CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Dalrhiw
Cymuned Llanwrthwl, Powys
(HLCA 1135)


CPAT PHOTO 03-c-0669

Tirwedd mwyngloddio copr a phlwm gwasgarog o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif yng nghwm Claerwen a chymoedd nentydd uwchdirol gerllaw, gan gynnwys setiau mwyngloddio Gogledd Nant y Car, De Nant y Car, Dalrhiw a Nantygarw.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Cwm ucheldirol ag olion pedair set mwyngloddio unigol a weithiwyd o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif, Gogledd Nant y Car, ger glan ddeheuol afon Claerwen, Dalrhiw a De Nant y Car ar ddwy lan afon Rhiwnant, a mwynglawdd Nantygarw ar nant Nant-y-carw tua chilometr ymhellach i'r gorllewin, yn cynhyrchu mwynau copr, plwm a sinc.

Mae Dalrhiw mewn ardal fechan ar ochr ddeheuol y nant, ar oleddf, lle mae ochr y cwm yn codi'n serth i'r brigiadau creigiog uwchlaw. Mae'r gwaith cynnar yn Dalrhiw a Gogledd Nant y Car yn dyddio o ganol y 19eg ganrif, ac mae'n ymddangos mai cyfres o geuffyrdd trwy'r bryniau ar y naill ochr i'r nant oeddent. Datblygwyd Dalrhiw a Nant y Car fel ei gilydd ar raddfa fwy o 1850, a rhwng y 1860au a'r 1870au y cafwyd y datblygu mwyaf yn Ne Nant y Car. Rhwng 1862 a 1867, Parry a'i Gwmni oedd yn gweithio mwynglawdd Dalrhiw. Parhaodd y cynhyrchu yn Nalrhiw tan 1881.

Daeth y fenter yn Nant y Car i ben ym 1859, ond ym 1863, prynwyd y gwaith gan B.B. Popplewell, ac yna yn ei dro gan George Tetley ym 1872, Mrs Tetley ym 1875 ac yn olaf C.W. Seccombe ym 1878. Oddeutu 1883, darganfuwyd gwythïen newydd gyfoethocach ar flaen y cwm, a datblygwyd hon gan Seccombe yn fwynglawdd Nantgarw, gan arwain at adael De Nant y Car yn segur. Fis Medi 1886 gwerthodd Seccombe ei brydles i gwmni Builth Lead Mining ac yn adroddiadau 1888 ceir cyfeiriad at weithio ar geuffordd a lefel ac at y broses o drin mwynau yn dechrau y flwyddyn ganlynol. Cafodd y cwmni ei ddirwyn i ben ym 1893. Yna mae'n ymddangos i'r eiddo fod yn perthyn i George Green o Aberystwyth am gyfnod byr. Roedd Green, a oedd yn berchen ar Ffowndri'r Cambrian, yn cyflenwi offer mwyngloddio plwm i fwyngloddiau yng Nghanolbarth Cymru a thu hwnt, fe ddyfeisiodd ei 'beirianwaith trin hunanysgogol' ei hun a oedd yn cynnwys rholiau mathru, jigeri, cerwyni a didolwyr, a'r cyfan wedi'i osod mewn melinau a godwyd at y diben wedi'u pweru gan ddwr. Mae olion un o felinau prosesu Green wedi goroesi yn Nantgarw, er eu bod yn anodd eu dehongli.

Cofrestrwyd cwmni Nantygarw Mining fis Rhagfyr 1893, ac er na wyddys llawer am y gwaith, cyflogwyd 50 o ddynion yno, sy'n awgrymu bod y fenter yn un weddol sylweddol ei maint. Yn ystod yr wythnos, fe fyddai'r gweithlu wedi bod yn byw ar y safle mewn barics, ac mae olion y rhain i'w gweld o hyd. Er gwaethaf eu helw mawr, fe ymddiddymodd y cwmni ym 1897, ac er bod peth gweithgarwch wedi parhau hyd 1899, rhoddwyd y gorau i'r holl waith yno oherwydd adeiladu cronfeydd dwr Cwm Elan.

Mae amrywiaeth eang o strwythurau wedi goroesi sy'n dangos y gwahanol brosesau a ddefnyddid i gloddio a phrosesu'r mwyn. Ymhlith yr olion sydd i'w gweld ym Mwynglawdd Dalrhiw mae siafftiau, ceuffyrdd, cylch dyfais troi y byddai ceffyl yn ei dynnu, cafn olwyn sylweddol ar gyfer olwyn ddwr 52 troedfedd wrth 5 troedfedd, biniau mwynau ac olion ty mathru bychan, ac mae adfeilion swyddfa'r mwynglawdd neu dy'r rheolwr ar lannau'r nant, olion lloches fechan a storfa a gwrthglawdd isel o amgylch ffald lle o bosibl y cedwid y ceffylau a fyddai'n gweithio ar y ddyfais troi neu ar gyfer cludo'r mwynau. Yn Nant y Car, mae'r olion gweladwy yn cynnwys siafft a cheuffyrdd a dyllwyd o lannau'r nant, sylfeini'r cwt weindio, olion tramffordd i ben tomen dau neu o bosibl tri o finiau mwynau, cafn olwyn ar gyfer mathrwr mwynau, a llwyfannau cerrig i gynnal jigeri ac olion dwy gerwyn gron i brosesu'r mwynau. Ymhlith yr olion gweladwy yn Nantygarw mae siafft wedi'i leinio â cherrig, olion adeilad mwynglawdd, cafn olwyn fawr ar gyfer olwyn ddwr wedi'i phweru â dwr o nant gerllaw, olion adeiladau lle roedd melin brosesu Green, cerwyn fechan gron, llwyfannau ar gyfer y jigeri, gefail, lletyau o bosibl ar gyfer gweithwyr, ac arfdy ar gyfer y ffrwydron.

Mae'n sicr bod lleoliad anghysbell y mwynglawdd yn golygu bod cludo'r mwyn yn ffactor economaidd pwysig. Byddai'r mwynau wedi'u prosesu yn cael eu cludo gan geffyl a chert i lawr i gwm Claerwen ac yna, dros y mynyddoedd i gyfeiriad Aberystwyth, er bod modd eu cludo ar y rheilffordd o Raeadr, tua 12 cilometr oddi yno o 1864 ymlaen.

Ffynonellau

Hall 1993; Hawkins 1985; Jones, Walters & Frost ar ddod; Dwr Cymru (heb ddyddiad); Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech â gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk