CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Cronfeydd Dwr Cwm Elan
Cymunedau Llanwrthwl a Rhaeadr, Powys
(HAC 1131)


CPAT PHOTO 1526-14

Tirwedd amrywiol o fewn, o amgylch ac islaw'r cynllun cronfeydd dwr Fictoraidd ac Edwardaidd, gan gynnwys argaeau, cronfeydd a strwythurau ategol, olion nodweddion sy'n gysylltiedig ag adeiladu, y dirwedd â dwr drosto ar lawr y dyffrynnoedd yn ymddangos o bryd i'w gilydd pan fydd lefel y dwr yn isel, ynghyd â phlanhigfeydd conwydd, olion coetir llydanddail naturiol a lled-naturiol, caeau, a ffermydd o amgylch ochrau'r dyffryn.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae'r ardal nodwedd yn gyfuniad o elfennau amrywiol ond integredig yn y dirwedd, gan gynnwys tirweddau creiriol o amgylch ac islaw'r cronfeydd, elfennau sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r cronfeydd, y cynllun cronfeydd ei hun ynghyd â'r coed a blannwyd o amgylch ymylon y gronfa. Mae'r ardal nodwedd i'w chael ar lethrau serth rhannau isaf dyffrynnoedd afonydd Elan a Chlaerwen, a'r tir amgaeedig o'u cwmpas ac mae'n gorwedd oddeutu 200-450 metr uwchlaw'r Datwm Ordnans.

Nid oes unrhyw dystiolaeth eglur o natur anheddiad a defnydd tir cynhanesyddol yr ardal, er bod darganfyddiadau ar hap a safleoedd claddu a seremonïol yn dangos bod gweithgarwch sylweddol wedi digwydd yma. Daethpwyd o hyd i nifer o naddion fflint nas dyddiwyd ar draethlin cronfa ddwr Craig Goch, ac mae dagr neu wayw-fwyell posibl a ddarganfuwyd ger Coedwig Glannau, i'r gorllewin o gronfa ddwr Garreg-ddu, a chasgliad o fwyeill socedog a gafwyd wrth dorri ffordd islaw argae Caban-coch yn enghreifftiau o'r darganfyddiadau o'r Oes Efydd. Mae cymhlyg gwasgaredig o safleoedd seremonïol, ar ardal uwchdirol amgaeedig i'r gorllewin o gronfa ddwr Garreg-ddu, sy'n dyddio o ddechrau'r Oes Efydd o bosib, yn cynnwys rhes o gerrig a charnedd gladdu ar Rosygelynnen a phâr o feini hirion mawr, sydd serch hynny wedi syrthio, ar Gefn Llanerchi. Ceir carneddau claddu eraill wedi'i gwasgaru ar ymyl uwchdirol ochrau'r dyffryn.

Mae'n debyg i briddoedd mwy croesawus a ffrwythlon gwaelod y dyffryn fod yn ffocws ar gyfer clirio ac anheddu'r coetir ar adeg gynnar yn ystod y cyfnod rhwng yr oes gynhanesyddol gynnar a'r canol oesoedd cynnar. Roedd yr ardal nodwedd yn ffurfio rhan o'r tiroedd yng nghwmwd Deuddwr a roddodd Rhys ap Gruffydd i'r abaty Sistersiaidd yn Ystrad Fflur ym 1184, a choffeir y faenor mewn enwau lleoedd fel Dol-y-mynach a Chraig Mynach ger cronfa ddwr Dolymynach. Mae'n bosibl fod yr abaty wedi amaethu peth o'r tir ei hun, er mae'n debygol mai trwy'r ffermydd a'r tyddynnod yr oedd tenantiaid unigol yn eu prydlesu y daeth llawer o'r refeniw o'r tir. Awgrymir tystiolaeth o'r aneddiadau cynnar yn y nifer o safleoedd llwyfan sydd yn dangos i bob pwrpas safleoedd yr adeiladau pren sydd bellach wedi diflannu. Mae'r ty hir â nenffyrch yn Llannerch-y-cawr sy'n dyddio o ddiwedd y 14eg ganrif neu ddechrau'r 15fed, ac yn cynnwys lle i anifeiliaid a phobl dan yr un to, yn nodweddiadol o adeiladau'r Canol Oesoedd diweddar.

Yn sgîl diddymu'r fynachlog yn Ystrad Fflur ym 1539, gwerthwyd llawer o'r tir ar waelod ac ar ochrau'r dyffryn, a chrëwyd llawer o'r ffermydd y gwyddys amdanynt yn ddiweddarach ar hyd waelod ac ochrau'r dyffryn. Yn ystod y cyfnod o ddiwedd yr 16eg ganrif i'r 18fed ganrif, tyfodd nifer o stadau â thir yn y dyffryn. Y rhai a seiliwyd ar yr hyn a ddatblygodd yn ddiweddarach yn blastai bychain, ffasiynol yn y wlad, sef Nantgwyllt a Chwm Elan ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, oedd yr hynotaf o'u plith. Roedd gan y ddau barciau bychain a gerddi a ddaeth am gyfnod byr yn gysylltiedig â'r bardd Percy Bysshe Shelley yn ystod ail ddegawd y 19eg ganrif, pan ddenwyd ef at dirweddau prydferth Cwm Elan. Ffurfiai'r tai mwy yn Nantgwyllt a Chwm Elan ran o dirwedd ehangach o ffermydd cerrig gwasgaredig, ac efallai bod y ffermdy o'r 18fed ganrif â beudy ynghlwm yng Nghwm Clyd, sydd wedi'i osod mewn caeau bychain afreolaidd eu siâp, yn nodweddiadol ohonynt. Byddai'r deunyddiau ar gyfer adeiladu'r ffermydd yn dod o nifer o chwareli bychain oedd wedi'u gwasgaru yma ac acw, fel y rhai ar ben deheuol Craig Mynach, ar ymyl Moelfryn, ger fferm Henfron. Mae'n debyg bod nifer o'r ffermydd a'r tyddynnod hyn eisoes wedi'u gadael yn wag cyn i'r gwaith o adeiladu cronfeydd cwm Elan gychwyn o ddifrif yn negawd olaf y 19eg ganrif, fel y gwelir o'r ffermdai a'r adeiladau fferm adfeiliedig yn Yr Allt a Phant, i'r gogledd a'r dwyrain o fferm Marchnant, ym Mhen-cae-haidd, Llanerchi a Blaen-coel ac mewn mannau eraill ar hyd y tir ymylol o amgylch glandiroedd y cronfeydd, o ganlyniad i ddiboblogi gwledig a chyfuno tyddynnod.

Codwyd adeiladau'r cronfeydd dwr a adeiladwyd ar gyfer corfforaeth Birmingham rhwng 1893 a 1906 ar ben y tirweddau cynnar hyn, a dymchwelwyd tua thri deg o adeiladau a'u boddi. Mae sylfeini nifer o'r adeiladau hyn, gan gynnwys ty Nantgwyllt a'i erddi caerog a thy Garreg-ddu islaw cronfa ddwr Caban-coch, ty Cwm Elan a thy Dol-faenog islaw cronfa ddwr Garreg-ddu, a thy Ty-nant islaw cronfa ddwr Penygarreg, ynghyd â ffyrdd, traciau, pontydd a ffiniau caeau i'w gweld o dro i dro pan fydd lefel y dwr yn y cronfeydd yn cwympo. Roedd y cynllun gwreiddiol ar gyfer y cronfeydd dwr, a oedd yn caniatáu ar gyfer rhywfaint o ehangu, yn rhagweld y byddai saith o gronfeydd yn cael eu hadeiladu. Cafodd pedair cronfa, sef Caban-coch, Garreg-ddu, Penygarreg a Chraig Goch, eu cwblhau, ac fe gafodd cronfa Dolymynach bron ei chwblhau. Mae'r pensaernïaeth beirianyddol sy'n cynnwys y prif strwythurau megis yr argaeau a thyrau'r falfiau, yn ogystal â nodweddion manach megis rhagfuriau, cylfatiau ac ati wedi'u hadeiladu mewn gwaith maen ag wyneb o garreg mewn arddull ddinesig a elwir yn gyffredin yn 'Faróc Birmingham', sy'n sicrhau bod yr holl elfennau gwasgaredig yn cyfuno i greu effaith unedig arbennig. Dyluniwyd amrywiol agweddau ar y cynllun i gyfrannu at y dirwedd eithriadol o brydferth, gan greu golygfeydd ac effeithiau gweledol a fyddai'n swyno cenedlaethau o ymwelwyr. Ychwanegwyd at hyn ymhellach trwy blannu coed ger y llynnoedd â diben ymarferol yn ogystal ag addurniadol. Maent yn asio â gweddillion y coetir llydanddail hynafol sy'n goroesi o amgylch ambell ochr i'r dyffrynnoedd. Rhoddwyd sylw penodol i gymer cymoedd Elan a Chlaerwen, sef canolbwynt y cynllun, sy'n cynnwys twr y Foel lle bydd y dwr a fydd yn teithio i Birmingham yn cychwyn ar ei siwrnai, traphont dwyllodrus Garreg-ddu sy'n rhoi'r argraff o groesi llyn bas, ac eglwys gothig Nantgwyllt a godwyd yn lle'r capel sydd bellach wedi'i foddi dan ddyfroedd y gronfa ddwr gyfagos.

Roedd y gwaith adeiladu yn amlwg wedi'i gynllunio mewn modd a fyddai'n effeithio cyn lleied â phosibl ar y dirwedd, er bod rhai nodweddion pwysig wedi goroesi, er enghraifft chwarel Cigfran uwchlaw argae Caban-coch, yr hen reilffyrdd sydd i'w gweld islaw Dolfaenog ac ar hyd glan ogleddol cronfa ddwr Penygarreg, gan gynnwys y bont frics dros Nant Hesgog ychydig i'r gorllewin o argae Penygarreg, a'r drychfa ddofn a elwir yn 'Devil's Gulch' ar hyd ymyl Craig yr Allt-goch. Byddai llawer o'r mannau gweithio eraill yn cael eu boddi wrth i ddyfroedd y cronfeydd godi, er bod rhai yn dod i'r golwg pan fydd lefel y dwr yn cwympo, gan gynnwys, er enghraifft, iard y seiri maen ar lan ddwyreiniol cronfa ddwr Caban-coch a sylfeini caban y gweithwyr ger argae Craig Goch.

Ffynonellau

Abse 2000; Anon 1813; Bidgood 1995, 1996; Fenn, Fenn & Sinclair 2002; Fenn & Sinclair 2003; Hawkins 1985; Hubbard 1979; Jones & Smith 1963; Judge 1997; Lloyd 1989; Mansergh 1894; Miles & Worthington 1999; Newman 1960; Nicholson 1813; Owens 2000; Rosetti 1894; Savory 1980; P. Smith 1963, 1975; Tickell 1894; D. H. Williams 1999, 2001; rhestrau Adeiladau Rhestredig; Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech â gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk