CPAT logo
Cymraeg / English
Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol: Cwm Elan
Yn ôl i’r disgrifiad

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Pentref Elan
Ffotograffau o'r ardal nodwedd


CPAT PHOTO 03-c-0599 Pentref Elan o'r de, gydag afon Elan a'r gweithfeydd trin dwr y tu hwnt iddo. Codwyd y pentref ar gyfer gweithwyr cynnal a chadw a'i gwblhau ym 1909, gan ddisodli pentref o gytiau pren dros dro a adeiladwyd i'r gweithwyr adeiladu. Llun: CPAT 03-C-0599.

CPAT PHOTO 1538.15 Dau dy pâr ym Mhentref Elan. Fel llawer o adeiladau eraill yn y pentref, maent wedi'u codi yn arddull Celf a Chrefft, o waith maen ag wyneb o garreg, amgylchynau ffenestri o garreg wedi'i fewnforio o fannau eraill, a thoeau llechi, rhai lleol o bosibl. Yn y cefndir, gwelir pen bryn anghysbell Carn Gafallt. Llun: CPAT 1538.15.

CPAT PHOTO 1538.14 Cyn siop y pentref (ty preifat erbyn hyn) yn y blaendir, a swyddfa a thy'r goruchwyliwr (Swyddfa Stad Cwm Elan erbyn hyn). Llun: CPAT 1538.14.