CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Claerwen
Cymuned Llanwrthwl a Rhaeadr (Powys), Cymunedau Ystrad Fflur (Ceredigion)
(HLCA 1133)


CPAT PHOTO 03-c-0658

Adeiladwyd yr argae a'r gronfa ddwr ar ddiwedd y 1940au a dechrau'r 1950au i wella cyflenwadau dwr Birmingham o gwm Elan, mewn arddull sy'n cyd-fynd â chronfeydd dwr cynharach Cwm Elan.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ychydig a wyddys o hanes archeolegol cynharach rhan uchaf cwm Claerwen, oddi eithr y ffaith bod y rhan fwyaf ohono yn borfa agored pan ddechreuwyd adeiladu'r gronfa ddwr bresennol yn y 1940au. Roedd cronfa ddwr rhywfaint yn llai, â'r enw 'Cronfa Ddwr Pant-y-beddau' wedi'i chynllunio fel rhan o gynllun James Mansergh ar ran Corfforaeth Dinas Birmingham ar ddiwedd y 19eg ganrif ym mhen uchaf cwm Claerwen. Rhoddwyd y tir dan orchymyn pryniant gorfodol dan Ddeddf Dwr Corfforaeth Birmingham 1892, ond ni adeiladwyd yr argae ar y pryd, gan fod y cronfeydd eraill yn y cynllun wedi llwyddo i ateb y galw.

Daeth rhybudd yn sgîl sychder difrifol 1937 y byddai angen i'r ddinas gynyddu ei chyflenwad dwr, ac er bod cynlluniau ar gyfer cronfa newydd yn eithaf datblygedig erbyn 1939, ac yn aros am fesur seneddol pellach, gohiriwyd y gwaith adeiladu oherwydd dechrau'r Ail Ryfel Byd. Roedd y datblygiadau ym maes peirianneg a mecaneg a ddigwyddodd ar ddechrau'r 20fed ganrif wedi caniatáu adeiladu argae lletach ac uwch nag a ragwelwyd yn wreiddiol, tua 1.5 cilometr i lawr yr afon o'r argae a fwriadwyd ar gyfer cronfa ddwr Pant-y-beddau. Dechreuwyd adeiladu'r gronfa ym 1946 ac agorwyd hi yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth ym 1952 fel un o'i hymrwymiadau swyddogol cyntaf, gan ddyblu bron iawn y cyflenwad dwr o Gwm Elan i Birmingham.

Roedd tua 470 o ddynion wedi gweithio i adeiladu'r argae, yn 56 metr o uchder ac yn 355 metr o led, ac yn wahanol i'r gweithlu a fu'n adeiladu'r cronfeydd cynharach, roedd pob un ohonynt yn byw yn y gymuned leol ac yn cael eu cludo mewn cerbydau ffordd i'r safle. Roedd y gweithlu'n cynnwys tua 100 o seiri maen o'r Eidal oherwydd bod yna brinder crefftwyr medrus yn sgîl y ffaith eu bod wrthi'n atgyweirio adeiladau a ddifrodwyd mewn sawl dinas Brydeinig yn ystod y rhyfel, gan gynnwys gwaith adfer ar y Senedd-dy yn Llundain. Cludid y rhan fwyaf o'r deunyddiau mewn lorïau o'r rheilffordd, 14 cilometr i ffwrdd yn Rhaeadr.

Mae'r gronfa 263-hectar ar flaen cwm Claerwen, ac mae lefel uchaf y dwr tua 368m uwchben y Datwm Ordnans. Argae cromlinog Claerwen, sy'n 56 metr o uchder ac yn 355 metr o led, ac wedi'i gynllunio gan William Halcrow a'i Bartneriaid, yw'r mwyaf o gronfeydd Cwm Elan. Mae wedi'i adeiladu o goncrid, ond ar gost ychwanegol sylweddol o ran arian a llafur, gosodwyd meini ag wynebau cerrig o Dde Cymru a Swydd Derby arno ac ymgorfforwyd nodweddion dyluniad eraill fyddai'n sicrhau ei fod yn cyd-fynd â safonau esthetig yr argaeau cynharach yng Ngwm Elan. Rhyddheir dwr o'r gronfa gan un o ddwy bibell sy'n 1.2 metr ei diamedr y naill ochr i waelod yr argae, sy'n gollwng y dwr i afon Claerwen. Codwyd adeilad tyrbin trydan dwr sy'n cynnwys tyrbin Francis 1680 cilowat islaw lefel y ddaear, sydd ag estyniad i un o'r pibellau gollwng yn ei fwydo.

Ffynonellau

Hubbard 1979; Tickell 1894; Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol; rhestrau Adeiladau Rhestredig

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech â gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk