CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan
Mwy Ffotograffau

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Elenydd
Cymunedau Llanwrthwl, Rhaeadr, Llanafanfawr, Treflys, Llanwrtyd, Cymunedau Llangurig, Powys a Chymunedau Ysbyty Ystwyth, Pontarfynach ac Ystrad Fflur, Ceredigion
(HLCA 1136)


CPAT PHOTO 03-c-0653

Rhostir helaeth agored ynghyd â llynnoedd bychain ucheldirol, corsydd mawn, henebion angladdol a defodol cynhanesyddol a llechfeddiannau bychain gwasgaredig o'r canol oesoedd a'r cyfnod yn union wedi hynny.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tir comin helaeth ucheldirol sy'n ffurfio rhan ganol Mynyddoedd y Cambrian, gyda chymoedd afonydd Elan a Chlaerwen yn torri ar eu traws. I'r de ceir llwyfandiroedd ucheldirol helaeth ar uchder o rhwng 400 a 500 metr, a chopaon megis Drum yr Eira, Drygarn Fawr a Phen y Gorllwyn yn cyrraedd dros 600 metr. Mae Bae Aberteifi a Bannau Brycheiniog i'w gweld o'r fan ar ddiwrnod clir. Mae gan ran orllewinol y rhos rhwng Elan a Chlaerwen lwyfandiroedd helaeth â chopaon mymryn yn is megis Bryn Garw, Trumau a Graig Dyfnant ychydig dros 500 metr o uchder. Mae rhan ddwyreiniol y rhos, sy'n tremio dros ddyffryn Gwy yn is ar y cyfan, er bod yno nifer o gopaon megis Moelfryn a Chrugyn Ci sydd dros 500 metr.

Yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, rhwng 70,000 a 12,000 o flynyddoedd yn ôl, cuddiwyd yr ardal dan ddalen o iâ rhewlifol ac fe gafodd hyn gryn effaith ar y dopograffeg bresennol. Ymhlith nodweddion unigryw y cyfnod yma o rewlifiant mae llwyfandiroedd ucheldirol llyfn a gwastad, cymoedd rhewlifol serth siâp U, dyddodion marianol a therasau a llwyfannau ar y bryniau lle torrodd y dwr tawdd trwy haenau o weddillion cerrig a ymgasglodd yn eu sgîl. Torrodd y rhewlifoedd ar draws llif afon Ystwyth a oedd yn wreiddiol yn bwydo llyn yn ardal Gors Lwyd, yn y cefndeuddwr rhwng afonydd Ystwyth ac Elan, a oedd yn ei dro yn bwydo afon Elan, un o lednentydd afon Gwy. Rhostir glaswelltog yn bennaf yw'r llystyfiant heddiw, ynghyd â grug, llus ac eithin, a gorgorsydd llawn migwyn, plu'r gweunydd a grugiau. Mae pyllau corsydd a llynnoedd dwr croyw mwy o faint, megis Llyn Gynon, Llyn Fyrddon Fawr a Llyn Fyrddon Fach, yn enwedig yng ngogledd a gorllewin y rhos, sydd wedi ymffurfio ers y rhewlifiant diwethaf. Dangosodd dadansoddi paill yn y dyddodion mawn ar Elenydd bod gweithgarwch dynion wedi dechrau effeithio ar y coetir llydanddail a oedd wedi ymsefydlu ar lwyfandiroedd ucheldirol Elenydd yn y cyfnod ôl-rewlifol a bod hyn wedi digwydd yn ystod y cyfnod cynhanesyddol cynnar. Mae clirio coetir a newid yn yr hinsawdd, gan arwain at ffurfio gorgorsydd ar dir uchel, yn dystiolaeth i hyn. Mae'n ymddangos bod clirio coed i amaethu'r tir a chreu porfeydd ucheldirol wedi parhau o'r cyfnod cynhanesyddol diweddaraf i'r cyfnod canoloesol.

Mae tystiolaeth ffisegol o weithgarwch cynhanesyddol yn ucheldiroedd Elenydd wedi'i chyfyngu i garneddau claddu, meini hirion, rhesi o gerrig a chylchoedd o gerrig sy'n coroni nifer o'r copaon a'r cribau, ac sydd efallai wedi'u cysylltu â manteisio ar y porfeydd ucheldirol yn y cyfnod rhwng tua 3500 a 1500 CC. Mae'n bosibl fod clystyrau o safleoedd ucheldirol megis y rheiny ar Garnau Cefn-y-ffordd, Drygarn Fawr, y Darren a'r Bryn yn cynrychioli canolbwyntiau defodol yn y dirwedd, ac mae'n bosibl eu bod yn cynrychioli gweithgareddau gwahanol grwpiau teuluol neu lwythol. Efallai bod nifer o gytiau cynnar a charneddi carega yn dystiolaeth o anheddu ac amaethu ar Elenydd yn y cyfnod cynhanesyddol diweddaraf ymlaen i'r cyfnod canoloesol cynnar. Mae'r 'gwersyll cyrch' Rhufeinig a ddarganfuwyd ar Esgair Perfedd yn dystiolaeth i'r ffaith fod y Rhufeiniaid wedi goresgyn Cymru yn ddiweddarach yn y ganrif gyntaf.

Erbyn diwedd y 12fed ganrif, roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn dir maenor Cwmteuddwr a roddwyd i abaty Sistersaidd Ystrad Fflur. Deuai'r prif adnodd o'r porfeydd ucheldirol helaeth lle byddai'r gwartheg, ac yn gynyddol, preiddiau mawr o ddefaid, yn pori. Deuai'r rhan fwyaf o'r incwm o'r faenor, a hwnnw mae'n debyg yn dod yn sgîl rhenti a thaliadau dyledus oddi wrth y rheiny a oedd â thyddynnod yn yr ardal, yn hytrach na thrwy fanteisio'n uniongyrchol ar yr abaty ei hun. Roedd y pyllau ucheldirol ar Elenydd hefyd yn cyflenwi llyswennod a brithyll i'r fynachlog.

Mae'n debyg fod llechfeddiannau bychain, gwasgaredig, er enghraifft annedd wedi'i chysylltu â sawl cae unigol, wedi ymddangos ymhell cyn diddymiad abaty Ystrad Fflur ym 1539. Byddent i'w gweld yn aml ar lethrau cysgodol deheuol neu ddwyreiniol cymoedd y nentydd, ac roedd llawer ohonynt wedi cychwyn fel ffermydd tymhorol, a oedd yn galluogi pobl i ddefnyddio'r porfeydd ucheldirol bellter o'r cartref yn ystod yr haf, a daeth nifer ohonynt yn ffermydd parhaol eu meddiannaeth yn ystod y cyfnod canoloesol diweddar. Ar y dechrau, neuadd un gowlas â nenfforch oedd fferm anghysbell yng Nghiloerwynt (Cilewent) yn nghwm Claerwen uchaf, er enghraifft, a cheir tystiolaeth ei bod yn dyddio o tua 1476. Codwyd bythynnod cerrig, ffermdai a thai allan ar nifer o'r ffermydd ucheldirol anghysbell hyn rhwng diwedd y 16eg ganrif a'r 18fed, er bod nifer o'r rhain wedi'u gadael yn ystod y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed. Gellir gweld corlannau cerrig, cysgodfeydd defaid a chytiau bugeiliaid ar draws y rhostir. Maent yn aml mewn cyflwr adfeiliedig bellach, ac mae rhai ohonynt yn dyddio o'r 16eg ganrif i'r 19eg.

Mae'r grwpiau o gwningaroedd artiffisial neu'r 'tomenni clustog' fel y rhai a geir ar Esgair y Ty a ger ffermydd Glanhirin ac Aberglanhirin yn enghreifftiau o'r dyfeisiadau amaethyddol arloesol pellach y gallai ffermwyr a thirfeddianwyr blaengar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg fod wedi'u defnyddio i wella refeniw y tir. Mae'n bosibl fod amaethu cefnen a rhych yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal ag yn Lluest-pen-rhiw ac ar lethrau Moelfryn a Chefn Cwm, yn enghraifft hefyd o arbrawf amaethyddol byrhoedlog yn y cyfnod hwn. Roedd torri mawn yn danwydd i'r ty ymhlith yr hawliau cyffredin oedd gan bobl ar y rhostir yn yr amser a fu ond efallai na wnaed hynny ar raddfa fawr tan y cyfnodau canoloesol hwyr ac wedi hynny, unwaith yr oedd ffynonellau coed tân addas wedi'u disbyddu. Mae tystiolaeth o hyn mewn llawer ardal, a gellir ei gweld er enghraifft ar War y Ty, Waun Lydan, Allt Goch a'r Gamriw. Gwelwyd nifer o strwythurau a allai fod yn lwyfannau sychu mawn mewn nifer o leoedd, gan gynnwys Rhos Saeth-maen. Mewn ambell ardal, mae'n amlwg fod gan bob fferm neu grwp o ffermydd cyfagos ei mawnfa ei hun, ag wtra yn arwain ati, a bod y fawnfa wedi'i defnyddio dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Mae traciau hynafol eraill a ffyrdd porthmyn yn croesi'r ardal. Roedd y rhain ar eu hanterth ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg a defnyddid hwy i yrru gwartheg o orllewin Cymru i farchnadoedd yng Nghanoldir Lloegr. Roedd agor y mwynfeydd metel ar ymyl y rhostir ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg, i'r gorllewin o gwm Elan ac i'r de o gymoedd Claerwen yn dibynnu ar y gallu i harneisio pwer dwr o'r rhostir. Roedd yn rhaid cloddio ffrwd i gario dwr am naw milltir o Lyn Cerrig-llwydion ar ochr orllewinol rhostir Elenydd i fwynglawdd Cwm Elan, ychydig i'r gorllewin o gronfa ddwr Garreg-ddu.

Ffynonellau

Banks 1880; Caseldine 1990; Y Comisiwn Cefn Gwlad; Drake 2000; Flemming-Williams & Myhill 2003; Jones & Smith 1963; Moore-Colyer 2001, 2002; Moore & Chater 1969a, 1969b; Wiliam 1992; D. H. Williams 1990, 2001; J. Williams 1905; Wiltshire & Moore 1983; Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech â gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk