CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog


CPAT PHOTO 87-C-133

Nid yw'r gwaith o ddisgrifio nodweddion yr ardal Tirwedd Hanesyddol hon wedi dechrau hyd yma.

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Mae Afon Clywedog yng Nghanolbarth Cymru yn draenio llethrau gogledd ddwyrain Mynyddoedd Cambria,y torrwyd ei dyffryn cul,troellog yn ddwfn i mewn iddynt.Mae Afon Clywedog yn un o is afonydd Afon Hafren,sydd lawer yn fwy, ac maen ymuno hi yn Llanidloes.O safler dref farchnad hanesyddol,nodedig a darluniadwy hon,maer bryniau ar esgeiriau bob ochr i Ddyffryn Clywedog yn codin raddol o 300m uwchben SO i gyrraedd 500m uwchben SO ger Dylife, ychydig y tu hwnt ir cefn deuddw r yn y gogledd orllewin. Cysylltir ffyniant Dyffryn Clywedog ai ddalgylch a nodir yma fel arfer gydar diwydiannau cyferbyniol o fwyngloddio am blwm a gwln,a gafodd effaith sylweddol ar y tirwedd.

Dangosir pwysigrwydd cynnar mwyn plwm lleol gan y fryngaer fawr, o ddiwedd Oes yr Efydd/Oes yr Haearn,yn Ninas,y tybir bod ei maint ai lleoliad yn ganlyniad i ddymuniad i warchod a manteisio ar y cyfoeth o adnoddau naturiol.Ceir hefyd aneddiadau llai Oes yr Haearn syn amgylchynu ymylon yr ardal hon. Fodd bynnag,mae datblygiad diweddarach yr ardal,ai phatrymau o ddefnydd tir ac aneddiadau, wediu cysylltun annatod mwyngloddio plwm.Y dystiolaeth gynharaf yw gwaith Rhufeinig posibl yn Nylife, syn gorwedd gerllawr gaer Rufeinig ym Mhenygrocbren,ond dechreuodd y prif gyfnod mwyngloddio yn ystod yr 17eg ganrif a pharhaodd tan yn gynharach y ganrif hon.Maer pentref ei hun yn enghraifft dda o aneddiad mwyngloddio bychan sydd heb newid ryw lawer yn y blynyddoedd diwethaf.Mae dylanwad cloddio yn dal i fod yn amlwg, gydag olion siafftiau,tramffyrdd a dwy gronfa ddw r oedd yn darparu pw er ar gyfer y lloriau dresin.

Mae Dylife yn ganolbwynt sawl chwedl, gydar mwyaf enwog ohonynt yn dyddio o ddechraur 18fed ganrif ac yn ymwneud ag un or llofruddiaethau mwyaf erchyll yn hanes Cymru,pan lofruddiodd y gof lleol ei deulu a thaflu eu cyrff i lawr un or tyllau mwyngloddio. Cafodd y weithred ei darganfod yn fuan a phan gafwyd y gof yn euog fei gorfodwyd i wneud cewyll pen a chorff ar gyfer ef ei hun a haearn y grocbren.Yn y 1930au,darganfuwyd y gawell pen haearn gydar benglog yn dal i fod y tu mewn iddi ym Mhenygrocbren,sef lleoliad y grocbren,a bellach fei cedwir yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan,Caerdydd.

Maer clwstwr mwyngloddio arall yn ymestyn mewn band or dwyrain ir gorllewin ir gogledd o Lanidloes,syn cynnwys mwyngloddiau Y Fan Dwyreiniol,Y Fan,Bryntail a Phenyclun. Roedd y rhain i gyd yn weithredol yn ystod ail hanner y 19eg ganrif gan fwyaf.Bryd hynny mwynglawdd Y Fan oedd y mwyaf yn y byd,ac mae llawer or tirwedd mwyngloddio yn parhau er gwaethaf gweithgareddau adennill tir. Rhwng 1870 a 1878, cynhyrchodd Sir Drefaldwyn rhwng 7000 a 9000 o dunelli o fwyn plwm y flwyddyn,a daeth y cwbl bron o gymhlethfa Fan- Dylife.Ym 1879, gostyngodd cynnyrch plwm Cymru yn gyflym, oherwydd darganfyddiadau mwy o fwyn mewn mannau eraill, a dim ond 200 tunnell y cynhyrchodd Y Fan y flwyddyn honno.

Mae gwreiddiau Llanidloes wediu gosod yn gadarn yn y cyfnod canoloesol, gydag Edward I yn cyflwyno siarter ir dref ym 1280.Ynghanol y dref saif neuadd y farchnad i ffrm bren syn dyddio o tua 1600,sef y gwychaf oi math yng Nghymru.Cysylltir ffyniant y dref yn hanesyddol ffyniant y diwydiant gwln a gwau ar ardal fwyngloddio bwysig ir gogledd orllewin.Yn ystod y 1830au Llanidloes oedd un o ganolfannau mwyaf gweithgar mudiad y Siartwyr ac yn anterth y terfysgoedd meddiannwyd y dref gan wehyddwyr lleol am bum diwrnod cyn iddynt gael eu gorchfygu.

Mae cronfa ddw r Clywedog yn ffurfio canolbwynt modern ir tirwedd.Yn ogystal darparu dw r yfed i ddefnyddwyr o Lanidloes i Fryste, ei phrif swyddogaeth yw unionir amrywiadau naturiol yn y glawiad a fyddai fel arall yn achosi llif anghyson,ac felly lleihaur perygl o orlifo yn ardaloedd is pen uchaf dyffryn Hafren.Cwblhawyd strwythur 72m o uchder y prif argae ym 1966,gan ddefnyddio mwy na 200,000m ciwbig o goncrid a dymar argae ms concrid mwyaf ym Mhrydain. Yn fwy diweddar, datblygodd yr argae ai gronfa ddw r yn atyniad poblogaidd i dwristiaid.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.