CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Pentref Elan
Cymuned Rhaeadr, Powys
(HLCA 1132)


CPAT PHOTO 1526-14

Pentref stad bychan mewn cyflwr da, gyda thai cerrig, ysgol a swyddfa ystad yn yr arddull Celf a Chrefft a godwyd gan Gorfforaeth Dinas Birmingham yn bennaf ym 1909.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Yr hen bentref o gytiau pren, ysbyty damweiniau, neuadd gyhoeddus ac ystafell ddarllen, ystafell genhadol, cantīn, ystafell hamdden, campfa, swyddfa'r post, depo brigād dān, a baddonau a godwyd rhwng 1895 ac1898 ar gyfer y labrwyr a oedd yn gweithio ar adeiladu'r gronfa, ynghyd ā'r tiroedd hamdden. Fel ei olynydd, safai'r 'pentref model' pren cynnar ar lan ddeheuol afon Elan, gyferbyn ā'r prif weithdai ar y lan ogleddol, ac roedd pont grog yn cynnig mynediad i'r pentref. Adeiladwyd y bont grog haearn bresennol (na ddefnyddir mohoni bellach, ers ei disodli gan bont beili) dair gwaith. Ymhlith elfennau eraill y 'pentref model' cynnar oedd 'Ty Clwydo' ac 'Ysbyty Heintus' yn uwch ar y bryniau i ddiogelu iechyd a lles y gweithlu, a gorsaf yr heddlu i gadw cyfraith a threfn. Adeiladwyd cut ceidwad y bont hefyd ar lan ddeheuol yr afon, a byddai rhywun yno ddydd a nos i reoli mynediad heb ganiatād i'r pentref. Roedd y pentref ar ei anterth yn gartref i ryw 1,500 o labrwyr a masnachwyr eraill, roedd gan yr ysgol dros 200 o blant, ac roedd ganddo ei gyflenwadau dwr a thrydan preifat ei hun. Defnyddir y generaduron trydan-dwr islaw argae Caban-coch hyd heddiw.

Cwblhawyd y pentref presennol, a godwyd i gartrefu'r gweithwyr cynnal a chadw, ym 1909. Pentref gerddi bychan ydyw sydd wedi ei gadw'n dda islaw'r argae isaf yng Nghaban-coch ar lan ddeheuol afon Elan. Dyluniwyd ef gan Buckland, Haywood a Farmer, penseiri o Birmingham, rhwng 1906 a 09 i weithwyr cynnal a chadw cynllun cronfeydd dwr Cwm Elan, gan ddisodli'r pentref pren a godwyd i gartrefu'r gweithlu a adeiladodd y cronfeydd dwr. Mae'r pentref yn cynnwys 11 o dai ar wahān a thai pār, gan gynnwys un i'r athro ysgol, cyn ysgol (Elan Valley Lodge), cyn siop y Co-op (Caban View), ty a swyddfa'r cyn oruchwyliwr (sydd bellach yn Swyddfa'r Stad) ā rheiliau a gāt haearn, lloches a ffownten, a phont garreg fechan. Mae'r adeiladau a'r strwythurau oll yn rhai o ansawdd uchel yn arddull Celf a Chrefft, y rhan fwyaf ohonynt wedi'u hadeiladu ā cerrig lleol a cherrig nadd wedi'u mewnforio a thoeau o lechi lleol o bosibl. Ymhlith y coed a dyfwyd ar lannau'r afon mae castanwydd a chedrwydd, yn ogystal ā mannau agored a gynlluniwyd.

Codwyd Capel Bethania yr ochr draw i'r afon yn Llanfadog erbyn 1900 yn lle Capel Bedyddwyr Carreg-ddu oedd wedi'i foddi dan gronfa ddwr Caban-coch, a symudwyd gweddillion y claddedigion o fynwent yr hen gapel yno. Codwyd Gwesty Cwm Elan sydd ar ochr y ffordd i Raeadr, lai na chilometr o Bentref Cwm Elan ym 1893 a 1894. Codwyd pedwar ty ychwanegol rhwng y ddau ryfel byd yng Nglan-yr-afon ar ochr ogleddol yr afon, a chwech byngalo y tu ōl i Westy Cwm Elan yn y 1940au, yn gysylltiedig ag adeiladu argae Claerwen.

Ffynonellau

Haslam 1979; Judge 1987; rhestrau Adeiladau Rhestredig; Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech ā gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk