifat Iarll Vane oedd y rheilffordd ac fe osododd y mwynglawdd ar brydles i’r cwmni mwyngloddio. Ar yr un pryd, roedd yn gadeirydd Cwmni Rheilffordd y Cambrian. Caewyd y rheilffordd am y tro olaf ym 1940 ond mae llawer o’r lein wedi goroesi yng nghanol y dirwedd wledig amaethyddol heddiw a gellir olrhain yr argloddiau, y trychfeydd a gwely’r trac ar y llwybr gwreiddiol hyd heddiw.

Daeth Rheilffordd y Cambrian yn rhan o Reilffordd y Great Western (GWR) ar ôl y rhyfel byd cyntaf. Caewyd Rheilffordd y Fan am y tro olaf ym 1940, sef tuag 20 mlynedd ar ôl cau mwyngloddiau plwm Van. Cafodd GWR ei gwladoli ynghyd â gweddill rhwydwaith y rheilffyrdd ym 1948 i greu Rheilffyrdd Prydeinig. Roedd cystadlu mwyfwy rhwng y rheilffyrdd a’r ffyrdd o’r 1950au ymlaen. Caewyd llinell y Drenewydd i Lanidloes i deithwyr i’r de o Gyffordd Moat Lane ger Caersws ym 1963, er iddi barhau i gludo rhai nwyddau tan 1967. Fe’i cedwid ar agor i gludo deunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu cronfa ddŵr Clywedog, i’r gorllewin o Lanidloes.

Y rhwydwaith ffyrdd modern

Gwnaed newidiadau helaeth iawn i’r rhwydwaith ffyrdd ledled ardal y dirwedd hanesyddol yn ystod yr 20fed ganrif, mewn ymateb i sawl ysgogiad. Yn benodol ymysg y rhain oedd yr anhrefn a achosodd tranc cyffredinol y diwydiant mwyngloddio lleol o tua’r 1890au, creu Coedwig Hafren o ddiwedd y 1930au ymlaen ac adeiladu Cronfa Ddŵr Clywedog yn y 1960au.

Bu newid sylweddol i lwybr y briffordd o Lanidloes i Fachynlleth i’r gogledd ac i’r gorllewin o Lanidloes a Chronfa Ddŵr Clywedog er mwyn creu’r llwybr presennol. Gwelwyd uwchraddio lonydd a thraciau bach cynt ac adeiladu rhai darnau newydd o ffordd dros bellter o 5 cilometr o Bant-yr-ongle, i’r gorllewin o Lanidloes, i’r dwyrain o Ddinas dros argae bridd newydd ym Mwlch-y-gle, gan ddisodli’r hen ffordd dyrpeg a oedd yn dilyn hynt ymhellach i’r gogledd trwy’r Fan a Borfa-newydd. Ymhellach i’r gorllewin, adeiladwyd darn newydd o ffordd bron 4 cilometr o hyd o ychydig i’r gorllewin o Ddinas, heibio i Luest-y-dduallt i Benffordd-las, gan ddisodli’r hen ffordd dyrpeg a oedd yn mynd heibio i Gwartew. Yn fwy trawiadol, gadawyd hynt y ffordd dyrpeg a aeth heibio i Riw Dyfeity Fawr ac ar draws Pen Dylife, sef hynt Llwybr Glyndŵr bellach, gan ddewis llwybr ymhellach tua’r gogledd trwy Ddylife ac Esgair-galed. Mae’n debyg i’r briffordd osgoi hwnnw yn gynharach oherwydd y gweithgareddau mwyngloddio dwys yn yr ardal hon hyd at ail a thrydydd degawd yr 20fed ganrif.

Gwnaed newidiadau sylweddol hefyd i lwybr ffyrdd bach i’r de ac i’r gorllewin o Gronfa Ddŵr Clywedog, a oedd yn cynnwys adeiladu ffordd 14 cilometr o hyd, a oedd fwy neu lai’n newydd, yn fforchio o ffordd Llanidloes i Fachynlleth ger Dyffryn ac yn mynd heibio i Fryntail a Llwyn-y-gog hyd fan ychydig i’r gorllewin o Benffordd-las.

Codwyd y syniad o ffordd osgoi i Lanidloes, ar ochr ddwyreiniol y dref, yn gyntaf ar ddiwedd y 1960au oherwydd tagfeydd traffig yn y dref, ac fe’i hagorwyd yn y diwedd ym 1991. Fe’i hadeiladwyd mewn trychfa newydd a oedd yn dilyn llwybr yr hen reilffordd GWR i Raeadr Gwy fwy neu lai. Roedd y llinell bellach wedi’i datgymalu.

Llwybrau beicio a llwybrau troed pellter hir modern

Rhed Llwybr Glyndŵr, sy’n Llwybr Cenedlaethol er 2000, trwy’r ardal o fan ger Dylife, ar draws Pen Dylife i Goedwig Hafren a thu hwnt i Benffordd-las, Llwyn-y-gog a Chwmbiga. Mae ail Lwybr Cenedlaethol, sef Llwybr Hafren, hefyd yn mynd trwy Lanidloes. Mae dau lwybr ar-ffordd Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n croesi ardal y dirwedd hanesyddol hefyd wedi’u datblygu yn y blynyddoedd diweddar, sef Lôn Cambria (lôn 81) sy’n rhedeg rhwng Rhaeadr Gwy a’r Drenewydd, trwy Lanidloes, a Lôn Las Cymru (lôn 8) sy’n dilyn y llwybr i’r gorllewin ac i’r de o Gronfa Ddŵr Clywedog, trwy Ddylife, Penffordd-las a Llanidloes.

(yn ôl i’r brig)