CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Mwynglawdd Cwm Elan
Cymuned Rhaeadr, Powys
(HLCA 1134)


CPAT PHOTO 03-c-0607

Hen dirlun mwyngloddiau plwm a sinc sy'n gryno ac mewn cyflwr da, o'r 19eg ganrif yn bennaf, gydag olion mwyngloddio cynharach.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Saif mwynglawdd Cwm Elan ar safle anghysbell ar lethrau gorllewinol cwm Nant Methan, ar flaen dyffryn ucheldirol, 1 cilometr i'r gorllewin o gronfa ddwr Garreg-ddu, ar uchder o rhwng 290 a 380m. Mae olion y mwynglawdd sydd wedi goroesi, sef mwynglawdd a oedd yn cynhyrchu mwyn plwm a mwyn sinc, yn rhan o dirwedd mwyngloddio cryno ar safle sydd wedi ei amgylchynu â llethrau serth y cwm a'i gyfyngu gan ddaeareg. Mae'r mwyafrif o'r olion sy'n goroesi yn perthyn i un cyfnod yn ei hanes, ac yn darparu yr enghraifft orau, o bosibl, o dechnoleg mwyngloddio a chynllunio ym Mhowys ar ddiwedd y 19eg ganrif, gan fod y strwythurau wedi cadw yn hynod o dda. Y teulu Grove, tirfeddianwyr Cwm Elan, oedd yn gyfrifol am weithio a phrosesu'r mwynglawdd cyn iddo gael ei roi ar brydles i gwmni â Syr Thomas Bonsall yn ben arno. Yna aeth cwmni o Gernyw ati nes i'r gwaith ddod i ben dros dro. Dechreuodd y prif gyfnod gweithio ym 1871 wrth i gwmni Cwm Elan Mining gael ei ffurfio. Archwiliwyd dwy brif wythïen, ac erbyn Tachwedd 1872, roedd y gwaith yn cynnwys ceuffyrdd bas a dwfn yn ogystal â lefel 10 gwryd islaw'r ddaear. Fis Ebrill 1873, dechreuwyd gweithio â melin brosesu, gan gynnwys torrwr cerrig Blake, rholiau mathru, jigeri patent Collom a cherwyni crwn. William Thomas o Ffowndri Llanidloes a gyflenwai'r rhain. Tair olwyn ddwr fyddai'n cyflenwi'r pwer, a'r mwyaf o'r rhain yn 36 troedfedd wrth 4 troedfedd. Deuai'r dwr o ffrwd naw milltir o hyd o Lyn Cerrig-llwydion i ochr orllewinol rhostir Elenydd. Estynnwyd y mwynglawdd i lefel 20 gwryd erbyn 1874, ond oherwydd sychdwr a diffyg arian, ymddiddymu yn wirfoddol fu hanes y cwmni. Ailddechreuodd y gwaith y flwyddyn ganlynol ar yr hyn a elwid yn Fwynglawdd Newydd Cwm Elan, ac estynnwyd y siafft maes o law i lefel 40 gwryd erbyn i'r gwaith ddod i ben am y tro olaf ym 1877.

Mae'r rhan fwyaf o'r olion a welir yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, er bod cyfres o weithiau brig bras ar hyd lannau'r nant o bosibl yn cynrychioli mwyngloddiau cynharach, a dau lwyfan adeiladu â thomenni gwastraff o'u hamgylch efallai yn awgrymu gwaith prosesu cynharach. Ymhlith yr olion gweladwy mae siafftiau, lefelau a cheuffyrdd draeniad wedi cwympo'n rhannol, cafn olwyn, pwll bob, chwarel gerrig a oedd, mae'n debyg, yn darparu carreg ar gyfer adeiladau'r mwynglawdd, gan gynnwys arfdy i storio ffrwydron, gefail un llawr, ty mathru, a thy a swyddfa'r rheolwr. I'r dwyrain mae ty brics coch a godwyd yn y 1890au gan Gorfforaeth Birmingham yn gartref i weithwyr y stad, ar ôl iddynt brynu Stad Elan i adeiladu'r cronfeydd dwr. Nid oes unrhyw arwydd o letyau'r gweithwyr, ac mae'n bosibl fod y gweithlu yn teithio i'r safle bob dydd o'r cwm islaw. Mae'r dystiolaeth i hynny bellach wedi'i boddi dan y llynnoedd. Byddai'r mwynau'n cael eu storio mewn cronfa ag ynddi dri bin mwyn, ac mae olion y broses trin mwynau wedi goroesi, gan gynnwys llwyfannau wyneb carreg i gynnal y jigeri, a cherwyn gron a phyllau gwaddodi. Ymhlith olion eraill y gwaith mwyngloddio mae ffrydiau, cylfatiau, cronfa ddwr, llwyfannau adeiladu a banc terfyn.

Ffynonellau

Hall 1993; Hawkins 1985; Jones, Walters & Frost ar ddod; Dwr Cymru (heb ddyddiad), Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech â gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk